Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Mae Coedwig Glasfynydd yn amgylchynu Cronfa Ddŵr Wysg ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gall cerddwyr a beicwyr ddilyn y llwybr sydd wedi’i arwyddo o'r maes parcio o amgylch y gronfa ddŵr ac ar draws yr argae.
Ceir golygfeydd eang oddi ar y llwybr ar draws y gronfa ddŵr i gyfeiriad y Mynydd Du.
Dŵr Cymru sy’n berchen ar y gronfa ddŵr.
Mae mainc bicnic yn y maes parcio a sawl un arall ar hyd y llwybr.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mwynhewch olygfeydd o'r Mynydd Du ar y llwybr cylchol, hawdd-ei-ddilyn hwn o amgylch Cronfa Ddŵr Wysg.
Os oes gennych fap gyda chi a’ch bod eisiau mynd ar daith hirach, gallwch ddilyn y llwybrau cyhoeddus i Ffynnon y Meddygon (ni cheir arwyddbyst ar y llwybr hwn).
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae Coedwig Glasfynydd yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Coedwig Glasfynydd yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coedwig Glasfynydd 13 milltir i'r de-ddwyrain o Lanymddyfri.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys a Sir Gaerfyrddin.
Mae Coedwig Glasfynydd ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.
Y cyfeirnod grid AO yw SN 820 271.
Dilynwch yr A40 o Lanymddyfri tuag at Aberhonddu.
Yn Nhrecastell, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn i Gronfa Ddŵr Wysg.
Ar ôl 3¾ milltir anwybyddwch yr arwydd brown a gwyn ar y troad i’r dde i'r gronfa ddŵr ac ewch yn syth ymlaen am ½ milltir.
Mae'r maes parcio ar y chwith.
Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Llanymddyfri.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Os bydd maes parcio Coedwig Glasfynydd yn llawn, gallwch gychwyn y llwybr o’r maes parcio Dŵr Cymru wrth ymyl yr argae – dilynwch yr arwyddion brown a gwyn yr holl ffordd at Gronfa Ddŵr Wysg.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.