Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2020-2021

Rhagair

Mae rheoli'r risg a berir gan lifogydd yn bwysig. Gall effeithiau llifogydd fod yn drychinebus i bobl, cymunedau, busnesau, seilwaith, yr amgylchedd a'r economi.

Rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o lifogydd trychinebus dros y blynyddoedd diwethaf, yng Nghymru a ledled y byd. Roedd y llifogydd yn Yr Almaen a Gwlad Belg yn ystod haf 2021 wedi ein hatgoffa eto, mewn ffordd annymunol, am rym natur ac effeithiau llifogydd, pan gollwyd llawer iawn o fywydau. Ni fydd angen atgoffa trigolion Cymru am lifogydd diweddar a ddigwyddodd yn agosach at eu cartrefi, boed y rheiny yn sgil Storm Dennis yn 2020, Storm Christoph yn gynnar yn 2021, neu unrhyw un arall o blith llu o stormydd a llifogydd sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd llifogydd yn digwydd yn y dyfodol hefyd. Roedd adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd yn ystod haf 2021 yn dangos yn bendant ein bod yn profi digwyddiadau tywydd amlach a mwy eithafol, gyda mwy o lifogydd a mwy o lifogydd difrifol, ac y gallwn ddisgwyl mwy ohonynt yn y dyfodol.

Yn y cyd-destun hwn y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau a'i weithgareddau pwysig iawn o ran rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhain yn hanfodol bwysig o safbwynt rheoli'r risgiau a cheisio lleihau amlder yr effeithiau yn sgil llifogydd, a lleihau'r canlyniadau pan fônt yn digwydd. Mae'r heriau'n anferth. Ni all CNC atal y tywydd a'r glawiad, ac ni allwn atal pob digwyddiad llifogydd. Ond mae ein gwaith yn golygu gwneud ein gorau glas, gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni, i reoli'r dŵr llifogydd (o brif afonydd a llifogydd arfordirol), a buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n helpu i leihau'r effeithiau. Mae'n waith pwysig, mae'n gwneud gwahaniaeth, ac mae'n wasanaeth cyhoeddus hanfodol.

Nid ydym, ac ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain; rydym yn ei wneud ochr yn ochr ag amrediad o sefydliadau partner a gyda chymunedau. Bydd angen, yr ymateb a’r gweithredu ar y cyd hwn, yr ydym yn rhan fawr ohono, bob amser.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â gweithgareddau llifogydd CNC, ac yn crynhoi'r elfennau allweddol yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21. Bwriadwn i hwn fod yn adroddiad blynyddol wrth symud ymlaen.

 

Jeremy Parr
Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Haf 2021

Crynodeb gweithredol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, a'n diben craidd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Mae gennym amrediad o rolau a chyfrifoldebau, gan amrywio o reoleiddiwr i gynghorydd, tirfeddiannwr, gweithredwr ac ymatebwr mewn argyfwng. Mae gennym drosolwg strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n golygu goruchwylio a chyfleu gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gennym bwerau hefyd i reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 245,118 o adeiladau mewn perygl o lifogydd. Mae hyn yn golygu tua un adeilad ym mhob wyth yng Nghymru. Rydym yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg o reoli perygl llifogydd drwy'r gweithgareddau a gyflawnir gennym. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r buddsoddiad, gweithgareddau allweddol, a chyflawniadau CNC o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol o Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021. Mae'n seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ar adeg ei ysgrifennu (haf 2021).

Drwy gydol y flwyddyn 2020/21, gwnaethom ymateb i sawl digwyddiad storm sylweddol, yr arweiniodd rhai o ohonynt at lifogydd, hebrwng pobl o adeiladau, a tharfu.  Gwnaethom hefyd barhau i gyflawni gwaith adfer hanfodol yn sgil llifogydd mis Chwefror 2020, a hynny yn ystod y pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun heriol hwn, gwnaethom welliannau sylweddol hefyd i'r ffordd rydym yn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd yng Nghymru.

Rydym yn bwriadu defnyddio'r adroddiad blynyddol hwn i ffurfio rhan o'r adroddiad statudol y mae'n ddyletswydd ar CNC ei gwblhau (o dan Adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr) ar gynnydd gweithredu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y strategaeth hon ym mis Hydref 2020, a bydd llawer o'r gweithgareddau a ddisgrifir yn yr adroddiad blynyddol yn cyfrannu at ddull cyflwyno'r amcanion a mesurau y mae'r strategaeth honno'n eu cynnwys.

Mae'r canlynol yn cynnwys rhai o'r gweithgareddau allweddol a gyflawnwyd gan CNC yn ystod 2020/21:

  • Buddsoddiad o £34.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn mewn gweithgareddau rheoli perygl llifogydd allweddol yng Nghymru.
  • Lansio mapiau Asesu Perygl Llifogydd Cymru sy'n defnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael i ddosbarthu lleoliadau sydd â risg uchel, canolig ac isel o lifogydd o brif afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach. Mae'r darlun cenedlaethol-gyson hwn yn hanfodol o ran rheoli perygl llifogydd yn effeithiol – er mwyn rheoli perygl llifogydd, mae angen i ni ddeall natur a maint y perygl, ac mae angen i gymunedau ddeall eu perygl hefyd.
  • Datblygwyd llawer o gynlluniau llifogydd, gan gynnwys cwblhau gwaith adeiladu ar gyfer Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Crindai, sy'n amddiffyn dros 660 o adeiladau preswyl a masnachol rhag perygl llifogydd o Grindai a'r afon Wysg lanwol yng Nghasnewydd. Datblygwyd prosiectau sylweddol mewn lleoliadau fel Rhydaman, Llyn Tegid a Stryd Stephenson (Casnewydd) hefyd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y dyfodol, a chafodd llu o brosiectau llai eu cwblhau, ochr yn ochr â rhaglen cynnal a chadw gynhwysfawr.
  • Cafodd sawl prosiect gwella gwaith rheoli asedau eu datblygu er mwyn sicrhau bod ein data a'n prosesau'n ein galluogi i wneud y defnydd gorau o fuddsoddiad mewn lleoliadau blaenoriaeth. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys gwelliannau pellach i'n stocrestr o asedau (AMX), adolygiad o asedau aneconomaidd, datblygu model dyrannu refeniw sy'n seiliedig ar risg, datblygu'r gronfa ddata o asedau cenedlaethol (ar gyfer pob Awdurdod Rheoli Risg) a phrosiect dadansoddi bylchau i sicrhau bod ein prosesau ar y safon ofynnol.
  • Cyflwyno gwasanaethau digidol gwell er mwyn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am berygl llifogydd, lefelau afonydd, glawiad, a lefel y môr i gartrefi, busnesau a chymunedau yng Nghymru.
  • Datblygu ein polisïau ar y rhan y mae rheoli llifogydd yn naturiol yn ei chwarae o safbwynt lleihau perygl ac effeithiau llifogydd.
  • Cyflwyno'r adolygiad cynhwysfawr o'n hymateb i’r llifogydd ym mis Chwefror 2020, gan ganolbwyntio'n benodol ar ein gweithrediadau rheoli digwyddiadau llifogydd, a myfyrio ar sut y gellid addasu arferion cyfredol rydym yn eu mabwysiadu, o safbwynt rheoli ystâd tir CNC, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Amlygodd yr adolygiad hwn feysydd i'w gwella ynghyd â chamau gweithredu argymelledig sydd bellach yn cael eu datblygu.
  • Yr adferiad yn sgil llifogydd mis Chwefror 2020, gan gynnwys atgyweirio difrod (atgyweiriadau brys, a gwaith mwy parhaol wedi’i gynllunio a’i raglennu i gael ei gyflawni'n ddiweddarach), ac ymateb i'r llu o ymholiadau a cheisiadau am waith.

Ceir rhagor o wybodaeth am bob un o'r uchafbwyntiau hyn, a mwy, yn yr adroddiad.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys manylion am ein cyflawniadau allweddol o safbwynt rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21. Ceir manylion ynddo am y gweithgareddau sy'n cyfrannu at y dull o reoli perygl llifogydd yng Nghymru ac mae hefyd yn amlygu metrigau ac ystadegau allweddol sy'n dangos y lefel o ymdrech sydd ynghlwm wrth reoli perygl llifogydd ynghyd â graddfa'r her a wynebir.

Nid yw'r adroddiad hwn yn cwmpasu manylion pob gweithgaredd neu faes gwasanaeth, a bwriedir iddo fod yn grynodeb o uchafbwyntiau'r flwyddyn ariannol 2020/21. Mae'r wybodaeth a data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y data a oedd ar gael ar adeg llunio'r crynodeb hwn (haf 2021). Bwriedir i'r adroddiad hwn fod yn gyhoeddiad blynyddol parhaol a bydd yn cyd-fynd â chyflwyno'r adroddiad cynnydd nesaf ar Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru (sef ‘adroddiad Adran 18’ sy'n ofynnol o dan Adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr).

Llifogydd a brofwyd dros y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill 2020 – Mawrth 2021)

Bob blwyddyn, rydym yn cynllunio'r gwaith rydym am ei gyflawni er mwyn rheoli perygl llifogydd. Ar ben hynny, rhaid i ni ymateb i ddigwyddiadau llifogydd pan fônt yn digwydd. Mae'n bosibl mai dull ymatebol a ddilynwn er mwyn rheoli'r digwyddiad llifogydd ar y pryd, neu fe allai achosi gwaith ychwanegol y bydd angen i ni ei gyflawni. Mae'r adran hon yn grynodeb o'r digwyddiadau llifogydd mwy nodedig y gwnaethom ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn – y rhai a achosodd aflonyddwch neu ddifrod sylweddol i gymunedau.

Rydym yn monitro ac yn ymateb i i lifogydd pryd bynnag y maent yn digwydd – 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys olrhain rhagolygon, dosbarthu rhybuddion, sicrhau bod asedau llifogydd a hydrometreg yn gweithredu'n gywir, gwaith atgyweirio, postio gwybodaeth gyfredol ar ein gwefan, ymdrin â chyfweliadau ac ymholiadau'r cyfryngau, a chefnogi sefydliadau eraill sy'n ymatebwyr i ddigwyddiadau. Pan fo digwyddiad yn codi, ceir effaith amlwg ar ein gallu i gyflawni gwaith arall a gynlluniwyd wrth i ni ymateb i'r heriau y mae pob digwyddiad tywydd difrifol yn eu cyflwyno, a hynny yn ystod y digwyddiadau hyn a'r cyfnod sy'n eu dilyn, wrth i ni ddelio â'r effeithiau a'r canlyniadau.

Llifogydd dros flwyddyn ariannol 2020/21

Ar ôl gaeaf o dywydd gwlyb iawn, a llifogydd difrifol ac eang eu gwasgariad yn ystod mis Chwefror 2020, roedd dechrau blwyddyn ariannol 2020/21 yn ffafriol iawn, a chafwyd tywydd sych a braf gan amlaf drwy gydol mis Ebrill a mis Mai.

Storm Francis, 25 Awst 2020

Daeth Storm Francis â glaw trwm a gwyntoedd anarferol o gryf ar gyfer yr adeg honno o'r flwyddyn. Profwyd llifogydd lleol ledled Cymru, a bu'n rhaid hebrwng pobl o adeiladau ym Methesda a Beddgelert. Dosbarthwyd sawl neges llifogydd – byddwch yn barod, a rhybuddion llifogydd, a darparwyd ymateb gweithredol mewn sawl lleoliad ar draws Cymru, yn enwedig yn Llanelli lle gwnaethom gefnogi Cyngor Sir Caerfyrddin i leihau lefel Cronfa Ddŵr Trebeddrod.

Storm Alex, 3 Hydref 2020

Nododd Storm Alex ddechrau'r tymor stormydd yn yr hydref / gaeaf ledled Cymru. Cafwyd 30 i 50 mm o law ar draws ardal fawr o Gymru, ac arweiniodd at ddosbarthu negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, a rhybuddion llifogydd. Arweiniodd y glaw trwm yng Ngogledd Cymru at achosi bwlch yn yr amddiffynfeydd yn Abergwyngregyn lle cafwyd llifogydd mewn nifer fach o adeiladau. Roedd ein staff ar y safle i ymgymryd â gwaith brys i atgyweirio'r bwlch a monitro'r sefyllfa barhaus dros y dyddiau ansefydlog canlynol.

Storm Aiden, 31 Hydref 2020

Yn sgil Storm Aiden cafwyd glaw trwm eang ei wasgariad ar draws Cymru, gan arwain at ddosbarthu dros 30 o negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, a dau rybudd llifogydd. Tarfodd y storm yn eang ar deithio, yn enwedig yng Ngogledd Cymru lle cafodd nifer o ffyrdd eu cau neu y cafwyd llifogydd difrifol arnynt.

Storm ddienw, 18 Rhagfyr 2020

Cafwyd 40 i 60 mm o law eang ei wasgariad ledled de Cymru, a hyd at 80 i 100 mm mewn ardaloedd lleol. Disgynnodd 98 mm o law yn Llyn-y-Fan Blaenau o fewn cyfnod o 24 awr, sef tua hanner y cyfartaledd misol ar gyfer mis Rhagfyr mewn un diwrnod. Arweiniodd y glaw trwm yn ystod cyfnod cymharol fyr (naw i 12 awr) at ddosbarthu nifer o rybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, a chafwyd effeithiau ar lawr gwlad, gan gynnwys llifogydd ar ffyrdd, llifogydd mewn adeiladau unigol, a phryderon ynghylch tomen lo uwchben Aberllechau yng Nghwm Rhondda. Roedd ein staff ar y safle mewn sawl lleoliad yn darparu  ymateb gweithredol, yn enwedig afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod lle cofnodwyd y lefelau afon uchaf erioed o ganlyniad i'r dalgylch dirlawn a'r llanwau uchel.

Storm ddienw, 23 Rhagfyr 2020

Cafodd llifogydd lleol effaith ar sawl lleoliad ledled De Cymru ar 23 Rhagfyr ar ôl i 50 i 70 mm o law ddisgyn, a chafwyd glaw trwm iawn dros ddalgylchoedd y tir isel ar hyd arfordir De Cymru. Effeithiwyd ar Gasnewydd, Sir Fynwy, Torfaen a Chaerdydd, a digwyddodd rhai ohonynt mewn cymunedau lle na cheir llifogydd yn aml. Dinas Powys, ym Mro Morgannwg, oedd y lleoliad a ddioddefodd fwyaf, lle cafwyd llifogydd y tu mewn i 70 o adeiladau o afon Tregatwg ac East Brook. Rydym yn gweithio gyda'r gymuned i ystyried opsiynau ar gyfer gwella'r amddiffyniad rhag llifogydd i'r dref.

Storm Christoph, 20 Ionawr 2021

Daeth glaw sylweddol i bob rhan o Gymru yn sgil Storm Christoph, a chafwyd yr effeithiau gwaethaf yng Ngogledd Cymru lle cofnodwyd un o'r cyfnodau gwlypaf dros gyfnod o dri diwrnod wrth i ffryntiau tywydd gludo glaw parhaus i'r ardaloedd hyn. Dros gyfnod o 72 awr, cofnododd mesurydd glaw Cwm Dyli, yn nalgylch afon Glaslyn (Gogledd Cymru), bod 198 mm o law wedi disgyn. Ar anterth y digwyddiad, roedd ein swyddogion ar ddyletswydd wedi dosbarthu dau rybudd llifogydd difrifol, 62 rhybudd llifogydd, a 57 o negeseuon llifogydd - byddwch yn barod. Arweiniodd y glaw sylweddol a llifogydd o afonydd at hebrwng pobl o'u tai ym Mangor Is-coed, dymchwel pont dros afon Clwyd, a llifogydd mewn 20 o adeiladau yn Rhuthun yn Sir Ddinbych. Mewn lleoedd eraill, cafwyd llifogydd mewn adeiladau unigol niferus eraill o gwmpas Gogledd Cymru a De-orllewin Cymru wrth i'r afonydd ymateb i'r glaw. Yn ystod y cyfnod hwn o dywydd ansefydlog, gwnaethom gofnodi bod 142,000 o bobl wedi defnyddio ein tudalennau gwe ar rybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod.

Storm ddienw, 19 a 20 Chwefror 2021

Arweiniodd glaw trwm, eang ei wasgariad, at ddosbarthu llawer o rybuddion llifogydd negeseuon llifogydd – byddwch yn barod ledled Cymru. Cafwyd 127.6 mm o law yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y cyfnod, o gymharu â'r 98 mm o law a ddisgynnodd dros Dde Cymru ym mis Chwefror cyfan. Cafwyd llifogydd mewn adeiladau yng Nghrucywel a Chaerfyrddin, yr oedd llawer ohonynt eisoes wedi dioddef llifogydd yn sgil Storm Dennis yn gynnar yn 2020. Cafwyd gorchymyn i hebrwng pobl o adeiladau yng Nghastellnewydd Emlyn o ganlyniad i bryderon ynghylch y perygl llifogydd. Darparodd ein staff ymateb gweithredol mewn sawl lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys Abergwili lle mae llifddorau'n weithredol gennym er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd.

Cyhoeddi adolygiad llifogydd Chwefror 2020

Ar ôl gaeaf eithriadol o wlyb, cyrhaeddodd y glawiad a'r llifau afon mwyaf erioed yn sgil Storm Ciara, Storm Dennis a Storm Jorge ym mis Chwefror 2020, ac, o ganlyniad iddynt, achoswyd y digwyddiadau llifogydd mwyaf difrifol ac eang eu gwasgariad a welwyd yng Nghymru ers 1979. Cafodd y llifogydd effaith ar gyfanswm o 3,130 o adeiladau ledled Cymru.

Gwnaethom gynnal adolygiad sylweddol o'n hymateb i'r stormydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ein gweithrediadau rheoli digwyddiadau llifogydd a myfyrio ar sut y gellid addasu'r arferion cyfredol rydym yn eu mabwysiadu o ran rheoli ystâd tir CNC er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Cyhoeddwyd ein hymateb i Storm Ciara a Storm Dennis ar ein gwefan ym mis Hydref 2020. Rydym bellach yn gweithio ar ddatblygu'r camau gweithredu a gododd o'r adolygiadau, a bydd llawer o'r camau gweithredu yn arwain at waith yn y dyfodol dros y blynyddoedd ariannol nesaf.

Llifogydd mis Chwefror 2020 – ein hadferiad ein hunain

Mae adfer yn golygu delio â'r canlyniadau uniongyrchol a rhoi cynllun ar waith sy'n dychwelyd y sefydliad i sefyllfa ‘busnes fel arfer’ ar ôl y digwyddiad. Gwnaethom ymdrechu i fynd i'r afael ag effaith uniongyrchol stormydd mis Chwefror 2020 ar CNC, gan gynnwys atgyweirio difrod (atgyweiriadau brys a gwaith mwy parhaol sydd wedi’u gynllunio a’i raglennu i gael ei gyflawni'n ddiweddarach), adfer gweithrediadau, a sicrhau y gall staff a'r sefydliad ddychwelyd i weithio hyd eithaf eu gallu. Cyflawnwyd y gwaith hwn ochr yn ochr â'r ymateb parhaus ar lawr gwlad, yn ogystal â'r gwaith adolygu.

Fel rhan o'n gwaith adfer, gwnaethom arolygu 2,127 o amddiffynfeydd ac adeileddau llifogydd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i allu cynnig amddiffyniad, ac arolygu 170 o asedau risg uchel ar ystad tir CNC, megis pontydd. Cwblhawyd yr holl waith i'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd, yr ystyriwyd ei fod yn waith brys ac a oedd angen sylw uniongyrchol, i sicrhau bod gan gymunedau yr un lefel o amddiffyniad rhag llifogydd â chyn gaeaf 2019/20. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys atgyweirio ein hasedau llifogydd yn Abergele, Llanrwst, i fyny’r afon o bentref Llanfair Talhaearn ac oddi mewn iddo, Pont-hir, tref Brynbuga, ac afon Elwy i fyny’r afon o Lanelwy.

Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chymunedau yr  effeithiwyd arnynt, neu sydd yn y perygl mwyaf, i benderfynu a oes unrhyw atebion hirdymor eraill y gellir eu gweithredu. Fodd bynnag, mae'r rhain yn faterion mwy cymhleth, a bydd yn cymryd mwy o amser a buddsoddiad i fynd i'r afael â hwy. Mae hyn yn cynnwys adolygu opsiynau ar gyfer rhannau is afon Taf (o Bontypridd i Gaerdydd), sef gwaith sylweddol sydd wedi dechrau gydag adolygiad o'r gwaith modelu.  Mae hefyd yn cynnwys gwaith mewn lleoliadau fel Ystradmynach, Bedwas a Bangor Is-coed, ac ar amddiffynfeydd sydd wedi'u difrodi mewn lleoliadau yng Nghaerdydd.

Ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yn ystod y pandemig COVID-19

Er gwaethaf yr anawsterau a wynebwyd ar ddechrau'r pandemig COVID-19, gwnaethom lwyddo i ddarparu ein gwasanaethau darogan llifogydd, rhybuddion, ymateb gweithredol, ac adrodd ar ddigwyddiadau o hyd. Mae'r gwaith o ymateb i ddigwyddiadau llifogydd wedi parhau, o bell, drwy greu ystafelloedd digwyddiad rhithwir, y gwnaed hynny'n bosibl gyda thechnoleg wydn a thrwy drefniadau gweithio'n hyblyg. Mae ein gwasanaethau perygl llifogydd eraill hefyd wedi parhau drwy gydol y cyfnod hwn, gan weithredu o dan gyfyngiadau rheolau'r Llywodraeth ar weithio, a dechreuodd nifer sylweddol o'n staff weithio gartref drwy gydol 2020/21.

Deall perygl llifogydd a'i ddadansoddi

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl ymdrechion i gynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yng Nghymru, a hynny'n bennaf drwy ein gweithgareddau dadansoddi hydrolegol a modelu perygl llifogydd. Mae hefyd yn cynnwys sut ydym yn cyfleu'r perygl llifogydd hwnnw i randdeiliaid trwy ein cynhyrchion mapio llifogydd a'n gwasanaethau gwefan. Ei ddiben yw cynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd, llywio pob un o'n gweithgareddau eraill, a'u cyfarwyddo, ac i hysbysu ein rhanddeiliaid am eu perygl llifogydd perthnasol.

Mae gennym bwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, o'n cronfeydd dŵr, ac o'r môr. Mae gennym hefyd rôl trosolwg strategol gyda goruchwyliaeth gyffredinol dros bob mater sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn golygu cael dealltwriaeth gyson, ar draws Cymru gyfan, o bob ffynhonnell llifogydd ac erydu arfordirol, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw, er mwyn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yn ogystal â helpu i hysbysu'r Awdurdodau Rheoli Risg a'r cyhoedd. Fel rhan o'n rôl trosolwg strategol, rydym yn gwneud gwaith mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer pob ffynhonnell o berygl llifogydd.

Beth sydd mewn perygl o lifogydd?

Ym mis Ebrill 2021, mae 291,070 o adeiladau yng Nghymru, nad ydynt wedi'u hamddiffyn, mewn perygl o lifogydd. Gall rhai adeiladau fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell, a, gan osgoi cyfrif ddwywaith neu deirgwaith yr adeiladau sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog, amcangyfrifir bod 245,118 o adeiladau mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae'r tablau canlynol yn dangos dosbarthiad yr adeiladau fesul lefel perygl a ffynhonnell, ar sail ffigurau cywir ym mis Ebrill 2021.

Perygl llifogydd - disgrifiad Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Afonol uchel

21,958

2,670

508

25,136

Afonol canolig

14,936

2,020

326

17,282

Afonol isel

40,984

5,814

954

47,752

Cyfanswm afonol

77,878

10,504

1,788

90,170


Mae Tabl 1 yn dangos nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ffynonellau afonol.

Perygl llifogydd - disgrifiad Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Llanwol uchel

42,229

4,424

808

47,461

Llanwol canolig

11,764

1,835

318

13,917

Llanwol isel

8,288

1,154

222

9,664

Cyfanswm llanwol

62,281

7,413

1,348

71,042


Mae Tabl 2 yn dangos nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ffynonellau llanwol.

Perygl llifogydd - disgrifiad Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Glawog uchel

31,192

3,347

740

35,279

Glawog canolig

16,425

1,892

344

18,661

Glawog isel

68,113

6,428

1,377

75,918

Cyfanswm glawog

115,730

11,667

2,461

129,858


Mae Tabl 3 yn dangos nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ffynonellau glawog.

Cyhoeddi Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Gwnaethom lansio diweddariad i'n gwasanaeth mapio llifogydd ar-lein wrth gyhoeddi map Asesu Perygl Llifogydd Cymru ym mis Hydref 2020. Mae hwn yn asesiad risg cenedlaethol newydd ar gyfer llifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach sy'n ei gwneud yn bosibl dosbarthu lleoliadau yn ardaloedd â risg uchel, risg canolig a risg isel. Mae hefyd yn arddangos gwybodaeth ychwanegol, fel lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd ynghyd â'r buddion lleol a gyflwynir ganddynt. Gellir gweld y map Asesu Perygl Llifogydd Cymru ar wefan CNC ac mae'r data newydd hefyd ar gael ar wefan Lle Llywodraeth Cymru.

Mae Ffigur 1 yn dangos sgrinlun o fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Mae'r map yn dangos yr ardaloedd o Gaerdydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb, ynghyd â lefel y perygl hwnnw.

Datblygu Pecyn Offerynnau Economaidd Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Rydym wedi datblygu offeryn meddalwedd i archwilio effeithiau llifogydd ar gyfer senarios hinsawdd a thwf poblogaeth yn y dyfodol, a sut y gellir lliniaru'r effeithiau drwy amrediad o fesurau addasu. Bydd hyn yn llywio ein dealltwriaeth o beryglon y presennol a'r dyfodol, sut mae hyn yn cael ei liniaru gan amddiffynfeydd a mesurau rheoli perygl llifogydd eraill, a sut y gellir defnyddio addasiadau i wrthbwyso effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Datblygu a chyhoeddi Cofrestr Cymunedau mewn Perygl

Mae'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl yn ei gwneud yn bosibl meintioli lefel a dosbarthiad perygl llifogydd ledled Cymru gan ddefnyddio methodoleg safonol ar draws pob ffynhonnell llifogydd er mwyn cyfrifo sgôr ‘perygl’ ddamcaniaethol. Rydym yn ei defnyddio i'n helpu i flaenoriaethu ymyriadau rheoli perygl llifogydd, megis buddsoddi mewn cynlluniau newydd. Ym mis Hydref 2020, drwy wefan Lle Llywodraeth Cymru, gwnaethom drefnu bod yr offeryn hwn ar gael am y tro cyntaf. Rydym yn parhau i weithio i'w wneud yn hygyrch, a byddwn yn sicrhau ei fod ar gael drwy ein gwefan maes o law.

Cronfa Ddata Derbynyddion Genedlaethol

Mae Cronfa Ddata Derbynyddion Genedlaethol newydd wedi'i chreu fel rhan o brosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Mae'r Gronfa Ddata Derbynyddion Genedlaethol yn gasgliad o dderbynyddion risg, mewn eiddo preswyl a masnachol yn nodweddiadol, a fydd yn helpu awdurdodau rheoli risg i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Cyhoeddi Mapiau Cenedlaethol ar gyfer Perygl a Pheryglon Llifogydd

Cyhoeddwyd y Mapiau Cenedlaethol ar gyfer Perygl a Pheryglon Llifogydd er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 a Chyfarwyddeb yr UE (2007/60/EC), a chawsant eu defnyddio i lywio'r gwaith o lunio Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru.

Canllawiau ar newidiadau o ran lefel y môr

Rydym wedi cefnogi Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddiweddaru ei chanllawiau newid hinsawdd ar gyfer amcanestyniadau o gynnydd o ran lefel y môr yn y dyfodol. Cyflwynir lwfansau'r cynnydd o ran lefel y môr ar gyfer ardal weinyddol pob awdurdod lleol bellach, ac mae effaith y newid yn yr hinsawdd yn ddibynnol ar y lleoliad. Bydd yr wybodaeth ddiwygiedig hon yn ei gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth well o berygl yn y dyfodol ar y lefel leol, ac yn galluogi gwneuthurwyr penderfyniadau i benderfynu ar fesurau lliniaru priodol, a chynllunio ar eu cyfer, yn unol â hynny.

Gwelliannau i waith modelu lleol

Rydym wedi datblygu nifer o welliannau i waith modelu lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau i wella gwaith modelu yn y lleoliadau canlynol: Sanclêr, Tregaron, Abertawe, Afon Cynon, De Bae Tremadog, ac afon lanwol Dyfrdwy.

Rheoli asedau perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys pob gweithgaredd mewn perthynas â rheoli ein hasedau perygl llifogydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwaith cynnal a chadw adeileddau sydd eisoes yn bodoli a deall eu cyflwr, rheoli data asedau, a chynllunio ar gyfer gofynion gwaith yn y dyfodol. Ei ddiben yw sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol ac effeithlon, ceisio cyfleoedd i leihau perygl llifogydd drwy adeiladu asedau newydd, a sicrhau bod ein hasedau'n barod i berfformio fel y disgwylir yn ystod llifogydd, a bod y gallu ganddynt i wneud hynny.

Asedau newydd

O ganlyniad i gwblhau cynlluniau cyfalaf yng Nghrindai (Casnewydd) a Llwynypia (Rhondda Cynon Taf), mae 720 o adeiladau wedi elwa ar ostyngiad yn y lefel perygl llifogydd yn ystod 2020/21.

Ochr yn ochr â chwblhau'r cynlluniau hyn, mae gennym dros 20 o gynlluniau mawr ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn ystod 2020/21. Bydd y cynlluniau hyn yn gyfrifol am y mwyafrif o'n gwariant cyfalaf dros y blynyddoedd nesaf, ac maent yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Y Bala, Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Llangefni (Ynys Môn), Llanfair Talhaearn (Conwy), y Clas-ar-wy (Powys), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec (Sir Benfro), Rhydaman (Sir Gaerfyrddin), Pont Elái, Lecwydd (Caerdydd), a Stryd Stephenson, Llyswyry (Casnewydd).

Yn ogystal, mae 950 o adeiladau wedi elwa ar lefel barhaus o amddiffyniad o ganlyniad i waith cynnal a chadw cyfalaf. Mae hwn yn fuddsoddiad cyfalaf pwysig mewn asedau perygl llifogydd sydd eisoes yn bodoli, a hynny er mwyn cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad y maent yn eu darparu i'r cymunedau sy'n elwa arnynt. Fel rheol, mae angen y buddsoddiad er mwyn ymestyn neu gyflawni oes bywyd dylunio'r ased, ac mae fel arfer yn golygu gwaith atgyweirio ac adfer sylweddol ar adeileddau sydd eisoes yn bodoli.

Astudiaeth achos – cwblhau cynllun amddiffyn rhag llifogydd yng Nghrindai, Casnewydd

Cafodd y gwaith adeiladu ar gyfer cynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £14 miliwn ei gwblhau yn ardal Crindai, Casnewydd eleni, gyda mwy na 660 o adeiladau'n elwa ar lefel uwch o amddiffyniad o ganlyniad. Mae'r cynllun yn amddiffyn eiddo preswyl a busnesau lleol rhag y perygl o lifogydd llanwol a berir gan Bil Crindai Pwll ac afon Wysg. Mae'r cynllun yn cynnwys gwaith gosod dalennau cynnal, codi muriau newydd, a chodi argloddiau newydd ar hyd 2.6 cilomedr o'r afon. Lluniwyd y cynllun gyda'r newid yn yr hinsawdd a'r rhagolygon o gynnydd o ran lefel y môr mewn golwg, gan ei gwneud yn bosibl ei addasu yn ôl yr angen yn y dyfodol. Fel rhan o'r prosiect, gwnaed nifer o welliannau eraill er lles y gymuned – gan gynnwys llwybrau troed newydd, llwybrau beicio, mannau eistedd cyhoeddus, ardal amwynder newydd, a llwybr ffitrwydd i blant.

Mae Ffigur 2 yn dangos llun o'r llwybr ffitrwydd newydd i blant a gafodd ei greu fel rhan o Gynllun Lliniaru Llifogydd Crindai.

Rheoli asedau

Cynnal a chadw asedau

Rydym yn ymgymryd â rhaglen archwilio a chynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn addas i'r diben.

Erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2020/21, roedd 92.5% o'r archwiliadau ased arferol wedi'u cwblhau o gymharu â'r archwiliadau y cynlluniwyd eu cyflawni. Yn ystod yr archwiliadau hyn, canfuwyd bod 97.5% o'n hasedau llifogydd mewn systemau perygl llifogydd uchel yn perfformio ar eu cyflwr gofynnol, neu’n rhagori arno.

Ochr yn ochr â'n rhaglen cynnal a chadw rheolaidd, mae gennym nifer o brosiectau sy'n mynd rhagddynt i helpu i wella gwaith rheoli asedau o fewn CNC ac awdurdodau rheoli risg eraill.

Gwelliannau i AMX

Mae AMX (Asset Management eXpert) yn system rheoli asedau sy'n bodoli eisoes y mae CNC yn ei defnyddio. Y weledigaeth yw mai hon fydd y system ganolog ar gyfer yr holl ddata o asedau llifogydd, y byddwn yn ei defnyddio at ddibenion rheoli a chynnal a chadw asedau llifogydd er mwyn helpu gyda'r broses o wneud penderfyniadau. Bydd modd i amrediad eang o staff o bob rhan o'r busnes gyrchu'r wybodaeth a ddarperir drwy'r system hon, y bydd ganddynt oll lefelau gwahanol o ddiddordeb yn y data. Mae'r cam diweddaraf ym mhroses datblygu'r system wedi canolbwyntio ar ychwanegu asedau hydrometreg a thelemetreg, a chysylltu proses canfod diffygion er mwyn helpu i nodi ac amserlennu atgyweiriadau ad hoc.

Asedau aneconomaidd – adolygiad o orsafoedd pwmpio

Rydym wedi bod yn cynnal adolygiad o orsafoedd pwmpio a weithredir gan CNC er mwyn helpu i ddatblygu strategaeth reoli hirdymor ar gyfer yr asedau hyn. Rydym yn gweithredu ac yn cynnal a chadw 21 o orsafoedd pwmpio ledled Cymru ar hyn o bryd, a nod y prosiect hwn yw lleihau costau a charbon drwy ddatgomisiynu asedau mewn achosion lle mae'r costau'n gwrthwbwyso'r buddion yn sylweddol. Drwy gydol y prosiect, ein dymuniad yw gwella'n dealltwriaeth o ddull gweithredu'r gorsafoedd a'r buddion o ran rheoli perygl llifogydd y maent yn eu darparu i eiddo preswyl a masnachol. Byddwn yn parhau i weithredu gorsafoedd pwmpio lle gellir cynnal a chyfiawnhau buddsoddiad parhaus ar sail cymhareb gadarnhaol o ran y buddion a'r costau. Yn achos y rheiny lle mae'r costau'n gwrthbwyso'r buddion, byddwn yn archwilio'r opsiynau ar gyfer datgomisiynu neu drosglwyddo'r asedau hyn. Mae hwn yn brosiect parhaus.

Cronfa ddata o asedau cenedlaethol

Rydym yn gweithio tuag at gyflenwi Cronfa Ddata o Asedau Perygl Llifogydd cenedlaethol sy'n cynnwys data ar asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n eiddo i awdurdodau rheoli risg neu a ddynodir ganddynt. Hyd yn hyn, mae ein cronfa ddata (AMX) yn cynnwys gwybodaeth o CNC a gwybodaeth gychwynnol o Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, ond bydd angen gwneud gwaith pellach cyn y gellir ei defnyddio fel offeryn fwyfwy defnyddiol. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo, a disgwylir ei gwblhau erbyn diwedd 2021, yn unol â Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Adolygiad o waith rheoli asedau – prosiect dadansoddi bylchau

Mae gennym 9,000 o asedau a gynhelir sydd â'r brif swyddogaeth o leihau llifogydd ar gyfer pobl ac eiddo. Rydym yn cydnabod bod gwelliannau y gallem eu gwneud i'r ffordd yr ydym yn rheoli'n hasedau perygl llifogydd, ac rydym yn ceisio sefydlu safon sylfaenol y diwydiant fel y gallwn fod yn hyderus yn y ffordd yr ydym yn rheoli'n hasedau, a'u bod yn addas i'r diben. Rydym yn gweithio gyda'n hymgynghorwyr i gynnal adolygiad o arferion da ac asesiad o'n systemau presennol yn erbyn safonau'r diwydiant. Bwriad yr asesiad yw deall ein dull a'n systemau presennol o ran asedau rheoli perygl llifogydd, eu cymharu ag arferion da ac yn erbyn gofynion safonau'r diwydiant, a nodi meysydd i'w gwella. Bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu unrhyw gyfleoedd ar gyfer gwella yn y dyfodol.

Cronfeydd dŵr

Ni yw'r rheoleiddiwr ar gyfer cronfeydd dŵr yng Nghymru, a ni yw'r awdurdod o safbwynt cofrestru, sicrhau cydymffurfedd, a gorfodi'r 371 o gronfeydd dŵr ledled Cymru sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 a'r rheoliadau a diwygiadau cysylltiedig. Fel rhan o'r rôl reoliadol hon, rydym hefyd yn aelod o bwyllgor cronfeydd dŵr Sefydliad y Peirianwyr Sifil, sy'n cynghori llywodraethau ar briodoleddau peirianwyr yn unol â'r hyn sy'n ofynnol gan y sector hwn yn y DU. Rydym hefyd yn weithredwr cronfeydd dŵr (neu ‘ymgymerwr’ yn iaith y Ddeddf Cronfeydd Dŵr). Ceir disgrifiad o'r gweithgareddau allweddol sy'n rhan o'r ddwy rôl hyn yn yr adran hon.

Rôl rheoleiddio cronfeydd dŵr

CNC yw'r awdurdod gorfodi o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Dyma'r ddeddf sy'n pennu'r safonau gofynnol er mwyn sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr. Mae 371 o gronfeydd dŵr cofrestredig yng Nghymru, y mae 188 ohonynt wedi'u dynodi'n gronfeydd dŵr â risg uchel lle gallai methiant yr argae beryglu bywyd. Yn ystod 2021, gwnaethom ddynodi 37 o gronfeydd dŵr yn gronfeydd dŵr â risg uchel, dros dro, a gwnaethom gadarnhau nad oedd risg uchel yn perthyn i un gronfa ddŵr o dan y Ddeddf, gan ddefnyddio'r dystiolaeth a ddarparwyd gan fapiau llifogydd o gronfeydd dŵr.

Prosiect mapio cronfeydd dŵr

Rydym wedi datblygu ein prosiect mapio llifogydd i lunio mapiau llifogydd sy'n dangos graddfa llifogydd a'r peryglon a berir ganddynt o ganlyniad i fethiant cronfa ddŵr. Bydd yr wybodaeth hon yn ein galluogi i wella'n dealltwriaeth o beryglon llifogydd o gronfa ddŵr mewn senarios diwrnod sych a diwrnod gwlyb. Mae hyn yn darparu'r dystiolaeth ar gyfer ein dynodiadau risg ar gyfer cronfeydd dŵr, ac yn helpu i roi ffocws i'n gwaith rheoliadol. Bydd yn bosibl cyrchu mapiau drwy'r wefan Resilience Direct, a byddant yn darparu gwybodaeth cynllunio bwysig i ymatebwyr brys.

Datblygu ein rôl reoliadol

Rydym wedi adolygu graddau ein dyletswyddau o safbwynt cronfeydd dŵr ac rydym yn herio ein hunain o ran yr hyn y dylem ei wneud fel rheoleiddiwr. Rydym yn gweithio ar addasu ein dull er mwyn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau mwy o safbwynt diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru, y tu hwnt i'r rheiny sy'n ofynnol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Caiff gwaith pellach ei wneud ynglŷn â hyn yn ystod 2021/22, sydd wedi’i ddylanwadu gan yr  adolygiad o ddiogelwch cronfeydd dŵr o ganlyniad i'r digwyddiad Toddbrook yn Lloegr Independent Reservoir Safety Review Report (publishing.service.gov.uk).

Prosiect ‘potensial’

Rydym yn chwilio'n weithredol am gronfeydd dŵr nad ydynt wedi'u cofrestru ond y mae'n ofynnol i ni eu rheoleiddio. O ganlyniad i'n hymchwiliadau rydym wedi nodi cyforgronfeydd dŵr mawr, ychwanegol, yr ydym yn trefnu iddynt gael eu cofrestru a'u cynnwys yn y prosiect mapio llifogydd o gronfeydd dŵr. Drwy nodi cronfeydd dŵr fel y rhain, gallwn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd briodol er mwyn lleihau'r perygl i'r gymdeithas.

Cronfeydd dŵr di-berchennog

Gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, rydym yn gwneud gwaith ar ddwy gronfa ddŵr yng Nghymru ar hyn o bryd lle nad yw perchennog y gronfa ddŵr yn hysbys. Llyn Cae Conroy ac Argae Cwm Clydach yw'r cronfeydd dŵr hyn. Mae gwaith mapio peryglon cronfeydd dŵr yn y ddwy gronfa ddŵr hyn yn dangos y câi bywyd i lawr yr afon ei beryglu pe byddai dŵr yn gollwng o'r cronfeydd dŵr allan o reolaeth. Mae gwaith i wneud y cronfeydd dŵr yn ddiogel wedi dechrau, a disgwylir ei gwblhau yn ystod 2021/22.

Gorfodi cronfeydd dŵr

Mewn achosion lle mae perchennog neu weithredwr cronfa ddŵr yn methu â chydymffurfio â'r gyfraith, mae gennym bwerau gorfodi i sicrhau yr eir i'r afael â materion sy'n ymwneud â diogelwch. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd hysbysiadau gorfodi yn weithredol gennym ar gyfer tair cronfa ddŵr. Ar un o'r safleoedd hyn, mae methiant yr ymgymerwr i gymryd camau gweithredu i ddatgomisiynu'r gronfa ddŵr wedi'n hysgogi i ddatblygu cynllun ar gyfer lleihau lefel y dŵr er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnal ymchwiliad i bennu faint o waith sydd angen ei wneud.

Digwyddiadau mewn cronfeydd dŵr

Gwnaethom gofnodi digwyddiadau'n ymwneud â diogelwch ar safleoedd pum cronfa ddŵr yn ystod y flwyddyn. Ymatebodd perchnogion y cronfeydd dŵr i'r digwyddiadau hyn yn dda gyda chyngor gan eu peirianwyr cynghorol. Yn ystod un o'r digwyddiadau, cynorthwyodd ein tîm maes drwy ddarparu pwmp dros dro i ategu'r adnoddau eraill a ddarparwyd gan yr ymgymerwr a'r gwasanaethau brys. Ni wnaeth unrhyw un o'r digwyddiadau arwain at fethiant cronfa ddŵr, a bu angen cymryd camau adferol er mwyn diogelu rhag digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Rôl ymgymerwr cronfa ddŵr

Mae gennym 13 o gronfeydd dŵr sydd wedi'u dynodi at ddibenion rheoli perygl llifogydd sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Ar ddiwedd mis Mawrth 2021, nid oedd dwy o'n cronfeydd dŵr rheoli perygl llifogydd yn cydymffurfio â gofynion y ddeddf. Ar un achlysur, roedd hyn o ganlyniad i fethu ag ymweld ag ardal storio dŵr llifogydd yn ystod digwyddiadau cronni dŵr oherwydd bod yr adnodd fyddai wedi gwneud hynny yn ymateb i ddigwyddiadau llifogydd afonol eang eu gwasgariad. Mae staff ychwanegol wedi derbyn hyfforddiant bellach er mwyn cyflawni'r rôl hon yn y dyfodol. Mae'r ail achlysur yn ymwneud â sefydlu glaswellt newydd ei hau o ganlyniad i brosiect adeiladu y disgwyliwn iddo gael ei ddatrys erbyn haf 2021. Rydym yn mynd i'r afael ag unrhyw fylchau drwy ein rhaglen waith o welliannau i gronfeydd dŵr.

Gwelliannau i gronfeydd dŵr o safbwynt rheoli perygl llifogydd

Rydym wedi datblygu rhaglen o welliannau i gronfeydd dŵr er mwyn sicrhau bod ein cronfeydd dŵr yn ddiogel ac yn addas i'w diben o ran rheoli perygl llifogydd. Rydym wedi cwblhau gwaith atgyweirio sylweddol ar arglawdd o fewn cynllun lliniaru llifogydd Dyffryn Conwy, a chwblhau'r gwaith dylunio manwl ar gyfer y gwelliannau sylweddol y mae angen eu gwneud ar gyfer Llyn Tegid, y cânt eu cyflawni o haf 2021 ymlaen. Gwnaethom hefyd gwblhau arolygon ac astudiaethau yr oedd yn ofynnol eu cynnal yn yr adroddiadau arolygu diwethaf, a hynny yng Nghynllun Lliniaru Llifogydd y Bont-faen a Llanfleiddan, ac Ardal Storio Dŵr Llifogydd Frampton.

Cynghori cynllunwyr, gwaith cydsynio a gwaith gorfodi

Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â phob cyngor yn ôl disgresiwn a phob cyngor statudol mewn perthynas â pherygl llifogydd a'n rôl fel ymgynghorai o fewn y broses gynllunio. Y nod yw rhoi cyngor effeithiol er mwyn dylanwadu ar ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a'i reoli, gan atal mwy o bobl ac eiddo rhag bod yn agored i berygl cynyddol o lifogydd. Mae hefyd yn cynnwys ein trefniadau trwyddedu. Gyda'i gilydd, nod y rolau hyn yw rheoli datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a gweithgareddau perygl llifogydd mewn prif afonydd neu o'u cwmpas.  Rydym hefyd yn cymryd camau gorfodi mewn achosion lle gallai gweithgareddau perygl llifogydd achosi perygl llifogydd neu ei waethygu.

Cyngor ar gynllunio datblygiadau

Rydym yn ymgynghorai statudol ar berygl llifogydd ar gyfer pob cynnig o fewn Parth Llifogydd C2 (ardaloedd heb amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd), ac ar gyfer datblygiadau sy'n agored iawn i niwed a datblygiadau gwasanaethau brys ym Mharth Llifogydd C1 (ardaloedd gydag amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd). Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cyngor wedi helpu i atal datblygiadau amhriodol rhag cael eu cymeradwyo mewn lleoliadau lle byddai'r perygl o lifogydd yn anodd ei reoli. Mewn achosion lle mae datblygiadau wedi'u caniatáu er gwaethaf y perygl llifogydd, rydym wedi darparu cyngor ar fesurau atal llifogydd a mesurau gwydnwch llifogydd y gellid eu hymgorffori er mwyn helpu i leihau'r perygl yn awr ac yn y dyfodol.

Diweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15)

Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i gefnogi diwygiadau i'w polisi cynllunio (Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol) fel y gellir gwneud penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol ar sail yr wybodaeth orau sydd ar gael. Rydym wedi darparu cyngor i sicrhau bod y polisi terfynol yn hybu proses o wneud penderfyniadau cynaliadwy, gan ystyried effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, sydd wedi'i halinio â strategaethau eraill a deddfwriaeth. Disgwylir cyhoeddi'r Nodyn Cyngor Technegol 15 diweddaredig yn ystod mis Medi 2021.

Rheoleiddio gweithgarwch perygl llifogydd

Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau a gyflawnir ar brif afonydd, neu'n agos atynt, ar adeileddau amddiffyn rhag llifogydd, neu'n agos atynt (gan gynnwys amddiffynfeydd morol), neu o fewn gorlifdir, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Rydym yn gwneud hyn drwy roi trwydded gweithgarwch perygl llifogydd er mwyn sicrhau nad yw'r gweithgaredd yn achosi unrhyw gynnydd yn y perygl llifogydd, cael effaith niweidiol ar ddraenio tir yn yr ardal, neu'n achosi difrod amgylcheddol i'r amgylchedd, pysgodfeydd, neu fywyd gwyllt lleol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethom gyflwyno 214 o drwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd ledled Cymru.

Astudiaeth achos gorfodi: ffensys didrwydded ar hyd arglawdd afon Dyfrdwy

Cawsom wybod am dirfeddiannwr a gododd ffens 1.7 cilomedr ar hyd brig arglawdd ar afon Dyfrdwy, a hynny heb drwydded gweithgarwch perygl llifogydd. Cyfyngodd y ffens ar ein mynediad o ran cyflawni gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar yr amddiffynfa, a gallai gael effaith ar sefydlogrwydd yr amddiffynfa gan beri cynyddu'r perygl llifogydd i ardal fawr o Sealand. Gwnaethom gyflwyno hysbysiad adfer i'r tirfeddiannwr gan ei gwneud yn ofynnol iddo dynnu'r ffens ac adfer y difrod a achoswyd. Cyflawnodd y tirfeddiannwr y gwaith o dynnu'r ffens, a daethom i gytundeb a olygodd y gellid ei ail-godi rhywle arall.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir ein gwasanaeth darogan llifogydd a'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i'r cyhoedd ac i bartneriaid proffesiynol. Ei ddiben yw darparu rhybuddion a gwybodaeth effeithiol i bobl mewn perygl o lifogydd, gan eu galluogi i gymryd camau uniongyrchol i warchod bywyd ac eiddo cyn digwyddiad llifogydd.

Mae'n cynnwys canfod a darogan llifogydd mewn amser real (cyn digwyddiadau llifogydd ac wrth iddynt ddigwydd), cyhoeddi rhybuddion llifogydd i'r bobl hynny sydd mewn perygl uniongyrchol, a darparu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf a rhybuddion sydd mewn grym, a hynny drwy ein gwefan, Floodline, a'n porth data byw.

Mae ein timau'n cyflawni'r gwaith o gynllunio a pharatoi'r gwasanaethau hyn cyn digwyddiad llifogydd, gan gynnwys data, systemau, gweithdrefnau gweithredol, hyfforddi'r staff sydd ar ddyletswydd, a rheoli rotâu dyletswyddau. Darperir y gwasanaethau drwy nifer o rotâu swyddogion arbenigol ar ddyletswydd, gan ddefnyddio staff o'n timau. Mae ein swyddogion ar ddyletswydd ar alwad 24/7 bob diwrnod o'r flwyddyn, ac maent yn barod i ymateb i lifogydd posibl a llifogydd gwirioneddol ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21

Amlygir perygl llifogydd uwch drwy'r Datganiad Canllawiau Llifogydd sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol dros bum niwrnod i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd datblygol. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy perygl llifogydd pum diwrnod ar gyfer Cymru. O fis Ebrill 2020 hyd at fis Mawrth 2021, cafwyd perygl llifogydd uwch ar 153 diwrnod (effeithiau rhagolwg mân ac uwch), ac, o blith y rheiny, cafwyd perygl llifogydd dwys ar 39 diwrnod (effeithiau rhagolwg sylweddol ac uwch). Mae Adran 2 o'r adroddiad hwn yn amlygu'r prif stormydd a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn a arweiniodd at berygl llifogydd uwch a'r effeithiau cysylltiedig.

Gwnaethom ddosbarthu 596 o negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, 195 o rybuddion llifogydd, a dau rybudd llifogydd difrifol yn ystod 2020/21 mewn ymateb i'r perygl o lifogydd. Derbyniodd yr asiantau llifogydd 1,057 o alwadau ffôn a bu dros 730,000 o ymweliadau â'n gwefan rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod. Digwyddodd y rhan fwyaf o'r ymweliadau yn ystod mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021, a derbyniwyd ychydig o dan hanner cyfanswm yr ymweliadau (364,000) yn ystod y misoedd hyn.

Mae Ffigur 3 yn dangos nifer y negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, rhybuddion llifogydd, a rhybuddion llifogydd difrifol a gyhoeddwyd yn ystod pob mis o flwyddyn ariannol 2020/21.

Mae dadansoddiad o nifer y negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, rhybuddion llifogydd, a rhybuddion llifogydd difrifol a gyhoeddwyd yn ystod pob mis yn dangos tuedd gyffredinol o gynnydd yn y rhifau hyd at y lefel uchaf ym mis Rhagfyr 2020 ac yna tuedd gyffredinol o leihad hyd at fis Mawrth 2021.

Gwasanaeth rhybuddio am lifogydd a gwasanaeth darogan llifogydd

Rhybuddion llifogydd a rhagolygon llifogydd pum niwrnod

Gwnaethom gyflwyno gwasanaethau digidol newydd er mwyn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am berygl llifogydd a rhybuddion llifogydd i gartrefi, busnesau a chymunedau yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2020. Mae'r rhagolwg llifogydd dyddiol ar gyfer cyfnod o bum niwrnod yn darparu gwybodaeth gliriach, gan gynnwys map mwy, crynodeb o'r perygl llifogydd ar gyfer Cymru a  gwybodaeth gliriach am y camau i'w cymryd ar gyfer pob lefel o berygl llifogydd.

Mae ein gwasanaeth newydd ar gyfer cyhoeddi rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd - byddwch yn barod yn cynnwys offeryn chwilio (e.e. fesul cod post), ac mae'n arddangos gwybodaeth mewn ffordd sy'n gyflymach a rhwyddach i ddefnyddwyr ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnynt, ac yn darparu nodweddion map rhyngweithiol, a gwybodaeth fanwl am bob ardal sy'n destun rhybudd llifogydd a neges llifogydd - byddwch yn barod, gan gynnwys cysylltiadau uniongyrchol i wasanaethau cysylltiedig fel ‘ymgofrestru i gael rhybuddion llifogydd uniongyrchol’ a gwybodaeth am lefelau afonydd lleol.

Mae Ffigur 4 yn sgrinlun o'r adran o'n gwefan, sydd wedi'i gwella, ar rybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod. Mae'r llun yn dangos y rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a oedd mewn grym yn Sir Gaerfyrddin am 20.58pm ar 21 Ionawr 2021.

Dyma sgrinlun o'r adran o'n gwefan, sydd wedi'i gwella, ar rybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod. Mae'r llun yn dangos y rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a oedd mewn grym yn Sir Gaerfyrddin am 20.58pm ar 21 Ionawr 2021.

Nifer yr adeiladau sydd wedi'u cofrestru i gael Rhybuddion am Lifogydd

Rydym yn cyhoeddi tri math o rybudd llifogydd drwy ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, sef negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, rhybuddion llifogydd, a rhybuddion llifogydd difrifol. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu'n uniongyrchol i'r bobl hynny sydd mewn perygl, a gellir ei chael drwy ein gwasanaeth gwybodaeth neilltuedig, Floodline (0345 988 1188), ac ar ein gwefan (sy'n cael ei diweddaru pob 15 munud). Ym mis Mawrth 2021, roedd52,011 o adeiladau wedi'u cofrestru i gael rhybuddion am lifogydd drwy'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd. Ategir hyn gan y fenter Rhybuddion Uniongyrchol Estynedig, sy'n golygu bod cyfanswm o 132,581 o adeiladau wedi'u cofrestru i gael y gwasanaeth rhybuddio am lifogydd yng Nghymru.

Rhybuddion Uniongyrchol Estynedig

O'r holl adeiladau mewn perygl a allai gael rhybuddion llifogydd yng Nghymru, mae tua 40% ohonynt wedi cofrestru i gael rhybuddion am lifogydd. Er mwyn cynyddu nifer yr adeiladau sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn, rydym wedi parhau i weithio gyda'r prif ddarparwyr telathrebu (BT, EE, O2, Three a Vodafone) i ddarparu rhybuddion i bobl mewn perygl o lifogydd, nad ydynt wedi ymgofrestru â'r gwasanaeth, drwy gofrestru eu rhifau ffôn â'r gwasanaeth ymlaen llaw. Mae'n golygu y gallwn hefyd anfon ein rhybuddion i bron pob un o'r adeiladau sy'n weddill yng Nghymru lle bynnag y mae gwasanaeth rhybuddio ar gael. Drwy'r fenter hon, mae 80,570 o adeiladau ychwanegol bellach yn derbyn ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, a hynny ar ben y 52,011 sydd wedi'u cofrestru’n uniongyrchol.

Adolygu'r Gwasanaeth Rhybuddio am Lifogydd

Eleni, gwnaethom gymeradwyo adolygiad cynhwysfawr o'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd a ddarparodd gynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer cyflenwi gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, yn seiliedig ar risg, cyson ar lefel genedlaethol, ac sy'n cefnogi ein nodau corfforaethol wrth fod yn effeithlon a darparu gwerth am arian. Gwnaed 83 o argymhellion o ganlyniad i'r adolygiad gwasanaeth, y cânt eu datblygu ymhellach a'u cyflawni dros y blynyddoedd i ddod, yn dilyn asesiad ohonynt yn erbyn argymhellion Adolygiad o Lifogydd mis Chwefror 2020 ac Adolygiad Arfordirol 2014, a hynny drwy gyfres o brosiectau allweddol.

Creu tîm Rhybuddio a Hysbysu am Lifogydd newydd

Cafodd y tîm Rhybuddio a Hysbysu am Lifogydd cenedlaethol ei greu i ddarparu gwasanaeth rhybuddio a hysbysu am lifogydd yng Nghymru ac i sicrhau bod y gallu gennym, fel sefydliad, i gefnogi ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd a'n gwasanaethau digidol. Bydd y tîm yn gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth, gan gynnwys y gwersi a ddysgwyd o'r adolygiad o lifogydd mis Chwefror 2020 a'r adolygiad o'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd. Caiff gwelliannau a ffyrdd newydd o weithio eu cyflwyno gyda'r nod o wella gwaith partneriaeth o fewn CNC a hefyd gyda sefydliadau allanol fel Asiantaeth yr Amgylchedd, er mwyn sicrhau bod unrhyw system rhybuddio am lifogydd newydd yn wydn, yn diwallu anghenion cwsmeriaid, ac yn cadw i fyny â newidiadau technolegol.

Gwelliannau i'r gwasanaeth darogan llifogydd

Yn sgil y llifogydd sylweddol ym mis Chwefror 2020, cafodd y modelau darogan llifogydd presennol eu hadolygu a'u hailraddnodi, a chyflwynwyd lleoliadau darogan arfordirol ac afonol newydd ar gyfer cymunedau mewn perygl o lifogydd. Mae'r gwaith hwn yn gwella ein gallu i ddarparu rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod amserol a manwl gywir, ac mae hefyd yn llywio'r asesiad perygl llifogydd ar gyfer y pum niwrnod canlynol yn y datganiad canllawiau llifogydd.

Gwasanaeth Darogan Ar-lein

Rydym yn gweithio i wneud gwelliannau i'r system rydym yn ei defnyddio i rannu data a chynhyrchion darogan llifogydd yn fewnol â Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybudd Llifogydd. Enw'r system hon yw'r Gwasanaeth Darogan Ar-lein. Mae gwybodaeth darogan llifogydd yn helpu ein Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybudd Llifogydd i wneud penderfyniadau ynghylch cyhoeddi rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, gan wella dealltwriaeth o berygl llifogydd a gwella'r amser arwain a manwl gywirdeb. Bydd y gwelliannau i'r system yn ei gwneud yn fwy hwylus i swyddogion ar ddyletswydd gyrchu gwybodaeth a'i dehongli, gan arwain at ddefnydd gwell o'r data darogan.

Darparu gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg sy'n casglu, dadansoddi ac yn adrodd ar ddata sy'n sail i amrediad o wasanaethau rheoli llifogydd a dŵr ar draws CNC. Mae hyn yn cynnwys gwaith modelu a mapio perygl llifogydd, gwaith arfarnu a dylunio cynlluniau perygl (safonau diogelu), diogelwch cronfeydd dŵr, darogan a rhybuddio am lifogydd, rheoleiddio afonydd, a chynnal asesiadau ôl-lifogydd o safbwynt swm y glawiad, lefelau afonydd a gofnodwyd, a'u difrifoldeb (e.e. yn ôl trefn hanesyddol neu'r cyfnod rhwng digwyddiadau).

Yn ogystal â chasglu, prosesu ac archifo'r data hwn ar gyfer CNC, mae'r maes gwaith hwn hefyd yn adrodd ar y data ac yn ei rannu â chwsmeriaid mewnol ac allanol drwy ymholiadau penodol am ddata, trosglwyddo data, a darparu gwasanaethau digidol ar ein gwefan, gan gynnwys ein gwasanaeth byw, Lefelau Afonydd, Glawiad a Data Môr, a'r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau cysylltiedig sy'n ei gwneud yn bosibl i drydydd partïon gyrchu ein data ar gyfer ei ddefnyddio eu hunain neu ei ailgyflwyno, e.e. drwy apiau symudol neu wefannau eraill.

Rhwydwaith hydrometreg

Mae'r rhwydwaith hydrometreg ledled Cymru yn cynnwys 253 o fesuryddion glaw, 340 o safleoedd mesur lefel neu lif afonydd, a 139 o safleoedd mesur dŵr daear.

Mae Ffigur 5 yn dangos map o leoliadau'r safleoedd hydrometreg ar draws ein rhwydwaith o safleoedd mesur dŵr, mesuryddion glaw, a safleoedd mesur lefel neu lif afonydd. Roedd y data hwn yn gywir ym mis Mawrth 2021.

Gwelliannau i'r rhwydwaith hydrometreg a gyflawnwyd yn ystod 2020/21

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu'r gwaith o wella'r rhwydwaith hydrometreg yn eithriadol o heriol oherwydd cyfyngiadau symud, cyfyngiadau ar deithio, a mesurau cadw pellter cymdeithasol. Bu'n bosibl i ni symud gwaith yn ei flaen mewn rhai ardaloedd drwy gynllunio gosodiadau a phrynu offer yn barod i'w osod yn ddiweddarach, a hefyd drwy gyflwyno tri mesurydd glaw ychwanegol i'r rhwydwaith.

Yn ogystal, cafodd nifer fach o brosiectau cynnal a chadw eu cwblhau ar gyfer ein hasedau hydrometreg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel a ganlyn, er mwyn sicrhau y gall yr asedau barhau i gasglu data i'r safonau gofynnol:

  • Gwnaed gwaith ar afon Ieithon yn Niserth i wella llwybr pysgod a llyswennod drwy adnewyddu ein cored ynghyd â gwella mynediad i'r sianel er mwyn ein helpu i gyflawni gwaith yn y lleoliad hwn.
  • Gwnaed atgyweiriadau i'r orsaf fesur ar afon Teifi yn Llanfair yn sgil y difrod a achoswyd gan ddigwyddiadau llifogydd yn ystod gaeaf 2019/20. Golygodd hyn wneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol a gosod pibellau llonyddu rhwng adeilad yr orsaf a'r afon.

Gwasanaeth Lefelau Afonydd, Glawiad a Data Môr

Ym mis Medi 2020, gwnaethom lansio ein gwasanaeth Lefelau Afonydd, Glawiad a Data Môr ar ein gwefan yn lle'r gwasanaeth Gwirio lefelau afonydd a fodolai eisoes. Mae'r gwasanaeth newydd yn darparu data byw o 400 a mwy o orsafoedd monitro ledled Cymru. Mae hefyd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer defnyddwyr hamdden ar afonydd, fel genweirwyr a phobl sydd â diddordeb mewn gweithgareddau dŵr, y maent yn dibynnu ar ddata cyfredol ar lefelau afonydd er mwyn cynllunio'u gweithgareddau. Mae'r gwelliannau yn cynnwys cynnig data glawiad a data môr am y tro cyntaf, gwelliant o safbwynt ymarferoldeb, setiau data mwy, gwelliant o ran cydnawsedd dyfeisiau symudol, a phrofiad gwell i ddefnyddwyr oherwydd ei bod yn gyflymach ac yn rhwyddach i lywio rhwng y rhannau o'r wefan sy'n ymwneud â rhybuddion llifogydd sydd mewn grym, a lefelau dŵr yn yr ardal sy'n destun rhybudd llifogydd, neu'n agos ati.

Mae Ffigur 6 yn dangos sgrinlun o'r adran o'r wefan sydd wedi'i gwella ar lefelau afonydd, glawiad a data môr.

Mae'r llun hwn yn dangos lefel afon Dyfrdwy yn Manley Hall am 08.05am ar 21 Ionawr 2021. Mae trywydd lefel yr afon yn dangos bod lefel afon Dyfrdwy yn dechrau gostwng ar ôl cyrraedd ei brig.

Map trywydd hydroleg llifogydd y DU

Hydroleg yw'r wyddor sy'n ymwneud ag olrhain llwybr dŵr o'r awyr i'r môr. Yn achos llifogydd, rydym yn defnyddio hydroleg i drosi glawiad ac eira yn llifau at ddibenion darogan, i amcangyfrif perygl llifogydd hirdymor, ac i bennu safonau dylunio ar gyfer ein hasedau. Mae hydroleg yn sail i'n holl waith perygl llifogydd mewndirol ac felly mae'n bwysig bod gennym weledigaeth ar gyfer y dyfodol o safbwynt hydroleg llifogydd. Rydym yn rhan o grŵp llywio Hydroleg Llifogydd y DU sy'n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, y Llywodraeth, diwydiant, a'r byd academaidd, ac sydd wedi cydweithio i ddatblygu gweledigaeth o safbwynt map trywydd hydroleg a rhaglen gyflawni dros y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod methodolegau, safonau, offerynnau, a gwasanaethau data sy'n ymwneud â hydroleg llifogydd yn addas ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ar gyfer ymdrin â hinsawdd sy’n newid ynghyd â chyfundrefnau llif afon mwy eithafol, y maent eisoes wedi dechrau dod i'r amlwg a chael eu cofnodi.

Hydro-geomorffoleg

Mae hydro-geomorffoleg yn ymwneud ag astudio tirffurfiau a nodweddion afonydd a achosir gan ddŵr. Drwy gydol y flwyddyn hon, rydym wedi darparu cymorth i sicrhau bod trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd yn cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ac rydym wedi rhoi cyngor arbenigol ar effaith gwaith yn yr afon a wnaed heb ganiatâd. Rydym hefyd wedi darparu cyngor arbenigol ar brosiectau adfer afonydd ledled Cymru.

Gwydnwch ac ymgysylltu cymunedol

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau gwydnwch ac ymgysylltu cymunedol i gymunedau mewn perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'n cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i'r bobl hynny sydd mewn perygl o lifogydd o safbwynt y camau ymarferol y gallant eu cymryd i baratoi yn well cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd. Rydym yn darparu'r cyngor hwn yn ddigidol drwy ein gwefan ac yn uniongyrchol i gymunedau, gan gynnwys darparu templedi o gynlluniau llifogydd er mwyn iddynt eu defnyddio, a hwyluso  digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a'r arferion gorau.

Adolygiad o Ymgysylltu â Chymunedau Llifogydd

Er mwyn ceisio dod o hyd i opsiynau sy'n hybu'r rôl ‘alluogi’ y mae CNC yn dymuno'i chyflawni o ran ymgysylltu â chymunedau a'r cyhoedd sydd mewn perygl o lifogydd, gwnaethom gynnal adolygiad o'n gwaith ymgysylltu â chymunedau llifogydd er mwyn penderfynu ym mha feysydd y gallem gyflawni'r canlyniadau gorau o fewn ein cylch gwaith a gyda'n sgiliau a'n hadnoddau, ynghyd â cheisio cyfleoedd gwell ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill. Cwblhawyd yr adolygiad ym mis Medi 2020, ac fe ddaeth i'r casgliad y dylem gryfhau ein rôl alluogi yn y maes hwn. Byddwn yn parhau i gynghori, cefnogi a chyfeirio'r cyhoedd mewn perygl o lifogydd er mwyn iddynt ddod yn fwy gwydn, a byddwn yn gweithio i ymgorffori'r opsiynau a nodwyd yn yr adolygiad er mwyn gwella ein gwasanaeth.   

Gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol

Rydym yn cefnogi rhwydwaith o 409 o wirfoddolwyr llifogydd cymunedol ledled Cymru drwy hwyluso a chyflwyno digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn cefnogi cymunedau mewn perygl o lifogydd. Lle na fu hyn yn bosibl yn sgil cyfyngiadau COVID-19, gwnaethom lunio'r cylchlythyr “Flooding Matters” chwarterol, sydd wedi dod yn rhan o'n cymorth parhaus i wirfoddolwyr, ynghyd â digwyddiadau wyneb yn wyneb. Mae nifer y tanysgrifwyr wedi cynyddu o 791 (Rhifyn 1) i 2,145 (Rhifyn 4, Mawrth 2021). Mae'r cylchlythyr wedi cynnwys negeseuon gan y rhwydwaith a chamau ataliol.

Cynlluniau llifogydd cymunedol

Rydym wedi canolbwyntio ar gynnal y 76 cynllun llifogydd cymunedol sydd ar waith ar hyn o bryd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn gwasanaethu'r cymunedau sy'n berchen arnynt ac yn eu defnyddio. Rydym hefyd wedi datblygu haen Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol ar gynlluniau llifogydd cymunedol, a fydd yn ein galluogi i wella gwaith adrodd a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â'r cynlluniau llifogydd a'r rhwydwaith o wirfoddolwyr.

Mae Ffigur 7 yn dangos nifer a lleoliad cynlluniau llifogydd cymunedol ledled Cymru.

Tudalen Facebook ar gyfer gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol

Rydym wedi cynnal y dudalen Facebook ar gyfer gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol, a chynnwys negeseuon mwy rhagweithiol. Er enghraifft, pan fo'r Datganiad Canllawiau Llifogydd yn dangos bod perygl uwch o lifogydd, rydym yn rhoi gwybod i'r rhwydwaith o wirfoddolwyr am y peryglon a'r effeithiau posibl. Gwneir hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau llifogydd posibl fel y gall y rhwydwaith baratoi, a chymryd camau gweithredu yn gynharach yn yr ymateb i'r llifogydd posibl.

Templedi o gynlluniau llifogydd cymunedol

Gwnaethom gyhoeddi'r arolwg ‘Dweud eich dweud am y templed ar gyfer cynlluniau llifogydd cymunedol’ ar ein gwefan, gan ddefnyddio offeryn arolygon newydd CNC, sef Citizen Space. Gwnaethom gasglu barnau gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol ac ennyn eu cyfranogiad i'r gwaith o ddatblygu fersiwn gyson ddiweddaredig, gyda'r nod o annog aelodau'r cyhoedd i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio gyda'u cymunedau.

Ein gwefan a hygyrchedd

Rydym wedi cynnal archwiliad o gynnwys y wefan o safbwynt y ein cyngor ar lifogydd sydd ar gael yn gyhoeddus, a gwella cynnwys a hygyrchedd ein gwybodaeth ddigidol a'n cyfeiriadau at sefydliadau eraill a all helpu. Edrychwyd ar ein gwefannau ar yr hyn i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd a sut i baratoi eich cartref, busnes neu fferm ar gyfer llifogydd 4,052 o weithiau eleni. Mae hyn yn cynnwys 591 o ddolenni a agorwyd, a 498 o lawrlwythiadau o'n gwefannau.

Gwaith rheoli perygl llifogydd cynaliadwy yn wyneb newid arfordirol

Mae ardaloedd arfordirol yng Nghymru yn wynebu heriau o du'r perygl o lifogydd o'r môr, a newidiadau ffisegol parhaus yn yr amgylchedd arfordirol dynamig, sydd eisoes yn bodoli, ond hefyd o du'r pwysau eithafol y mae'r newid yn yr hinsawdd yn debygol o'u rhoi ar gymunedau arfordirol wrth i ni edrych tuag at y dyfodol. Mae CNC yn chwarae rhan bwysig o ran rheoli asedau perygl llifogydd yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynllunio ar gyfer newidiadau yn y dyfodol ynghyd â'r gofynion i addasu dros yr hirdymor.

Cynllunio addasu arfordirol

Yn wyneb lefelau'r môr yn codi a rheoli perygl llifogydd arfordirol, mae angen i ni adolygu a gwneud cynlluniau ar gyfer ardaloedd arfordirol yn barhaus, gan ddatblygu opsiynau a strategaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy dros y tymor byr, canolig a hir. Mae ystod o safleoedd arfordirol wedi'u dethol ar gyfer eu hasesu ar sail ffactorau sy'n cynnwys y canlynol:

  • Tystiolaeth o asedau sy'n methu o ganlyniad i archwiliadau ac ymchwiliadau;
  • Ardaloedd sy'n wynebu newidiadau polisi o ran Cynllun Rheoli Traethlin 2;
  • Argymhellion a wneir mewn strategaethau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd;
  • Trefn flaenoriaethu gan ddefnyddio ein Cofrestr Cymunedau mewn Perygl;
  • Astudiaethau o gostau gwaith cynnal a chadw ar asedau rheoli perygl llifogydd o'u cymharu ag asesiadau o fuddion perygl llifogydd;
  • Sgrinio ar gyfer y posibilrwydd o greu cynefinoedd rhynglanwol.

Mae'r asesiadau hyn gyfystyr â'r cam cyntaf yn y broses o gynllunio ar gyfer newid arfordirol, ac maent wedi'u halinio'n agos â chyflawni canlyniadau ar gyfer llesiant (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol) a chefnogi blaenoriaethau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (Deddf Amgylchedd (Cymru)). Bydd pob un o'r prosiectau hyn yn cymryd amser i'w cyflawni, ac felly maent yn feysydd gwaith sy'n mynd rhagddynt.

Beth sydd mewn perygl o lifogydd o'r môr?

Mae 71,042 o adeiladau mewn perygl o lifogydd llanwol ledled Cymru. Mae'n bosibl bod rhai o'r 71,042 o adeiladau mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell. Mae'r data hwn yn gywir ym mis Ebrill 2021. Yn Nhabl 2 ym mhennod 3, ceir dadansoddiad o nifer yr adeiladau sydd mewn perygl o lifogydd llanwol yng Nghymru.

Cynnydd yn erbyn camau gweithredu'r Cynllun Rheoli Traethlin

Cafodd adroddiad cynnydd ar gamau gweithredu'r Cynllun Rheoli Traethlin yng Nghymru ei gyflwyno Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru ym mis Ionawr 2021 yn dilyn yr adolygiad statws blynyddol. O'r 928 o gamau gweithredu'r Cynllun Rheoli Traethlin, dosbarthwyd 140 ohonynt yn rhai y mae perchennog y cam wedi'u cwblhau, y cafodd 18 ohonynt eu cwblhau yn ystod cyfnod adrodd 2020. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, drwy Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru, ynghylch dyfodol gwaith adrodd yn erbyn y cynllun gweithredu, a hynny'n enwedig mewn perthynas â'r 283 o gamau y cafodd eu herio a'r 158 o gamau sydd wedi'u hatal, ac yng nghyd-destun allbynnau'r Prosiect Adnewyddu Cynllun Rheoli Traethlin sydd ar y gweill.

Prosiect Adnewyddu Cynllun Rheoli Traethlin

Rydym wedi comisiynu prosiect a fydd yn adnewyddu ein Cynlluniau Rheoli Traethlin yng Nghymru. Rydym wedi penodi ymgynghorydd sydd wedi dechrau darparu arweiniad ategol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynlluniau Rheoli Traethlin ar y lefel genedlaethol a strategaethol, ynghyd ag adroddiad gwirio iechyd technegol ar gyfer pob un o'r pedwar Cynllun Rheoli Traethlin er mwyn hybu'r gwaith o'u cyflawni ar lefel leol yn y dyfodol. Bydd cam terfynol y prosiect yn cynnwys cyflwyno porth data Cynlluniau Rheoli Traethlin er mwyn gwella'u hygyrchedd a gwella dealltwriaeth gyhoeddus ohonynt. Mae pob un o'r prosiectau hyn yn mynd rhagddynt, a bydd y gwaith yn parhau i'r blynyddoedd i ddod.

Asedau sy'n wynebu newid arfordirol

Gwnaethom gychwyn prosiect sy'n ystyried yr asedau arfordirol sydd gennym sy'n wynebu newid yn y dyfodol yn sgil polisïau'r Cynllun Rheoli Traethlin. Rydym wedi cwblhau'r cam cyntaf, lle ystyriwyd graddfa'r newidiadau sy'n ofynnol o ran y dull o reoli er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r Cynlluniau Rheoli Traethlin, a'r newid cyfnod sydd ar y gweill sydd ar ddod yn 2025. Yn ystod yr ail gam, caiff yr wybodaeth hon ei dadansoddi'n fanylach a chaiff ein dulliau o lunio strategaethau rheoli yn y dyfodol yn y meysydd hyn eu pennu.

Addasu arfordirol

Y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflenwi mesurau cydadferol arfordirol yng Nghymru er mwyn darparu gwrthbwyso amgylcheddol ar gyfer cynlluniau a phrosiectau arfordirol sy'n ymwneud ag awdurdodau rheoli risg. Mae'r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd yn cyflenwi mesurau cydadferol arfordirol dros y tymor hwy: Ar y cyd, mae Cors Cwm Ivy a Morfa Ffriog wedi creu 18 hectar o forfa heli dros y pum mlynedd diwethaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ar ddatblygu prosiectau ar gyfer Tan Lan, Aber Afon Conwy, a Phorthmadog. Yn ogystal â hyn, rydym wedi bod yn gweithio ar chwe safle ar draws Cymru, ar gam cynnar iawn, ac mae lleoliadau ychwanegol ar y gorwel ar gyfer eu hystyried ymhellach yn y dyfodol agos.

Arfarnu ecosystemau

Rydym wedi datblygu dull o arfarnu gwasanaethau ecosystemau ar gyfer safleoedd addasu arfordirol yng Nghymru lle mae opsiynau o ran rheoli perygl llifogydd dan ystyriaeth. Rydym wedi'i ddilyn i'w gwneud yn bosibl cymharu manteision ac anfanteision amgylcheddol o safbwynt opsiynau rheoli perygl llifogydd, ac mae'n cefnogi'r model busnes pum achos.

Cynllunio strategol

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys ymdrechion i ymgymryd â gwaith cynllunio strategol cyson mewn perthynas â'n rhaglenni gwaith o ran rheoli perygl llifogydd ledled Cymru, ac i arwain ar y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd allweddol. Ei ddiben yw arwain ar faterion polisi strategol o fewn y sefydliad, datblygu cynlluniau hirdymor, a sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn cyflawni rhaglenni gwaith mewn modd effeithiol ac effeithlon.

Sgiliau a gallu

Sefydlwyd rôl sgiliau a gallu o safbwynt rheoli perygl llifogydd ym mis Gorffennaf 2020. Diben y rôl yw sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn y sefyllfa orau bosibl o ran sgiliau a datblygiad fel y gallwn fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn yn y dyfodol, yn enwedig y newid yn yr hinsawdd. Hyd yn hyn, mae'r rôl hon wedi canolbwyntio ar gychwyn gwaith prosiectau, gan gynnwys datblygu fframweithiau cymhwysedd technegol ar gyfer ein prif rolau o safbwynt rheoli perygl llifogydd a meysydd sgiliau cysylltiedig, gwella cysylltiadau â phartneriaid academaidd, ac adolygu cyfleoedd hyfforddiant, y bydd pob un o'r rhain yn feysydd gwaith parhaus yn y blynyddoedd i ddod.

Achos buddsoddi hirdymor

Fel rhan o brosiect gwaith mapio Asesu Perygl Llifogydd Cymru (cyfeirier at Bennod 2), gwnaethom ddatblygu offeryn economaidd sy'n ei gwneud yn bosibl i CNC asesu'r buddion economaidd a ddarperir gan ei asedau rheoli perygl llifogydd yn ogystal â'r gost o gymhwyso mesurau addasu amrywiol. Bydd yr offeryn hwn, a'r Model Dyrannu Refeniw (cyfeirier at yr adran ‘Edrych i'r dyfodol’), yn llywio ein hachos buddsoddi hirdymor, y disgwylir ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2022, a fydd yn cyflwyno tystiolaeth o ran gofynion buddsoddi ar gyfer senarios gwahanol yn y dyfodol.

Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd

Rydym yn gweithio ar ddatblygu ein Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer yr ail gylch drwy ddefnyddio'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl i'n helpu i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar risg o ymdrin â chamau gweithredu rheoli perygl llifogydd ledled Cymru, fel y gallwn flaenoriaethu ein cyllid a'n camau gweithredu yn ôl lle ceir y perygl mwyaf.

Ymchwil a datblygu ym maes rheoli perygl llifogydd

Mae gennym raglen ymchwil a datblygu strategol sydd â'r nod o gyflwyno tystiolaeth allweddol i lywio a gwella ein hanghenion gweithredol a'n hanghenion polisi mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd. Caiff y mwyafrif o'n hanghenion ymchwil a datblygu eu diwallu drwy'r Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd sydd â'r nod o wasanaethu anghenion pob awdurdod rheoli perygl llifogydd a risgiau arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddwyd sawl prosiect allweddol fel rhan o'r Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd, y mae CNC wedi bod ynghlwm wrthynt, fel a ganlyn:

  • Asesu terfynau capasiti cronfeydd ddŵr
  • Cyfleu effeithiau mewn rhybuddion a gwaith darogan llifogydd
  • Datblygu canllawiau cenedlaethol dros dro ar gyfer amcangyfrif amlder llifogydd afonol ansefydlog
  • Beth yw gwasgfa arfordirol?
  • Fframwaith ymchwil a datblygu rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol: gweithio gyda chymunedau.

Mae'r rhaglen ehangach o brosiectau parhaus yn cynnwys 65 o brosiectau sydd wedi'u dosbarthu'n feysydd thema, gan gynnwys Polisïau, Strategaethau a Buddsoddi, Rheoli Asedau, a Rheoli a Modelu Digwyddiadau.

Atebion sy'n seiliedig ar natur

Un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yw cyflwyno mwy o ymyriadau naturiol a dulliau dalgylch er mwyn lleihau perygl llifogydd yng Nghymru. Anogir awdurdodau rheoli risg yng Nghymru i fabwysiadu dull o reoli llifogydd yn naturiol, ac mae'n ofynnol iddynt ystyried defnyddio'r dull hwnnw wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau newydd a gweithgareddau cynnal a chadw.

Datganiad polisi mewnol ar reoli llifogydd yn naturiol

Rydym wedi datblygu datganiad sefyllfa mewnol ar y rhan y mae rheoli llifogydd yn naturiol yn ei chwarae o ran lleihau perygl ac effeithiau llifogydd, gan alinio ein dulliau a'n ffyrdd o weithio â Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â'r dull cyflwyno, mae CNC yn ceisio cyfleoedd i hyrwyddo a dylanwadu ar y dull o reoli llifogydd yn naturiol, a hynny drwy bolisïau, rhaglenni a chynlluniau ehangach, a thrwy gymryd rhan mewn gwaith ymchwil er mwyn datblygu tystiolaeth a dealltwriaeth bellach o ran rheoli llifogydd yn naturiol.

Gwelliannau amgylcheddol a gyflawnwyd drwy gynlluniau

Rydym yn ceisio cyfleoedd i gyflawni gwelliannau amgylcheddol drwy ein cynlluniau gwella rheoli perygl llifogydd, yr ydym yn eu cyflenwi. Ceir enghraifft o hyn yng Nghrindai, Casnewydd, lle gwnaethom ddefnyddio peirianneg werdd ar arglawdd y pil, plannu coed mewn modd ystyriol y byddai'n dwyn y budd gorau i bobl a bywyd gwyllt Casnewydd, ymgorffori tiwbiau nythu gwennol y glennydd yn yr amddiffynfa, a datblygu cynllun rheoli rhywogaethau goresgynnol ar gyfer trin Clymog Japan dros yr hirdymor.

Prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol

Gwnaethom gyflwyno cais llwyddiannus a chael cyllid o gronfa rheoli llifogydd yn naturiol Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflenwi pedwar prosiect rheoli llifogydd yn naturiol yn Llanfair Talhaearn, Dinas Powys, Glyn-nedd ac Afon Teifi Uchaf. Nod y rhaglen gyllido yw datblygu sgiliau, arbenigedd a dealltwriaeth mewn perthynas â chyflwyno dull o reoli llifogydd yn naturiol ar draws awdurdodau rheoli risg yng Nghymru, a chyfrannu at y dystiolaeth o'i effeithiolrwydd drwy waith monitro. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cyflawni gwaith datblygu prosiectau yn y lleoliadau canlynol, y gobeithir eu cyflenwi yn y blynyddoedd i ddod:

  • Llanfair Talhaearn. Ystyried opsiynau ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch Nant Barrog sy'n cefnogi gweithgareddau rheoli perygl llifogydd yn Llanfair Talhaearn.
  • Dinas Powys. Gweithio gyda rhanddeiliaid cymunedol lleol, tirfeddianwyr, ac ymgynghorwyr arbenigol i ymchwilio i ddichonoldeb ac effeithiau ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch afon Tregatwg.
  • Nant Gwrach, Glyn-nedd. Ystyried opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â llifogydd a chroniad gwaddodion yn nalgylch Nant Gwrach, Glyn-nedd.
  • Afon Teifi Uchaf. Cydweithio ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Coed Cadw, a Chyngor Sir Ceredigion i ymchwilio i fesurau i fynd i'r afael ag achosion lleol o lifogydd dŵr wyneb, a'u cyflwyno, a hybu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd yn Nhregaron a'r cylch.

Dylanwadu ar waith datblygu polisïau, strategaethau a chynlluniau ehangach

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd polisi amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, a'r cyfle y mae'n ei gynnig, o safbwynt cefnogi ac ehangu'r dull o weithredu atebion sy'n seiliedig ar natur a dull o reoli llifogydd yn naturiol ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cynllunio cymorth yn y dyfodol o gwmpas yr egwyddor o gynaliadwyedd, gyda thaliadau ar gyfer canlyniadau sy'n targedu heriau fel y newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cynghori ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda mewnbwn gan amrediad eang o arbenigwyr technegol o bob rhan o'r sefydliad. Mae hwn yn gyfle pwysig i ddylanwadu ar ddull o gyflwyno atebion sy'n seiliedig ar natur i berygl llifogydd, a'u cefnogi o bosibl, a hynny drwy fentrau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Rhaglen Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol

Rydym yn parhau i ymgysylltu â gwaith ymchwil, a chymryd rhan ynddo, er mwyn gwella tystiolaeth a dealltwriaeth o effeithiolrwydd y dull o reoli llifogydd yn naturiol, a'r rhan y mae'n ei chwarae, o safbwynt lleihau llifogydd yng Nghymru. Yn ogystal â'n gwaith gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar y Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd, mae CNC yn aelod o fwrdd gweithredol y rhaglen ar gyfer y rhaglen ymchwil rheoli llifogydd yn naturiol a ariennir gan gronfeydd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol UKRI. Bydd y rhaglen ymchwil bwysig hon yn helpu i ddatblygu ymhellach ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o effeithiolrwydd mesurau rheoli llifogydd yn naturiol o ran lleihau perygl llifogydd ar raddfa dalgylch.

Lle mae ein harian yn cael ei wario

Rydym yn cael ein hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflenwi gwaith rheoli perygl llifogydd, a hynny ar ffurf cyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Daw hyn ar ffurf cyllid refeniw sy'n cefnogi gweithgareddau a gwasanaethau gweithredol arferol a “busnes fel arfer”, yn ogystal â chyllid cyfalaf a ddefnyddir i gyflenwi gwaith prosiect.

Yn ystod 2020/21, derbyniodd CNC gyfanswm o £34.5 miliwn o gyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd. Roedd y swm hwn yn cynnwys £21 miliwn o gyllid refeniw a £13.5 miliwn o gyllid cyfalaf. Cafodd y cyllid hwn ei ddefnyddio yn llawn yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gyflawni'r canlyniadau rheoli perygl llifogydd, cynnal y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu, a chyflawni llawer iawn o'r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.

Cyllid cyfalaf

Yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, defnyddiwyd ein cyllid cyfalaf o £13.5 miliwn i gyflawni 210 o brosiectau o fewn ein rhaglen gyfalaf. Roedd y rhain yn cynnwys llawer o'r prosiectau a amlygir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â llawer o enghreifftiau o waith parhaus y cânt eu cwblhau yn y blynyddoedd i ddod. Mae Ffigur 8 isod yn cynnwys dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect yn.

Ffigur 8: Siart yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect

Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys costau cyflog (£1.6 miliwn), gorbenion corfforaethol (£0.6 miliwn) a phryniant fflyd, peiriannau ac offer (£1.4 miliwn) wedi'u cyfalafu. Mae costau TGCh cyfalaf yn ymwneud â gwaith datblygu systemau rheoli perygl llifogydd penodol, neu gyfraniadau at waith datblygu systemau sydd er budd i wasanaethau rheoli perygl llifogydd. Yn ystod y flwyddyn 2020/21, roedd hyn yn cynnwys gwelliannau i'n system darogan llifogydd a'n system rhybuddio am lifogydd, map Asesu Perygl Llifogydd Cymru, y mapiau llifogydd ar ein gwefan, gwelliannau i'r gwasanaeth Lefelau Afonydd Ar-lein, a'n cronfa ddata o'r stocrestr asedau, AMX.

Ym mis Ebrill 2020, roedd y gyllideb gyfalaf ar gyfer eleni yn £9.4 miliwn i ddechrau. Nodwyd gwaith ychwanegol yn ystod y flwyddyn, a, thrwy weithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, roeddem wedi gallu cael cyllid ychwanegol o £4.1 miliwn eleni. Mae ein halldro ariannol ar ddiwedd mis Mawrth 2021 yn dangos y defnyddiwyd y cyllid cyfalaf o £13.5 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Cyllid refeniw

Cefnogodd y setliad refeniw o £21 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2020/21 yr ymdrech sylweddol sy'n ofynnol o ran cynnal a darparu'r gwasanaethau, cyngor, offerynnau a gweithgareddau y mae CNC yn ymgymryd â nhw er mwyn helpu i reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Yn bennaf, mae'r cyllid hwn yn cynnal costau staff, gwaith cynnal a chadw arferol, gwasanaethau galluogi amrywiol sy'n cefnogi ein gwaith, a gweithgareddau arferol eraill. Mae Ffigur 9 isod yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd.

Ffigur 9: Siart yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd

Mae pob un o'r meysydd gwaith hyn yn rhyngweithio ac yn gorgyffwrdd â'i gilydd er mwyn darparu gwasanaethau allweddol, ac felly, mewn rhai meysydd, mae timau'n cefnogi gweithgareddau yn ehangach, a all arwain at gamgyfleu graddfa'r ymdrech yn achos rhai o'r gweithgareddau uchod. Er enghraifft, mae'r gwaith o ddarogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion llifogydd yn ddibynnol iawn ar waith hydrometreg a thelemetreg, a chyfrifir am hyn uchod yn unol â hynny.

Mae gwasanaethau galluogi a gorbenion corfforaethol yn cynnwys cyfraniad y tîm Rheoli Perygl Llifogydd i wasanaethau busnes allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgareddau rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, caffael, llywodraethu ac arweinyddiaeth, cynllunio corfforaethol, gwasanaethau cyfreithiol, rheoli pobl, cyfleusterau, rheoli fflyd, a chyllid. Mae costau TGCh yn ymwneud â chymorth busnes parhaus, seilwaith, a thaliadau gwasanaethau a thaliadau trwyddedau parhaus ar gyfer systemau rheoli perygl llifogydd.

Roedd dyraniad refeniw'r flwyddyn hon yn cynnwys cynnydd o £1.25 miliwn ychwanegol o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, a golygodd hyn y bu'n bosibl sefydlu 36 o swyddi cyfwerth ag amser llawn, yn ogystal â chefnogi'r gwaith o gyflawni gwaith cynnal a chadw arferol ychwanegol ochr yn ochr â nifer o brosiectau llai. Defnyddiwyd y gyllideb refeniw o £21 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn 2020/21, a helpodd i gefnogi llawer o'r mentrau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â sicrhau bod ein gwasanaethau “busnes fel arfer” wedi parhau i gael eu darparu yn effeithiol.

Niferoedd staff

Yn fras, gellir dosbarthu'r ymdrech sy'n ofynnol o ran cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd yn CNC i'r meysydd gwaith a strwythurau canlynol:

  • Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol sy'n atebol i'r Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau o fewn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
  • Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol sy'n atebol i reolwyr perygl llifogydd a dŵr o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau
  • Timau cyflawni gweithredol integredig sy'n atebol i reolwyr tir ac asedau o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau
  • Gwasanaethau galluogi sy'n darparu cymorth canolog i bob un o swyddogaethau CNC. Maent hefyd yn cael eu hariannu yn rhannol a chymesur o gronfeydd rheoli perygl llifogydd er mwyn ei gwneud yn bosibl darparu'r gwasanaethau hyn

Yn y sefyllfa sydd ohoni ym mis Mawrth 2021, rydym yn amcangyfrif bod y niferoedd staff mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn meysydd sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd fel y nodir yn y tabl canlynol. (Nid yw'r adroddiad hwn yn cynnwys data ar nifer y staff sy'n gweithio yn y maes gwasanaethau galluogi oherwydd ei bod yn rhy gymhleth i nodi rolau a chyfaniadau penodol.)

Tabl 5: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio'n uniongyrchol ym maes rheoli perygl llifogydd

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn Maes gwaith sefydliadol

63

Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol

113

Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol

169

Timau cyflawni gweithredol integredig

345

Cyfanswm amcangyfrif o'r staff cyfwerth ag amser llawn yn CNC a ariennir o gronfeydd rheoli perygl llifogydd

Edrych tua'r dyfodol

Er mai diben yr adroddiad hwn yw canolbwyntio ar ganlyniadau a llwyddiannau'r flwyddyn ariannol ddiweddar, mae rhan helaeth o'r gwaith a wnaed eleni yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a chanlyniadau a fydd yn dod i ben yn y blynyddoedd i ddod. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf (2021/22) ein nod yw datblygu nifer o brosiectau mawr a phwysig ymhellach. Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn cynnwys diweddariad ar y prosiectau hyn, a nodir rhai o uchafbwyntiau'r gwaith nesaf hwn isod.

Llyn Tegid, y Bala (Gwynedd)

Cymeradwyodd y pwyllgor cynllunio y cynllun ym mis Mai 2021, a dechreuodd y gwaith adeiladu yng nghanol mis Medi, y bydd yn parhau am 17 mis nes mis Mawrth 2023. Mae contractiwr wedi'i benodi i gwblhau'r gwaith, sy'n cynnwys cryfhau'r argloddiau, codi lefelau'r ddaear, a gwella'r amddiffyniad rhag tonnau ar lannau'r llyn er mwyn gwella gallu'r glannau i wrthsefyll digwyddiadau llifogydd eithafol.

Stryd Stephenson, Llyswyry (Casnewydd)

Mae cartrefi a busnesau yn Llyswyry, Casnewydd yn agored i lifogydd o afon Wysg yn ystod adegau o lawiad trwm a llanwau uchel. Mae cyfleusterau hamdden, ardaloedd diwydiannol, a seilwaith allweddol hefyd mewn perygl, ac mae'r amddiffynfeydd presennol mewn cyflwr gwael. Disgwylir i waith adeiladu ddechrau yn ystod 2021/22. Bwriad y cynllun fydd codi lefel rhannau o'r arglawdd pridd presennol. Mewn ardaloedd eraill, caiff muriau llifogydd newydd eu hadeiladu er mwyn codi uchder yr amddiffynfa i'r lefel ofynnol, a chaiff llifddor newydd ei osod yn yr ardal ddiwydiannol. Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun yn darparu lefel amddiffyn uwch i dros 800 o adeiladau yn yr ardal.

Rhydaman (Sir Gaerfyrddin)

Mae'r hyn sy'n achosi llifogydd yn Rhydaman yn gymhleth, ac mae dŵr yn llifo i'r dref mewn sawl lle. Mae angen cyfuniad o fesurau i leihau'r perygl o lifogydd. Ar hyn o bryd, disgwylir i waith adeiladu ddechrau yn ystod 2021/22, a bydd yn cynnwys codi cyfres o argloddiau a muriau rhag llifogydd mewn sawl ardal o'r dref er mwyn atal dŵr llifogydd yn afon Llwchwr, a hefyd gosod mesurau amddiffyniad lefel eiddo. Bydd y cynllun hwn yn lleihau'r perygl o lifogydd ar gyfer tua 300 o adeiladau.

Model dyrannu refeniw sy'n seiliedig ar risg

Rydym wedi bod yn datblygu dull sy'n seiliedig ar risg o ddyrannu refeniw ar gyfer gwaith cynnal a chadw arferol ar asedau. Hyd yn hyn, mae'r broses o ddyrannu'r gyllideb refeniw wedi bod yn seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael, gyda dyraniadau'n cael eu gwneud ar raddfa Cymru gyfan gan ddefnyddio rhesymeg oddrychol ac ar sail yr hyn a wnaed yn flaenorol. Golyga hyn fod perygl nad yw'n hadnoddau cyfyngedig yn cael eu buddsoddi yn y cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf, nac yn yr asedau sy'n darparu'r buddion mwyaf o leihau perygl llifogydd. Rydym yn datblygu system lle mae cyllid refeniw yn cael ei ddyrannu ar sail risg. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall beth yw cyfraniad pob ased, a'r hyn sy'n flaenoriaeth o ran gwaith cynnal a chadw. Dylai'r system hefyd gefnogi'r achos buddsoddi hirdymor drwy hybu'r gwaith o ddatblygu tystiolaeth buddsoddi hirdymor er mwyn ffurfioli'r achos dros gyllido gweithgareddau rheoli perygl llifogydd. Mae gwaith datblygu model dyrannu refeniw sy'n seiliedig ar risg yn mynd rhagddo.

Datblygu'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Fel rhan o'r diwygiadau i Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15), rydym yn diweddaru'r map cyngor datblygu cyfredol gyda map llifogydd newydd at ddibenion cynllunio datblygu. Dyma'r map cyntaf fydd yn dangos y perygl llifogydd yn y dyfodol o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd. Disgwylir i'r newidiadau hyn gael eu cyhoeddi yn ystod 2021/22.

Prosiectau gwella gwasanaeth rhybuddio am lifogydd

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu ymhellach y prosiectau a nodwyd drwy'r cynllun gweithredu pum mlynedd a fydd yn arwain at welliannau i'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd. Mae'r prosiectau allweddol yn cael eu hasesu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod modd eu cwblhau gyda'r canlyniadau a ddymunir ar gyfer y gwasanaeth a'r bobl mewn perygl o lifogydd yng Nghymru.

Datblygu prosiect adolygu'r rhwydwaith hydrometrig ymhellach

Mae cwmpas a briff y prosiect wedi'u pennu ar gyfer cynnal adolygiad eang o rwydwaith hydrometrig CNC. Bydd y gwaith o ddosbarthu a blaenoriaethu gorsafoedd yn dechrau ym mis Mehefin 2021, a bydd yn hwyluso'r broses o nodi gofynion defnyddwyr, a chostau cysylltiedig y gwasanaeth. Amcangyfrifir y caiff y gwaith hwn ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2022.

Prosiect rheoli data Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Bydd y prosiect rheoli data Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn datblygu offerynnau, prosesau ac amgylchedd gwaith a fydd yn ei gwneud yn bosibl rheoli a chynnal setiau data allweddol a grëwyd fel rhan o brosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo a chaiff ei gwblhau yn ystod 2021/22.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf