Coetir Ysbryd y Llynfi, ger Maesteg

Beth sydd yma

Croeso

Lleolir Coetir Ysbryd y Llynfi ar lethrau dwyreiniol Cwm Llynfi Uchaf, naw milltir i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y coetir ei sefydlu’n ddiweddar ar hen safle diwydiannol ac mae’r coetir cymunedol hwn yn cynnig man gwyrdd i bobl leol ar garreg eu drws yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau.

Plannwyd dros 60,000 o goed yma gan gynnwys cymysgedd o goed llydanddail, ffrwythau a choed addurniadol.

Mae’r dirwedd amrywiol yn cynnwys pyllau, corstir a rhostir, a mae golygfeydd godidog.

Llwybrau rhedeg

Mae’r llwybrau rhedeg hyn sydd wedi eu harwyddo yn gyflwyniad rhagorol i redeg llwybrau yn Nyffryn Llynfi.

Byddwch yn barod am gyfuniad difyr o ­yrdd coediog, llwybr tarmac, a rhan fer o drac sengl, gyda mwd a cherrig ar brydiau.

Gan fod rhannau o’r llwybr yn cynnwys dringfeydd a llethrau serth ac yn donnog ar brydiau, bydd angen gwisgo esgidiau a dillad addas a bod yn ymwybodol fod eraill yn defnyddio’r llwybr.

Mae’r llwybrau Gelli Deg a’r Ffordd Haearn yn gofyn am lefel resymol o ffitrwydd.

Mae’r llwybr Sialens Coegnant yn fwy addas i redwyr profiadol â lefel uchel o ffitrwydd.

Gelli Deg

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3 cilomedr
  • Amser: 20-35 munud

Mae’r llwybr hwn yn cyfuno dringfeydd a disgynfeydd drwy’r goedwig a llwybr tonnog hwylus sy’n addas ar gyfer pob gallu.

Mae’r llwybr yn cynnwys trac sengl byr 150 metr yn y pen uchaf ac yn gyflwyniad pleserus i redeg llwybrau yn Ny­ryn Llynfi.

Y Ffordd Haearn - llwybr cylchol

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 5 cilomedr
  • Amser: 30-45 munud

Mae’r llwybr hwn yn cyfuno dringfeydd a disgynfeydd drwy’r goedwig a llwybr tonnog hwylus.

Mae’r llwybr yn cynnwys trac sengl byr 150 metr yn y pen uchaf ac yn ddilyniant pleserus wrth redeg llwybrau yn Ny­ryn Llynfi.

Sialens Coegnant

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 1 cilomedr
  • Amser: 10-15 munud

Mae’r llwybr byr hwn yn estyniad per­aith i’r ddau lwybr arall.

Gyda’i ddringfa a’i ddisgynfa serth, mae’r rhan goncrid hon o’r llwybr yn gyfle delfrydol i’r rhedwyr hynny sy’n chwilio am her ychwanegol.

Llwybr gweithgareddau cŵn

Mae’r llwybr gweithgareddau cŵn a ddatblygwyd gyda’r Kennel Club yn ffordd wych o gadw cŵn a’u perchnogion yn heini ac yn iach, a chael hwyl ar yr un pryd.

Mae pum gweithgaredd i ddewis o’u plith - o wau rhwng pyst pren i redeg drwy dwnnel, ac o neidio dros rwystrau i droedio’n ofalus dros y boncyff.

Nid oes rhaid cwblhau pob gweithgaredd – gallwch gerdded yn hamddenol ar hyd y llwybr, ac os byddwch yn gweld gweithgaredd y byddai eich ci yn ei fwynhau, beth am roi cynnig arni.

Darllenwch y bwrdd gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr am gyngor ynglŷn â sut i ofalu amdanoch chi eich hun a’ch ci cyn ei ddefnyddio.

Ceir bwrdd gwybodaeth hefyd ger pob gweithgaredd yn egluro beth sydd angen ei wneud.

Llwybr Sustrans

Mae Llwybr Cwm Llynfi yn llwybr Sustrans sy’n rhedeg drwy ran isaf y safle ac mae’n addas ar gyfer pob gallu.

Mae llwybr hygyrch yn cysylltu’r llwybr Sustrans â’r llwybr marchogaeth er mwyn caniatáu gwell mynediad i rannau uchaf y safle.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Llwybr Cwm Llynfi, ewch i wefan Sustrans.

Cerflun Ceidwad y Pyllau Glo

Mae Coetir Ysbryd y Llynfi ar safle hen Bwll Glo Coegnant a Golchfa Maesteg.

Mae cerflun Ceidwad y Pyllau Glo yn gerflun derw sy’n dathlu bywydau’r cannoedd o lowyr a fu’n gweithio, ar un adeg, ledled Cwm Llynfi.

Comisiynwyd cerdd ar gyfer seremoni dadorchuddio’r cerflun.

Mae’r gerdd yn seiliedig ar orffennol diwydiannol yr ardal a’i hadfywiad drwy brosiect Ysbryd Llynfi.

Gwrandewch ar gerdd Ceidwad y Pyllau Glo yn ein fideo.

Ysgrifennwyd y gerdd gan Dan Lock, ac adroddwyd gan breswyliwr lleol Sian Teisar.

Datblygiad y coetir

Gynt yn gartref i Bwll Glo Coegnant a Golchfa Maesteg, mae’r Coetir Ysbryd y Llynfi yn lle delfrydol i fywyd gwyllt a phobl.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu’r coetir cymunedol hwn ar y cyd â thrigolion Cwm Llynfi Uchaf.

Mae’r prosiect hwn, a noddir gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Cwmni Ford Motor, yn cefnogi menter Llynfi 20 sydd â’r nod o wella iechyd a lles y bobl sy’n byw yn y cwm bywiog hwn.

Trwy ymgorffori syniadau plant, pobl ifanc a thrigolion yr ardal, rydym yn trawsnewid yr hen safle diwydiannol hwn yn lle hardd a thawel y gall pawb ei fwynhau.

Gallwch ddarganfod mwy am y grŵp cymunedol ar dudalen Facebook Spirit of Llynfi sy’n cael ei redeg gan y gymuned.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coetir Ysbryd y Llynfi yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coetir Ysbryd y Llynfi yn ffinio â chymunedau Maesteg, Caerau a Nantyffyllon.

Mae’r safle hwn yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coetir Ysbryd y Llynfi ar fap Arolwg Ordnans (OS) Explorer 166.

Cyfarwyddiadau

Gallwch fynd ar y safle ar droed o amryw leoliadau:

  • Ystad dai Cwrt y Mwnws (cyfeirnod grid OS: SS 851 917)
  • Mynedfa Heol Coegnant ger llwybr BMX Maesteg (cyfeirnod grid OS: SS 856 933)
  • Ysgol Gyfun Maesteg (cyfeirnod grid OS: SS 858 915)
  • Pont droed Heol Coegnant wrth ymyl Anne’s Enterprises gynt (cyfeirnod grid OS: SS 853 928)
  • Y bont droed y tu ôl i hen Feddygfa Nantyffyllon (cyfeirnod grid OS: SS 851 924)

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Maesteg.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ewch i dudalen Facebook Grŵp Coetir Llynfi.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf