Blaen y Glyn, ger Aberhonddu

Beth sydd yma

Croeso

Mae rhaeadr Blaen y Glyn yng Nghoedwig Talybont ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gallwch gerdded i raeadr Blaen y Glyn o ddau o'n meysydd parcio, sef Blaen y Glyn Isaf a Blaen y Glyn Uchaf.

Mae mainc bicnic yn y ddau faes parcio.

Llwybrau cerdded

Gallwch gerdded i raeadr Blaen y Glyn o Flaen y Glyn Isaf neu Flaen y Glyn Uchaf.

Mae'r llwybr o'r maes parcio isaf yn fyrrach ac mae ganddo lai o esgyniad na'r llwybr o'r maes parcio uchaf.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Rhaeadr Blaen y Glyn Isaf

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 0.8 milltir/1.2 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 45 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr cerdded llinol hwn i raeadr Blaen y Glyn yn cychwyn o Flaen y Glyn Isaf. Nid oes arwyddbyst arno - gweler y panel gwybodaeth yn y maes parcio am y llwybr a awgrymir.

Llwybr Rhaeadr Blaen y Glyn Uchaf

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 1 filltir/1.6 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 1-1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr cerdded llinol hwn i raeadr Blaen y Glyn yn cychwyn o Flaen y Glyn Uchaf. Nid oes arwyddbyst arno - gweler y panel gwybodaeth yn y maes parcio am y llwybr a awgrymir.

Ffordd y Bannau

Gallwch ymuno â llwybr pellter hir Ffordd y Bannau o'n maes parcio ym Mlaen y Glyn Uchaf.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ffordd y Bannau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Blaen y Glyn yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae meysydd parcio Blaen y Glyn Isaf a Blaen y Glyn Uchaf 11½ milltir i'r de o Aberhonddu.

Mae yn Sir Powys.

Map Arolwg Ordnans (AO)

Mae Blaen y Glyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.

Y cyfeirnod grid AO ar gyfer y meysydd parcio yw:

  • Blaen y Glyn Isaf: SO 056 175
  • Blaen y Glyn Uchaf: SO 062 170

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A40 o Aberhonddu tuag at y Fenni.

Ar ôl 5 milltir, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwydd tuag at Dal-y-bont ar Wysg.

Wrth y gyffordd-T, trowch i'r dde tuag at Bencelli.

Yn y pentref, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion tuag at Gronfa Ddŵr Tal-y-bont.

Ewch yn eich blaen am 5¼ milltir ac mae maes parcio Blaen y Glyn Isaf ychydig ar ôl pont garreg ar y dde.

Ar gyfer maes parcio Blaen y Glyn Uchaf ewch ymlaen am ¾ milltir arall ac mae'r maes parcio ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Merthyr Tudfil.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

​Ni chaniateir parcio dros nos.​

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf