Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi - Canolfan Ymwelwyr Ynyslas, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.

 

Newidiadau i gyfleusterau o fis Ebrill 2025

 

Bydd darpariaeth manwerthu ac arlwyo mewn tair canolfan ymwelwyr a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod ar agor tan 31 Mawrth, 2025, ac yna’n cau.

 

Ar ôl iddynt gau, byddwn yn lansio ymarfer cyhoeddus i chwilio am bartneriaid a allai fod â diddordeb i helpu i redeg y gwasanaethau hyn ym Mwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin yn y dyfodol.

 

Bydd yr holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor ar y safleoedd dan sylw.

 

Y diweddaraf am fanwerthu ac arlwyo yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru

Croeso

Mae Ynyslas yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. 

Mae'r twyni yn gartref i boblogaeth gyforiog o degeirianau, mwsogl, llys yr afu, ffwng, pryfed a phryfed cop.

Mae’r aber Afon Dyfi yn cynnwys ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol o safbwynt fflatiau llaid, banciau tywod a morfa heli, ac yn darparu ardaloedd bwydo a chlwydo arbennig i adar dŵr.

Sylwch na chaniateir nofio nac offer wedi’i lenwi ag aer, ac mae'r maes parcio'n gorlifo'n aml - darllenwch y wybodaeth Ymweld yn ddiogel isod.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae baner goch ar gyfer Ynyslas.
  • Ni chaniateir nofio nac offer wedi’i lenwi ag aer oherwydd bod cerrynt llanw cryf iawn.
  • Bomiau neu sieliau heb eu ffrwydro. Peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw bethau amheus, ffoniwch wylwyr y glannau cyn gynted ag y bo modd - ffoniwch 999
  • Peidiwch â thyllu yn y twyni.
  • Ni chaniateir unrhyw danau na barbeciw yn unrhyw le ar y safle.
  • Dim lansio cychod.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth yng nghanolfan ymwelwyr ac ym maes parcio.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Twyni

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1¼ milltir/2.1 cilomedr
  • Time: 30 muned - 1 awr

Ymlwybrwch trwy dwyni, sy’n newid trwy’r amser, ac ar hyd y traeth, gydag arddangosfa ysblennydd o flodau yn y gwanwyn a’r haf, a ffwng lliwgar yn yr Hydref.

Llwybr Ynyslas

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 2¾ milltir/4.3 cilomedr
  • Amser: 1¼ – 2 awr

Cewch brofi amrywiaeth eang o gynefinoedd gan gynnwys twyni tywod, glan y môr, tir amaeth a morfa heli a golygfeydd godidog o’r aber.

Grwpiau addysg

Mae croeso i grwpiau addysg ddefnyddio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn Ynyslas a Chors Fochno ar gyfer astudiaethau maes.

Nid yw'r gwasanaethau manwerthu ac arlwyo yng nghanolfan ymwelwyr Ynyslas yn gweithredu mwyach ac ni chymerir archebion gan grwpiau bellach.

Mae’r wybodaeth isod ar gael i grwpiau addysg:

  • Lawrlwythwch y wybodaeth diogelwch safle ar gyfer ymweliadau gan grwpiau addysg ar waelod y dudalen hon. Mae’n cynnwys dolen i wybodaeth flynyddol am y llanw ac ardaloedd lle na chaniateir mynediad i ddiogelu adar sy’n nythu ar y ddaear yn ystod eu tymor bridio.
  • I lawrlwytho adnoddau ar gyfer addysgwyr ac athrawon ewch i Addysg a Sgiliau.

Cŵn

Cofiwch gadw cŵn dan reolaeth a pheidiwch â gadael iddynt redeg ar ôl adar ar hyd llinell y llanw.

Cadwch bob ci ar dennyn:

  • o fewn y caeau pori o fis Hydref hyd at ddiwedd mis Mawrth (mae’r ardaloedd hyn wedi’u hamgylchynu gan ffens ac mae arwyddion yn nodi bod defaid yn bresennol)
  • ger yr ardaloedd sydd wedi’u neilltuo gyda rhaff (oherwydd adar sy’n nythu ar y tir)

Codwch faw eich cŵn a defnyddiwch y biniau baw cŵn pwrpasol.

I gael ymweliad diogel a braf gyda’ch ci, ac i osgoi achosi problemau i eraill, cofiwch ddilyn y Cod Cerdded Cŵn.

Beth i'w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Ynyslas yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.

Mae'r warchodfa 2,000 hectar hon hefyd yn cynnwys aber Afon Dyfi a Chors Forchno.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y gwanwyn

Fel mae’r tywydd yn cynhesu, mae blodau’r gwanwyn yn blodeuo yn y twyni a’r hesgen gotwm ar y gyforgors.

Gallwch gael cipolwg ar un o’r niferoedd o ymlusgiaid sy’n byw yma fel y fadfall, madfall y tywod, y neidr ddu a’r neidr fraith. Mae’r wenynen durio wanwynol yn brysur yma yn y gwanwyn hefyd.

Os mai cân yr adar sy’n mynd â’ch bryd yna rydych yn siŵr o fwynhau clywed yr ehedydd, y llinos, y sïff siaff, a thelor yr helyg yn canu. Fin nos gellir clywed gweilch y nos yn canu.

Yr haf

Daw’r gwanwyn ag arddangosfa amrywiol o flodau i’r warchodfa. Gwelir tegeirian rhuddgoch a thegeirian gwenynog ar ddechrau’r haf yn y llaciau twyni (ardaloedd gwlyb y twyni) ac yna’r tegeirian bera. Mae yna hefyd flodau lliwgar yn y morfa heli, clustog Fair, serenllys y morfa, troellig arfor, ac yna ddiwedd yr haf, caldrist y gors.

Llenwir yr awyr â phili palaod a gwyfynod sy’n hedfan yn y dydd, tra bo gwas y Neidr yn saethu o amgylch y gyforgors.

Gallwch hyd yn oed weld y gweilch a’r dyfrgi ar yr aber.

Yr hydref

Mae lliwiau’r hydref yn gyfoethog ac amrywiol yn y gyforgors. Mae’n cael ei gwisgo mewn ystod o liwiau rhuddgoch.

Mae ffwng yn cynnwys capiau cwyr, seren y ddaear, coden fwg a ffwng nyth aderyn yn ychwanegu at yr arddangosfa liwgar.

Gellir gweld rhydwyr sy’n ymfudo ar yr aber.

Y gaeaf

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae aber y Ddyfi yn gartref i adar gwyllt y gaeaf, tra ar y traeth, gallwch weld rhydwyr, pibydd y tywod a’r cwtiad aur.

Cadwch eich llygaid ar agor er mwyn gweld yr adar ysglyfaethus dros y gors, yn arbennig y canlynol:

  • barcutiaid coch
  • bwncathod
  • bodaod tinwyn
  • cudyllod bach
  • hebogiaid tramor

Efallai hyd yn oed y cewch gipolwg ar wyddau Bronwyn Yr Ynys Las: dyma’r unig leoliad trwy Gymru a Lloegr y gallwch eu gweld.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o warchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Genedlaethol.

Canolfan Ymwelwyr Ynyslas

Ceir arddangosfa o’r hyn sydd i’w weld yn y warchodfa, a siop sy’n gwerthu diodydd poeth ac oer, byrbrydau, llyfrau a chynnyrch lleol.

Mae’r toiledau drws nesaf i’r ganolfan ymwelwyr.

Llwybr Arfordir Ceredigion

Ynyslas yw dechrau neu ddiwedd Llwybr Arfordir Ceredigion.

Mae llawer o Lwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn yr un trywydd â Llwybr Arfordir Cymru.

Mae’r ddau lwybr hwn yn rhannu’n ddau yn Borth ac mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn mynd ymlaen i’r aber a’r twyni tywod yn Ynyslas.

I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr Arfordir Ceredigion ewch i wefan Darganfod Ceredigion.

Gwybodaeth hygyrchedd

  • maes parcio bach ar gyfer ymwelwyr gyda bathodyn glas yn unig wrth ymyl y brif ffordd i mewn i Ynyslas, 30 metr i’r de o faes parcio’r traeth
  • trac wyneb caled gyda ramp pren addas ar gyfer cadeiriau olwyn o faes parcio deiliaid bathodyn glas i ganolfan ymwelwyr
  • rhan 300m o’r Llwybr Twyni o’r ganolfan ymwelwyr i’r prif lac twyni yn hygyrch
  • toiledau hygyrch

Amserau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor isod.

Mae Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yn agored yn ddyddiol o 9.30am tan 4pm.

Mae'r gwarchodfa natur a'r llwybrau cerdded ar agor trwy’r flwyddyn.

Mae'r maes parcio ar agor trwy’r flwyddyn ond mae'n dibynnu ar lefelau llanw uchel.

Mae'r toiledau ar agor o 9am tan 4.30pm bob dydd trwy'r flwyddyn.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae Ynyslas 10 milltir i'r gogledd o Aberystwyth.

Cymerwch yr A487 o Aberystwyth tuag at Fachynlleth.

Yn Bow Street, trowch i'r chwith ar y B4353, gydag arwydd at Borth.

Ar ôl 2½ milltir, trowch i'r dde wrth y gylchfan a dilyn y ffordd ar hyd glan y môr.

Ewch yn eich blaen am 2 filltir ac, ar y troad sydyn i'r dde ym mhentref Ynyslas, ewch i'r chwith gan ddilyn y ffordd fechan sy’n parhau i ddilyn glan y môr.

Wedi 1 milltir daw'r ffordd hon i ben wrth fynedfa maes parcio Canolfan Ymwelwyr Ynyslas.

Mae'r maes parcio ar y traeth a phan mae’r llanw uchel, mae’n llenwi â dŵr y môr.

Felly: nodwch amseroedd y llanw ar yr arwydd wrth fynedfa’r maes parcio.

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 610 941 (Explorer Map OL 23).

Y cod post yw SY24 5JZ. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Borth.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio wedi’i leoli ar y traeth ac mae’n gorlifo yn ystod llanw uchel.

  • Mae llanw uchel yn digwydd yn rheolaidd ac mae amser y llanw uchel yn amrywio.
  • Mae’r arwydd ger y fynedfa i’r maes parcio yn dangos os disgwylir llanw uchel ac am ba hyd y bydd y maes parcio dan ddŵr.
  • Os bydd llanw uchel ar y ffordd, mae’n rhaid i chi symud eich cerbyd o’r maes parcio cyn yr amser a nodir ar yr arwydd.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Taliadau parcio

  • £4 y dydd
  • £50 am docyn tymor blynyddol
  • Am ddim i ddeiliaid Bathodyn Glas (arddangoswch eich bathodyn yn eich cerbyd os gwelwch yn dda)
  • Am ddim i drigolion lleol (gweler y nodyn isod)

Talwch y gofalwr wrth gyrraedd, gydag arian parod neu gerdyn.

Parcio am ddim i drigolion lleol

Gall trigolion lleol wneud cais am docyn parcio am ddim.

I wybod a yw eich cyfeiriad o fewn yr ardal gymwys, gofynnwch i ofalwr y maes parcio wrth gyrraedd.

Bydd angen i chi ddangos prawf o’ch cyfeiriad - fel trwydded yrru neu fil cyfleustodau diweddar - i gael eich tocyn parcio am ddim.

Sylwch fod y pàs i breswylwyr yn ddilys am flwyddyn a bydd angen i chi ailymgeisio bob blwyddyn.​

Manylion cyswllt

01970 872901

ynyslas@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf