Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Ychydig gannoedd o fetrau o'r A470 brysur ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fe gewch eich amgáu mewn amffitheatr gysgodol, atmosfferig a grëir gan glogwyni uchel, creigiog Craig Cerrig-gleisiad.
Beth am roi cynnig ar ein llwybrau arwyddbost, i gael blas ar y warchodfa? I’r rheiny sy’n gallu darllen map ac a hoffai fynd am dro hirach, ceir llwybrau sy’n arwain i fyny i rostir uchel Fan Frynych a throsodd i Graig Cwm-du.
Ceir safle picnic bach gerllaw wrth ochr mynedfa'r warchodfa.
Mae toiledau a chaffi yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Libanus, sy’n daith fer yn y car o’r warchodfa, ac yn y maes parcio gyferbyn â chanolfan addysg awyr agored Storey Arms.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Cewch brofiad o’r tirwedd mawreddog ar y daith gerdded hon ar hyd yr afon hyd at droed llethrau creigiog Craig Cerrig Gleisiad.
Cewch syniad gwych o uchder creigiog Craig Cerrig-gleisiad, o bell ac agos, ar y llwybr cylchol hwn.
Mae’n cychwyn ar hyd ymyl yr afon ac yn dringo’n serth drwy’r grug a’r llus tuag at garnedd.
Ceir golygfeydd ardderchog i gyfeiriad Pen y Fan ar y ffordd yn ôl.
Mae llwybrau troed yn arwain i fyny i gopa gwastad Fan Frynych ac ar draws i Graig Cwm-du.
Efallai na fydd y rhain wedi’u harwyddo ac felly rydym yn awgrymu eich bod yn mynd a map gyda chi.
Mae Ffordd y Bannau yn dilyn ymyl deheuol ffin y warchodfa.
Mae’r llwybr hir hwn - 99 milltir (159 cilometr) - yn mynd drwy dir anghysbell a garw.
Nid oes llawer o arwyddion, ond dangosir y llwybr ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) neu gallwch ddod o hyd i ganllaw i’r llwybr yn siop ar-lein Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gallwch ymuno â Ffordd y Bannau ar lwybr troed o’r gilfan ger y fynedfa i’r warchodfa.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ffordd y Bannau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cerfiwyd y cwm hwn gan rewlif yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.
Wrth i’r iâ doddi, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl, daeth waliau creigiog serth Craig Cerrig-gleisiad i’r golwg.
Beth amser yn ddiweddarach daeth tirlithriad trychinebus â miliynau o dunelli o’r graig i lawr y llethrau.
Dengys olion archeolegol bod pobl wedi byw yn ardal y warchodfa ers miloedd o flynyddoedd.
Mae olion ffordd Rufeinig a ffermydd diweddarach i’w gweld yn ogystal â chytiau o’r Oes Haearn.
Mae'r llethrau creigiog serth, y sgarpiau miniog a’r creigiau’n gartref i blanhigion arctig-alpaidd prin. Dyma’u lleoliad mwyaf deheuol yn y DU ac nid ydynt i’w canfod eto tan yr Alpau.
Mae blodau gwyllt arctig-alpaidd yn tyfu ar y clogwyni creigiog sy'n wynebu'r gogledd. Mae’r rhain yn cynnwys y tormaen glasgoch, y tormaen mwsoglaidd, glesyn y gaeaf danheddog a’r dduegredynen werdd.
Mae'r clogwyni yn goetir fertigol i bob pwrpas, gyda choed a llwyni drain, criafol, onnen a’r gerddinen wen brin.
Mae yna hefyd amrywiaeth rhyfeddol o gyfoethog o flodau gwyllt a llawer o wahanol fwsoglau a llysiau'r afu.
Mae'r cyfnod o ddechrau’r gwanwyn hyd ganol haf yn amser gwych i fwynhau amrywiaeth ysblennydd y warchodfa o flodau gwyllt ac adar, gan gynnwys yr hebog tramor, y cudyll coch, y rugiar goch a’r fwyalchen y mynydd brin.
Yn ystod mis Awst a Medi mae'r bryniau'n ddisglair o flodau’r grug.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn ymestyn dros ardal o tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostir yn Ne a Chanolbarth Cymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Fannau Brycheiniog ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych tua 7 milltir i'r de o Aberhonddu.
Mae ym Mhowys.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych ar fap Arolwg Ordnans (AR) Explorer OL 12.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 971 222.
Cilfan fawr gerllaw'r A470 yw’r man gorau i ddechrau eich ymweliad, tua saith milltir i'r de o Aberhonddu – chwilwch am arwydd gwybodaeth yn union tu draw i’r giât ger mynedfa’r warchodfa.
O Aberhonddu: Dilynwch yr A470 tuag at Ferthyr Tudful. Ewch heibio'r fynedfa i hostel ieuenctid ar y chwith a throwch i mewn i'r ail gilfan ar y dde, 500 metr ar ôl y fynedfa i'r hostel ieuenctid.
O Ferthyr Tudful: Dilynwch yr A470 i gyfeiriad Aberhonddu ac mae'r gilfan ar y chwith, ddwy filltir i'r gogledd o ganolfan weithgareddau awyr agored Storey Arms.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberdare.
Mae safle bws ger y ffordd fynediad at YHA Bannau Brycheiniog ar yr A470. Mae'r safle bws hwn tua 500 metr o fynedfa'r warchodfa – byddwch yn ofalus wrth gerdded o'r safle bws i fynedfa'r warchodfa.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gellir parcio’n ddi-dâl yn y gilfan fawr sydd gyfagos i fynedfa'r warchodfa – chwilwch am arwydd gwybodaeth yn union tu draw i’r giât.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.