Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni
Coetir bychan gydag amrywiaeth mawr a llwybr bordiau...
Porth i'r Llwybr Pedair Sgŵd enwog
Mae'r Llwybr Pedair Sgwd yn cychwyn o'r maes parcio mawr a'r man picnic hwn.
Mae'r llwybr yn eich arwain i Sgwd Clun-Gwyn, Sgwd Isaf Clun-Gwyn, Sgwd y Pannwr a Sgwd-yr-Eira ar yr Afon Mellte, yn ddwfn ym Mro’r Sgydau.
Mae pob un o'r rhaeadrau hyn yn olygfa ddramatig ond Sgwd-yr-Eira yw'r un mwyaf adnabyddus gan eich bod yn gallu cerdded y tu ôl i'w llen enfawr o ddŵr.
Er bod lle i sefyll ddigon pell yn ôl, mae'r awyrgylch yn wlyb iawn ac mae’n syniad da gwisgo dillad sy’n dal dŵr!
Mae Gwaun Hepste mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.
Mae mwy o raeadrau trawiadol ym Mro’r Sgydau nag yn unrhyw ardal debyg yng Nghymru.
Mae Bro’r Sgydau yn gorwedd o fewn triongl rhwng pentrefi Hirwaun, Ystradfellte a Phontneddfechan.
Yma, mae tair afon - y Mellte, yr Hepste a’r Nedd Fechan - wedi treulio’r creigiau meddal i greu ceunentydd coediog serth sy'n llawn o ogofâu a rhaeadrau.
Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.
5.5 milltir/9 cilometr, anodd
Mae'r Llwybr Pedair Sgwd yn llwybr cylchol trwy goetiroedd.
Mae arwyddbyst coch yn dangos y llwybr ac yn gyffredinol mae'r llwybrau'n llydan, yn hawdd eu dilyn ac mae ganddynt wyneb carreg yn y rhan fwyaf o fannau.
Mae'r graddiannau’n raddol gydag ychydig iawn o risiau.
Mae golygfeydd o bob un o’r rhaeadrau o lwybrau dewisol sydd oddi ar y prif lwybr.
Mae'r llwybrau hyn yn rai culion, heb arwyneb ac yn llithrig mewn mannau, gyda llawer o risiau. Maent yn arbennig o arw a chreigiog ger y rhaeadrau.
Gallwch hefyd ymuno â Llwybr Pedair Sgwd o’r maes parcio yng Nghwm Porth sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos ac mae pwynt gwybodaeth wedi’i staffio a thoiledau yma hefyd.
Mae llwybr uniongyrchol, rhywfaint yn fyrrach i Sgwd-yr-Eira o faes parcio Craig y Ddinas.
Sylwch:
Mae Gwaun Hepste dair milltir i'r gogledd o Benderyn oddi ar yr A4059.
Ewch ar yr A4059 tua’r gogledd o Benderyn i gyfeiriad Aberhonddu. Ar ôl dau gilometr, trowch i'r chwith tuag at Ystradfellte. Ewch i'r chwith yn y ddwy gyffordd nesaf gan ddilyn yr arwyddion am y rhaeadrau i faes parcio Gwaun Hepste sydd ar y chwith.
Mae Gwaun Hepste yn faes parcio talu ac arddangos.
Mae’r tâl parcio yn £4 ac mae’r peiriant yn derbyn darnau arian yn unig- gofalwch fod gennych y newid cywir (nid yw’r peiriant yn derbyn darnau 1c a 2c).
Mae Gwaun Hepste ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 12.
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 936 126.
Mae'r orsaf reilffordd agosaf yn Aberdâr.
I gael manylion am gludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.