Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.
Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Mae Coedwig Cwm Carn, sydd yng nghanol cymoedd De Cymru, yn hawdd i'w chyrraedd o'r M4 ac mae rhodfa goedwig, llwybrau cerdded a beicio mynydd.
Dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu coed ar y bryniau o amgylch pentref Cwmcarn yn y 1920.
Bellach mae'r hen ardal lofaol hon yn gartref i amrywiaeth o gyfleusterau i ymwelwyr.
Mae’r cyfleusterau i ymwelwyr yn cynnwys:
Mae’r ganolfan ymwelwyr, rhodfa’r goedwig a’r rhan fwyaf o gyfleusterau i ymwelwyr yn cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Er mwyn cael gwybodaeth am ymweld â Choedwig Cwm Carn ewch i ganolfan ymwelwyr neu wefan Coedwig Cwm Carn.
Yn dilyn buddsoddiad a gwaith ailddatblygu sylweddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ail-agorodd rhodfa’r goedwig ym mis Mehefin 2021.
Mae’r rhodfa sy’n ymestyn am saith milltir yn cynnwys wyth o arosfannau lle ceir amrywiaeth o gyfleusterau newydd i ymwelwyr gan gynnwys ardaloedd chwarae, llwybrau hygyrch, twneli synhwyraidd a llwybr cerfluniau pren.
Hefyd ceir ardaloedd picnic, cyfleusterau barbeciw a thoiledau mewn rhai o’r arosfannau.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n gofalu am rodfa’r goedwig drwy gytundeb partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er mwyn cael gwybodaeth am ymweld â Rhodfa Goedwig Cwm Carn ewch i wefan Coedwig Cwm Carn.
Mae pum llwybr beicio mynydd yng Nghwm Carn:
Mae nodwyr llwybr arnynt o'r panel gwybodaeth ym maes parcio'r ganolfan ymwelwyr.
Mae’r ardal o Goedwig Cwm Carn sydd o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Coedwig Cwm Carn ar yr A467, 8 milltir o gyffordd 28 ar yr M4.
Mae Coedwig Cwm Carn ar Explorer Map Arolwg Ordnans (AO) 152 a’r cyfeirnod grid AO ar gyfer y maes parcio yw ST 229 935.
Caiff y maes parcio ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Am gyfarwyddiadau a gwybodaeth am barcio a chludiant cyhoeddus ewch i wefan Coedwig Cwm Carn.