Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Nid yw’r caffi na’r siop yn gweithredu bellach.
Nid oes staff yn y ganolfan ymwelwyr ac nid oes darpariaeth cymorth cyntaf. Dewch yn barod ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ei wneud a byddwch yn ymwybodol o beth i’w wneud mewn argyfwng.
Mae’r llwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau i fod ar agor. Caiff unrhyw gau dros dro neu newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr eu rhestru isod:
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn enwog am ei thraddodiad hir o fwydo barcudiaid cochion bob dydd.
Mae’n fan cychwyn ar gyfer amryw o lwybrau ag arwyddbyst arnyn nhw ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd a rhedwyr.
Mae parc sgiliau gyda trac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg a llwybr cylchol ag arwyddbyst ar gyfer marchogion ceffylau.
Mae'r ganolfan ymwelwyr wedi’i lleoli ar ben uchaf cwm dramatig ac mae'n safle y mae modd gweld ymhell ohono dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.
Mae’n dal yn bosibl gweld olion y diwydiant cloddio plwm ar hyd y llwybrau ond heddiw mae llus a grug yn gorchuddio’r bryniau tra bod barcutiaid coch urddasol yn hedfan uwchben.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae Llwybr y Barcud yn eich arwain o amgylch ymyl y llyn, lle caiff y barcudiaid cochion eu bwydo bob dydd. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Ar hyd y llwybr mae anifeiliaid pren i’w gweld. Cymerwch daflen Pos Anifeiliaid o’r teclyn taflenni – tybed faint o anifeiliaid y gallwch ddod o hyd iddynt?
Chwiliwch am gerfluniau a barddoniaeth ar hyd y llwybr sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw.
Mae Llwybr y Mwynwyr yn troelli ar hyd pen y cwm, gan ddilyn ffrwd a arferai gludo dŵr i bweru mwyngloddiau plwm.
Mae’n dringo llechwedd fer ond serth at Gadair y Cawr sy’n lle gwych i edrych ar yr olygfa.
O’r fan yma ewch i lawr i mewn i ardal sydd wedi cael ei phlannu’n ddiweddar â 12,000 o goed brodorol.
Ewch i lawr yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.
Dilynwch yr arwyddion i fyny at y grib sydd wedi ei orchuddio â grug a mwynhewch y golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.
Ewch heibio i’r arsyllfa garreg cyn cerdded i lawr trwy’r coed.
Ymunwch â’r llwybr ffrwd main a ddaw â chi’n ôl at y maes parcio.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae’r Llwybr Arian yn eich arwain at lyn prydferth Blaenmelindwr.
Mae’n llwybr y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau.
Agorwyd Llwybr Melindwr ym Mis Hydref 2019. Dyluniwyd i fod yn un 'cynyddol' ar gyfer beicwyr sy'n gymwys ar lwybrau gradd glas, fel y gallant wella'u sgiliau cyn symud ymlaen i'r radd nesaf.
Mae llwybr Melindwr mewn dau gylch; mae beicio’r ddau gylch yn 5km.
Mae’r cylch cyntaf yn llai na 2km ac yn cynnwys: un rhan lle byddwch yn dringo ffordd goedwig; mainc â golygfa wych; ac un disgyniad troellog cyffrous â llawer o ysgafellau, ar y ffordd yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.
Mae cylch 2 yn mynd â chi i fyny rhan gychwynnol yr 'Italian Job' cyn dod i lawr yr 'Hanner Pibell'. Cymerwch ofal ar y rhan ddwyffordd nesaf a ddefnyddir gan eraill hefyd, cyn dringo o amgylch y ‘Y Trwyn’ i weld golygfa wych o’r môr ymhell draw. Cymerwch seibiant ar y fainc cyn y disgyniad hir a throellog sydd â rholeri ac ysgafellau difyr. Mae’r ffordd goedwig y byddwch yn ei dringo i ddod yn ôl yn cynnwys un rhan ag esgyniad o 12%, ond y disgyniad terfynol cyffrous fydd eich gwobr.
Mae Llwybr Pendam yn cyfuno rhannau o Lwybrau Summit a Syfydrin ac yn cynnig profiad o’r beicio anhygoel a’r golygfeydd rhagorol sydd yma. Er mai hwn yw’r llwybr byrraf yn Nant yr Arian mae’n cynnwys sawl rhan trac sengl dymunol ac ambell ddringfa galed. Mae rhai rhannau yn dechnegol iawn.
Mae Llwybr Summit yn cynnig beicio tonnog a chyflym ar lôn sengl bwrpasol, anhygoel sy’n addas i’w defnyddio mewn unrhyw dywydd. Mae’n gwau ei ffordd drwy goedwigoedd conwydd, i lawr llethrau serth a thrwy gymoedd dyfnion.
Mae llwybr Syfydrin yn cynnwys Llwybr Summit gyda’i drac sengl ffantastig sy’n llifo a phlymio – ac yn ychwanegu ato trwy eich arwain allan i’r bryniau agored lle ceir golygfeydd anhygoel.
Mae’r parc sgiliau yn drac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg neu hyd yn oed ar gyfer cynhesu cyn mynd i’r afael â’r llwybrau hwy sy’n cychwyn o’r ganolfan ymwelwyr.
Mae’r nodweddion yn cynnwys roleri, grisiau, ysgafellau, pennau bwrdd, ‘cluniau’ a dysglau.
Cafodd y parc sgiliau ei gynllunio a’i adeiladu gan Trailcraft.
Cafodd y safle ei ddewis yn ofalus fel nad yw’r llwybr yn effeithio ar lwybrau eraill nac ar yr olygfa o’r llyn.
Mae'r llwybrau rhedeg ag arwyddbyst arnyn nhw yn dechrau o'r maes parcio.
Cafodd llwybrau Y Fuwch a’r Llo eu henwi ar ôl pâr o feini hirion trawiadol yn yr ardal sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd.
Sylwch:
Cyflwyniad hamddenol i redeg llwybrau, mae’r llwybr 5km hwn yn cychwyn ar y gwastad am oddeutu 2km cyn dringo’r grib a mynd i lawr eto i’r maes parcio.
Mae’r llwybr heriol hwn yn dilyn Y Llo cyn croesi’r ffordd a rhedeg ar hyd adfeilion hen fferm.
Ymunwch â ffordd y goedwig a fydd yn mynd â chi heibio Llyn Syfydrin, yna ewch yn ôl heibio’r adfeilion cyn dringo’n ôl ar hyd y grib i’r maes parcio.
Mae’r llwybr hwn sydd wedi ei arwyddo ac sydd wedi ei enwi ar ôl bryn lleol (Mynydd March).
Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Phumlumon Fawr, mynydd uchaf canolbarth Cymru.
Sylwch:
Mae pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yma (cyfres o byst y mae'n rhaid i chi eu darganfod yn eu trefn).
Mae'r rhain yn cynnwys cwrs haws ar gyfer dechreuwyr, sy'n cael ei ddefnyddio gan deuluoedd yn aml, a chwrs mwy anodd ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.
I gychwyn, lawrlwythwch y mapiau ar waelod y dudalen hon.
Yna defnyddiwch eich sgiliau cyfeiriannu i geisio dod o hyd i byst nodi cyfeiriannu (sy'n cael eu galw'n rheolyddion) yn y drefn gywir.
Aderyn ysglyfaethus digamsyniol yw’r barcud coch, gyda’i gorff browngoch, adenydd onglog a chynffon fforchog ddwfn.
Caiff y barcutiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian yn ddyddiol am 2pm yn y gaeaf (GMT) a 3pm yn yr haf (BST).
Nid oes unrhyw dâl i wylio'r barcud coch yn bwydo.
Gallwch ddisgwyl gweld cynifer â 150 o farcudiaid yn dod i mewn i gael eu bwydo ‒ mae mwy ohonyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf fel arfer. Maent yn gwibio i lawr i godi darn o gig ac yn bwyta wrth hedfan.
Mae dau fan chwarae i’w cael, un ar gyfer plant bach ac un ar gyfer plant hŷn.
Mae’r holl offer chwarae wedi'u gwneud o adeiladwaith pren cadarn sy’n gweddu i amgylchiadau’r goedwig.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r mannau hyn.
Mae Llwybr y Barcud, sy'n mynd o amgylch ymyl y llyn, yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae'r graddiant yn 10% neu'n llai gyda mannau gorffwys ar y rhannau ar i fyny.
Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
Rydym yn croesawu cŵn ym Mwlch Nant yr Arian.
Gallwch ddod â’ch ci pan fyddwch yn defnyddio ein llwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd, ond rhaid ichi gadw’r ci ar dennyn neu o dan reolaeth agos.
Cofiwch godi baw eich ci - gallwch waredu’r bag mewn unrhyw fin sbwriel ar y safle.
I gael ymweliad diogel a braf gyda’ch ci, ac i osgoi achosi problemau i eraill, cofiwch ddilyn y Cod Cerdded Cŵn.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor isod.
Mae'r coedwig a'r llwybrau ar agor trwy’r flwyddyn.
Mae darpariaeth toiledau ar gael ar y safle.
Caiff y barcudiaid cochion eu bwydo bob dydd am 2pm yn y gaeaf (GMT) a 3pm yn yr haf (BST).
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mewn tywydd eithafol fel eira, rhew neu wyntoedd cryfion:
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian 9 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth.
Cymerwch yr A44 o Aberystwyth i gyfeiriad Llangurig.
Ar ôl 9 milltir, mae maes parcio’r ganolfan ymwelwyr wedi’i arwyddo ar y chwith.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 718 812 (Explorer Map 213).
Y cod post yw SY23 3AB. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.
Bydd bws X47 rhwng Aberystwyth a Llanidloes yn stopio ar gais wrth fynedfa’r maes parcio.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Ar ôl cyrraedd talwch wrth y peiriant tocynnau yn y maes parcio.
Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio isaf yn derbyn arian parod a chardiau. Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio uchaf yn derbyn arian parod yn unig.
Nid yw’r peiriannau tocynnau yn rhoi newid felly gofalwch fod gennych yr arian cywir os ydych yn dymuno defnyddio arian mân i dalu.
Nid oes staff yn y ganolfan ymwelwyr hon.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre, Ponterwyd, Aberystwyth SY23 3AB