Coed Moel Famau, ger yr Wyddgrug

Beth sydd yma

Mae’r toiledau ar gau am resymau diogelwch yn dilyn difrod storm helaeth i’r adeilad.

 

Diweddariad yn dilyn Storm Darragh

 

Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.

 

Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.

 

Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.

 

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.

Croeso

Mae Coed Moel Famau yn cynnig diwrnod allan delfrydol i'r teulu.

Mae sawl taith gerdded, amrywiol eu hyd, yn cychwyn o faes parcio, llwybr beicio mynydd gradd las a gall ymwelwyr iau ddilyn Llwybr Traciwr y Goedwig.

Mae llwybr cerdded i ben Moel Famau ac adfeilion Tŵr y Jiwbilî yn cychwyn o'r maes parcio.

Mae byrddau picnic yn y maes parcio.

""

Llywbrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Hygyrch 

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¼ milltir/0.4 cilomedr
  • Amser: 20 munud

Mae'r llwybr byr hwn yn mynd drwy’r coetir ac wrth ochr nant.

Llwybr Traciwr y Goedwig

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1¼ milltir/1.8 cilomedr
  • Amser: 1½ awr

""

Codwch daflen o'r maes parcio a dilynwch y llwybr byr, gwastad hwn.

Dyfalwch pa brint trac sy'n perthyn i ba anifail coetir ac yna ceisiwch ganfod cerfluniau’r anifeiliaid sydd wedi'u cuddio yn y coed.

Cylch Llarwydd

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1½ milltir/2.4 cilomedr
  • Amser: 1 awr

""

Mae'r daith hawdd hon yn arwain drwy'r coetir i olygfan.

Cylch Tŵr Jiwbilî

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3½ milltir/5.8 cilomedr
  • Amser: 2½ awr

""

Mae'r llwybr hwn yn dringo'n serth ond yn gyson trwy'r goedwig i Dŵr y Jiwbilî sy’n sefyll ar gopa Moel Famau.

Adeiladwyd Tŵr y Jiwbilî ym 1810 ar gyfer jiwbilî aur Brenin Siôr III; sydd i'w weld o bell am filltiroedd.

Moel Famau - 554 metr (1,818 troedfedd) - yw'r copa uchaf ym Mryniau Clwyd ac o'r fan hon ceir golygfeydd ar draws Gogledd Cymru ac i gyfeiriad Gogledd Orllewin Lloegr.

Mae'r llwybr yn dychwelyd trwy gefn gwlad agored ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

Cylch Mynydd Ffrith

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 7½ milltir/12.3 cilomedr
  • Amser: 5 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Gall beicwyr mynydd ddefnyddio’r llwybr hwn hefyd ac mae rhan ohono yn dilyn llwybr ceffylau cyhoeddus – cofiwch fod pobl eraill yn defnyddio’r llwybr hwn.

Mae'r llwybr cyfeiriedig hwn ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn ymdroelli trwy'r goedwig, gan ddringo'n gyson hyd at bwynt uchel ar gyrion y coed sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd dros Lannau Merswy a thu hwnt.

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Cylch Mynydd Ffrith

  • Gradd: Glas/Cymedrol
  • Pellter: 12.3 cilomedr
  • Dringo: 120 metres
  • Amser: 2-3½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Gall cerddwyr ddefnyddio’r llwybr hwn hefyd ac mae rhan ohono yn dilyn llwybr ceffylau cyhoeddus – cofiwch fod pobl eraill yn defnyddio’r llwybr hwn.

Mae’r daith seiclo hon yn ymdroelli drwy goedwig Moel Famau, gan ddringo’n raddol i fan uchel ar gyrion y coed lle mae golygfeydd nodedig dros Lannau Mersi a thu hwnt.

Ar ôl disgynfa aruthrol mae llwybr march a nant i’w chroesi (peidiwch â gwlychu’ch traed!) cyn dychwelyd i’r goedwig.

Ar ôl ymlafnio i fyny esgyniad yr heol goedwig, mae modd gwibio nôl i'r maes parcio. 

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn croesi copa Moel Famau - cadwch lygad am y pyst cyfeirnodi hynod siâp mesen.

Am ragor o wybodaeth gweler Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru.

Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae Coed Moel Famau o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn o gopaon bryngaerog wedi eu gorchuddio â grug; y copa uchaf ym Mryniau Clwyd ydy Moel Famau.

Y tu draw i’r bryniau gwyntog hyn mae Dyffryn Dyfrdwy lle ceir trefi hanesyddol Llangollen a Chorwen.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ymweld â’r AHNE ewch i wefan Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Parc Gwledig Loggerheads

Darganfod mwy am AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yng nghanolfan ymwelwyr ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Mae troedffyrdd o amgylch y parc ac sy’n arwain i'r bryniau a'r cymoedd y tu hwnt.

Mae yna gaffi hefyd.Gallwch gerdded o faes parcio Coed Moel Famau i Barc Gwledig Loggerheads ar Ddolen Loggerheads (2¾ milltir/4.3 cilomedr bob ffordd).

Nid oes y llwybr wedi ei arwyddo a byddwn eich cynghori i fynd â map.

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych a chodir tâl am barcio.

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych a chodir tâl am barcio.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Parc Gwledig Loggerheads.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coed Moel Famau yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth ynghylch hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys yng Nghoed Moel Famau:

  • llwybr hygyrch 
  • parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas
  • toiledau hygyrch

Amserau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae’r maes parcio a'r toledau ar agor rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr (Hydref hyd Mawrth) a rhwng 8 y bore a 9 yr hwyr (Ebrill hyd Medi).

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae Coed Moel Fama 5 milltir i’r de-orllewin o’r Wyddgrug.

Ewch ar yr A494 o’r Wyddgrug tuag at Ruthun.

Ar ôl mynedfa Parc Gweldig Loggerheads, ceir arwydd brown a gwyn i Barc Gwledig Moel Fama ar y dde.

Mae maes parcio Coed Moel Fama ar yr ochr dde ar ôl milltir. 

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SJ 171 610 (Explorer Map 265).

Y cod post yw CH7 5SH. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Bwcle.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae system dalu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig (ANPR) yn y maes parcio.

Mae'r system ANPR yn darllen rhif eich cerbyd wrth rwystr y fynedfa ac nid oes angen i chi brynu tocyn wrth gyrraedd.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Taliadau am barcio

Byddwch yn talu yn ôl faint o amser y byddwch yn parcio:

  • £2 am 3 awrMae system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig (ANPR) newydd ym maes parcio Coed Moel Famau. Gweler y manylion yn yr adran Parcio ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth.​
  • 40c ar gyfer pob 30 munud ychwanegol
  • £5 yw’r uchafswm fesul diwrnod

Pan fyddwch yn barod i adael:

  • talwch wrth rwystr yr allanfa gyda cherdyn neu daliad digyswllt wrth i chi yrru allan
  • neu rhowch rif cofrestru eich cerbyd yn y peiriant talu yn y maes parcio a thalwch â cherdyn neu daliad digyswllt - bydd rhwystr yr allanfa’n codi'n awtomatig wrth i chi yrru allan

Nodwch mai dim ond gyda cherdyn neu daliad digyswllt y gellir talu am barcio.

Ac os byddwch yn gollwng rhywun yn y maes parcio, bydd gennych 20 munud o'r amser y cyrhaeddoch i gyrraedd yr allanfa cyn y bydd tâl i'w thalu.

Tocyn tymor

Gallwch brynu tocyn tymor i barcio yng Nghoed Moel Famau a rhai o'r meysydd parcio eraill yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

I brynu tocyn tymor, ewch i’r ganolfan ymwelwyr ym Mharc Gwledig Loggerheads neu e-bostiwch loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf