Adroddiad ‘Adran 18’: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru 2020 - 2023

Crynodeb Gweithredol

Cynhyrchir yr adroddiad hwn ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru fel sy’n ofynnol o dan adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion Cymru am y cynnydd a wnaed o ran rhoi ar waith Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020.

Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2020) yn gosod nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli llifogydd, yn ogystal â’r mesurau sydd i’w cymryd dros y degawd nesaf gan Awdurdodau Rheoli Perygl ac eraill i wella sut yr ydym yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer ymateb ac addasu i risgiau llifogydd.

Mae’r ‘adroddiad adran 18’ hwn (fel y’i gelwir yn gyffredin) yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y Strategaeth a’r mesurau a’r amcanion dros y cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2023.  Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth arall y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdani (fel y manylir ym mharagraff 335 o’r Strategaeth Genedlaethol). Mae’n adroddiad ffeithiol ac wedi’i lunio ar sail gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdodau Rheoli Risg sy’n gweithredu yng Nghymru, ac rydym yn cydnabod yn ddiolchgar y cymorth a gafwyd gan sefydliadau partner wrth gynhyrchu’r diweddariad hwn.

Mae 24 o fesurau yn y Strategaeth Genedlaethol ac mae’r adroddiad hwn yn dangos:

  • bod 13 o fesurau eisoes wedi’u cwblhau, er bod angen cyflawni gweithgareddau parhaus cysylltiedig er mwyn i saith ohonynt barhau, a bod angen ystyried y camau nesaf ar gyfer pedwar ohonynt
  • bod naw ar y gweill, gyda 5 o'r mesurau hynny y tu ôl i'r targed, a
  • bod y gwaith ar gyfer dau ohonynt heb ddechrau eto neu wedi'i atal.

Mae hyn yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud drwy gydol y cyfnod adrodd o ran cyflawni'r mesurau ac, o ganlyniad, gyflawni’r amcanion o fewn y Strategaeth. Fodd bynnag, mae sawl maes gwaith yn dal i fod ar y gweill neu heb ei gychwyn eto ac yn amlwg mae gwaith pellach allweddol i'w gwblhau.

Mae’r adroddiad adran 18 hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am achosion o lifogydd yn ystod y cyfnod. Bu nifer o achosion o lifogydd dros y tair blynedd diwethaf, o afonydd, dŵr wyneb a'r môr. Mae’r cyfnod adrodd hwn yn dechrau’n fuan ar ôl y llifogydd sylweddol ym mis Chwefror 2020, pan gafodd dros 3,000 o eiddo eu llifogydd. Mae gweithgareddau llawer o’r Awdurdodau Rheoli Risg yn y cyfnod adrodd wedi cael eu dylanwadu’n sylweddol gan lifogydd Chwefror 2020.

Dros dair blynedd ariannol gyntaf y Strategaeth (rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2023), mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £206 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Ymhlith y cynlluniau mawr a gwblhawyd y mae gwaith lliniaru yng Nghrindau, Casnewydd; Dwyrain y Rhyl, Canol y Rhyl a Phrestatyn yn Sir Ddinbych; a Llyn Tegid, Bala. Mae gwaith pwysig a ariennir gan refeniw ar gynnal a chadw asedau; canfod, darogan a rhybuddio rhag llifogydd; a rheoli cynllunio hefyd yn cyfrannu at reoli perygl llifogydd.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau o arferion da yn y sector o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan gynnwys:

  • Prosiectau arloesol yn Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Monitro Arfordir Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru
  • Cynlluniau rheoli llifogydd naturiol yng Nghastell-nedd Port Talbot, Gwynedd, Powys a Rhondda Cynon Taf.
  • Gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys gwaith Cyngor Sir Caerfyrddin gydag Ysgol Dyffryn Aman i liniaru effeithiau llifogydd yn Heol Marged, Rhydaman
  • Dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru o ddarparu gwybodaeth, drwy gyhoeddi gwasanaeth Asesu Perygl Llifogydd Cymru a gwasanaethau digidol llifogydd eraill
  • Digwyddiadau cyfranogiad cymunedol a gynhelir gan Awdurdodau Rheoli Risg, gan gynnwys awdurdod Sir Benfro, awdurdod Sir Gaerfyrddin a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cyflwyniad

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd statudol o dan adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i lunio adroddiad i Weinidogion Cymru ynghylch cymhwyso Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol (FCERM) Llywodraeth Cymru (y 'Strategaeth Genedlaethol' neu'r ‘Strategaeth’). Cyflawnir y ddyletswydd hon drwy lunio’r adroddiad hwn, a elwir yn gyffredin yn ‘adroddiad adran 18’. Adroddiad ffeithiol yw hwn ac mae’n defnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdodau Rheoli Risg (RMAs) yng Nghymru, a ffynonellau perthnasol eraill. Mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng cyhoeddi’r Strategaeth Genedlaethol ym mis Hydref 2020, hyd at fis Mawrth 2023.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu gofynion cynnwys adroddiad adran 18 ym mharagraff 335 o’i Strategaeth Genedlaethol.

Ffigur 1: Darn o Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn manylu ar sut y dylid monitro'r strategaeth.

Darn o Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn manylu ar sut y dylid monitro'r strategaeth.

Mae'r adroddiad adran 18 hwn wedi'i rannu'n dair rhan er mwyn nodi gofynion monitro ac adrodd y Strategaeth Genedlaethol yn y ffordd orau. Mae’r rhan gyntaf yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa o ran mesurau ac amcanion y Strategaeth Genedlaethol, gan gynnwys diweddariad o’r cynnydd a wnaed yn erbyn pob mesur. Mae’r ail ran yn rhoi diweddariad ar yr elfennau o baragraff 335 sy’n weddill. Mae’r drydedd ran yn cyflwyno’r adroddiadau blynyddol y mae CNC yn eu cyflawni. Mae’r rhain yn cynnig tystiolaeth bellach a rhagor o enghreifftiau o gyflawni amcanion y Strategaethau.

Mae'r fformat yn wahanol i adroddiadau adran 18 blaenorol a gyhoeddwyd cyn i'r Strategaeth Genedlaethol newydd, a'i gofynion adrodd, fod yn eu lle. Mae'r adroddiadau adran 18 blaenorol hyn ar gael ar wefan CNC.

O dan baragraff 335 mae’n ofynnol cyhoeddi adroddiad adran 18 bob dwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol. Byddai hyn wedi golygu adrodd yn 2022. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd y dylid aildrefnu fel bod yr adroddiad cyntaf hwn ar Strategaeth Genedlaethol 2020 yn cael ei gyhoeddi yn 2023, dair blynedd ar ôl cyhoeddi’r Strategaeth Genedlaethol. Gwnaed hyn ar ôl ystyried goblygiadau cystadlu am adnoddau, ac amseru, a allai ddeillio o gyfrifoldebau adrodd eraill yr Awdurdodau Rheoli Risg, megis cynlluniau a strategaethau rheoli perygl llifogydd. Felly mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng mis Hydref 2020 a mis Mawrth 2023.  Y bwriad yw y bydd adroddiadau yn y dyfodol yn cwmpasu’r ddwy flynedd ariannol berthnasol – felly bydd adroddiad Hydref 2025 yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025.

Diweddariad ar fesurau ac amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Mae gan y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol nod trosfwaol a phum amcan, a’r bwriad datganedig yn y Strategaeth yw eu bod, gyda'i gilydd, yn lleihau'r risg i fywyd.

Nod: Lleihau’r risg i bobl a chymunedau yn sgil llifogydd ac erydu arfordirol

Amcanion:

  • Gwella ein dealltwriaeth o risg a'r ffordd rydym yn hysbysu am risg
  • Paratoi a datblygu cydnerthedd
  • Blaenoriaethu buddsoddiadau ar gyfer y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • Atal rhagor o bobl rhag dod yn agored i risg
  • Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i ddigwyddiadau

Cyflawni amcanion

Mae gan y Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 24 o fesurau sy'n cyflawni yn erbyn y pum amcan. Mae pob mesur wedi’i neilltuo i’r gwaith o gyflawni o leiaf un amcan. Mae'r siart isod yn cynnig darlun o’r cynnydd yn erbyn pob un o'r amcanion drwy ddangos statws y mesurau sydd wedi'u halinio (gan LlC, yn y Strategaeth) â phob amcan. Yn ôl y dadansoddiad hwn, mae pob un o'r pum amcan naill ai rhwng 85% a 100% o’r ffordd tuag at gael ei gwblhau, neu ar y gweill. Caiff y mesurau sy'n weddill eu rhoi ar waith dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Ffigur 2: Siart yn dangos cynnydd o ran cyflawni pob un o amcanion y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol

 Siart yn dangos cynnydd o ran cyflawni pob un o amcanion y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol

Er bod y mesurau yn y Strategaeth wedi'u cysylltu'n benodol â'r amcanion, mae yna weithgareddau eraill wrth gwrs sydd y tu allan i'r mesurau ac sy'n cyflawni yn erbyn yr amcanion.  Er enghraifft, mae Adroddiadau Blynyddol CNC yn disgrifio’r ystod o weithgareddau a gyflawnir gan CNC, y mae pob un ohonynt yn cyflawni ar draws ystod o amcanion y Strategaeth Genedlaethol. Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn Rhan 3 o'r adroddiad hwn.

Crynodeb o gynnydd yn erbyn y mesurau

Mae'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol yn cynnwys 24 o fesurau a fydd yn helpu i gyflawni'r nod a'r amcanion. Mae'r tabl canlynol yn rhoi crynodeb o’r cynnydd yn erbyn pob mesur. Mae deialog bellach ynghylch y cynnydd yn erbyn pob mesur wedi'i chynnwys yn yr adran sy'n dilyn y tabl.

Mae un o'r cyflyrau canlynol wedi'i neilltuo i bob mesur:

  • Cyflawn – mae’r mesur wedi’i gyflawni yn unol â’r Strategaeth Genedlaethol.
  • Wedi'i gwblhau – camau nesaf i’w cymryd – mae’r mesur wedi’i gyflawni ond mae angen gwneud rhagor o waith i ystyried argymhellion neu i sicrhau canlyniadau ychwanegol.
  • Wedi'i gwblhau – parhaus – mae’r mesur wedi’i gyflawni, ond mae’n ymwneud â gweithgareddau y mae angen iddynt gael eu cyflawni’n barhaus
  • Ar y gweill – mae’r gwaith i gyflawni'r camau gofynnol wedi dechrau
  • Ar y gweill – y tu ôl i'r targed – mae gwaith i gyflawni'r camau gofynnol wedi dechrau, ond ni chyflawnwyd y terfynau amser gofynnol a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol
  • Heb ddechrau – nid yw'r gwaith wedi dechrau eto ac nid yw'r dyddiad cyflawni wedi mynd heibio
  • Wedi’i atal – mae’r gwaith i gyflawni’r cam gofynnol wedi’i atal am resymau penodol

Tabl 1: Crynodeb o’r cynnydd yn erbyn mesurau'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Rhif Mesur Arweinydd Amcan Diweddariad cryno
1 Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol i sefydlu’r cwmpas ac ystyried yr angen am newidiadau i’r ddeddfwriaeth er mwyn egluro a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru erbyn 2022. Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol A - E Wedi'i gwblhau – camau nesaf i’w cymryd

Cafodd yr adroddiad terfynol ei gymeradwyo gan y pwyllgor ym mis Medi 2022 a’i gyflwyno i’r Gweinidog.
2 Canolfan Monitro Arfordirol Cymru i gynnal arolygon topograffig blynyddol ar ran grwpiau arfordirol er mwyn mesur newid yn yr ardaloedd arfordirol yng Nghymru sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Grwpiau arfordirol a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru A ac C Ar y gweill

Mae 647 allan o 1,605 o arolygon topograffig wedi cael eu cynnal hyd yn hyn.
3 CNC i gyhoeddi mapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru newydd yn 2020 ochr yn ochr â’r Strategaeth, a’u diweddaru bob 6 mis er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y Set Ddata Asedau Cenedlaethol. CNC A - E Wedi'i gwblhau – parhaus

Cyhoeddodd CNC y mapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru newydd ym mis Hydref 2020 ar wefan CNC a thrwy MapDataCymru. Mae Asesiad Perygl Llifogydd Cymru yn cael ei ddiweddaru bob 6 mis.
4 CNC i ddarparu data ar nifer y cartrefi a busnesau sydd mewn perygl uchel, canolig ac isel o lifogydd, o bob ffynhonnell, yn flynyddol, ar sail diweddariadau Asesu Perygl Llifogydd Cymru. CNC A ac C Wedi'i gwblhau – parhaus

Cafodd prosiect Asesu PeryglLlifogydd Cymru ei gwblhau yn 2019 ac fe’i dilynwyd gan brosiect rheoli data sy’n galluogi CNC i ddarparu diweddariadau blynyddol.
5 Awdurdodau Rheoli Risg i ddiweddaru mapiau, cynlluniau a data yn unol â'r amserlen a nodir yn Ffigur 12 y Strategaeth Genedlaethol. CNC, awdurdodau lleol A - E Wedi'i gwblhau – parhaus

Mae CNC yn cynnal nifer o fapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy’n cael eu diweddaru yn unol â’r Strategaeth Genedlaethol. Mae CNC ac Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (AllLlAau) hefyd yn llunio cynlluniau yn unol â Ffigur 12 y Strategaeth Genedlaethol.
6 Bydd CNC a’r awdurdodau lleol yn cydweithio i sicrhau, erbyn diwedd 2021, y bydd y Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol yn cynnwys data ar yr holl asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol y mae’r Awdurdodau Rheoli Risg yn berchen arnynt neu’n eu dynodi. CNC, awdurdodau lleol A - D Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

Cyflwynodd CNC wefan bwrpasol a map rhyngweithiol “Dod o hyd i strwythurau amddiffyn rhag llifogydd yn eich ardal chi (y Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Cenedlaethol)” ym mis Rhagfyr 2021 ac arnynt ceir data sydd wedi’i ddosbarthu’n arwyddocaol gan 20 allan o’r 22 ALlLlA (yn ogystal â data CNC).
7 Bydd CNC yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu proses i sicrhau bod pob diweddariad yn cael ei ymgorffori yn y Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol o fewn 6 mis i unrhyw waith a gwblhawyd, neu unrhyw newidiadau sydd eu hangen fel arall, erbyn diwedd 2021. CNC, awdurdodau lleol A - D Wedi'i gwblhau – parhaus

Wrth ddatblygu’r Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Cenedlaethol, datblygodd CNC broses a gwefan sydd i’w defnyddio gan ALlLlAau i gyflwyno unrhyw newidiadau.
8 CNC i ddefnyddio’r Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol i sicrhau bod Map Llifogydd Cymru yn adlewyrchu’r risg is o bob cynllun lliniaru llifogydd erbyn 2022. CNC A - D Wedi'i gwblhau – parhaus

Mae Map Llifogydd Cymru yn cael ei ddiweddaru bob 6 mis gan ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf o raglen mapio a modelu CNC a’i ddata ar asedau.
9 CNC i sicrhau bod y Map Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol (NCERM) yn cyfateb i bolisïau Cynlluniau Rheoli Traethlin erbyn 2021 ac yn dangos cyfraddau erydu fel bandiau yng nghynhyrchion Map Llifogydd Cymru erbyn diwedd 2022. CNC A - E Wedi’i gwblhau

Cyhoeddodd CNC Fapiau Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol ar y wefan sy’n dangos erydu arfordirol a gwybodaeth am Gynlluniau Rheoli Traethlin ar ffurf mapiau.
10 Y grwpiau arfordirol i adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordir Cymru, ar gynnydd yn erbyn Cynlluniau Gweithredu’r Cynlluniau Rheoli Traethlin. Y grwpiau arfordirol A - D Wedi'i gwblhau – parhaus

Mae Fforwm Grŵp Arfordir Cymru yn llunio adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru.
11 Y grwpiau arfordirol i adrodd i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordir Cymru, ar weithredu polisïau cyfnod 1 Cynlluniau Rheoli Traethlin 2, erbyn 2025. Y grwpiau arfordirol A - D Heb Ddechrau

Bwriedir cychwyn ar y mesur hwn yn ystod 2023/24.
12 CNC i gwblhau eu gwelliannau i wybodaeth llifogydd ar-lein, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r awdurdodau lleol, erbyn 2021. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi cynhyrchion Map Llifogydd Cymru, deall rhybuddion llifogydd a chyngor ar ddatblygu cydnerthedd ac ymateb i lifogydd. CNC A, B, D ac E Wedi’i gwblhau

Mae CNC wedi cyhoeddi nifer o welliannau i wybodaeth ar-lein gan gynnwys gwelliannau i’r map perygl llifogydd a gwybodaeth sy’n ymwneud â llifogydd.
13 Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn llawn am gyfnod prawf, gan ddechrau yn 2020/21, ac yn cyhoeddi canllawiau newydd i annog mwy i fanteisio arnynt ac annog pobl i rannu gwersi ynglŷn â’u cyflawni’n ymarferol. Llywodraeth Cymru A, B ac C Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru raglen beilot rheoli llifogydd yn naturiol lle darparwyd cyllid ar gyfer 15 o brosiectau rheoli llifogydd yn naturiol. Mae'r prosiectau wedi'u cwblhau ac mae Llywodraeth Cymru’n adolygu'r adroddiadau ac yn cynnal gwerthusiad.
14 Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws polisïau i sicrhau bod rheoli llifogydd yn naturiol yn cael ei ystyried wrth reoli tir a dŵr yn ehangach, gan gynnwys amaethyddiaeth ac yn Natganiadau Ardal CNC. Llywodraeth Cymru A, B ac C Ar y gweill

Mae Llywodraeth Cymru a CNC yn gweithio i sicrhau bod cysylltiadau traws-polisi da rhwng llifogydd ac amaethyddiaeth.
15 Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws polisïau i sicrhau bod rheoli llifogydd yn naturiol yn cael ei ystyried wrth reoli tir a dŵr yn ehangach, gan gynnwys amaethyddiaeth ac yn Natganiadau Ardal CNC. Pob Awdurdod Rheoli Risg A, B ac C Wedi'i gwblhau – parhaus

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau i'w system rheoli rhaglenni a'u ffurflenni sy'n hwyluso dulliau gwell o gasglu gwybodaeth a monitro cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol.
16 Llywodraeth Cymru i ddechrau adolygiad o effeithiolrwydd deddfwriaeth systemau draenio gynaliadwy (SDCau) yn 2021. Llywodraeth Cymru B ac C Wedi'i gwblhau – camau nesaf i’w cymryd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau adolygiad o effeithiolrwydd SDCau.
17 Llywodraeth Cymru i ddiweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) erbyn 2021 gan gydnabod yr wybodaeth am berygl llifogydd sydd bellach ar gael i awdurdodau cynllunio lleol. Llywodraeth Cymru B a D Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

Cynhaliwyd ail ymgynghoriad ar newidiadau i TAN15 yn gynnar yn 2023. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio trwy'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
18 Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r grwpiau arfordirol a CNC i ddatblygu canllawiau pellach ar addasu arfordirol erbyn 2022. Llywodraeth Cymru a’r grwpiau arfordirol A, B a D Wedi’i atal

Oherwydd ymrwymiadau gwaith ehangach a phwysau ar adnoddau, mae blaenoriaethu'r canllawiau ymaddasu wedi'i atal dros dro. Bydd gwaith yn ailddechrau pan fydd adnoddau ychwanegol wedi cael eu recriwtio i'r tîm polisi llifogydd.
19 CNC i ddatblygu a sefydlu rhaglen fonitro briodol i gefnogi a llywio’r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd erbyn 2022. CNC C Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

Mae’r gwaith o fonitro colledion a ragwelir yn parhau i gael sylw trwy Asesiadau Gwasgfa Arfordirol ar lefel prosiect. Mae gwaith monitro a gwaith arolygu arferol yn mynd rhagddo ar safleoedd cydadferol.
20 Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, CNC a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth i safoni adroddiadau uniongyrchol am lifogydd i eiddo ac achosion o erydu erbyn diwedd 2021, yn unol â Fframwaith Ymateb i Lifogydd Cymru. Llywodraeth Cymru / Grŵp Llifogydd Cymru A, C
ac E
Wedi’i gwblhau

Yn dilyn adolygiad gydag Awdurdodau Rheoli Risg a darparwyr cydnerthedd ehangach, ni fydd unrhyw newidiadau.
21 Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol i gydweithio a sefydlu gofynion lefel uchel a chanllawiau ategol ar gyfer adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 erbyn 2023. Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol / Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol A, C
ac E
Ar y gweill

Cwblhaodd yr Athro Elwen Evans waith i adolygu adroddiadau adran 19 yng Nghymru yn ystod haf 2023. Mae'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi sefydlu is-bwyllgor i gyflawni'r mesur hwn ar adroddiadau adran 19, gyda'r bwriad y cytunir yn fuan ar ddyddiad targed diwygiedig ar gyfer cyflawni.
22 Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Rheoli Risg i ddatblygu rhaglen o brosiectau buddsoddi 5 i 10 mlynedd. Llywodraeth Cymru a phob Awdurdod Rheoli Risg A - D Ar y gweill

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â phob Awdurdod Rheoli Risg i ystyried anghenion buddsoddi yn y dyfodol gan ddechrau yn 2024 drwy ddefnyddio opsiynau blaenoriaethu o strategaethau’r awdurdodau lleol a Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd CNC.
23 Bydd CNC yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyhoeddi gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan ategu Asesu Perygl Llifogydd Cymru, erbyn diwedd 2021 CNC A - D Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

Cwblhawyd cam cyntaf yr asesiad o’r gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli’r sylfaen asedau amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru yn ystod 2022/23.
24 Bydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn archwilio cyfleoedd i wneud y mwyaf o gyfraniadau partneriaid a buddsoddiadau mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol erbyn 2022. Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol C Wedi'i gwblhau – camau nesaf i’w cymryd

Cafodd yr adroddiad terfynol “Adnoddau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru” ei gymeradwyo gan y Pwyllgor ym mis Mai 2022 a’i gyflwyno i’r Gweinidog.

Rhagor o wybodaeth am gynnydd yn erbyn y mesurau

  • Mesur 1: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol i sefydlu’r cwmpas ac ystyried yr angen am newidiadau i’r ddeddfwriaeth er mwyn egluro a chefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru erbyn 2022

    Arweinydd: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu ArfordirolStatws: Wedi'i gwblhau – camau nesaf i’w cymryd

    Diweddariad: Cafodd yr adroddiad terfynol “Yr achos dros newid mewn deddfwriaeth a pholisi cysylltiedig ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru” ei gymeradwyo gan y Pwyllgor ym mis Medi 2022 a’i gyflwyno i’r Gweinidog. Ar ddiwedd y cyfnod adrodd (Mawrth 2023), roedd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Gweinidog. Bydd ymateb y Gweinidog yn pennu pa gamau pellach sydd eu hangen i symud cynigion yr adroddiad yn eu blaenau.

    Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi bod yn ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith gyda’r bwriad o gynnwys rhai o’r cynigion yn ei flaenraglen waith.

  • Mesur 2: Canolfan Monitro Arfordirol Cymru i gynnal arolygon topograffig blynyddol ar ran grwpiau arfordirol er mwyn mesur newid yn yr ardaloedd arfordirol yng Nghymru sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

    Arweinydd: Y grwpiau arfordirol a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru

    Statws: Ar y gweill

    Diweddariad: Yn 2019 rhoddwyd rhaglen arolwg strategol ar waith i ganolbwyntio arolygon topograffig blynyddol ar y lleoliadau arfordirol yng Nghymru sy’n wynebu’r perygl mwyaf.
    Ym mis Mawrth 2023, mae Canolfan Monitro Arfordirol Cymru wedi cwblhau tua 40% o'r rhaglen arolygu arfaethedig. Mae hyn yn cyfateb i 647 allan o’r 1,605 o arolygon sydd wedi’u cynllunio.
    Ar ddechrau 2022/23, dyfarnwyd cynnydd o 47% yn y gyllideb i Ganolfan. Fe wnaeth y cynnydd hwn helpu i gynyddu cwmpas, amlder, a dwysedd arolygon ledled Cymru yn ogystal â’i gwneud yn bosibl recriwtio Gwyddonydd Arfordirol llawn amser ychwanegol.

    Mae adroddiadau blynyddol a gyhoeddwyd gan Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru yn cynnig cipolwg pellach ar eu gwaith a chynnydd y rhaglen arolygu.


  • Mesur 3: CNC i gyhoeddi mapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru newydd yn 2020 ochr yn ochr â’r Strategaeth, a’u diweddaru bob 6 mis er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y Set Ddata Asedau Cenedlaethol

    Arweinydd: CNC

    Statws: Wedi'i gwblhau – parhaus

    Diweddariad: Lansiodd CNC ddiweddariad i'r gwasanaeth mapio llifogydd ar-lein wrth gyhoeddi map Asesu Perygl Llifogydd Cymru ym mis Hydref 2020. Mae hwn yn asesiad risg cenedlaethol newydd ar gyfer llifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach sy'n ei gwneud yn bosibl dosbarthu lleoliadau yn ardaloedd â risg uchel, risg canolig a risg isel. Mae hefyd yn arddangos gwybodaeth ychwanegol, fel lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd ynghyd â'r buddion lleol a gyflwynir ganddynt. Gellir gweld y map newydd ar wefan CNC ac mae'r data newydd hefyd ar gael ar wefan MapDataCymru.

    Bu diweddariadau chwe-misol i’r gwasanaeth mapio llifogydd ar-lein ers ei lansio – bob mis Mai a mis Tachwedd, gan ymgorffori model lleol newydd, manwl ar gyfer ffynonellau perygl llifogydd o afonydd a’r môr.


  • Mesur 4: CNC i ddarparu data ar nifer y cartrefi a busnesau sydd mewn perygl uchel, canolig ac isel o lifogydd, o bob ffynhonnell, yn flynyddol, ar sail diweddariadau Asesu Perygl Llifogydd Cymru.

    Arweinydd: CNC

    Statws: Wedi'i gwblhau – parhaus

    Diweddariad: Cafodd prosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru ei gwblhau yn 2019 gan arwain at greu map Asesu Perygl Llifogydd Cymru a’r setiau data cysylltiedig. Dilynwyd hyn gan brosiect rheoli data sydd wedi creu cyfres o offerynnau i alluogi'r setiau data perygl llifogydd allweddol a grëwyd gan y prosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru gwreiddiol i gael eu rheoli, eu cynnal a'u diweddaru. Drwy gydol 2023, bydd yr elfennau sy’n ffurfio Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn cael eu hail-redeg am y tro cyntaf a bydd yn ei gwneud yn bosibl cyhoeddi diweddariadau risg blynyddol ar gyfer pobl ac eiddo. Mae'r ffigurau risg diweddaredig wedi'u cynnwys yn Rhan 2 o'r adroddiad hwn.


  • Mesur 5: Awdurdodau Rheoli Risg i ddiweddaru mapiau, cynlluniau a data yn unol â'r amserlen a nodir yn Ffigur 12 y Strategaeth Genedlaethol.

    Arweinydd: CNC, awdurdodau lleol

    Statws: Wedi'i gwblhau – parhaus

    Diweddariad: Mae CNC yn cynnal nifer o fapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’r tabl isod yn dangos pa mor aml y cyhoeddir diweddariadau.


Tabl 2: Tabl yn dangos y cynhyrchion digidol y mae CNC yn eu cynnal a pha mor aml y maent yn cael eu diweddaru

Map / data / cynllun

Amlder diweddaru

Gwybodaeth ychwanegol

Map Llifogydd Cymru

Bob chwe mis

Cyhoeddir y fersiwn ddiweddaredig o’r cynnyrch yn yr adran gwylio perygl llifogydd ar wefan CNC bob mis Mai a mis Tachwedd.

Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Bob chwe mis

Mae trafodaethau wedi dechrau gydag Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol a Llywodraeth Cymru i bennu a oes angen ail-redeg yn amlach yr elfen dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach o Asesu Perygl Llifogydd Cymru.

Y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Bob chwe mis

Nid yw'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio wedi'i integreiddio'n llawn i bolisi cynllunio Llywodraeth Cymru eto gan fod newidiadau Llywodraeth Cymru i TAN15 wedi'u gohirio, ond mae’n cael ei ddiweddaru bob 6 mis beth bynnag.

Y Map Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol

Ad hoc yn ôl yr angen

Cafodd y rhifyn cyntaf ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022.

Cofrestr Cymunedau Mewn Perygl (CARR)

Bob blwyddyn

Cafodd y fersiwn ddiweddaraf o'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl yn ei rhyddhau yn ystod hydref 2019. Ers hynny mae CNC wedi datblygu proses gynhyrchu i’w gwneud yn bosibl diweddaru’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl gyda gwybodaeth newydd yn rheolaidd.

Bydd fersiwn newydd o’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl ar gael o hydref 2023, a bydd yn cael ei rhyddhau i bartneriaid proffesiynol ar ôl ymgynghori a dod i gytundeb â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Y Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol

Bob chwe mis

Gellir ei diweddaru yn unol â’r diweddariadau i Fap Llifogydd Cymru

Cynlluniau Rheoli Traethlin

Wrth i ddata newydd ddod ar gael

Ymgymerwyd ag adnewyddu Cam 1 y Cynlluniau Rheoli Traethlin erbyn Gwanwyn 2021. Bwriedir dechrau Cam 2 yn hwyr yn 2023/24. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect adnewyddu ar wefan y Cynlluniau Rheoli Traethlin.

Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd

Bob chwe blynedd

Cafodd Asesiadau Perygl Llifogydd Rhagarweiniol, yn cwmpasu Ardaloedd Basn Afon Dyfrdwy, Afon Hafren a Gorllewin Cymru, eu llunio ar gyfer pob ffynhonnell o berygl llifogydd yn 2018.

Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd

Bob chwe blynedd

Cafodd Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd CNC ei ddiweddaru a’i gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn llunio cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru ochr yn ochr â'u diweddariad i strategaethau lleol – gweler isod

Y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

O fewn dwy flynedd i'r Strategaeth Genedlaethol

Mae awdurdodau lleol yn diweddaru eu Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

  • Mesur 6: Bydd CNC a’r awdurdodau lleol yn cydweithio i sicrhau, erbyn diwedd 2021, y bydd y Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol yn cynnwys data ar yr holl asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol y mae’r Awdurdodau Rheoli Risg yn berchen arnynt neu’n eu dynodi.

    Arweinydd: CNC, awdurdodau lleol

    Statws: Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

    Diweddariad: Cyhoeddodd CNC fap rhyngweithiol “Dod o hyd i strwythurau amddiffyn rhag llifogydd yn eich ardal chi (y Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Cenedlaethol)” ym mis Rhagfyr 2021 gyda data asedau gan CNC ac 16 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA). Yn dilyn diweddariad ym mis Rhagfyr 2022, mae’r map bellach yn dangos data gan CNC ac 20 ALlLlA sydd wedi cyflwyno data asedau llifogydd allweddol.

    Bydd dod â’r wybodaeth hon ynghyd yn sicrhau bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd llifogydd gwell yn cael ei adlewyrchu yn ein gwaith modelu perygl llifogydd a’n gwaith modelu economaidd, gan wella prosesau gwneud penderfyniadau a gwneud ein modelau perygl llifogydd yn fwy cywir.

  • Mesur 7: Bydd CNC yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu proses i sicrhau bod pob diweddariad yn cael ei ymgorffori yn y Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol o fewn 6 mis i unrhyw waith a gwblhawyd, neu unrhyw newidiadau sydd eu hangen fel arall, erbyn diwedd 2021.

    Arweinydd: CNC, awdurdodau lleol

    Statws: Wedi'i gwblhau – parhaus

    Diweddariad: Fel rhan o gyflawni mesur 6, mae proses a gwefan wedi cael eu datblygu ar gyfer gwneud diweddariadau i’r Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol ac mae’r wybodaeth hon wedi cael ei darparu i awdurdodau lleol. Mae’r broses yn annog sgyrsiau cynnar gyda thimau CNC yn ystod y broses o ddatblygu cynlluniau Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn gydnaws â’r gronfa ddata. Gall hyn gynnwys proses “Herio’r Map Llifogydd”, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth asedau o ansawdd da. Gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod prosiect, gall her map llifogydd gymryd hyd at 6 mis cyn cael ei dderbyn.

  • Mesur 8: NCNC i ddefnyddio’r Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol i sicrhau bod Map Llifogydd Cymru yn adlewyrchu’r risg is o bob cynllun lliniaru llifogydd erbyn 2022.

    Arweinydd: CNC

    Statws: Wedi'i gwblhau – parhaus

    Diweddariad: Mae Map Llifogydd Cymru yn cael ei ddiweddaru bob 6 mis gyda data risg cyfredol o raglen fapio a modelu CNC, sydd hefyd yn ymgorffori cynlluniau llifogydd CNC, neu ddata risg a data asedau gan awdurdodau lleol a gyflwynwyd ac a dderbyniwyd gan CNC fel rhan o fesur 7.

    Felly mae'r ffaith bod y Gronfa Ddata Asedau Genedlaethol yn cynnwys gwybodaeth gyfredol a mwy cynhwysfawr am gynlluniau lliniaru llifogydd newydd yn sicrhau bod cynhyrchion Map Llifogydd Cymru yn adlewyrchu'r gwelliannau a'r buddsoddiad diweddaraf mewn strwythurau amddiffyn rhag llifogydd.

  • Mesur 9: CNC i sicrhau bod y Map Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol (NCERM) yn cyfateb i bolisïau Cynlluniau Rheoli Traethlin erbyn 2021 ac yn dangos cyfraddau erydu fel bandiau yng nghynhyrchion Map Llifogydd Cymru erbyn diwedd 2022.

    Arweinydd: CNC

    Statws: Wedi’i gwblhau

    Diweddariad: Cwblhaodd CNC waith i wella delweddu data erydu arfordirol mewn cynhyrchion mapiau drwy gyhoeddi'r map ‘Risg arfordirol’ ar-lein. Mae’r map yn dangos data modelu perygl erydu arfordirol cenedlaethol fel bandiau gofodol sy’n rhoi rhagamcan o’r erydiad a ragwelir dros senarios tymor byr, canolig a hir gydag ystod hyder canrannol. Bydd hyn yn galluogi perchnogion tai a phartneriaid i ddeall lefel y risg i'r arfordir yn sgil erydu arfordirol.

    Mae'r mapiau hefyd yn cynnwys y diweddaraf o ddata'r Cynlluniau Rheoli Traethlin (y llinell felen) a'r mapiau perygl llifogydd llanw o fapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru (y parthau gwyrdd). Mae data'r Cynlluniau Rheoli Traethlin yn galluogi defnyddwyr i ddeall yn gyflym beth yw cwmpas unedau polisi a'u polisïau rheoli, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael pan fyddwch yn clicio ar y llinell.

  • Mesur 10: Y grwpiau arfordirol i adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordir Cymru, ar gynnydd yn erbyn Cynlluniau Gweithredu’r Cynlluniau Rheoli Traethlin.

    Arweinydd: Y grwpiau arfordirol

    Statws: Wedi'i gwblhau – parhaus

    Diweddariad: Mae’r broses ar gyfer cynnal adroddiadau blynyddol ar Gynlluniau Gweithredu’r Cynlluniau Rheoli Traethlin wedi’i rhoi ar waith ledled Cymru. Mae’r adroddiad ar gynnydd yn erbyn y Cynlluniau Rheoli Traethlin o 2022 wedi cael ei ddrafftio ac mae’n dangos gostyngiad yn nifer cyffredinol y camau gweithredol, o 928 yn 2020 i 631 yn 2022. Mae'r gostyngiad sylweddol hwn o ganlyniad i’r ffaith bod mesurau busnes fel arfer wedi cael eu cwblhau neu eu canslo.

    Cwblhawyd yr adroddiad ar gynnydd yn erbyn y Cynlluniau Rheoli Traethlin 2022 ym mis Awst 2023 a nodwyd bod 38% o’r 631 o gamau gweithredu sy’n weddill yn mynd rhagddynt, mae 9% wedi’u cynllunio a’u rhaglennu, mae 28% wedi’u hatal oherwydd cymysgedd o gyfyngiadau ar adnoddau, cyllid a chyflawni, mae 21% wedi cael eu herio, ac ar gyfer 3% o'r camau gweithredu nid oedd y statws yn hysbys ar adeg  cwblhau’r adroddiad.

  • Mesur 11: Y grwpiau arfordirol i adrodd i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordir Cymru, ar weithredu polisïau cyfnod 1 Cynlluniau Rheoli Traethlin 2, erbyn 2025

    Arweinydd: Y grwpiau arfordirol

    Statws: Heb ddechrau

    Diweddariad: Nid yw Fforwm Grwpiau Arfordir Cymru wedi symud ymlaen â’r mesur hwn, nad yw i’w gyhoeddi tan 2025. Hyd yma, mae gwaith y Fforwm wedi canolbwyntio ar y diweddariad i Gynllun Gweithredu'r Cynlluniau Rheoli Traethlin a chynllunio ar gyfer cyflawni Cam 2 o waith adnewyddu'r Cynlluniau Rheoli Traethlin. Bwriedir dechrau gwaith ar fesur 11 yn 2023/24, gyda thempled yn cael ei gytuno a'i rannu â’r holl grwpiau arfordirol.
  • Mesur 12: CNC i gwblhau eu gwelliannau i wybodaeth llifogydd ar-lein, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r awdurdodau lleol, erbyn 2021. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi cynhyrchion Map Llifogydd Cymru, deall rhybuddion llifogydd a chyngor ar ddatblygu cydnerthedd ac ymateb i lifogydd.

    Arweinydd: CNC

    Statws: Wedi’i gwblhau

    Diweddariad: Mae CNC wedi gwneud gwelliannau sylweddol i gynhyrchion llifogydd ar-lein dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
    • Cyhoeddi gwasanaethau digidol newydd gan gynnwys lefelau afonydd, data glawiad a môr, rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd - byddwch yn barod, a pherygl llifogydd pum niwrnod i Gymru. Mae’r cynhyrchion digidol newydd hyn yn darparu taith well i gwsmeriaid, mwy o ddata (data glawiad a data lefel y môr), gwybodaeth / cyngor cliriach, gwasanaeth llawer mwy o gydnerth ar adeg y galw brig, a chydymffurfedd â safonau hygyrchedd.
    • Gwelliannau i wefan CNC i wneud cyngor a gwybodaeth yn fwy hygyrch gyda gwell cyfeiriadau at sefydliadau a all helpu gyda thai, cyngor iechyd meddwl, gwybodaeth am draffig, gweithdrefnau gwacáu, cyflenwadau ynni a chyllid.
    • Datblygu ap ‘Gwirio eich perygl llifogydd’ sy’n rhoi profiad rhwyddach i gwsmeriaid wrth greu adroddiad perygl llifogydd ar gyfer yr ardal o amgylch eu heiddo ac sy’n ei gwneud yn bosibl cael adroddiad testun yn hytrach na map os oes angen.
    • Gwelliannau wedi’u gwneud i wefan CNC i sicrhau ei bod yn fwy hwylus i’r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth allweddol am lifogydd cyn, yn ystod ac ar ôl achos o lifogydd, gan gynnwys gwefan sy’n manylu ar y cyfrifoldeb am wahanol fathau o gyrsiau dŵr.
    • Datblygu cyfres newydd o asedau cyfryngau cymdeithasol llifogydd i’w defnyddio i gyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch perygl llifogydd a chamau gweithredu ymarferol cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
    • Creu ffurflen ar-lein ‘rhoi gwybod am achos o lifogydd’ er mwyn ei gwneud yn hwylus adroddiadau am lifogydd.
    • Gwelliannau i wasanaeth mapio llifogydd ar-lein CNC drwy gyhoeddi map Asesu Perygl Llifogydd Cymru, y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a’r map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol.
  • Mesur 13: Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn llawn am gyfnod prawf, gan ddechrau yn 2020/21, ac yn cyhoeddi canllawiau newydd i annog mwy i fanteisio arnynt ac annog pobl i rannu gwersi ynglŷn â’u cyflawni’n ymarferol

    Arweinydd: Llywodraeth Cymru

    Statws: Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

    Diweddariad: Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei rhaglen beilot rheoli llifogydd yn naturiol a redodd rhwng mis Mai 2020 a mis Mawrth 2023. Cynlluniwyd y rhaglen hon i hybu ac annog dulliau naturiol o reoli llifogydd yng Nghymru ac i ddysgu gwersi o'r ddarpariaeth. Cafodd mwy na £3 miliwn o arian grant ei wneud ar gael drwy'r rhaglen hon a gafodd ei hariannu’n gyfan gwbl drwy grant. Darparwyd cyllid ar gyfer 15 o brosiectau a gafodd eu cyflawni gan 10 Awdurdod Rheoli Risg gwahanol ledled Cymru. Gellir gweld y prosiectau hyn yma.

    Bydd Awdurdodau Rheoli Risg yn cael eu dwyn ynghyd i fonitro gwaith parhaus a rhannu’r arferion gorau, gan ei gwneud yn bosibl i’r rhai sy’n cyflawni’r gwaith bennu beth sy’n gweithio’n dda mewn gwahanol amgylcheddau, ac i hybu’r defnydd o fwy o gynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn dechrau yn gynnar yn 2024 er mwyn caniatáu amser i gynlluniau goladu data i gefnogi'r gwaith.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o statws a chyflawniad cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yng Nghymru. Pwrpas yr adolygiad hwn oedd pennu sut mae cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn cael ei cyflawni, sut y gellid blaenoriaethu gwaith pellach ac archwilio llwybrau cyflawni posibl gan gynnwys gweithio ar draws unedau polisi. Mae’r argymhellion sydd wedi deillio o’r gwaith hwn yn cael eu hystyried gan swyddogion ar hyn o bryd.

  • Mesur 14: Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws polisïau i sicrhau bod dulliau naturiol o reoli llifogydd yn cael eu hystyried wrth reoli tir a dŵr yn ehangach, gan gynnwys ym maes amaethyddiaeth ac yn Natganiadau Ardal CNC.

    Arweinydd: Llywodraeth Cymru

    Statws: Ar y gweill

    Diweddariad: Mae Llywodraeth Cymru a CNC yn gweithio i sicrhau bod cysylltiadau traws-bolisi da rhwng llifogydd ac amaethyddiaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol sydd, yn ei hanfod, yn gofyn am gydweithio agos er mwyn datblygu a chyflawni cynlluniau sy'n darparu ystod eang o fuddion. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i integreiddio dulliau naturiol o reoli llifogydd yn y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Pan fydd yn weithredol, bydd y cynllun hwn yn helpu i alluogi a chymell tirfeddianwyr i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i ddarparu ystod o fanteision, gan gynnwys rheoli perygl llifogydd, gwella ansawdd dŵr a chynyddu bioamrywiaeth. Cyhoeddir cynigion amlinellol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yma: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion bras ar gyfer 2025 | LLYW.CYMRU

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhaglen cyflymu rheoli llifogydd yn naturiol yn ddiweddar, sy’n gynllun peilot ar gyfer buddsoddiadau gwledig. Bydd hyn yn annog ac yn cefnogi cynllumiau rheoli llifogydd yn naturiol dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yr hyn a ddysgir o'r rhaglen hon hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae ceisiadau wedi dod i law ac yn mynd drwy'r broses adolygu.

  • Mesur 15: Bydd nifer y cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol a chynlluniau hybrid yr ymgymerir â hwy yn cael ei hadrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol drwy adroddiadau grant, a bydd CNC yn ei hadrodd i Weinidogion Cymru yn yr adroddiad adran 18.

    Arweinydd: Pob Awdurdod Rheoli Risg

    Statws: Wedi'i gwblhau – parhaus

    Diweddariad: Mae Canllawiau Achos Busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Rheoli Risg sy’n gwneud cais am gyllid drwy Lywodraeth Cymru ystyried, yn ystod y cam pan bennir y rhestr fer, ddulliau naturiol o reoli llifogydd. O ganlyniad i hyn a gwaith arall ar reoli llifogydd yn naturiol, rydym yn dechrau gweld bod dulliau naturiol o reoli llifogydd yn chwarae rhan fwy annatod yn y gwaith yr ydym yn ei gyflawni.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i’w system rheoli rhaglenni a’i ffurflenni cais a fydd yn hwyluso’r gwaith o fonitro prosiectau yn y rhaglen sydd ag elfennau o reoli llifogydd yn naturiol.
    Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i helpu i gefnogi prosiectau sy’n seiliedig ar reoli llifogydd yn naturiol, a hynny drwy ddwy raglen ar wahân, y mae’r cyntaf ohonynt yn ymdrin â 2020/22 a'r ail 2022/23. Ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglenni hyn yn y tabl isod. Dylid nodi y cafodd cyllid ei ddarparu ar gyfer camau prosiect unigol, ac o ganlyniad mae pob un o'r prosiectau hyn wedi’u cyflawni i wahanol raddau ac felly mae’n bosib eu bod yn ymddangos yn y ddwy raglen.

Tabl 3: Rhaglen Rheoli Llifogydd Naturiol 2020 - 2022

Awdurdod cyflawni Lleoliad y prosiect Nifer yr eiddo sy'n elwa Cyllid a ddyrannwyd (£) 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cwmcelyn a Westside 100 -
Cyngor Caerdydd Rhiwbeina, Caerdydd I'w gadarnhau* 60,000
Cyngor Sir Caerfyrddin Rhydaman I'w gadarnhau* 150,000
Cyngor Sir Ddinbych Dalgylch Afon Clwyd I'w gadarnhau* 997,000
Cyngor Gwynedd Rhyd-y-main a Dolgellau I'w gadarnhau* 105,000
Cyngor Sir Ynys Môn Dwyran 3 23,000
Cyngor Sir Ynys Môn Biwmares 10 422,000
Cyngor Sir Fynwy Asesu Cyfleoedd a Chyflawni Sir Fynwy I'w gadarnhau* 45,000
Cyfoeth Naturiol Cymru Afon Teifi Uchaf 150 45,000
Cyfoeth Naturiol Cymru Dinas Powys 216 96,000
Cyfoeth Naturiol Cymru (arweinydd) a Chyngor Castell-nedd Port Talbot Nant Gwrach, Glyn-nedd 195 70,000
Cyngor Castell-nedd Port Talbot Brynau a Phreswylfa 417 64,000
Cyngor Sir Powys Nant Cegidfa 26 63,000
Cyngor Sir Powys Afon Teme Uchaf, Trefyclo 50 130,000

* Nid yw rhai o’r prosiectau sydd ar gamau cynnar wedi diffinio'r buddion y byddant yn eu darparu eto

Tabl 4: Rhaglen Rheoli Llifogydd Naturiol 2022 - 2023

Awdurdod cyflawni Lleoliad y prosiect Nifer yr eiddo sy'n Elwa Cyllid a ddyrannwyd (£)
Cyngor Sir Caerfyrddin Rhydaman I'w gadarnhau* 130,000
Cyngor Sir Ceredigion Afon Teifi Uchaf I'w gadarnhau* 25,000
Cyngor Sir Ddinbych Dalgylch Afon Clwyd I'w gadarnhau* 665,000
Cyngor Sir Ynys Môn Dwyran 3 20,000
Cyngor Sir Ynys Môn Biwmares 10 320,000
Cyngor Sir Fynwy Asesu Cyfleoedd a Chyflawn Sir Fynwy I'w gadarnhau* 30,000
Cyfoeth Naturiol Cymru Llanfair Talhaearn 30 120,000
Cyfoeth Naturiol Cymru Dinas Powys 40 50,000
Cyfoeth Naturiol Cymru (arweinydd) a Chyngor Castell-nedd Port Talbot Nant Gwrach, Glyn-nedd 150 60,000
Cyngor Sir Powys Afon Teme Uchaf, Trefyclo 50 19,000

* Nid yw rhai o’r prosiectau sydd ar gamau cynnar wedi diffinio'r buddion y byddant yn eu darparu eto

  • Mesur 16: Llywodraeth Cymru i ddechrau adolygiad o effeithiolrwydd deddfwriaeth systemau draenio cynaliadwy (SDCau) yn 2021

    Arweinydd: Llywodraeth Cymru

    Statws: Wedi'i gwblhau – camau nesaf i’w cymryd

    Diweddariad: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru eu hadolygiad o weithrediad systemau draenio cynaliadwy, neu SDCau, yn ystod cyfnod adrodd yr adroddiad hwn ac yna ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023 drwy ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae gweithdai mewnol i ddadansoddi argymhellion yr adroddiad ar y gweill, ac yn dilyn hynny, caiff opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â’r argymhellion eu datblygu er mwyn i’r Gweinidogion eu hystyried.

  • Mesur 17: Llywodraeth Cymru i ddiweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) erbyn 2021 gan gydnabod yr wybodaeth am berygl llifogydd sydd bellach ar gael i awdurdodau cynllunio lleol

    Arweinydd: Llywodraeth Cymru

    Statws: Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

    Diweddariad: Roedd fersiwn ddiwygiedig o TAN15 yn barod i’w chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021, wedi’i chefnogi gan y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio sy’n ystyried newid yn yr hinsawdd dros oes o 100 mlynedd (2121). Fodd bynnag, gohiriwyd y cyhoeddiad er mwyn caniatáu mwy o amser i awdurdodau cynllunio lleol ystyried effeithiau rhagamcanion newid yn yr hinsawdd ar eu hardaloedd priodol a datblygu dealltwriaeth lawnach o ganlyniadau llifogydd. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd i awdurdodau cynllunio lleol adolygu eu Hasesiadau Strategol o Ganlyniadau Llifogydd (SFCA), wedi’u llywio gan y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio newydd. Yn ogystal â’r adolygiad o Asesiadau Strategol o Ganlyniadau Llifogydd, gofynnwyd i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau rheoli perygl llifogydd eraill i nodi rhaglen o gynlluniau rheoli perygl llifogydd â blaenoriaeth er mwyn mynd i’r afael â pherygl llifogydd a bygythiad.  Yn ddiweddarach, cadarnhaodd y gwaith hwn gywirdeb y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, y mae polisi TAN15 yn seiliedig arno.

    Yn wreiddiol, gohiriwyd dyddiad dod i rym y Nodyn Cyngor Technegol tan 1 Mehefin 2023. Fodd bynnag, o ganlyniad i adborth a gafwyd ar yr heriau a gyflwynwyd gan y Nodyn Cyngor Technegol diwygiedig o ran cynllunio strategol a phenderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol, cynigiodd Llywodraeth Cymru newidiadau pellach a chynhaliodd ail-ymgynghoriad â ffocws a ddaeth i ben ar 17 Ebrill 2023.  Codwyd llawer o wahanol safbwyntiau yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, y mae angen eu hasesu'n llawn. O ystyried maint a chymhlethdod y dasg o ddadansoddi’r ymatebion a gwneud newidiadau pellach i’r Nodyn Cyngor Technegol, mae’n annhebygol y bydd y fersiwn newydd yn dod i rym cyn diwedd y flwyddyn hon.

    Er nad oes gan y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio statws ffurfiol hyd nes y bydd y TAN15 diwygiedig yn cael ei roi ar waith, mae'n darparu'r asesiad mwyaf diweddar o'r perygl llifogydd a ragwelir ac mae'n offeryn defnyddiol ar gyfer llywio cyngor cynllunio.

    Bydd y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch amseriad y Nodyn Cyngor Technegol unwaith y bydd dadansoddiad llawn o’r ymgynghoriad wedi’i gwblhau.

  • Mesur 18: Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r grwpiau arfordirol a CNC i ddatblygu canllawiau pellach ar addasu arfordirol erbyn 2022

    Arweinydd: Llywodraeth Cymru a’r grwpiau arfordirol

    Statws: Wedi’i atal

    Diweddariad: Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio fersiwn ddrafft o’r canllawiau ymaddasu arfordirol, sydd wedi’u rhannu â rhanddeiliaid allweddol. Mae’r gwaith hwn wedi’i atal gan nad oes adnoddau ar gael i’w gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod angen gwneud rhagor o waith ymgysylltu a chael rhagor o fewnbwn er mwyn sicrhau bod disgwyliadau’n cael eu rheoli mewn perthynas â’r hyn y gellir ei gynnwys mewn unrhyw ganllawiau ymaddasu.

    Bydd gwaith yn ailddechrau yn 2024 gan ystyried y cynlluniau ymaddasu ehangach sy'n cael eu cyflawni yn Strategaeth Llywodraeth Cymru a’r Strategaeth Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd.


  • Mesur 19: CNC i ddatblygu a sefydlu rhaglen fonitro briodol i gefnogi a llywio’r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd erbyn 2022

    Arweinydd: CNC

    Statws: Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

    Diweddariad: Mae CNC yn parhau i fonitro’r graddau y mae cynefinoedd rhynglanwol yn cael eu colli drwy werthusiad a ragwelir ar lefel prosiect ar gyfer pob cynllun a phrosiect arfordirol mawr drwy asesiadau gwasgfa arfordirol priodol. Bydd amcangyfrifon o’r cynefinoedd presennol sydd wedi’u colli (o Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd Cynlluniau Rheoli Traethlin 2) yn cael eu hail-werthuso gan ddefnyddio rhagamcanion a chyfraddau cynnydd diwygiedig yn lefel y môr wrth iddynt gael eu hadolygu o bryd i'w gilydd.

    Hyd yma mae’r Rhaglen Creu Cynefinoedd Genedlaethol wedi creu cynefin cydadferol drwy waith adlinio rheoledig yng Nghors Cwm Ivy a Crofty yng ngogledd Gŵyr, ac ym Morfa Friog yn aber afon Mawddach. Mae'r safleoedd hyn wedi cael eu monitro o bryd i'w gilydd ers 2015, ac ar hyn o bryd mae’r gwaith hwn yn cael ei hailadrodd bob dwy flynedd.


  • Mesur 20: Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, CNC a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth i safoni adroddiadau uniongyrchol am lifogydd i eiddo ac achosion o erydu erbyn diwedd 2021, yn unol â Fframwaith Ymateb i Lifogydd Cymru.

    Arweinydd: Llywodraeth Cymru / Grŵp Llifogydd Cymru

    Statws: Wedi’i gwblhau

    Diweddariad: Yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ag Awdurdodau Rheoli Perygl a darparwyr cydnerthedd ehangach, nid oes unrhyw awydd i safoni prosesau adrodd. Mae systemau eraill ar gael ar gyfer cael gafael ar ddata, ond nid oes yr un ohonynt yn fwy effeithlon nac effeithiol na’n dull presennol o goladu data drwy e-bost, felly ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.


  • Mesur 21: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i gydweithio a sefydlu gofynion lefel uchel a chanllawiau ategol ar gyfer adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 erbyn 2023.

    Arweinydd: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol / Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol

    Statws: Ar y gweill

    Diweddariad: Cwblhaodd yr Athro Elwen Evans waith i adolygu adroddiadau adran 19 yng Nghymru yn ystod haf 2023 mewn ymateb iFesur y Rhaglen Lywodraethu: “Comisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol gaeaf 2020-21 (sic) a gweithredu ar ei argymhellion”. Mae'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi sefydlu is-bwyllgor i gyflawni'r mesur hwn ar adroddiadau adran 19, gyda'r bwriad y cytunir yn fuan ar ddyddiad targed diwygiedig ar gyfer cyflawni.


  • Mesur 22: Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Rheoli Risg i ddatblygu rhaglen o brosiectau buddsoddi 5 i 10 mlynedd.

    Arweinydd: Llywodraeth Cymru a phob Awdurdod Rheoli Risg

    Statws: Ar y gweill

    Diweddariad: Mae awdurdodau lleol Cymru yn y broses o ysgrifennu eu strategaethau lleol a fydd yn cynnwys opsiynau ariannu a blaenoriaethu, gan gynnwys cynlluniau gweithredu lleol. Ar ôl iddynt gael eu hadolygu, bydd y manylion hyn yn rhan o’r gwaith ehangach i ddatblygu rhaglen i ddiwallu anghenion rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol wedi’u cyfiawnhau yn unol â’r canllawiau achos busnes ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Yn ogystal â Chynllun Tymor Canolig sefydledig CNC, bydd Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd CNC yn cael ei ddefnyddio fel offeryn i gefnogi eu hanghenion buddsoddi yn y dyfodol gan amlinellu’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Wrth symud ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â’r holl Awdurdodau Rheoli Risg i ystyried anghenion buddsoddi yn y dyfodol. Gan ddechrau yn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dogfennau cyhoeddedig fel sylfaen i ystyried y rhaglen fuddsoddi 5 i 10 mlynedd nesaf.

  • Mesur 23: Bydd CNC yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyhoeddi gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan ategu Asesu Perygl Llifogydd Cymru, erbyn diwedd 2021

    Arweinydd: CNC

    Statws: Ar y gweill – y tu ôl i'r targed

    Diweddariad: Cwblhaodd CNC gam cyntaf yr asesiad o’r gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli’r sylfaen asedau amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru yn ystod 2022/23. Roedd yr asesiad a'r canlyniadau'n canolbwyntio ar waith cyfalaf ar gyfer asedau sydd wedi'u cynnwys yng ngwaith Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Mae'r asesiadau a wnaed yn defnyddio'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o berygl llifogydd yng Nghymru ar sail genedlaethol i fodelu gwahanol sefyllfaoedd. Fe ddefnyddiodd nodweddion Asesu Perygl Llifogydd Cymru, a oedd newydd fod ar gael, yn enwedig yr offeryn economaidd newydd a ddatblygwyd fel rhan o brosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru.

    Mae adroddiad sy’n crynhoi’r asesiad hwn wedi’i gyflwyno i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ogystal ag i’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae CNC yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ynghylch y ffordd orau o gyhoeddi canlyniadau’r asesiad. Yn dilyn hyn, bydd camau yn y dyfodol yn ystyried gwaith pellach posibl i ddatblygu achos buddsoddi cryf ynghylch pob agwedd ar reoli perygl llifogydd.


  • Mesur 24: Bydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn archwilio cyfleoedd i wneud y mwyaf o gyfraniadau partneriaid a buddsoddiadau mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol erbyn 2022.

    Arweinydd: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

    Statws: Wedi'i gwblhau – camau nesaf i’w cymryd

    Diweddariad: Cafodd yr adroddiad terfynol “Adnoddau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru” ei gymeradwyo gan y Pwyllgor ym mis Mai 2022 a’i gyflwyno i’r Gweinidog. Adnoddau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: adroddiad terfynol | LLYW.CYMRU

    Cafodd ymateb y Gweinidog i'r adroddiad ei gyflwyno er gwybodaeth i'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ystod y cyfarfod diwethaf, ac mae wedi cael ei gyfeirio at yr Is-bwyllgor Adnoddau i'w ystyried yn fanwl. Cafodd adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gamau pellach i’w cymryd wrth symud cynigion yr adroddiad yn eu blaen ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar 6 Medi 2023.

 

Adrodd ar yr hyn sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru a’r hyn sydd wedi’i wneud i reoli’r perygl

Mae ail ran yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ehangach yn erbyn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol, ac yn enwedig y gofynion ym mharagraff 335

  • Disgrifiad o lefel y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru
  • Manylion cynlluniau a phrosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol newydd mawr
  • Cyfeiriad at ddigwyddiadau llifogydd mawr
  • Enghreifftiau o arferion da o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er da yng Nghymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i brosiectau newydd neu arloesol, defnyddio dulliau naturiol o reoli llifogydd, gweithio mewn partneriaeth, darparu gwybodaeth a chyfranogiad cymunedol.

Perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru

Llifogydd

Mae 291,070 o adeiladau yng Nghymru, nad ydynt wedi'u hamddiffyn, mewn perygl o lifogydd. Rydym yn defnyddio'r metrig diamddiffyn hwn, sy'n rhagdybio nad oes unrhyw amddiffynfeydd yn eu lle hyd yn oed os ydynt yn bodoli, oherwydd y gall amddiffynfeydd gael eu llethu neu fethu ac felly mae'r eiddo yn dal i fod mewn perygl. Gall rhai adeiladau fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell, ac felly, gan osgoi cyfrif ddwywaith neu deirgwaith yr adeiladau sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog, amcangyfrifir bod 245,118 o adeiladau mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd. O'r eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a'r môr, amcangyfrifir bod tua 73,000 yn elwa ar amddiffynfeydd rhag llifogydd.

O fewn y ffigurau a ddarparwyd, mae risg uchel yn golygu, bob blwyddyn, fod siawns o fwy nag 1 mewn 30 (3.3%) y bydd llifogydd yn yr ardal hon. Mae risg ganolig yn golygu, bob blwyddyn, fod siawns rhwng 1 mewn 100 (1%) ac 1 mewn 30 (3.3%) y bydd llifogydd yn yr ardal hon. Mae risg isel yn golygu, bob blwyddyn, fod siawns rhwng 1 mewn 1,000 (0.1%) ac 1 mewn 100 (1%) y bydd llifogydd yn yr ardal hon.

Mae'r tablau canlynol yn dangos rhaniad yr eiddo yn ôl lefel y risg a fesul ffynhonnell.

Tabl 5: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo dibreswyl, a'r gwasanaethau sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd yng Nghymru.

Disgrifiad perygl llifogydd

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd

Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Afonydd Uchel

21,958

2,670

508

25,136

Afonydd Canolig

14,936

2,020

326

17,282

Afonydd Isel

40,984

5,814

954

47,752

Cyfanswm yr afonydd

77,878

10,504

1,788

90,170


Tabl 6: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd o'r môr yng Nghymru.

Categori perygl llifogydd

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd

Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Môr Uchel

42,229

4,424

808

47,461

Môr Canolig

11,764

1,835

318

13,917

Môr Isel

8,288

1,154

222

9,664

Cyfanswm y môr

62,281

7,413

1,348

71,042


Tabl 7: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yng Nghymru.

Dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd

Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Uchel

31,192

3,347

740

35,279

Canolig

16,425

1,892

344

18,661

Isel

68,113

6,428

1,377

75,918

Cyfanswm

115,730

11,667

2,461

129,858

Mae rhagor o wybodaeth am gynhyrchion Asesu Perygl Llifogydd Cymru, gan gynnwys y data a ddangosir yn ofodol ar fapiau, ar gael ar wefan CNC ac ar gael i'w lawrlwytho drwy MapDataCymru.

Erydu arfordirol

Amcangyfrifir y bydd rhwng 1,262 a 4,053 o eiddo yng Nghymru mewn perygl yn sgil erydu arfordirol dros y 100 mlynedd nesaf. Mae’r Map Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol yn darparu ffigurau dros y tymor byr, canolig a hir, o fewn dwy senario reoli a hefyd o fewn tri band hyder gwahanol.

Mae senario gweithredu’r Cynlluniau Rheoli Traethlin yn rhagdybio y cyflawnir y polisïau rheoli a nodir yn y Cynlluniau, lle mae’r senario Dim Ymyriad Gweithredol yn rhagdybio na chymerir unrhyw gamau rheoli.

Ystyr ‘hyder canraddol’ yw pa mor sicr yr ydym y bydd erydu’n cyrraedd pwynt penodol erbyn amser penodol. Mae bandiau hyder yn ymwneud â'r ansicrwydd tebygoliaethol yn y modelu erydiad; Mae hyder o 95 canradd yn amcangyfrif, gyda sicrwydd o 95%, y bydd erydu’n cyrraedd y pwynt penodol hwn erbyn amser penodol. Mae hyder o 5 canradd yn amcangyfrif, gyda sicrwydd o 5%, y bydd erydu’n cyrraedd y pwynt penodol hwn erbyn amser penodol. Mae'r amcangyfrif o 50% yn amcangyfrif yng nghanol yr ystod.

Mae’r tabl canlynol yn dangos rhaniad yr eiddo i’r categorïau gwahanol, y bandiau hyder a’r cyfnodau amser hyn, ar sail gwaith Modelu Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol (NCERM) a gynhaliwyd yn 2014.

Tabl 8: Nifer yr eiddo sydd mewn perygl yn sgil erydu arfordirol yng Nghymru.

 Cyfnod amser

Band hyder

Senario gweithredu’r Cynlluniau Rheoli Traethlin

Senario Dim Ymyriad Gweithredol

Tymor byr

(2005-2025)

95%

1

62

Tymor byr

(2005-2025)

50%

4

76

Tymor byr

(2005-2025)

5%

6

135

Tymor canolig

(2025-2055)

95%

80

368

Tymor canolig

(2025-2055)

50%

108

780

Tymor canolig

(2025-2055)

5%

144

1,214

Hirdymor 

(2055-2105)

95%

170

1,262

Hirdymor

(2055-2105)

50%

293

2,594

Hirdymor

(2055-2105)

5%

406

4,053

Mae rhagor o wybodaeth am y Mapiau Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol, gan gynnwys y data a ddangosir yn ofodol ar fapiau, ar gael ar wefan CNC ac ar gael i'w lawrlwytho drwy MapDataCymru.

Manylion cynlluniau a phrosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol newydd mawr

Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £115 miliwn mewn gwaith cyfalaf. Ar sail gwybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynlluniau mwyaf arwyddocaol sydd wedi’u cwblhau wedi’u rhestru yn y tabl isod.

Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, yn ogystal â mapiau sy’n dangos cyfansoddiad pob blwyddyn rhaglen, wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Tabl 9: Cynlluniau lliniaru llifogydd mawr ledled Cymru rhwng 2020 a 2023

Blwyddyn cyflawni

Awdurdod Rheoli Risg

Enw'r cynllun

Nifer y cartrefi sydd wedi'u diogelu

Nifer y busnesau sydd wedi'u diogelu

Cyfanswm yr eiddo sydd wedi'u diogelu

Cost (m)

2020/21

Conwy

Stryd y Capel, Mochdre

94

4

98

0.7

2020/21

Ynys Môn

Nant y Felin, Pentraeth

27

0

27

0.7

2020/21

Pen-y-bont ar Ogwr

Bae Sandy

531

175

706

6.4

2020/21

Castell-nedd Port Talbot

Aberafan

0

7

7

3.7

2020/21

CNC

Crindau, Casnewydd

549

118

667

14.5

2021/22

Conwy

Eldon Drive, Abergele

30

3

33

1.2

2021/22

Gwynedd

Rhostryfan

38

0

38

2

2021/22

Ynys Môn

Adeiladu Biwmares

89

18

107

3.2

2021/22

Castell-nedd Port Talbot

Cynllun Lliniaru Llifogydd Ffordd Farteg

16

0

16

0.8

2021/22

Sir Ddinbych

Dwyrain y Rhyl

472

0

472

27.9

2021/22

CNC

Gollyngfa Tregatwg

12

180

92

0.8

2021/22

CNC

Pont Elái, Caerdydd

150

0

150

0.2

2022/23

Conwy

Llansannan

19

1

20

1.9

2022/23

Sir Ddinbych

Prestatyn

2383

n/a

2383

26.1

2022/23

Sir Ddinbych

Canol y Rhyl

755

n/a

755

66

2022/23

Gwynedd

Ffordd Glan y Môr, Felinheli

31

15

46

1.5

2022/23

Gwynedd

Aberdyfi

7

13

20

4

2022/23

Ynys Môn

Y Fali

27

0

27

0.6

2022/23

Castell-nedd Port Talbot

Ffordd Farteg

16

0

16

0.8

2022/23

CNC

Llyn Tegid, Bala

800

0

800

7.5

2022/23

CNC

Afon Wydden, Cyffordd Llandudno

150

0

150

1

2022/23

CNC

Y Bont-faen

150

0

150

1.8

2022/23

CNC

Llanfair TH

29

4

33

2

2022/23

Abertawe

Y Mwmbwls

126

n/a

n/a

26.6

2023/24

Bro Morgannwg

Coldbrook

17

 0

17

9.6

Dylid nodi, yn ogystal â’r cynlluniau uchod, fod cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei ddefnyddio ar ystod eang o gynlluniau ar raddfa fach, a gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu, sydd hefyd o fudd i eiddo ac yn cynnal y lefelau presennol o amddiffyniad rhag llifogydd ledled Cymru.

Achosion o lifogydd mawr

nifer o stormydd sydd wedi arwain at effeithiau a brofwyd ledled Cymru. Os oes llifogydd mewn eiddo mewn ardal benodol, mae’n bosibl y bydd angen i’r Awdurdod Rheoli Risg sy’n rheoli’r ffynhonnell benodol honno o lifogydd lunio adroddiad adran 19 ar y llifogydd.

Mae cyfnod yr adroddiad hwn yn cwmpasu mis Hydref 2020 hyd at fis Mawrth 2023. Cyn cyhoeddi’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol newydd ym mis Hydref 2020, profwyd rhai o’r llifogydd gwaethaf er cof yng Nghymru yn ystod llifogydd mis Chwefror 2020. Mae hyn y tu allan i'r cyfnod adrodd ond mae'r effeithiau o ganlyniad i'r llifogydd wedi dylanwadu ar waith rheoli perygl llifogydd y rhai yr effeithiwyd arnynt dros gyfnod yr adroddiad hwn. Mae’r adran ganlynol felly’n cynnwys cyfeiriad at lifogydd Chwefror 2020.

Llifogydd mis Chwefror 2020

Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd rhai o’r llifogydd mwyaf dinistriol y mae Cymru wedi’u gweld ers cenhedlaeth. Cafwyd peth o’r glaw trymaf erioed a pheth o’r llifoedd mwyaf erioed yn ein hafonydd yn sgil Storm Ciara, Storm Dennis a Storm Jorge ym mis Chwefror 2020 - a hynny ar ôl gaeaf aruthrol o wlyb. Arweiniodd hyn at rai o’r llifogydd mwyaf difrifol ac eang a welwyd yng Nghymru ers 1979. Cafwyd adroddiadau o lifogydd ar gyfanswm o 3,130 eiddo ledled Cymru. 

Cynhaliodd CNC adolygiad sylweddol o'r ymateb i'r stormydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar weithrediadau rheoli achosion o lifogydd a myfyrio ar sut y gellid addasu'r arferion cyfredol u o ran rheoli ystâd tir CNC er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Cyhoeddwyd yr adolygiadau ym mis Hydref 2020. Mae CNC wedi gwneud gwaith sylweddol ers llifogydd mis Chwefror 2020 mewn ymateb i’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad. Mae’r prif gyflawniadau yn cynnwys:

  • Archwilio, a chynnal a chadw ar unwaith, asedau hanfodol yn agos at eiddo a seilwaith ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’n effeithiol.
  • Gwaith atgyweirio brys ar sawl ased llifogydd yn Abergele, Llanrwst, i fyny’r afon o bentref Llanfair Talhaearn ac oddi mewn iddo, Pont-hir, tref Brynbuga, ac afon Elwy i fyny’r afon o Lanelwy.
  • Gwelliannau i’r wybodaeth ar y wefan a chydnerthedd y wefan.
  • Gwelliannau i weithdrefnau digwyddiadau, creu rotâu newydd a gwelliannau i hyfforddiant staff.

Mae awdurdodau lleol hefyd wedi gwneud gwaith sylweddol ers y llifogydd ym mis Chwefror 2020 i gynnal adolygiadau ar ôl digwyddiad ar ffurf adroddiadau adran 19. Lluniodd 13 awdurdod lleol adroddiadau adran 19 yn dilyn y llifogydd ym mis Chwefror 2020.

Tabl 10: Adroddiadau adran 19 a luniwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad i’r llifogydd ym mis Chwefror 2020

Awdurdod lleol

Nifer yr adroddiadau adran 19

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

1

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

25

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

4

Cyngor Sir Ddinbych

1

Cyngor Gwynedd

9

Cyngor Sir Ynys Môn

7

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

1

Cyngor Sir Fynwy

9

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

2

Cyngor Sir Powys

8

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

19

Dinas a Sir Abertawe

2

Cyngor Bro Morgannwg

1

Storm Alex, 3 Hydref 2020

Nododd Storm Alex ddechrau'r tymor stormydd ledled Cymru yn ystod hydref / gaeaf 2020/21. Cafwyd 30 i 50 mm o law ar draws ardal fawr o Gymru, ac arweiniodd at ddosbarthu negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd ar gyfer prif afonydd. Arweiniodd y glaw trwm yng Ngogledd Cymru at achosi bwlch yn yr amddiffynfeydd yn Abergwyngregyn lle cafwyd llifogydd mewn nifer fach o adeiladau.

Storm Aiden, 31 Hydref 2020

Yn sgil Storm Aiden cafwyd glaw trwm eang ei wasgariad ledled Cymru, gan arwain at broblemau teithio eang, yn enwedig yng ngogledd Cymru, lle cafodd nifer o ffyrdd eu cau neu lle bu llifogydd difrifol ar nifer ohonynt.

Storm ddienw, 1 Tachwedd 2020

Achosodd cyn-gorwynt Zeta aflonyddwch eang o ganlyniad i wyntoedd cryfion a glaw trwm ar draws gogledd Cymru a llifogydd lleol mewn eiddo yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Cyhoeddwyd adroddiadau adran 19 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (4)

Storm ddienw, 18 Rhagfyr 2020

Cafwyd 40 i 60 mm o law eang ei wasgariad ledled de Cymru, a hyd at 80 i 100 mm mewn ardaloedd lleol. Disgynnodd 98 mm o law yn Llyn-y-Fan Blaenau o fewn cyfnod o 24 awr, sef tua hanner y cyfartaledd misol ar gyfer mis Rhagfyr mewn un diwrnod. Arweiniodd y glaw trwm yn ystod cyfnod cymharol fyr (naw i 12 awr) at effeithiau ar lawr gwlad, gan gynnwys llifogydd ar ffyrdd, llifogydd mewn adeiladau unigol, a phryderon ynghylch tomen lo uwchben Aberllechau yng Nghwm Rhondda.

Storm ddienw, 23 Rhagfyr 2020

Cafodd llifogydd lleol effaith ar sawl lleoliad ledled De Cymru ar 23 Rhagfyr ar ôl i 50 i 70 mm o law ddisgyn, a chafwyd glaw trwm iawn dros ddalgylchoedd y tir isel ar hyd arfordir de Cymru. Effeithiwyd ar Gasnewydd, Sir Fynwy, Torfaen, Caerdydd ac Ynys Môn, a digwyddodd rhai ohonynt mewn cymunedau lle na cheir llifogydd yn aml. Dinas Powys, ym Mro Morgannwg, oedd y lleoliad a ddioddefodd fwyaf, lle cafwyd llifogydd y tu mewn i 70 o adeiladau o afon Tregatwg ac East Brook.

Cyhoeddwyd adroddiadau adran 19 gan Gyngor Sir Fynwy (1), Cyngor Dinas Casnewydd (1), Cyngor Bro Morgannwg (4) a Chyngor Sir Ynys Môn (1).

Storm Christoph, 20 Ionawr 2021

Daeth glaw sylweddol i bob rhan o Gymru yn sgil Storm Christoph, a chafwyd yr effeithiau gwaethaf yng Ngogledd Cymru lle cofnodwyd un o'r cyfnodau gwlypaf dros gyfnod o dri diwrnod wrth i ffryntiau tywydd gludo glaw parhaus i'r ardaloedd hyn. Dros gyfnod o 72 awr, cofnododd mesurydd glaw Cwm Dyli, yn nalgylch afon Glaslyn (Gogledd Cymru), fod 198 mm o law wedi disgyn. Arweiniodd y glaw sylweddol a llifogydd o afonydd at hebrwng pobl o'u tai ym Mangor Is-coed, dymchwel pont dros afon Clwyd, a llifogydd mewn adeiladau yn Rhuthun yn Sir Ddinbych.

Cyhoeddwyd adroddiadau adran gan Gyngor Sir Caerfyrddin (1), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (3), Cyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych (1), Cyngor Sir y Fflint (1), Cyngor Gwynedd (2), Cyngor Sir Ynys Môn (27) a Chyngor Castell-nedd Port Talbot (1).

Storm ddienw, 19 a 20 Chwefror 2021

Arweiniodd glaw trwm, eang ei wasgariad, at ddosbarthu llawer o rybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod ledled Cymru. Cafwyd 127.6 mm o law yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y cyfnod, o gymharu â'r 98 mm o law a ddisgynnodd dros Dde Cymru ym mis Chwefror cyfan. Cafwyd llifogydd mewn adeiladau yng Nghrucywel a Chaerfyrddin, yr oedd llawer ohonynt eisoes wedi dioddef llifogydd yn sgil Storm Dennis yn gynnar yn 2020. Cafwyd gorchymyn i hebrwng pobl o adeiladau yng Nghastellnewydd Emlyn o ganlyniad i bryderon ynghylch y perygl llifogydd.

Storm ddienw, 19 Hydref 2021

Achosodd glaw trwm, stormydd mellt a tharanau a gwyntoedd cryfion broblemau ledled Cymru gan arwain at gau ffyrdd a llifogydd mewn adeiladau.

Cyhoeddwyd adroddiadau adran 19 gan Gyngor Sir Caerfyrddin (1), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (2), Cyngor Gwynedd (1) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (1).

Storm Arwen, 26a 27 Tachwedd 2021

Yn sgil storm Arwen daeth gwyntoedd difrifol ar draws y DU ar 26 a 27 Tachwedd 2021, gyda’r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd coch am wynt. Cyrhaeddodd gwyntoedd 69mya mewn rhai rhannau o’r DU gan olygu bod y storm hon yn un o stormydd gaeaf mwyaf pwerus a niweidiol y degawd diwethaf gyda miloedd o gartrefi ar draws y DU yn cael eu gadael heb bŵer. O ganlyniad i’r gwyntoedd cryfion bu difrod strwythurol i adeiladau, a nododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod llawer o goed aeddfed wedi cael eu colli, gan gynnwys 50 o goed yng Ngerddi Bodnant, Conwy.

Storm Barra, 7 ac 8 Rhagfyr 2021

Daeth storm Barra â gwyntoedd cryfion a glaw trwm ar draws y DU rhwng 7 ac 8 Rhagfyr 2021. Cofnodwyd gwyntoedd o 69 i 81mya mewn lleoliadau arfordirol agored, gyda'r hyrddiad uchaf o 86mya yn Aberdaron, Gwynedd. Curodd tonnau mawr yn erbyn arfordiroedd agored, ac achoswyd difrod nodedig i bromenâd Aberystwyth.

Stormydd Dudley, Eunice a Franklin, rhwng 16 a 21 Chwefror 2022

Effeithiodd tair storm a enwyd ar y DU o fewn cyfnod o wythnos, a chyhoeddodd y Swyddfa Dywydd ddau rybudd coch prin am wynt ar gyfer storm Eunice, gyda'r gwyntoedd hynny'n chwythu dros 81mya mewn lleoliadau arfordirol agored. Roedd y stormydd hyn yn rhan o gyfnod cythryblus o dywydd gwlyb a gwyntog ar gyfer y DU yn gysylltiedig â jetlif pwerus.

Am y tro cyntaf, amlygwyd bod arfordir Cymru gyfan mewn perygl o lifogydd. Yn ffodus, llwyddwyd i osgoi llifogydd arfordirol difrifol wrth i amddiffynfeydd ddal, a bu i frig yr ymchwydd storm fethu o drwch blewyn ag anterth y penllanw, llai na 90 munud mewn rhai achosion.

Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion o Storm Franklin rwystro'r gwaith glanhau, ac yn sgil glaw trwm parhaus o'r stormydd olynol cafwyd llifogydd sylweddol mewn rhannau o Ganolbarth Cymru, gydag adroddiadau bod tua 50 eiddo wedi dioddef llifogydd. Cofnodwyd lefelau afon newydd uwch nag erioed ar afon Hafren yn y Drenewydd, Llanidloes a Munlyn, ar afon Teme yn Dutlas a Threfyclo ac ar afon Efyrnwy ym Meifod. Cofnodwyd lefelau afonydd eithriadol o uchel hefyd ar afon Gwy Uchaf.

Cafwyd effeithiau sylweddol o ganlyniad i wyntoedd cryfion yn sgil stormydd Dudley, Franklin ac Eunice , gan gynnwys cau ysgolion a busnesau ledled Cymru. Roedd tarfu mawr ar drafnidiaeth, gan gynnwys trenau wedi’u canslo a choed a oedd wedi cwympo gan achosi rhwystrau ar y ffyrdd. Caewyd y ddwy bont Hafren am y tro cyntaf yn eu hanes ac roedd adroddiadau eang am ddifrod strwythurol i eiddo. Roedd tonnau mawr ynghyd ag ymchwydd storm ar ben llanw mawr yn curo arfordiroedd ac aber afon Hafren.

Mis Tachwedd 2022

Yn ystod mis Tachwedd 2022 cafwyd cyfnodau cyson o wyntoedd cryfion a glaw trwm ledled Cymru. Cyhoeddwyd negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn eang ar sawl achlysur yn ystod y mis, ac effeithiodd llifogydd dŵr wyneb ar Gastell-nedd, Saundersfoot a Phowys.

Cyhoeddwyd adroddiadau adran 19 gan Gyngor Sir Powys

Mis Ionawr 2023

Roedd mis Ionawr yn ansefydlog iawn gyda sawl cyfnod o dywydd ansefydlog. Roedd y cyfnod rhwng 10 a 15 Ionawr yn arbennig o wael ac roedd lefelau afonydd ledled Cymru yn uchel yn dilyn cyfnod hir o dywydd gwlyb, a phrofodd llawer o ardaloedd lawiad a oedd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd misol hirdymor. Roedd Llyn Efyrnwy yn un lleoliad o’r fath lle disgynnodd 289.4 mm o law yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 15 Ionawr, o’i gymharu â’r cyfartaledd misol hirdymor ar gyfer mis Ionawr, sef 193mm. Nodwyd effeithiau eang eu gwasgariad ar seilwaith, gan gynnwys cau ffyrdd yng Nghaerdydd, Casnewydd, Mynwy, Crucywel a'r Fenni, ond ychydig iawn o adroddiadau a gafwyd am lifogydd mewn eiddo oherwydd effeithiolrwydd yr amddiffynfeydd.

Enghreifftiau o arferion da o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Mae’r adran ganlynol yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau ac astudiaethau achos a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn, a gydnabyddir fel arferion da o ran arloesi, y defnydd o dechnegau naturiol i reoli llifogydd, gweithio mewn partneriaeth, darparu gwybodaeth neu gyfranogiad cymunedol.

Ffigur 3: Map yn rhoi trosolwg o'r enghreifftiau a ddarparwyd.

Map of Wales showing projects and case studies delivered in this reporting period.

Prosiectau newydd neu arloesol

Prosiect atal llifogydd Lôn y Felin

Sefydliad: Cyngor Sir Ynys Môn

Lleoliad y prosiect: Lôn y Felin, Biwmares, Ynys Môn

Partneriaid allweddol: Waterco, Alun Griffiths

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect: Prosiect atal llifogydd Lôn y Felin

Profodd trigolion Lôn y Felin ym Miwmares, Ynys Môn, nifer o achosion o lifogydd o Nant Meigan rhwng 2004 a 2017. Cafodd cynllun llifogydd ei roi ar waith ond roedd llifogydd yn dal i ddigwydd oherwydd bod sgrin sbwriel cwlfert wedi'i blocio. Oherwydd natur y dalgylch, byddai llawer o falurion coediog yn cronni ar y sgrin sbwriel bresennol nad oedd yn ddiogel i weithredwyr ei thynnu i ffwrdd ar adegau o lif uchel. Gofynnodd y trigolion lleol am ateb hirdymor i'r broblem hon.

Bu Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda chontractwyr Waterco ac Alun Griffiths i ddod o hyd i ateb a fyddai'n lleihau'r risgiau sy’n gysylltiedig â glanhau malurion o gril y sgrin sbwriel â llaw. Daethant o hyd i gyflenwr a ddarparodd sgrin sbwriel awtomataidd a fyddai, ar adegau o lifoedd uchel, yn gweithredu'n awtomatig i gael gwared ar falurion sydd wedi cronni ar y sgrin sbwriel. Roedd y sgrin awtomataidd newydd wedi'i lleoli i fyny'r afon o'r sgrin sbwriel bresennol er mwyn ei gwneud yn fwy cydnerth, yn haws ei chynnal ac yn fwy diogel.

Ffigur 4: Gril awtomatig cwlfert Lon y Felin

Figure 3: Mill Lane culvert automatic grill
Y prif ganlyniadau: Mae'r sgrin wedi lleihau'r perygl o lifogydd i dros 10 eiddo ac yn gwneud y gwaith o gynnal a chadw'r sgrin yn fwy diogel i'r gweithwyr sy'n gyfrifol am ei chadw'n glir.

Y gwersi a ddysgwyd: Gan fod y sgrin hon yn arloesol bu meysydd dysgu gwerth chweil iawn. Er bod agwedd fecanyddol y sgrin yn effeithiol iawn, un o’r meysydd dysgu penodol fu dibynadwyedd y synwyryddion lefel o ran y gweithrediad awtomataidd gan fod angen eu newid a'u gwella.

CoastSNAP – Prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion

Sefydliad: Canolfan Monitro Arfordirol Cymru

Lleoliad y prosiect: 19 o leoliadau CoastSNAP o amgylch arfordir Cymru

Partneriaid allweddol: Llwybr Arfordir Cymru, CNC

Prif ffrwd ariannu: Llwybr Arfordir Cymru a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd môr ac erydu arfordirol

Project description: CoastSNAP – Prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion

Mae Canolfan Monitro Arfordirol Cymru wedi cychwyn prosiect i gasglu data o’r ffotograffau y mae pobl yn eu tynnu o’r arfordir o amgylch Cymru a fydd yn helpu gwyddonwyr i olrhain sut mae’r arfordir yn newid dros amser o ganlyniad i brosesau fel stormydd, lefelau’r môr yn codi, gweithgareddau dynol a ffactorau eraill. Mae’r fenter yn annog y cyhoedd i gymryd rhan drwy dynnu lluniau ar ffonau clyfar mewn 19 o fannau ffotograffiaeth dynodedig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru — o Fae Whitmore yn y Barri, Promenâd Llandudno yn y gogledd i Harbwr Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.

Mae crud ffôn wedi cael ei osod ym mhob un o'r 19 lleoliad i sicrhau bod ffotograffau’n cael eu cymryd o’r un man bob tro. Mae gan bob crud god QR pwrpasol sy’n golygu y gall cyfranogwyr gyflwyno’u delweddau’n gyflym ac yn rhwydd i Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru lle mae’r delweddau wedyn yn cael eu dadansoddi i weld a oes arwyddion o newid arfordirol.

Mae’r lluniau sydd wedi’u casglu hyd yn hyn ar gael yma.

Ffigur 5: Crud monitro CoastSNAP ar Draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Figure 4: CoastSNAP monitoring cradle at North Beach, Tenby

Y prif canlyniadau: Mae’r cyhoedd yn gallu cymryd rhan drwy gasglu’r data sy’n ei gwneud yn bosibl monitro newid arfordirol yn effeithiol.

Prosiect dal coed pont Elái

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Pont Elái, Caerdydd

Partneriaid allweddol: Knight’s Brown Construction

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Prif afon

Disgrifiad o'r prosiect:

Prosiect dal coed pont Elái

Mae pont ffordd Heol Orllewinol y Bont-faen yn croesi afon Elái yng Nghaerdydd, sef ardal sydd wedi dioddef llifogydd sylweddol yn y gorffennol. Dangosodd gwaith modelu dalgylch manwl fod perygl llifogydd yn yr ardal yn cynyddu'n sylweddol pan fydd y bont wedi'i rhwystro'n rhannol â malurion, yn enwedig gan goed. Nid oes unrhyw ffordd ddiogel i weithredwyr CNC gael gwared ar rwystrau mawr, yn enwedig yn ystod llifoedd uchel.

Os bydd y bont yn cael ei chadw'n glir rhag rhwystrau, mae mwy o ddŵr yn gallu mynd o dan y bont ac i lawr yr afon, sy'n lleihau'r perygl o lifogydd i'r gymuned. Er mwyn cadw’r bont yn rhydd rhag rhwystrau, mae CNC wedi gosod daliwr coed i fyny’r afon i ddal coed a malurion mawr eraill cyn iddynt gyrraedd y bont, gan ganiatáu i ddŵr yr afon barhau i lifo oddi tani. Mae'r daliwr coed yn cynnwys saith polyn wedi’u trefnu’n igam-ogam ar draws yr afon, â digon o le rhyngddynt i dargedu malurion mawr a fyddai fel arall yn cael eu dal ger y bont. Yna gall gweithwyr CNC dynnu’r malurion o’r daliwr coed unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Ffigur 6: Daliwr coed pont Elái

Ely bridge tree catcher

Y prif ganlyniadau: Mae’r daliwr coed wedi lleihau’r perygl o lifogydd i 490 eiddo yn ardaloedd Trelái a’r Tyllgoed yng Nghaerdydd.

Y gwersi a ddysgwyd: Cafodd gwaith cyfathrebu am y cynllun gyda’r trigolion lleol ei lesteirio gan y cyfyngiadau a oedd ar waith oherwydd COVID-19. Dylid bod wedi gwneud mwy i wneud y trigolion yn ymwybodol o'r prosiect a'i ddiben.

Gwaith twnelu ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd

Sefydliad: Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Lleoliad y prosiect: Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd

Partneriaid allweddol:
 Atkins Ltd, Knights Brown, HB Tunnelling, Mainmark

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect:
Gwaith twnelu ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd

Mae eiddo ar Stryd Rock a Stryd Robert, Glyn-nedd, wedi bod yn dioddef llifogydd oherwydd bod capasiti draenio dŵr wyneb yn annigonol. O ganlyniad, cafodd cynllun lliniaru llifogydd ei gynllunio i liniaru'r perygl o lifogydd o gyrsiau dŵr Gelliceibryn a Nant y Gwyddyl.

Roedd y cynllun lliniaru llifogydd arfaethedig yn cynnwys gosod cwlfert gorlif newydd er mwyn gollwng dŵr wyneb gormodol i afon Nedd. Cynigiwyd y byddai'r cwlfert gorlif newydd yn cael ei osod gan ddefnyddio peiriant tyllu twnnel, ond pan ddechreuwyd ymchwilio i'r safle, canfuwyd bod y ddaear yn ei gwneud yn anaddas gosod y cwlfert gan ddefnyddio'r peiriant yn unig. Roedd y ffaith bod hyn i’w wneud o dan stryd fawr brysur ac yn agos at adeiladau preswyl yn golygu ei fod hyd yn oed yn fwy heriol.

Roedd angen i staff y prosiect feddwl mewn ffordd arloesol felly am sut y gallent osod y cwlfert. Yr ateb gorau oedd cyfuniad o waith twnelu â pheiriant a gwaith twnelu â llaw. Cafodd 60 metr o waith twnelu ar gyfer y cwlfert ei gwblhau yn llwyddiannus o dan y brif ffordd a'r llwybr troed heb achosi i'r ffordd na’r llwybr troed ymsuddo, heb achosi unrhyw symudiad i'r eiddo na’r strwythurau cyfagos a chan achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl.

Y prif ganlyniadau: Fe wnaeth Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd ddileu’r perygl o lifogydd i dros 250 o adeiladau.

Y gwersi a ddysgwyd: Yn ystod y cyfnod dylunio, cafodd gwaith archwilio tir helaeth ei wneud. Fodd bynnag, canfuwyd bod angen mwy o dyllau turio ar hyd llwybr y twnelau er mwyn cael dealltwriaeth gywir o gyflwr y tir.

 

Defnyddio dulliau naturiol o reoli llifogydd

Brynau and Preswylfa Natural Flood Management (NFM) Scheme

Sefydliad: Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Lleoliad y prosiect: Cynllun Rheoli Llifogydd yn Naturiol Brynau a Phreswylfa

Mae safleoedd Brynau a Phreswylfa o fewn dalgylch y Gnoll, Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot (CNPT)

Partneriaid allweddol: Coed Cadw, Parc Gwledig y Gnoll Castell-nedd Port Talbot, Bioamrywiaeth Castell-nedd Port Talbot

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen ariannu Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect:
Cynllun Rheoli Llifogydd yn Naturiol Brynau a Phreswylfa

Nod Cynllun Rheoli Llifogydd yn Naturiol Brynau a Phreswylfa oedd lleihau’r perygl o lifogydd o dri chwrs dŵr; Nant y Gnoll, Nant Parc y Gnoll a Nant Llanilltud i gymuned Castell-nedd.

Yn ystod cyfnodau o law trwm, mae tri chwlfert i fyny'r afon o'r gymuned yn gorlifo gan arwain at lifogydd. Mae’r topograffi serth, gwaddod trwm a gwaddodion yn y dalgylch i fyny'r afon yn gwaethygu'r broblem sy'n arwain at lifogydd cyflym.

Amcan y prosiect oedd defnyddio dulliau naturiol o reoli llifogydd i storio ac arafu llif y dŵr er mwyn lleddfu pwysau ar y tri chwlfert i lawr yr afon. Gwnaethpwyd hyn ar draws dau safle, sef Preswylfa Dingle (sy'n llifo i Nant y Gnoll) a fferm Brynau.

Preswylfa Dingle
Yn y sianel gosodwyd dargyfeiriwyr coediog yn y Preswylfa Dingle i arafu llif y dŵr yn ystod llifoedd uchel a chaniatáu i ddŵr basio yn ystod llifoedd isel.

Fferm Brynau
Gosodwyd ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol i ategu’r coed a blannwyd yn ddiweddar gan Coed Cadw, a ariannwyd gan gynllun Creu Coetiroedd Llywodraeth Cymru. Cafodd dargyfeiriwyr prennaidd yn y sianel, byndiau a phwll storio dros dro eu gosod er mwyn arafu llif y dŵr i lawr yr afon yn ystod cyfnodau o lawiad uchel.

Ffigur 7: (1) a (2) dargyfeirwyr prennaidd yn y sianel.

Figure 6: (1) and (2) in-channel woody deflectors.
Y prif ganlyniadau: Mae defnyddio a gweithredu dulliau naturiol o reoli llifogydd wedi gwella rheolaeth llif dŵr, wedi creu cynefinoedd gwlyptir naturiol ac wedi helpu i leihau’r perygl o lifogydd i gymunedau i lawr yr afon.

Y gwersi a ddysgwyd: Pwysigrwydd deall y dalgylch, yn enwedig y dirwedd, yr hydroleg a’r draeniad.

Pwysigrwydd gweithio gyda rhanddeiliaid ac ymgysylltu â nhw er mwyn deall materion lleol a nodi cyfleoedd ar gyfer gweithredu mesurau rheoli llifogydd yn naturiol.

Meddwl am ffermio o’r newydd – Ffermwyr yr Wnion

Sefydliad: Cyngor Gwynedd

Lleoliad y prosiect: Rhydymain, Gwynedd

Partneriaid allweddol:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen ariannu Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Dŵr wyneb

Disgrifiad o'r prosiect: Meddwl am ffermio o’r newydd – Ffermwyr yr Wnion

Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cydweithio gyda grŵp o dirfeddianwyr amaethyddol yn nalgylch afon Wnion i weithredu mesurau rheoli llifogydd yn naturiol i helpu i ddal y dŵr yn ôl yn rhannau uchaf y dalgylch. Gyda'i gilydd mae'r mesurau rheoli llifogydd yn naturiol yn helpu i arafu dŵr wyneb sydd wedi effeithio'n negyddol ar arferion amaethyddol yn y gorffennol ac wedi gwella gallu'r ucheldiroedd i storio dŵr.

Elfen allweddol o lwyddiant y prosiect oedd y cydweithio rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a grŵp o dirfeddianwyr amaethyddol o fewn dalgylch afon Wnion. Cafodd yr holl fesurau rheoli llifogydd yn naturiol eu cwblhau ar 11 fferm o'r grŵp.

Mae’r mesurau rheoli llifogydd yn naturiol a roddwyd ar waith yn cynnwys plannu gwrychoedd a choed, cau ffosydd draenio a chreu pyllau newydd.

Dangosodd y prosiect prawf hwn y gall cydweithio rhwng sefydliadau cyhoeddus a’r sector amaethyddol greu buddion bywyd go iawn i dir amaethyddol, i’r amgylchedd ac i bobl sy’n byw i lawr yr afon.

Y prif ganlyniadau: Mae’r mesurau a roddwyd ar waith yn cynnwys:

  • Creu 7km o wrychoedd
  • Plannu dros 48,000 o goed
  • Creu 11 pwll newydd
  • Atal 3.5km o ffosydd draenio

Y gwersi a ddysgwyd: Mae'r gwaith cychwynnol wedi darparu'r sylfeini ar gyfer prosiectau mwy yn y dyfodol yn y dalgylch.

Rhwydweithiau Natur Cydnerth Afon Teme

Sefydliad: Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren

Lleoliad y prosiect: Afon Teme Uchaf (Cymru yn unig)

Partneriaid allweddol: Cyngor Sir Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen ariannu Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect: Rhwydweithiau Natur Cydnerth Afon Teme

Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Cyngor Sir Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cydweithio â thirfeddianwyr lleol i weithredu mesurau rheoli llifogydd yn naturiol a mesurau gwella cynefinoedd naturiol yn y rhan uchaf o ddalgylch afon Teme sydd yng Nghymru. Nod y prosiect oedd ceisio helpu i leihau llifogydd i gartrefi a busnesau a oedd mewn perygl o lifogydd o lednentydd afon Teme ynghyd â lleihau malurion a adawyd ar adegau o lif uchel.

Mae'r prosiect yn cynnwys plannu gwrychoedd a choetir, creu pyllau a gosod rhwystrau sy'n gollwng. Gyda'i gilydd mae'r mesurau wedi helpu i arafu llif y dŵr drwy'r dalgylch a darparu buddion i natur a bywyd gwyllt.

Nodwyd effaith gadarnhaol raddol mewn ymateb i achosion o lifogydd ar ran uchaf afon Teme, gyda llai o ddŵr llifogydd a malurion i nifer o adeiladau.

 

Ffigur 8: Pwll storio llifogydd wedi'i greu yn rhan uchaf afon Teme

Figure 7: Flood storage pond created in the Upper Teme
Y prif ganlyniadau: Erbyn mis Mawrth 2023, mae’r prosiect wedi cyflawni’r canlynol:

  • Creu 322 o rwystrau sy'n gollwng;
  • Plannu 3.0 hectar o goetir ar draws llethrau;
  • Plannu 3.3 km o wrychoedd ar draws llethrau (gyda ffens ddwbl);
  • Creu 17 o byllau dŵr tymhorol, byndiau a phyllau.

Y gwersi a ddysgwyd: Mae ffurfio cysylltiadau cryf ac ymddiriedaeth gyda thirfeddianwyr wedi bod yn agwedd allweddol ar lwyddiant y prosiect hwn, ac mae’r perthnasoedd a sefydlwyd drwy’r prosiect yn parhau i dyfu.

Pwll Gwanhau Lôn y Parc, Aberdâr

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Lleoliad y prosiect: Lon y Parc, Aberdâr

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect: Pwll Gwanhau Lôn y Parc, Aberdâr

Yn dilyn llifogydd mynych, roedd angen cael ateb ar gyfer llifogydd yn ardal Lôn y Parc, Aberdâr. Wrth ystyried atebion posibl, penderfynwyd mai pwll gwanhau llifogydd oedd yr opsiwn mwyaf addas oherwydd byddai nid yn unig yn lleihau’r perygl o lifogydd ond hefyd o fudd i lesiant y gymuned yn y dyfodol hefyd.

Crëwyd gwlyptir gwanhau yn rhan uchaf y dalgylch yn Lôn y Parc drwy dynnu cwlfert cwrs dŵr arferol i ffwrdd. Fe'i cynlluniwyd i hwyluso gostyngiad o 50% yn y llif brig i'r cwrs dŵr i lawr yr afon. Mae hefyd yn darparu gwelliannau amgylcheddol er mwyn hwyluso datblygiad gwlyptir ecolegol amrywiol gyda defnydd amwynder cysylltiedig ar gyfer y gymuned leol.

Ffigur 9: Pwll gwanhau Lôn y Parc, Aberdâr, ar ôl ei adeiladu

Figure 8: Park Lane attenuation pond, Aberdare, post construction

Y prif ganlyniadau: Mae pwll gwanhau llifogydd Lôn y Parc yn lleddfu’r perygl o lifogydd i tua 122 eiddo a fydd, yn ei dro, yn gwella llesiant meddwl ac iechyd y gymuned leol.

Mae'r pwll gwanhau llifogydd yn gwella'r ecoleg bresennol drwy ailgyflwyno amgylchedd bioamrywiol naturiol ar gyfer ffawna a fflora lleol. Mae'r gwaith yn darparu cydnerthedd cymdeithasol pellach gan ei fod yn cynnig cyfleoedd i wella’r defnydd amwynder o fewn yr ardal wlyptir, a darparu cyfle i ryngweithio â'r amgylchedd naturiol.

Gweithio mewn partneriaeth

Lliniaru llifogydd yn Stryd Marged, Rhydaman – Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin

Lleoliad y prosiect: Stryd Marged, Rhydaman

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect: Lliniaru llifogydd yn Stryd Marged, Rhydaman – Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Nod y prosiect hwn oedd lliniaru effeithiau lleol llifogydd yn Rhydaman drwy roi technegau rheoli llifogydd yn naturiol ar waith ar hyd dau gwrs dŵr cyffredin dienw. Mae'r ddau gwrs dŵr yn llifo trwy Ysgol Dyffryn Aman ac maent wedi achosi problemau llifogydd yn y gorffennol.

Roedd y cynllun yn cynnwys creu 13 argae sy’n gollwng a phum ardal storio llifogydd. Fel rhan o’r cynllun, bu Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu â’r ysgol, gan gynnwys darparu gwersi ar reoli llifogydd yn naturiol, ac fe gafodd y cynllun newydd ei gynnwys fel rhan o faes llafur Daearyddiaeth blwyddyn 8.

Ffigur 10: Mae'r llun yn dangos rhai o'r argaeau sy'n gollwng a gafodd eu hadeiladu fel rhan o'r cynllun. 

Image shows some of the leaky dams that were built as part of the scheme.

Mewn rhai o’r lluniau, gellir gweld gwaith adeiladu'r mannau storio yn y cefndir.

Y prif ganlyniadau: Bydd disgyblion yr ysgol yn cyfrannu at y gwaith parhaus o fonitro’r argaeau sy'n gollwng a'r pyllau storio ar dir yr ysgol drwy dynnu lluniau ohonynt yn rheolaidd. Mae'r ysgol hefyd yn bwriadu dylunio cynlluniau gwaith eraill mewn perthynas â'r cynllun hwn i'r dyfodol, gan gynnwys astudiaethau bioamrywiaeth mewn gwaith cwrs Gwyddoniaeth a Daearyddiaeth Safon Uwch.

Gwelwyd gwelliannau mewn bioamrywiaeth eisoes yn y pyllau uchaf, gyda thystiolaeth ffotograffig a thystiolaeth leol o benbyliaid, brogaod a chrehyrod sy'n magu.

Nid yw'r cynllun wedi cael ei brofi gan storm fawr eto.

Y gwersi a ddysgwyd: Mae ymgysylltu’n drylwyr â thirfeddianwyr yn hanfodol ar bob cam o ddatblygiad cynllun.

Er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau o ran allgymorth a chynyddu manteision ychwanegol, mae’n hanfodol ymgysylltu â’r holl randdeiliaid posibl, ni waeth a yw’r sawl dan sylw yn dirfeddiannwr uniongyrchol, cyn gynted â phosibl – gan gynnwys yr athrawon o fewn yr ysgol yn yr achos hwn.

Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Lleoliad y prosiect: Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre

Partneriaid allweddol: CNC, Dŵr Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect: Pentre Flood Alleviation Scheme

Nod y cynllun hwn yw datblygu a gweithredu rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd hirdymor cynaliadwy i leihau’r perygl o lifogydd i 400 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o'r pedwar cwrs dŵr cyffredin yn yr ardal gymunedol.

Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf waith sgrinio a dadansoddiad helaeth o opsiynau amrywiol, mewn cydweithrediad â CNC a Dŵr Cymru, er mwyn mynd i’r afael â’r perygl llifogydd cyffredinol ym Mhentre.

Mae opsiwn a ffefrir wedi'i nodi ac mae'n destun ymgynghoriad â'r cyhoedd ar hyn o bryd. Mae’r opsiwn a ffefrir yn datblygu nifer o opsiynau, gan gynnwys ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol yn rhan uchaf y dalgylch, SDCau yn rhan isaf y dalgylch yn ogystal â dulliau mwy traddodiadol gan gynnwys datblygu llwybr cwlfert newydd a dargyfeirio llif.

Cafodd datblygiad Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre a’r opsiwn a ffefrir eu cyflwyno i’r cyhoedd yn ystod digwyddiad ymgynghori dau ddiwrnod, ac roedd cydweithwyr o CNC yn bresennol i drafod Cynllun Rheoli Coedwig Cwm Rhondda Isaf.

Y prif ganlyniadau: Drwy weithio mewn partneriaeth, bydd y trigolion lleol yn elwa ar gynllun lliniaru llifogydd sy'n mynd i'r afael â phob ffynhonnell o berygl llifogydd yn y gymuned.

Y gwersi a ddysgwyd: Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn gynnar yn y broses wedi helpu i annog diddordeb ehangach yn natblygiad y prosiect a’r opsiwn a ffefrir.

Gwaith uwchraddio yn Aberpennar a Phentre

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Lleoliad y prosiect: Stryd Victor a Stryd Kingcraft, Aberpennar
Cilfach Nant y Pentre, Pentre

Partneriaid allweddol: CNC

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect: Arweiniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf y gwaith uwchraddio i gilfach Stryd Victor a chilfach Stryd Kingcraft (y ddwy yn Aberpennar) a chilfach Nant y Pentre (Pentre) yn dilyn difrod a achoswyd yn ystod Storm Dennis. Datblygwyd y gwaith hwn mewn partneriaeth â CNC fel perchennog yr ased.

Ar gyfer cilfachau Stryd Victor a Stryd Kingcraft, cwblhawyd arolygon draenio a gwaith mapio rhwydwaith, yn ogystal â gwaith ail-leinio strwythurol o fewn y rhwydwaith cwlfertau cwrs dŵr arferol er mwyn rheoli’r risg o fethiant strwythurol.

Ar gyfer cilfach Nant y Pentre, hwylusodd y prosiect waith adeiladu strwythur gorlif a llwybr rheoli llif dros y tir i reoli llifogydd o gyrsiau dŵr arferol.

Ffigur 11: Cilfach ffordd Pentre. Ar ôl storm Dennis a chyn adeiladu

Figure 10: Pentre road inlet. Post storm Dennis and pre construction
Ffigur 12: Cilfach ffordd Pentre ar ôl adeiladu

Figure 11: Pentre road inlet post construction

Y prif ganlyniadau: Gwnaeth y gwaith hwn leihau'r risg o rwystrau i'r rhwydwaith draenio a achosir gan falurion. Mae'r ffaith bod y safon amddiffyn wedi'i huwchraddio ar draws y tair cilfach well yn lleihau'r perygl o lifogydd i lawr yr afon i tua 330 eiddo preswyl.

Darparu gwybodaeth

welliannau diogelwch i Gronfa Ddŵr Llyn Tegid – cyfathrebu â’r gymuned

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Llyn Tegid

Main funding stream: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Cronfa ddŵr

Disgrifiad o'r prosiect: Gwelliannau diogelwch i Gronfa Ddŵr Llyn Tegid – cyfathrebu â’r gymuned

O dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, roedd angen i CNC wneud gwaith mawr ar lannau Llyn Tegid i sicrhau ei fod yn aros yn ddiogel dros yr hirdymor. Roedd y prosiect yn ymwneud â chryfhau'r argloddiau ac ailosod yr holl amddiffynfeydd craig ar lan y llyn er mwyn amddiffyn tref y Bala rhag llifogydd, nawr ac yn y dyfodol.

Roedd y prosiect yn debygol o effeithio ar y llwybrau cyhoeddus, yr amwynderau a’r bywyd gwyllt lleol yn un o'r mannau twristiaeth prysuraf yng ngogledd Cymru. Felly, roedd yn bwysig bod y gymuned leol yn deall y prosiect. Cynhaliwyd gweithgareddau ymgysylltu effeithiol a rheolaidd â'r gymuned, o gamau cynnar y prosiect hyd at y diwedd pan gafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau. Mae enghreifftiau o'r ymgysylltu hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Ymgynghori helaeth yn ystod y cyfnodau arfarnu a dylunio;
  • Cyfarfodydd cyn ymgeisio a gynhaliwyd yn y ganolfan hamdden leol;
  • Datblygu fideo hygyrch a gyhoeddwyd ar wefan CNC, yn esbonio'r cynllun i'r gymuned ac i ymwelwyr;
  • Pobl ddwyieithog yn mynd o ddrws i ddrws cyn i'r cynllun ddechrau;
  • Dosbarthu llythyrau i drigolion lleol yn rheolaidd ac anfon negeseuon diweddaru misol atynt drwy e-bost ac wedi'u lamineiddio o amgylch y safle gyda manylion cyswllt;
  • Cynnal cyfarfodydd gyda chynghorwyr plwyf a lleol a darparodd y newyddion diweddaraf i fusnesau am gynnydd.

Ffigur 13: Enghraifft o arwyddion ar y safle yn esbonio'r gwaith i randdeiliaid lleol

Example of onsite signage explaining the works to local stakeholders

Y prif ganlyniadau: Roedd y gymuned yn deall y cynllun yn llawn ac yn gefnogol i'r gwaith.

Y gwersi a ddysgwyd: Roedd cynnal rhaglen a dderbynnir yn rheolaidd yn allweddol o ran llywio diweddariadau ac egluro i'r cyhoedd beth oedd yn digwydd yng nghyd-destun ‘yr hyn sydd wedi digwydd y mis diwethaf, yr hyn sy'n digwydd y mis hwn, a’r hyn fydd yn digwydd fis nesaf’. Roedd hyn yn lleihau'n sylweddol yr ymholiadau a gafwyd, yn lleihau unrhyw risg o gwynion, ac yn helpu i feithrin ymddiriedaeth gyda'r holl bartïon a fu’n ymwneud â’r prosiect.

Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Prif afonydd a'r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Hwn yw’r asesiad risg cenedlaethol newydd ar gyfer llifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach sy'n ei gwneud yn bosibl dosbarthu lleoliadau yn ardaloedd â risg uchel, risg canolig a risg isel. Mae Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn disodli, neu'n diweddaru, sawl set allweddol o ddata ar lifogydd ac yn disodli'r Asesiad Perygl Llifogydd Cenedlaethol blaenorol a’r mapiau Perygl Llifogydd o Afonydd a'r Môr cysylltiedig. Defnyddir y data hyn a’r wybodaeth hon gan CNC, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Rheoli Risg eraill, cwmnïau yswiriant a’r cyhoedd i ddeall yn well y perygl o lifogydd ledled Cymru.

Ffigur 14: Dyma sgrinlun o fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Mae'r map yn dangos yr ardaloedd o Gaerdydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb, ynghyd â lefel y perygl hwnnw.


Y prif ganlyniadau: Cynhyrchion map perygl llifogydd newydd ar gael i bawb drwy wefan CNC, ynghyd â data cysylltiedig sydd ar gael ar wefan MapDataCymru Llywodraeth Cymru. Mae’r mapiau’n dangos ble yng Nghymru sydd mewn perygl, a lefel y perygl hwnnw, ac mae hefyd yn dangos gwybodaeth ychwanegol, megis lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd a’r manteision lleol a ddaw yn eu sgil.

Set ddata ddiweddaredig ar Bwyntiau Eiddo'r Gronfa Ddata Derbynyddion Genedlaethol a fydd yn darparu gwybodaeth allweddol am bob eiddo yng Nghymru i’w gwneud yn bosibl asesu canlyniadau economaidd llifogydd yn feintiol.

Cyflwyno gwasanaethau digidol newydd ar gyfer data llifogydd

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Prif afonydd a'r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Cyflwyno gwasanaethau digidol newydd ar gyfer data llifogydd

Yn dilyn adborth gan gwsmeriaid, mae CNC wedi cyflwyno gwasanaethau digidol newydd a gwell i ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr am beryglon llifogydd a rhybuddion llifogydd i gartrefi, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwelliannau i’r rhagolwg llifogydd dyddiol ar gyfer cyfnod o bum niwrnod, sy’n darparu gwybodaeth gliriach, , crynodeb o'r perygl llifogydd ar gyfer Cymru a gwybodaeth gliriach am y camau i'w cymryd ar gyfer pob lefel o berygl llifogydd.
  • Mae gwasanaeth rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod newydd, sy'n cynnwys offeryn chwilio (e.e. yn ôl cod post), yn gwella'r wybodaeth a ddangosir, yn darparu nodweddion map rhyngweithiol a gwybodaeth fanwl am bob ardal lle mae rhybudd llifogydd a neges lifogydd – byddwch yn barod yn weithredol.
  • Gwasanaeth newydd sy’n darparu data byw ar lefelau afonydd, glawiad a’r môr o dros 400 o orsafoedd monitro ledled Cymru. Mae gwelliannau'n cynnwys y ffaith bod data glaw a môr wedi’i gynnig am y tro cyntaf, gwelliant o ran ymarferoldeb, mapiau manylach, cydnawsedd gwell â dyfeisiau symudol, a gwell profiad i ddefnyddwyr.

Y prif ganlyniadau: Mae gwybodaeth fanylach ar gael i gwsmeriaid a phartneriaid i’w helpu i ddeall perygl llifogydd yn well a pha gamau y gellir eu cymryd.

Cyfranogiad cymunedol

Rhaglen addysg newid hinsawdd a’r arfordir

Sefydliad: Canolfan Monitro Arfordirol Cymru

Lleoliad y prosiect: Bro Morgannwg ac Abertawe

Partneriaid allweddol: Ysgol Gynradd Ynys y Barri

Prif ffrwd ariannu: Amser Ysgol Gynradd Ynys y Barri a Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru yn wasanaeth

Ffynhonnell: Llifogydd môr ac erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Rhaglen addysg newid hinsawdd a’r arfordir

Mae Ysgol Gynradd Ynys y Barri a Chanolfan Monitro Arfordir Cymru wedi cydweithio ag athrawon ac arbenigwyr rhyngwladol i ddatblygu rhaglen addysg i helpu myfyrwyr 9 i 11 oed i ennill y set sgiliau y bydd eu hangen arnynt i helpu i liniaru effeithiau hinsawdd sy’n newid. Mae’r rhaglen yn cynnwys 12 gwers ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig sy’n ymdrin â phynciau fel rheoli’r arfordir, y tywydd a mapio risg i’r arfordir. Pwrpas pob gwers yw gwneud effeithiau newid hinsawdd yn llai haniaethol ac yn fwy hygyrch, er mwyn helpu i baratoi cenhedlaeth y dyfodol i sefyll dros y blaned y byddant yn ei hetifeddu.

Ffigur 15: Enghraifft o waith ysgol a gynhyrchwyd gan ddisgybl ar y rhaglen addysg newid hinsawdd a’r arfordir

school work example
Y prif ganlyniadau: Cyflwynwyd y gwersi i tuag 800 o blant ysgol gynradd ac maent wedi helpu i gael gwared ar bryderon ynghylch newid hinsawdd.

Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Fairbourne

Sefydliad: Cyngor Gwynedd (YGC)

Lleoliad y prosiect: Fairbourne

Partneriaid allweddol: Savills, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd môr ac erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Fairbourne

Mae Fairbourne yn Symud Ymlaen yn fwrdd prosiect a sefydlwyd i ystyried a mynd i’r afael â’r problemau llifogydd a newid hinsawdd cymhleth sy’n wynebu cymuned Fairbourne dros y 40 mlynedd nesaf. Ei nod yw gweithio gyda'r gymuned i helpu i reoli'r broses o newid.

Er mwyn cael barn a mewnbwn gan y gymuned, comisiynodd Cyngor Gwynedd asesiad o’r effaith ar iechyd ar ran Bwrdd Prosiect Fairbourne yn Symud Ymlaen. Roedd amcan craidd yr asesiad o’r effaith ar iechyd yn ddeublyg; ymchwilio i’r effeithiau iechyd a llesiant o ran byw gyda newid hinsawdd yn Fairbourne heddiw, ac archwilio awgrymiadau a datrysiadau a arweinir gan y gymuned i gynorthwyo’r broses o ymaddasu, datblygu cydnerthedd a gwella iechyd.

Roedd yr ymgyrch ymgysylltu yn cynnwys cynnal holiaduron ar-lein a dosbarthu holiadur i bob cartref ar ffurf copi caled; sesiwn galw heibio dros dridiau; cyfweliadau â chynrychiolwyr cymunedol allweddol, a chyfweliadau atodol ar gyfer y rhai a oedd â diddordeb mewn ymgysylltu, ond na allent fod yn bresennol yn bersonol.

Codwyd themâu allweddol wrth archwilio problemau ac atebion. Mae rhai yn gweddu’n dda i lywio buddsoddiad strategol cyrff statudol, tra byddai eraill yn cael eu perchnogi a'u darparu orau drwy fentrau cymunedol. Mae’n well ymdrin â rhai ohonynt drwy newidiadau sefydliadol.

Roedd y prif awgrymiadau yn cynnwys:

  • Ail-ddarparu ramp y môr i’w gwneud yn haws cael mynediad i'r traeth isaf.
  • Cael dealltwriaeth well o bryd y mae’n debygol y byddai codiadau yn lefel y môr yn anghynaliadwy, o achosion sy’n digwydd yn anaml (un achos o lifogydd mewn 10 mlynedd), gan eu galluogi i gynllunio a rhesymoli eu penderfyniadau eu hunain dros y 75 mlynedd nesaf.
  • Argymhellion ynghylch cael datganiad ailfodelu clir a chadarn er mwyn gwella tryloywder, tanategu buddsoddiadau neu roi'r gorau i amddiffynfeydd morol, a galluogi trigolion i gael digon o wybodaeth i wneud penderfyniadau.
  • Atal llifogydd a gwaith cynnal a chadw amgylcheddol, yn ogystal â phrofi dichonoldeb opsiynau amgen.

Y prif ganlyniadau: Roedd y gyfradd ymateb yn cyfateb i 21% o'r holl aelwydydd a thua 15% o holl boblogaeth breswyl Fairbourne, a ddangosodd fod ymgysylltiad y gymuned yn dda.

Mae’r asesiad o’r effaith ar iechyd wedi’i gwneud yn bosibl i’r gymuned ddatblygu mwy o berchnogaeth a chael mwy o ddylanwad, a chanolbwyntio’n fwy ar atebion i ymaddasu i’r hinsawdd a datblygu cydnerthedd – sy’n helpu i leihau pryder.

Y gwersi a ddysgwyd: Nod y prosiect hwn oedd helpu i roi rheolaeth am y dyfodol i gymuned Fairbourne a helpu i leihau pryder a sbarduno pobl i weithredu. Er bod yr asesiad o’r effaith ar iechyd yn benodol i amodau Fairbourne, mae’r hyn a ddysgwyd a’r dystiolaeth yn berthnasol i gymunedau eraill yng Nghymru a’r DU, sy’n wynebu heriau tebyg sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd.

Ymgysylltu cymunedol – Llanybydder a Llandysul / Pont-tyweli

Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin

Lleoliad y prosiect: Llanybydder a Llandysul / Pont-tyweli

Partneriaid allweddol: Cyngor Sir Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Prif afon a chwrs dŵr cyffredin

Disgrifiad o'r prosiect: Ymgysylltu cymunedol – Llanybydder a Llandysul / Pont-tyweli

Mae llifogydd o sawl ffynhonnell yn digwydd yng nghymunedau Llanybydder a Llandysul / Pont-tyweli, gan gynnwys o brif afon, ac yn ymestyn dros y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Er mwyn lliniaru effeithiau llifogydd ar y cymunedau, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain prosiect i leihau’r perygl o lifogydd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mabwysiadwyd dull partneriaeth o ymgysylltu â'r gymuned leol ar bob cyfle. Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus yn ystod haf 2022, a gafodd ei gynnal a’i fynychu gan bawb a gymerodd ran, lle anogwyd preswylwyr i rannu eu profiadau, darparu gwybodaeth ychwanegol, a rhoi sylwadau ar y cynigion amlinellol ar gyfer y cynllun. Roedd opsiynau o'r fath yn cynnwys creu rhwystrau llifogydd uwch, ardaloedd storio llifogydd, dulliau naturiol o reoli llifogydd i fyny'r afon, darparu sianel lliniaru llifogydd, a mesurau amddiffyn lefel eiddo.

Ffigur 16: Llun o'r digwyddiad ymgysylltu cymunedol â rhanddeiliaid yn Llandysul / Pont-tyweli.

Photo taken of the community engagement stakeholder event at Llandysul/Pont-Tyweli.

Y prif ganlyniadau: Daeth nifer dda o bobl i’r digwyddiad ymgynghori cyhoeddus, ac roedd y wybodaeth a gafwyd yn amhrisiadwy o ran cwblhau opsiynau’r cynllun.

Y gwersi a ddysgwyd: Mae cyfathrebu â phreswylwyr ar bob cam yn allweddol i lwyddiant prosiect. Mae cymunedau’n ffynhonnell werthfawr o wybodaeth. Roedd profiadau preswylwyr yn hynod ddefnyddiol wrth raddnodi gwaith modelu â phrofiadau go iawn. Mae cyfathrebu gonest hefyd yn allweddol wrth reoli disgwyliadau preswylwyr, yn enwedig o ran amserlenni a graddau'r camau lliniaru. Mae dealltwriaeth cymuned o hyn yn arbennig o hanfodol wrth awgrymu amddiffyniad ar lefel eiddo fel opsiwn.

Ymgysylltu cymunedol – Cynllun Ymaddasu Arfordirol Niwgwl

Sefydliad: Cyngor Sir Penfro

Lleoliad y prosiect: Niwgwl, Sir Benfro

Partneriaid allweddol: Atkins, Fforwm Arfordirol Sir Benfro

Prif ffrwd ariannu: Cronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd môr ac erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Ymgysylltu cymunedol – Cynllun Ymaddasu Arfordirol Niwgwl

Mae Niwgwl yn gymuned sy'n wynebu her arfordir newidiol. Mae Cyngor Sir Penfro yn arwain prosiect ymaddasu arfordirol ac fel rhan o hyn bu’n gweithio gyda’r gymuned leol i’w helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch sut olwg allai fod ar ymaddasu arfordirol yn Niwgwl. Roedd ymgysylltu effeithiol â'r gymuned yn allweddol i lwyddiant y prosiect. Gwnaethpwyd hyn drwy ‘Grwpiau Gorchwyl a Gorffen’ a oedd yn darparu ffordd arloesol o gynnwys y gymuned drwy gynnal ystod eang o weithgareddau gyda rhanddeiliaid allweddol yn gynnar yn y broses er mwyn archwilio problemau a chyfleoedd, ehangu gwybodaeth tîm y prosiect a darparu mewnbwn sy'n llywio dyluniad y prosiect.

Agorwyd aelodaeth y grwpiau gorchwyl a gorffen i'r cyhoedd drwy alwad agored am ymgeiswyr a gafodd gyhoeddusrwydd eang. Gwnaeth dros 60 o bobl gais i ymuno a ffurfiwyd grwpiau gorchwyl a gorffen yn chwe grŵp pwnc ar wahân sy’n gysylltiedig â gwahanol agweddau ar y prosiect sy’n cwmpasu:

  • Teithio llesol a llwybr yr arfordir
  • Seilwaith
  • Yr amgylchedd naturiol
  • Diogelwch traethau a mynediad i ddefnyddwyr
  • Ffordd newydd
  • Cydnerthedd busnes

Mae’r math hwn o ymgysylltu yn bwysig er mwyn sicrhau cysylltiadau cadarnhaol â rhanddeiliaid a sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i drafod a llunio’r prosiect. Roedd cyfyngiad amser ar y grwpiau gorchwyl a gorffen (cynhaliwyd pob cyfarfod dros gyfnod o bum mis), ac roeddent yn gyfyngedig o ran nifer (tair sesiwn fesul grŵp pwnc) ac yn canolbwyntio ar faterion, a helpodd hyn gyda'u llwyddiant. Erbyn diwedd y tair sesiwn, cafodd elfennau'r prosiect eu cadarnhau a phennwyd sgôp pob elfen.

Y prif ganlyniadau: Drwy fabwysiadu’r dull hwn o ymgysylltu â'r gymuned, rhoddodd gyfle i dîm y prosiect gyfleu negeseuon anodd / cymhleth i'r gymuned leol, rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd.

Bu'n ymarfer gwerthfawr iawn oherwydd y cafodd sawl agwedd ar y prosiect ei newid o ganlyniad i'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth ychwanegol a gasglwyd gan y grwpiau gorchwyl a gorffen.

Y gwersi a ddysgwyd: Nid oes unrhyw gyllid penodol ar gyfer cael gwared ar seilwaith nac i gefnogi ymaddasu arfordirol, ac nid yw'r prosiect ychwaith yn cyd-fynd yn daclus ag unrhyw ffrwd ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae hyn wedi gwneud y prosiect yn un heriol.

Digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr cymunedol

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd o brif afonydd a'r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr cymunedol

Cynhaliodd CNC ddau ddigwyddiad rhwydwaith yn Llandudno a Chasnewydd ym mis Hydref 2022 i alluogi’r rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol i ailgysylltu wyneb yn wyneb, yn dilyn y pandemig. Cynrychiolwyd 15 o gymunedau, gyda 23 o aelodau cymunedau’n bresennol, ynghyd â 23 o bartneriaid o sefydliadau eraill sydd â rhan i’w chwarae mewn llifogydd.

Nod y digwyddiadau oedd cynyddu dealltwriaeth o wrthsefyll llifogydd (gan gynnwys cydnerthedd eiddo rhag llifogydd), cynyddu dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n paratoi ar gyfer llifogydd ac yn ymateb iddynt, a chynyddu cyfleoedd rhwydweithio i bawb a’u mynychodd. Cyfrannodd partneriaid hefyd gyda chyflwyniadau, gan gynnwys Gwasanaeth Chwilio ac Achub De Cymru, Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gogledd Cymru, a'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol.

Ffigur 17: Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn rhoi cyflwyniad i wirfoddolwyr llifogydd cymunedol a phartneriaid proffesiynol

National Flood Forum presenting to Community flood volunteers and Professional Partners

Y prif ganlyniadau: Roedd yr adborth a gafwyd o’r digwyddiadau yn gadarnhaol, gyda 97% o’r ymatebwyr yn dweud bod eu dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau sefydliadau eraill wedi cynyddu, ac o’r holl fynychwyr a gwblhaodd ffurflen werthuso, dywedodd 90% fod y cyfleoedd rhwydweithio yn ‘dda’ neu’n ‘ardderchog’.

Y gwersi a ddysgwyd: Hoffai’r mynychwyr weld mwy o’r cyhoedd a phartneriaid yn cael eu cynrychioli ac roeddent o’r farn bod gwerth mewn siarad ag eraill am berygl llifogydd.

Mae CNC wedi’i galonogi bod pobl yn parhau i werthfawrogi’r digwyddiadau hyn ac eisiau cymryd rhan a dysgu mwy i helpu eu hunain ac eraill yn eu cymuned.

Ymgysylltu cymunedol –Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Crindau

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Crindau, Casnewydd, De Cymru

Prif ffrwd ariannu: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd o’r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Ymgysylltu cymunedol –Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Crindau

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Crindau yw’r prosiect cyfalaf risg llifogydd mwyaf a gyflawnwyd gan CNC hyd yma. Yn ogystal â lleihau'r perygl o lifogydd i dros 600 eiddo, gwnaed gwelliannau sylweddol i'r ardaloedd lleol er mwyn gwella iechyd a llesiant y gymuned leol. Bu hyn yn bosibl drwy weithio'n agos ac ymgysylltu â'r gymuned leol gan gynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â nifer o aelodau blaenllaw o'r gymuned, yr heddlu lleol, Cyngor Dinas Casnewydd ac aelodau o'r gymuned ehangach wrth ddylunio'r cynllun. Helpodd yr ymgysylltu agos hwn aelodau o dîm y prosiect i ddeall y gymuned o ddifrif a gwneud gwelliannau gwirioneddol i’r ardal, gan gynnwys:

  • Rheiliau ychwanegol yn y parc chwarae er mwyn cadw plant ifanc i ffwrdd o afon Wysg;
  • Gwelliannau i lwybrau beicio;
  • Gwelliannau i fannau anniogel megis cael gwared ar hen garejys a bloc toiledau segur, a gwella'r man sydd wedi'i oleuo'n wael o dan y trosffordd;
  • Cael gwared ar sbwriel a gwastraff tipio anghyfreithlon;
  • Dymchwel adeiladau adfeiliedig ac anniogel;
  • Creu ardal amwynder yn cynnwys nodweddion chwarae anffurfiol ar gyfer y gymuned leol.

Ffigur 18: Yr ardal amwynder a grëwyd fel rhan o Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Crindau, a ddyluniwyd i fod yn gadarn a hawdd ei gynnal a’i gadw gyda marciau chwarae wedi’u mewnosod a chlogfeini yn darparu nodweddion chwarae anffurfiol.

amenity area created as part of Crindau flood risk management scheme, with embedded play markings and boulders providing informal play features.

Y prif ganlyniadau: Ardal leol well o amgylch Crindau ar gyfer y gymuned leol.

Y gwersi a ddysgwyd: Roedd cydweithio a dull ystyriol o ymgysylltu â’r gymuned leol wedi’i gwneud yn bosibl gwireddu llawer o fanteision ehangach fel rhan o’r prosiect a rheoli nifer o risgiau sylweddol y prosiect.

Adroddiadau Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru

Er mwyn darparu mwy o fanylion ac adroddiadau rheolaidd, o ran y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth reoli perygl llifogydd yng Nghymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu cyfres o adroddiadau blynyddol dros y tair blynedd diwethaf i ategu’r wybodaeth a ddarperir yn yr Adroddiad Adran 18 trosfwaol hwn.

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn helpu i ddangos bod Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a’i Hamcanion yn cael eu cyflawni’n ehangach, mae hefyd yn rhoi mwy o fanylion am rai o’r prosiectau allweddol a’r llwyddiannau a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Mae'r adroddiadau hyn yn ymdrin â chyfnod y flwyddyn ariannol o fis Ebrill i fis Mawrth a gellir eu gweld drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol.

Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd 2020/21

Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd 2021/22

Adroddiad Blynyddol Rheoli Perygl Llifogydd 2022/23

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf