Craig y Ddinas, ger Castell-nedd

Beth sydd yma

Croeso

Clogwyn calchfaen anferthol ym Mro’r Sgydau yw Craig y Ddinas ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae yna daith gerdded hygyrch fer o'r maes parcio i'r rhaeadrau.

Mae'r llwybr arall sydd wedi ei arwyddo yn arwain i raeadr Sgwd yr Eira.

Gallwch hefyd gerdded i'r hen waith powdr gwn gerllaw – mae’r panel gwybodaeth yn y maes parcio yn dangos y llwybr a awgrymir.

Gall y maes parcio fynd yn llawn gan fod yr ardal hon yn boblogaidd gyda grwpiau gweithgareddau awyr agored.

Cadwch yn ddiogel ym Mro’r Sgydau

Mae Craig y Ddinas mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad â Bro’r Sgydau.

Mae damweiniau difrifol yn digwydd yma i ymwelwyr a chafwyd nifer o farwolaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

  • Rydych chi mewn perygl o ddioddef anafiadau a all newid bywyd neu o gael eich lladd os byddwch yn penderfynu mynd i mewn i’r dŵr.
  • Peidiwch â chael eich temtio i neidio i bwll dŵr neu i gerdded i mewn i afon i nofio gan fod y dŵr yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gryf a cheir creigiau llithrig, cerhyntau cryfion a pheryglon cudd.
  • Peidiwch byth â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded ceunentydd neu hafnau a sgramblo oni bai eich bod wedi cael hyfforddiant neu oni bai eich bod yn cael eich goruchwylio gan weithredwr cofrestredig a thrwyddedig.
  • Gwisgwch esgidiau cerdded.
  • Byddwch yn eithriadol o ofalus yn yml dŵr a chadwch at y llwybrau sydd wedi’u harwyddo gan eu bod yn cynnig y ffordd fwyaf diogel – mae mentro y tu hwnt i’r llwybr sydd wedi’i arwyddo yn hynod o beryglus.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Sgydau Sychryd

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 cilometr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 20 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis mwy cadarn.

Mae'r llwybr hwn yn troelli ar lan yr afon trwy geunant coediog, cul.

Yr ochr arall i’r afon fe welwch graig enfawr o'r enw Bwa Maen, sy’n blyg daearegol trawiadol.

Wedi cyrraedd rhaeadrau Sgydau Sychryd mae’r llwybr yn dychwelyd yr un ffordd.

Llwybr Sgwd yr Eira

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 4 filltir/6.3 cilometr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 2 awr

Ym mhendraw’r llwybr hwn mae rhaeadr enwog Sgwd yr Eira.

Mae’r llwybr naturiol yn arwain at gilfach y tu ôl i’r llen trawiadol o ddŵr - er bod lle i sefyll ddigon pell yn ôl, mae'r awyrgylch yn wlyb iawn ac felly mae’n syniad da gwisgo dillad sy’n dal dŵr!

Mae'r llwybr hefyd yn pasio bryngaer Craig y Ddinas a'r hen waith powdwr gwn, ac mae'n dychwelyd i'r maes parcio yr un ffordd.

Gallwch gyrraedd Sgwd yr Eira a thair rhaeadr arall ar hyd Llwybr Pedair Sgwd o faes parcio Gwaun Hepste.

Darganfod Bro’r Sgydau

Does yna unlle arall yng Nghymru gyda’r fath gyfoeth ac amrywiaeth o raeadrau mewn ardal mor fach. Yma, yn yr ardal a elwir yn Fro’r Sgydau, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin, Nedd Fechan a Sychryd yn ymdroelli i lawr ceunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o raeadrau dramatig, cyn ymuno i ffurfio Afon Nedd.

P’un a ydych yn chwilio am antur am ddiwrnod cyfan neu dro am awr yn unig, dylech allu dod o hyd i lwybr addas i chi.

Lleolir Bro’r Sgydau yn bennaf o fewn coetir a reolir ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Gyda’n gilydd, rydym yn rheoli’r llwybrau ac yn eich helpu chi i archwilio a mwynhau’r ardal unigryw hon.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.

Gwybodaeth am hygyrchedd

  • Llwybr Sgydau Sychryd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn mwy cadarn
  • parcio bathodyn glas

Amseroedd agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae'r maes parcio ar agor rhwng 8am a 5.30pm fel arfer - neu bydd yn cau pan fydd hi’n nosi, os bydd hynny’n gynt.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae maes parcio Craig y Ddinas 13 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gastell-nedd.

Mae yn Sir Rhondda Cynon Taf.

Map Arolwg Ordnans

Mae Craig y Ddinas ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.

Cyfeirnod grid yr AO yw SJ 911 079.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A465 o Gastell-nedd tuag at Ferthyr Tudful.

Trowch oddi ar yr A465 i'r A4109 am Lyn-nedd. Ar ddiwedd y ffordd ymadael, dilynwch arwyddion ar gyfer y B4242 a Phontneddfechan.

Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn am Graig y Ddinas drwy'r pentref.

Cymerwch y fforch i’r dde yn syth ar ôl hen dafarn y Ddinas gan barhau i deithio am un cilomedr.

Mae'r maes parcio y tu draw i'r man troi bysiau ar ôl croesi'r bont gul dros yr afon.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberdâr.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Gall y maes parcio fynd yn llawn gan fod yr ardal hon yn boblogaidd gyda grwpiau gweithgareddau awyr agored.

Sylwch ar amseroedd agor y maes parcio yn yr adran amseroedd agor uchod.

Mae rhwystr wrth fynedfa'r maes parcio pan fydd ar gau.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf