Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni
Coetir bychan gydag amrywiaeth mawr a llwybr bordiau...
Teithiau cerdded addas i bawb
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Craig y Ddinas yn glogwyn calchfaen trawiadol ger pentref Pontneddfechan.
Flynyddoedd maith yn ôl roedd caer hynafol ar ben gwastad Craig y Ddinas. Yn fwy diweddar, roedd yr ardal yn gartref i waith powdwr gwn a gallwch weld adfeilion yr hen adeiladau diwydiannol yma hyd heddiw.
Maes parcio Craig y Ddinas yw'r man cychwyn ar gyfer taith gerdded fer, pob gallu i raeadrau ysblennydd Sgydau Sychryd a llwybr anodd i Sgŵd-yr-Eira.
Dyma'r rhaeadr fwyaf adnabyddus ym Mro’r Sgydau gan eich bod yn gallu cerdded i'r tu ôl iddi.
Sylwer: Mae Craig y Ddinas yn hynod o boblogaidd gyda grwpiau o ganolfannau gweithgareddau awyr agored ac mae’r maes parcio yn gallu bod yn llawn iawn.
Mae Craig y Ddinas mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.
Mae mwy o raeadrau trawiadol ym Mro’r Sgydau nag yn unrhyw ardal debyg yng Nghymru.
Mae Bro’r Sgydau yn gorwedd o fewn triongl rhwng pentrefi Hirwaun, Ystradfellte a Phontneddfechan.
Yma, mae tair afon - y Mellte, yr Hepste a’r Nedd Fechan - wedi treulio’r creigiau meddal i greu ceunentydd coediog serth sy'n llawn o ogofâu a rhaeadrau.
Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.
Mae arwyddbyst ar bob un o’r llwybrau cerdded ac maen nhw’n cychwyn o’r maes parcio.
½ milltir/0.6 cilometr, (yno ac yn ôl), hygyrch
Mae'r llwybr hwn yn troelli ar lan yr afon trwy geunant coediog, cul.
Yr ochr arall i’r afon fe welwch graig enfawr o'r enw Bwa Maen, sy’n blyg daearegol trawiadol.
Wedi cyrraedd rhaeadrau Sgydau Sychryd mae’r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd.
Mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis mwy cadarn.
2 filltir/3.2 cilometr (un ffordd), anodd
Ym mhendraw’r llwybr hwn mae rhaeadr enwog Sgŵd-yr-Eira.
Mae’r llwybr naturiol yn arwain at gilfach y tu ôl i’r llen trawiadol o ddŵr.
Er bod lle i sefyll ddigon pell yn ôl, mae'r awyrgylch yn wlyb iawn ac felly mae’n syniad da gwisgo dillad sy’n dal dŵr!
Mae'r llwybr hefyd yn pasio bryngaer Craig y Ddinas a'r hen waith powdwr gwn.
Mae'n dychwelyd i'r maes parcio yr un ffordd.
Gallwch gyrraedd Sgŵd-yr-Eira a thair rhaeadr ddramatig arall ar hyd Llwybr Pedair Sgŵd, sy’n llwybr cylchol o faes parcio Gwaun Hepste.
Mae Llwybr Sgydau Sychryd yn llwybr byr ar hyd glan yr afon, sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn mwy cadarn.
Sylwch:
Mae maes parcio Craig y Ddinas 13 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gastell-nedd, oddi ar yr A465.
Mae coedwigoedd Bro’r Sgydau yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys, Castell-nedd Port Talbot a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Does dim angen talu i barcio ceir.
Trowch oddi ar yr A465 i'r A4109 am Lyn-nedd. Ar ddiwedd y ffordd ymadael, dilynwch arwyddion ar gyfer y B4242 a Phontneddfechan. Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn am Graig y Ddinas drwy'r pentref. Cymerwch y fforch i’r dde yn syth ar ôl hen dafarn y Ddinas gan barhau i deithio am un cilomedr. Mae'r maes parcio y tu draw i'r man troi bysiau ar ôl croesi'r bont gul dros yr afon.
Mae Craig y Ddinas ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 12.
Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 912 079.
Mae’r orsaf reilffordd agosaf yn Aberdâr.
I gael manylion am gludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk