Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn, ger Llanfair ym Muallt

Beth sydd yma

Croeso

Yng ngwarchodfa heddychlon Cors y Llyn ceir un o’r dolydd blodau gwyllt gorau yng Nghanolbarth Cymru ac mae rhai o goed y warchodfa dros 100 mlwydd oed, er nad ydynt ond ychydig droedfeddi o uchder.

Daw’r ddôl yn fyw yn y gwanwyn a’r haf pan fydd llu o flodau gwyllt, gan gynnwys tegeirian a melynog y waun yn denu gloÿnnod lliwgar.

Mae taith gerdded fechan gyda llwybr bordiau, sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, yn dilyn dôl o flodau gwyllt a throelli heibio’r goedwig fach.

Gallwch hefyd archwilio’r caeau o fewn y warchodfa.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Cors y Llyn

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.7 milltir/1.2 cilomedr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r warchodfa yn wastad gyda llwybrau pren sydd wedi’u gorchuddio â rhwyll. Mae'r llwybr cylchol yn gorffen gyda llethr graddol yn ôl i'r maes parcio. Mae seddi a mannau pasio ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Gallwch hefyd archwilio’r caeau o fewn y warchodfa, ond cadwch at y llwybrau os gwelwch fod cnwd gwair yn tyfu – neu mae’n bosibl y bydd da byw yn pori yno. Awgrymir eich bod yn gwisgo esgidiau sy’n dal dŵr ar gyfer unrhyw ymweliad rhwng yr hydref a’r gwanwyn cynnar, gan fod dŵr yn gallu codi trwy’r llwybr pren.

Dilynwch y llwybr sy’n mynd heibio’r ddôl o flodau gwyllt i fwynhau Cors y Llyn.

Chwiliwch am y goedwig binwydd corachaidd a sylwch ar y coetiroedd corsiog ar hyd y llwybr pren.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Cors y Llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y gors a’r corstir

Cafodd Cors y Llyn ei enw am fod ehangder y gors a’r corstir unwaith yn llyn.

Cafodd y ddau fasn, sy’n ffurfio craidd y warchodfa, eu naddu gan rewlifoedd yn ystod yr Oes Ia ddiwethaf, a’u llenwi gan y dŵr tawdd.

Dros filoedd o flynyddoedd, cawsant eu llenwi’n raddol â llystyfiant, cerrig a phridd, i greu’r cynefinoedd cyfoethog a chymysg sydd i’w gweld yn y warchodfa heddiw.

Mae’r basnau yn cynnal ystod eang o blanhigion sy’n hoff o asid, gyda digonedd o figwyn, grug, llugaeron, grug croesddail a’r gwlithlys pryfysol. Ar y cyrion, mae pocedi o lafn y bladur.

Mae gan y basn deheuol gymeriad unigryw ei hun: mae pinwydden yr Alban yn fychan iawn yma, steil Sgandinafaidd, oherwydd y mawn sy’n ddwrlawn.

Mae darn hirgul o goed bedw a ffen yn amgylchynu’r gors.

Mae dros 100 o rywogaethau o blanhigion blodeuog wedi’u cofnodi yn y ddôl, gan gynnwys tegeirian brych y rhos, yr hesgen lwydlas, y cycyllog bach a’r ystrelwys.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn ‘n/yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Gwanwyn

Edrychwch am y darnau pinc golau yn y ddôl –dyma flodau’r llefrith sydd yn un o’r blodau cyntaf i flodeuo yn gynnar iawn yn y gwanwyn.

Mae nifer o flodau’r gwanwyn yn dilyn yr arddangosfa gynnar hon, gan gynnwys tegeirian brych y rhos, fioled y gors ac ysgall y ddôl.

Haf

Mae’r ddôl ar ei gorau yn yr haf, gyda’r cyfoeth o flodau gwyllt yn denu’r gloÿnnod byw ar ddiwrnodau cynnes, llonydd.

Mae yna arddangosfa liwgar o fursennod a gweision neidr ger y pwll yn yr haf hefyd, gan gynnwys rhai mwy fel yr ymerawdwr a gwas neidr y de.

Os byddwch chi’n lwcus, efallai cewch chi’r fraint brin o weld hebog yr ehedydd, yn dal y pryfed yn yr awyr.

Edrychwch am y gwybedog brith, y tingoch a thelor y coed - y triawd sy’n ymweld â choetir derw Cymru dros yr haf.

Hydref

Mae lliwiau llachar y mwsogl a’r cen yn ddigon i oleuo’r diwrnodau tywyllaf.

Gwrandewch yn astud am grawc y broga cyffredin wrth i chi gerdded heibio’r mannau gwlypaf.

Efallai cewch gipolwg ar froga neu amffibiad arall fel y llyffant cyffredin neu’r fadfall ddŵr balfog.

Gaeaf

Mae’r adar sy’n ymweld â’r Warchodfa yn ystod y gaeaf yn cynnwys y cyffylog a’r gïach cyffredin.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • mannau corslyd â llystyfiant sy’n arnofio dros byllau dwfn ag ochrau serth – cadwch at y llwybr pren a’r llwybrau.
  • dŵr agored dwfn – cadwch i ffwrdd.
  • mae da byw yn pori rhannau o’r warchodfa – peidiwch â mynd atynt neu geisio eu bwydo nhw.
  • cadwch gŵn dan reolaeth dynn a sicrhewch eich bod yn cau’r giatiau y tu ôl i chi.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Ceir llwybr 250 metr o’r maes parcio i ddechrau’r llwybr pren.

Mae’r llwybr yn wastad ar y cyfan ac wedi’i orchuddio â rhwyll mewn mannau, ond ceir ambell i le anwastad. Gall wyneb y llwybr fod yn fwdlyd yn dilyn tywydd gwlyb.

Ceir dwy giât cyn i’r llwybr pren ddechrau.

Mae'r llwybr pren yn hygyrch.

Mae seddi ar hyd y llwybr pren a mannau pasio ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae Cors y Llyn 3½ milltir i’r gogledd-orllewin o Lanfair ym Muallt.

Mae yn Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Cors y Llyn ar fap Explorer 200 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SO 016 556.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A470 o Lanfair-ym-Muallt i gyfeiriad Rhaeadr Gwy.

Ar ôl 3¼ milltir, trowch i’r chwith i’r is-ffordd, sydd wedi’i harwyddo Cwm-bach Llechryd.

Cymerwch yr ail droad ar y chwith a dilynwch y lôn gul hon drwy fuarth preifat.

Anelwch am y gornel chwith bellaf lle mae’r lôn yn parhau allan o’r iard ac ymlaen i faes parcio Cors y Llyn.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf