Pont Melin Fach, ger Ystradfellte

Beth sydd yma

Mae’r maes parcio ar gau rhwng 4 Mawrth a 30 Medi 2024.

 

Mae rhwystr wrth fynedfa’r maes parcio – peidiwch â cheisio gyrru i’r maes parcio pan fydd ar gau.

 

Gweler yr adran oriau agor ar y dudalen we hon am ragor o wybodaeth.

 

I ddod o hyd i'n meysydd parcio eraill ym Mro’r Sgydau a ledled Cymru ewch i'r map o leoedd i ymweld â nhw.

 

I ddod o hyd i leoedd eraill i ymweld â nhw ym Mro’r Sgydau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Croeso

Maes parcio bychan a safle picnic yw Pont Melin Fach mewn lleoliad prydferth ger hen bont garreg.

Mae’r llwybr o fan hyn yn mynd heibio pedair rhaeadr ac mae yn gyflwyniad arbennig i Fro’r Sgydau.

Mae’r tir cysgodol, llaith yn llawn mwsoglau, llysiau’r afu a chennau sy’n dibynnu ar y lleithder y mae’r coed a’r rhaeadr yn eu creu.

Nid yw'r maes parcio ar agor drwy gydol y flwyddyn - gweler y wybodaeth am oriau agor ar y dudalen we hon.

Cadwch yn ddiogel ym Mro’r Sgydau

Mae Pont Melin Fach mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad â Bro’r Sgydau.

Mae damweiniau difrifol yn digwydd yma i ymwelwyr a chafwyd nifer o farwolaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

  • Rydych chi mewn perygl o ddioddef anafiadau a all newid bywyd neu o gael eich lladd os byddwch yn penderfynu mynd i mewn i’r dŵr.
  • Peidiwch â chael eich temtio i neidio i bwll dŵr neu i gerdded i mewn i afon i nofio gan fod y dŵr yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gryf a cheir creigiau llithrig, cerhyntau cryfion a pheryglon cudd.
  • Peidiwch byth â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded ceunentydd neu hafnau a sgramblo oni bai eich bod wedi cael hyfforddiant neu oni bai eich bod yn cael eich goruchwylio gan weithredwr cofrestredig a thrwyddedig.
  • Gwisgwch esgidiau cerdded.
  • Byddwch yn eithriadol o ofalus yn yml dŵr a chadwch at y llwybrau sydd wedi’u harwyddo gan eu bod yn cynnig y ffordd fwyaf diogel – mae mentro y tu hwnt i’r llwybr sydd wedi’i arwyddo yn hynod o beryglus.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Elidir

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 4¾ milltir/7.7 cilometr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r tir yn wlyb ac yn anwastad mewn sawl man, ac mae yna rai llethrau a dringfeydd serth. Ar ôl cyrraedd pentref Pontneddfechan mae’r ffordd yn ôl at y maes parcio’n mynd ar hyd yr un llwybr. Gallwch hefyd ddechrau’r llwybr o Bontneddfechan.

Mae Llwybr Elidir yn mynd i lawr yr afon o'r maes parcio, gan ddilyn Afon Nedd Fechan.

Mae’r sgwd cyntaf, sef Sgwd Ddwli Uchaf, sydd tua 15 munud i ffordd ar hyd y llwybr.

Dilynwch arwyddbyst y gwyriad i Sgwd Gwladus. Gallwch droi o gwmpas yno neu barhau i lawr i Bontneddfechan.

Tu hwnt Sgwd Gwladus, mae’r llwybr yn gymharol wastad am ei fod yn dilyn trac hen dramffordd geffylau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i gludio dramiau yn llawn cerrig silica i lawr i’r gwaith brics ger Camlas Nedd. Heddiw gallwch weld rhai o fynedfeydd y pyllau o hyd.

Darganfod Bro’r Sgydau

Does yna unlle arall yng Nghymru gyda’r fath gyfoeth ac amrywiaeth o raeadrau mewn ardal mor fach. Yma, yn yr ardal a elwir yn Fro’r Sgydau, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin, Nedd Fechan a Sychryd yn ymdroelli i lawr ceunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o raeadrau dramatig, cyn ymuno i ffurfio Afon Nedd.

P’un a ydych yn chwilio am antur am ddiwrnod cyfan neu dro am awr yn unig, dylech allu dod o hyd i lwybr addas i chi.

Lleolir Bro’r Sgydau yn bennaf o fewn coetir a reolir ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Gyda’n gilydd, rydym yn rheoli’r llwybrau ac yn eich helpu chi i archwilio a mwynhau’r ardal unigryw hon.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.

Amseroedd agor

Mae maes parcio Pont Melin Fach ar gau o fis Mawrth tan ddiwedd mis Medi – mae’r dyddiadau cau yn amrywio bob blwyddyn a byddant yn cael eu nodi ar frig y dudalen we hon.

Mae rhwystr wrth fynedfa’r maes parcio – peidiwch â cheisio gyrru i’r maes parcio pan fydd ar gau.

Pryd mae’r maes parcio ar gau?

Mae'r dyddiadau cau yn amrywio bob blwyddyn a byddant yn cael eu nodi ar frig y dudalen we hon.

Pam mae’r maes parcio ar gau?

 Mae Pont Melin Fach ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n denu llawer o ymwelwyr.

I gyrraedd y maes parcio, rhaid teithio ar hyd ffordd fach gul gydag ychydig iawn o leoedd pasio, ac mae'n rhy fach i ymdopi â nifer yr ymwelwyr sy'n dymuno ei ddefnyddio.

Felly, rydym wedi cytuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gau’r maes parcio rhwng mis Mawrth a diwedd mis Medi bob blwyddyn.

Sut i ddod o hyd i faes parcio arall

I ddod o hyd i'n meysydd parcio eraill ym Mro’r Sgydau a ledled Cymru ewch i'r map o leoedd i ymweld â nhw.

I ddod o hyd i leoedd eraill i ymweld â nhw ym Mro’r Sgydau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Pont Melin Fach 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lyn-nedd.

Mae coedwigoedd Bro’r Sgydau yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys, Castell-nedd Port Talbot a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Pont Melin Fach ar fap Explorer OL 12 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 908 105.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B4242 o Lyn-nedd i Bontneddfechan.

Trowch i'r chwith tuag at Ystradfellte a dilynwch y ffordd hon am ddau gilometr.

Trowch i'r chwith a dilyn ffordd ‘dim ffordd drwodd’ (sy’n ‘anaddas i fysiau’).

Dilynwch y ffordd gul hon (lle mae mannau pasio yn brin) am un cilometr ac mae maes parcio Pont Melin Fach ar y chwith wedi i chi groesi'r bont garreg.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Castell-nedd.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Nid yw'r maes parcio ar agor drwy gydol y flwyddyn - gweler y wybodaeth am oriau agor ar y dudalen we hon.

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf