Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd (PFRA)
Mae Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 yn gwneud y Gyfarwyddeb Llifogydd (Cyfarwyddeb 2007/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewropeaidd ar asesu a rheoli risgiau llifogydd) yn rhan o gyfraith y DU. Mae'n mynnu bod y canlynol yn cael eu hailadrodd ar gylch 6 blynedd:
- Map ac adroddiad Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd, y dylid nodi Ardaloedd Perygl Llifogydd ohono
- Mapiau perygl llifogydd a risgiau
- Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd
Rydym bellach yn yr ail gylch gweithredu ac mae angen adolygu'r cynhyrchion hynny a grëwyd yn y cylch cyntaf, os yn briodol. Mae'r adolygiad hwn yn dechrau gyda'r Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd.
Yng nghylch 1, gwnaethpwyd penderfyniad gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru bryd hynny (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) i ddefnyddio eithriad a pheidio â chynhyrchu Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd ar gyfer prif afonydd, y môr a chronfeydd dŵr.
Roedd yn ofynnol i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol baratoi Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd mewn perthynas â dŵr wyneb, cwrs dŵr cyffredin a risgiau llifogydd dŵr daear.
Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd (PFRA)
Rydym wedi llunio adroddiadau Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd ar gyfer tair Ardal Basn Afon, sy’n cynnwys pob ffynhonnell perygl llifogydd.
Mae’r tair Ardal Basn Afon yn cynnwys:
PFRA Hafren
PFRA Dyfrdwy
PFRA Gorllewin Cymru
Mae afon Hafren a Dyfrdwy yn cael eu rhannu yn ardaloedd basn afon gydag Asiantaeth yr amgylchedd.
Rydym wedi gwneud hyn drwy weithio gyda:
- Llywodraeth Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol
Mae adroddiadau Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd yn adnabod yr ardaloedd hynny yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o ddioddef llifogydd o:
- Brif afonydd
- Cronfeydd dŵr
- Y môr
- Dŵr wyneb
- Cyrsiau dŵr cyffredin
- Dŵr daear
Mae hyn yn dechrau gydag asesiad (o 2011 ymlaen) o lifogydd sylweddol yn y gorffennol a effeithiodd ar Gymry, ac yna’n ystyried canlyniadau andwyol posibl llifogydd yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i nodi’r ardaloedd hynny yng Nghymru sydd â’r perygl mwyaf sylweddol o lifogydd.
Gelwir y rhain yn Ardaloedd Perygl Llifogydd. Y naw Ardal Perygl Llifogydd a’r cymunedau cysylltiedig yw:
Flood Risk Area | Community included |
---|---|
Arfordir Gogledd Cymru |
Rhyl |
Bae Cinmel |
|
Prestatyn |
|
Towyn |
|
Abergele |
|
Sir y Fflint |
Queensferry-Sandycroft-Manor Lane |
Lache |
|
Garden City ac Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy |
|
Cei Connah and Shotton |
|
Wrecsam |
Cefn-mawr - Acrefair |
Gwynedd |
Porthmadog |
Y Friog |
|
Pwllheli |
|
Sir Fynwy |
Y Fenni |
Casnewydd |
Y Maendy |
Llyswyry |
|
Dyffryn |
|
Crindai |
|
Caerdydd |
Grangetown |
Glan yr Afon |
|
Treganna |
|
Llaneirwg |
|
Y Rhath |
|
Cymoedd De Cymru |
Rhondda |
Treorci |
|
Merthyr Tudful |
|
Troedyrhiw |
|
Treherbert |
|
Bae Abertawe |
Port Talbot |
Llansawel |
|
Castell-nedd |
|
Abertawe |
|
Llanelli |
Byddwn nawr yn dechrau ar y gwaith o baratoi mapiau peryglon llifogydd a risg llifogydd ar gyfer yr Ardaloedd Perygl Llifogydd a nodwyd gennym, erbyn 22 Rhagfyr 2019. Y cam olaf i gwblhau ail gylch y Gyfarwyddeb Llifogydd fydd paratoi Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd erbyn 22 Rhagfyr 2021.
Gam mai dyma’r tro cyntaf y bydd Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd wedi’u cwblhau yng Nghymru, byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio ar draws Awdurdodau Rheoli Risg er mwyn rheoli perygl llifogydd yn well ledled Cymru.
Ar ddiwedd 2017, cynhaliodd y 22 Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yng Nghymru adolygiad o'u Hasesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd a chrëwyd Atodiad i'w hadroddiadau cylch 1.
Atodiau cyhoeddedig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – nid yw'r ddolen ar gael ar hyn o bryd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – nid yw'r ddolen ar gael ar hyn o bryd