Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2021-2022

Rhagair

Mae rheoli'r risg a berir gan lifogydd yn bwysig. Gall effeithiau llifogydd fod yn drychinebus i bobl, cymunedau, busnesau, seilwaith, yr amgylchedd a'r economi.

Rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o lifogydd trychinebus dros y blynyddoedd diwethaf, yng Nghymru a ledled y byd. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae llifogydd sylweddol ym Mhacistan wedi cael effaith ddinistriol ar y wlad. Roedd y llifogydd yn Yr Almaen a Gwlad Belg yn ystod haf 2021 wedi ein hatgoffa eto, mewn ffordd annymunol, am rym natur ac effeithiau llifogydd, pan gollwyd llawer iawn o fywydau. Ni fydd angen atgoffa trigolion Cymru am lifogydd diweddar a ddigwyddodd yn agosach at eu cartrefi, boed y rheiny yn sgil Storm Dennis yn 2020, Storm Eunice a Storm Franklin ym mis Chwefror yn 2022, neu unrhyw un arall o blith llu o stormydd a llifogydd sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. 

Bydd llifogydd yn digwydd yn y dyfodol hefyd. Roedd yr adroddiad diweddaraf gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd yn ystod haf 2021 yn dangos yn bendant ein bod yn profi digwyddiadau tywydd amlach a mwy eithafol, gyda mwy o lifogydd a mwy o lifogydd difrifol, ac y gallwn ddisgwyl mwy ohonynt yn y dyfodol. Nid llifogydd yn unig sy’n rhan o’r ‘norm newydd’ ychwaith; mae sychderau a thymereddau eithafol yn rhan ohono hefyd – eto eleni rydym wedi gweld nifer o recordiau tywydd hirsefydlog yn cael eu torri.

Yn y cyd-destun hwn, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni ei ddyletswyddau a'i weithgareddau pwysig iawn o ran rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhain yn hanfodol bwysig o safbwynt rheoli'r risgiau a cheisio lleihau amlder yr effeithiau yn sgil llifogydd, a lleihau'r canlyniadau pan fônt yn digwydd. Mae'r heriau'n anferth. Ni all CNC atal y tywydd a'r glawiad, ac ni allwn atal pob digwyddiad llifogydd. Ond mae ein gwaith yn golygu gwneud ein gorau glas, gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni, i reoli'r dŵr llifogydd (o brif afonydd a llifogydd arfordirol), a buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n helpu i leihau'r effeithiau. Mae’n waith pwysig; mae’n gwneud gwahaniaeth, ac mae’n wasanaeth cyhoeddus hanfodol. 

Nid ydym, ac ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain; rydym yn ei wneud ochr yn ochr ag amrediad o sefydliadau partner a gyda chymunedau. Mae’r ymateb a’r gweithredu ar y cyd hyn, yr ydym yn rhan fawr ohonynt, yn bethau y bydd galw amdanynt bob amser.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â gweithgareddau llifogydd CNC, ac yn crynhoi'r elfennau allweddol yn ystod blwyddyn ariannol 2021-2022. Mae’n eistedd yng nghyd-destun heriau hirdymor a rhaglenni gwaith hirdymor, sy’n parhau.

 

Jeremy Parr
Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Haf 2022

Crynodeb Gweithredol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, a'n diben craidd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Mae gennym amrediad o rolau a chyfrifoldebau, gan amrywio o reoleiddir i gynghorydd, tirfeddiannwr, gweithredwr ac ymatebwr mewn argyfwng. Mae gennym drosolwg strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n golygu goruchwylio a chyfleu gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gennym bwerau hefyd i reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 245,118 o adeiladau mewn perygl o lifogydd. Mae hyn yn golygu tua un adeilad ym mhob wyth yng Nghymru. Rydym yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg o reoli perygl llifogydd drwy'r gweithgareddau a gyflawnir gennym. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r buddsoddi a wnaed, gweithgareddau allweddol, a chyflawniadau CNC o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol o Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022. Mae'n seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ar adeg ei ysgrifennu (haf 2022). 

Drwy gydol y flwyddyn 2021-2022, gwnaethom ymateb i sawl digwyddiad storm sylweddol, yr arweiniodd rhai ohonynt at lifogydd, hebrwng pobl o adeiladau, a tharfu. Gwnaethom hefyd barhau i gyflawni gwaith hanfodol gan adeiladu ar y gwersi hanfodol yn sgil llifogydd mis Chwefror 2020, a hynny yng nghyd-destun pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun heriol hwn, gwnaethom welliannau sylweddol hefyd i'r ffordd rydym yn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd yng Nghymru.

Rydym yn bwriadu defnyddio'r adroddiad blynyddol hwn i ffurfio rhan o'r adroddiad statudol y mae'n ddyletswydd ar CNC ei gwblhau (o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr) ar gynnydd gweithredu Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y strategaeth hon ym mis Hydref 2020, a bydd llawer o'r gweithgareddau a ddisgrifir yn yr adroddiad blynyddol hwn yn cyfrannu at ddull cyflwyno'r amcanion a mesurau y mae'r strategaeth honno'n eu cynnwys.

Mae'r canlynol yn cynnwys rhai o'r gweithgareddau allweddol a gyflawnwyd gan CNC yn ystod 2021-2022:

  • Buddsoddiad gwerth £39 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn mewn gweithgareddau rheoli perygl llifogydd allweddol yng Nghymru.
  • Lansio ein Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a fydd yn disodli’r Map Cyngor Datblygu (DAM) yn ystod haf 2023, yn ogystal â lansio’r ap gwasanaeth gwe, sef “Gwirio Eich Perygl Llifogydd”, sy’n ei gwneud yn gyflymach a symlach cael gafael ar wybodaeth am berygl llifogydd.
  • Datblygu nifer o gynlluniau llifogydd, gan gynnwys cwblhau cynlluniau yn Nhregatwg (y Barri/Bro Morgannwg) a Lecwydd (Caerdydd) sy’n lleihau’r perygl llifogydd i 242 o eiddo. Yn ogystal, datblygwyd prosiectau sylweddol yn Rhydaman, Llyn Tegid (Llyn y Bala) a Stryd Stephenson (Casnewydd). Mae hyn ochr yn ochr â llawer o gynlluniau eraill sydd ar wahanol gamau datblygu mewn lleoliadau ledled Cymru, nifer o brosiectau ar raddfa lai, a rhaglen gynnal a chadw gynhwysfawr.
  • Cafodd sawl prosiect gwella gwaith rheoli asedau eu datblygu er mwyn sicrhau bod ein data a'n prosesau'n ein galluogi i wneud y defnydd gorau o fuddsoddiadau yn y lleoliadau blaenoriaeth. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys gwelliannau pellach i'n stocrestr o asedau (AMX – Asset Management eXpert), a chyhoeddi’r Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021.
  • Symud ymlaen â gwaith gwella er mwyn sicrhau bod ein cronfeydd dŵr yn ddiogel ac yn addas ar gyfer eu diben o reoli perygl llifogydd, a hynny mewn lleoliadau yn cynnwys Llyn Tegid a Dolen Crafnant.
  • Parhau i wella’n gwasanaethau digidol er mwyn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am berygl llifogydd, lefelau afonydd, glawiad, a lefel y môr i gartrefi, busnesau a chymunedau yng Nghymru.
  • Datblygu ein polisïau ar y rhan mae rheoli llifogydd naturiol yn chwarae mewn lleihau risgiau ac effeithiau llifogydd, yn ogystal â symud ymlaen â gwaith ar bedwar prosiect rheoli llifogydd naturiol yn Llanfair Talhaearn, Dinas Powys, Glyn-nedd a Theifi Uchaf.
  • Symud gwaith yn ei flaen er mwyn cwblhau a gweithredu camau gweithredu a argymhellwyd a nodwyd fel rhan o’n Hadolygiad o Lifogydd ym mis Chwefror 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl uchafbwyntiau hyn, ynghyd â chyflawniadau allweddol eraill, wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys manylion am ein cyflawniadau allweddol a’n hamcanion o safbwynt rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-2022. Ceir manylion ynddo am y gweithgareddau sy'n cyfrannu at reoli perygl llifogydd yng Nghymru ac mae hefyd yn rhoi sylw i fetrigau ac ystadegau allweddol sy'n dangos y lefel o ymdrech sydd ynghlwm wrth reoli perygl llifogydd ynghyd â graddfa'r her a wynebir.

Nid yw'r adroddiad hwn yn cwmpasu pob gweithgaredd neu faes gwasanaeth yn fanwl, a bwriedir iddo fod yn grynodeb o uchafbwyntiau blwyddyn ariannol 2021-2022. Mae'r wybodaeth a’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y data a oedd ar gael ar adeg llunio'r crynodeb hwn (haf 2022). Bwriedir i'r adroddiad hwn fod yn gyhoeddiad blynyddol parhaol a bydd yn cyd-fynd â chyflwyno'r adroddiad cynnydd nesaf ar Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru (sef ‘adroddiad adran 18’ sy'n ofynnol o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr).

Stormydd a llifogydd a brofwyd dros y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill 2021 – Mawrth 2022)

Bob blwyddyn, rydym yn cynllunio'r gwaith rydym am ei gyflawni er mwyn rheoli perygl llifogydd. Ar ben hynny, rhaid i ni ymateb i ddigwyddiadau llifogydd pan fônt yn digwydd. Mae'n bosibl mai dull ymatebol a ddilynwn er mwyn rheoli'r digwyddiad llifogydd ar y pryd, neu fe allai achosi gwaith ychwanegol y bydd angen i ni ei gyflawni. Mae'r adran hon yn grynodeb o'r digwyddiadau llifogydd mwy nodedig y gwnaethom ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn – y rhai a achosodd aflonyddwch neu ddifrod sylweddol i gymunedau.

Rydym yn monitro ac yn ymateb i lifogydd pryd bynnag y maent yn digwydd – 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, bob dydd o’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys monitro rhagolygon, rhoi rhybuddion, sicrhau bod asedau llifogydd a hydrometreg yn gweithio’n gywir, gwaith atgyweirio, postio gwybodaeth gyfredol ar ein gwefan, ymdrin â chyfweliadau ac ymholiadau'r cyfryngau, a chefnogi sefydliadau eraill sy'n ymatebwyr i ddigwyddiadau. Pan fo digwyddiad yn codi, ceir effaith amlwg ar ein gallu i gyflawni gwaith arall a gynlluniwyd wrth i ni ymateb i'r heriau y mae pob digwyddiad tywydd difrifol yn ei gyflwyno, a hynny yn ystod y digwyddiadau hyn a'r cyfnod sy'n eu dilyn, wrth i ni ddelio â'r effeithiau a'r canlyniadau.

Roedd dechrau blwyddyn ariannol 2021-2022 yn dawel gyda thywydd sych a braf ar ddechrau’r flwyddyn, gan mwyaf, ond achosodd y stormydd a enwir isod ddifrod sylweddol rhwng Tachwedd 2021 a Chwefror 2022.

Storm Arwen, 26-27 Tachwedd 2021

Yn ystod Storm Arwen, chwythodd gwyntoedd cryfion ar draws y DU ar 26 a 27 Tachwedd 2021, a chyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd coch am wynt. Cyrhaeddodd gwyntoedd 69mya mewn rhai rhannau o’r DU gan olygu bod y storm hon yn un o stormydd gaeaf mwyaf pwerus a niweidiol y degawd diwethaf, ac roedd miloedd o gartrefi ar draws y DU heb bŵer o ganlyniad iddi. Yn sgil y gwyntoedd cryfion, cafwyd adroddiadau am ddifrod strwythurol i adeiladau a nododd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y collwyd llawer o goed aeddfed, gan gynnwys 50 o goed yng Ngerddi Bodnant, Conwy.

Storm Barra, 7–8 Rhagfyr 2021

Yn ystod Storm Barra, cafwyd gwyntoedd cryfion a glaw trwm ar draws y DU rhwng 7 ac 8 Rhagfyr 2021. Cofnodwyd gwyntoedd o 69 i 81mya mewn lleoliadau arfordirol agored a chofnodwyd yr hyrddiad uchaf - 86mya - yn Aberdaron, Gwynedd. Cyhoeddwyd cyfanswm o 18 o rybuddion llifogydd gennym ar draws Canolbarth a De-orllewin Cymru. Tarodd tonnau mawr arfordiroedd agored, a bu difrod nodedig ar bromenâd Aberystwyth.

Storm Dudley, Storm Eunice a Storm Franklin, 16 –21 Chwefror 2022

Effeithiodd tair storm a enwyd ar y DU o fewn cyfnod o wythnos, a chyhoeddodd y Swyddfa Dywydd ddau rybudd coch prin am wynt ar gyfer Storm Eunice, gyda gwyntoedd o fwy nag 81mya yn chwythu mewn lleoliadau arfordirol agored. Roedd y stormydd hyn yn rhan o gyfnod cythryblus o dywydd gwlyb a gwyntog a gafwyd yn y DU a oedd yn gysylltiedig â jetlif pwerus.

Am y tro cyntaf, amlygwyd bod arfordir Cymru gyfan mewn perygl o lifogydd. Mewn ymateb i Storm Eunice, gwnaethom gyhoeddi 113 o rybuddion llifogydd a 23 o negeseuon llifogydd – byddwch yn barod ar gyfer arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd. Yn ffodus, llwyddwyd i osgoi llifogydd arfordirol difrifol wrth i amddiffynfeydd barhau’n gadarn, a bu i frig yr ymchwydd storm fethu brig y penllanw o drwch blewyn – gan lai na 90 munud mewn rhai achosion.

Rhwystrodd y gwyntoedd cryfion yn ystod Storm Franklin waith glanhau, ac yn sgil glaw trwm parhaus yn ystod y stormydd olynol, cafwyd llifogydd sylweddol yn rhannau o Ganolbarth Cymru, a bu adroddiadau bod tua 50 eiddo wedi dioddef llifogydd. Cofnodwyd lefelau afon uwch nag erioed ar afon Hafren yn y Drenewydd, Llanidloes a Munlyn, ar afon Teme yn Dutlas a Threfyclo ac ar afon Efyrnwy ym Meifod. Cofnodwyd lefelau afon eithriadol o uchel hefyd ar afon Gwy Uchaf.

Cafwyd effeithiau sylweddol yn sgil y gwyntoedd cryfion yn ystod Storm Dudley, Storm Franklin a Storm Eunice, gan gynnwys cau ysgolion a busnesau ledled Cymru. Tarfodd y stormydd yn fawr ar drafnidiaeth, gyda threnau’n cael eu canslo a choed yn cwympo gan achosi rhwystrau ar y ffyrdd. Roedd adroddiadau bod nifer o lorïau wedi cael eu chwythu drosodd ar yr M4 yn Ne Cymru. Cafodd y ddwy bont Hafren eu cau am y tro cyntaf yn eu hanes a bu adroddiadau lu am ddifrod strwythurol i eiddo. Tarodd tonnau mawr, ynghyd ag ymchwydd storm ar ben gorllanwau uchel, arfordiroedd ac aber afon Hafren.

Adolygiad o Lifogydd Mis Chwefror 2020

Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd rhai o’r llifogydd mwyaf dinistriol y mae Cymru wedi’u gweld ers cenhedlaeth. Ar ôl gaeaf eithriadol o wlyb, cyrhaeddodd y glawiad a'r llifau afon mwyaf erioed yn sgil Storm Ciara, Storm Dennis a Storm Jorge ym mis Chwefror 2020, ac, o ganlyniad iddynt, achoswyd y digwyddiadau llifogydd mwyaf difrifol ac eang eu gwasgariad a welwyd yng Nghymru ers 1979. Yn gyfan gwbl, cafwyd adroddiadau bod llifogydd mewn 3,130 eiddo ledled Cymru. 

Gwnaethom gynnal adolygiad sylweddol o'n hymateb i'r stormydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ein gweithrediadau rheoli digwyddiadau llifogydd a myfyrio ar sut y gellid addasu'r arferion cyfredol rydym yn eu mabwysiadu o ran rheoli ystâd tir CNC er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Gwnaethom gyhoeddi'r Adolygiad llifogydd Chwefror 2020 (Storm Ciara a Dennis) ym mis Hydref 2020.

Yn ystod y flwyddyn 2021/22, rydym wedi bwrw ymlaen â gwaith i fynd i'r afael â'r 74 o gamau gweithredu a nodwyd yn yr adolygiad er mwyn gwella gweithrediadau CNC yn ystod llifogydd. Rydym wedi bod yn cyflawni'r camau gweithredu drwy'r Rhaglen Adfer ac Adolygu Llifogydd. Gwnaethom gynnydd da yn ystod cyfnod 2021-2022, ac mae 46 o’r 74 cam gweithredu bellach wedi’u cwblhau. Rydym wedi parhau â'r gwaith hwn yng nghyfnod 2022-2023, ac mae angen cyflawni llawer o’r camau gweithredu dros yr hirdymor. 

Mae'r heriau yn sgil digwyddiadau tywydd eithafol amlach sy'n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd yn sylweddol ac yn debygol o gynyddu. Bydd gweithredu’r argymhellion o’r Adolygiad o Lifogydd yn gwella ein gwasanaethau i’r cyhoedd yn ystod llifogydd ac yn helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant. Byddant hefyd yn helpu ein staff, drwy roi mesurau ar waith i wella gwytnwch ein hymateb. Gwnaethom hefyd adolygu ein harferion rheoli tir ac rydym yn gwneud gwelliannau i’r gweithgareddau hynny. Mae dysgu o ddigwyddiadau a rhoi gwelliannau ar waith yn elfen allweddol o ddull ymaddasol sy'n defnyddio tystiolaeth i helpu i atal risgiau dros y tymor hir.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd rhagor o waith ei wneud ar ein hadferiad drwy gyflwyno canllawiau newydd ar gyfer paratoi ar gyfer digwyddiadau o'r fath, eu rheoli ac adfer ar eu hôl. Rydym hefyd wedi cyflwyno gweithdrefnau mwy cadarn a chynlluniau busnes wrth gefn i gefnogi ein gwaith cynllunio ac ymateb i ddigwyddiadau o'r fath. Rydym wedi canolbwyntio ar ddarparu rhagor o hyfforddiant i staff, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyfryngau, hyfforddiant ar archwilio asedau, hyfforddiant ar drawma a hyfforddiant ar reoli straen. Mae ein hymrwymiad i’r adferiad a chamau gweithredu’r adolygiad yn parhau’n uchel, er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu o’r digwyddiadau hyn a’n galluogi i fod yn fwy gwydn fel gwasanaeth yn y dyfodol.

Rotâu dyletswydd ar gyfer llifogydd

Un o’r argymhellion allweddol a wnaed yn yr Adolygiad o Lifogydd Mis Chwefror 2020 oedd gwella lefelau gwytnwch ein rotâu ar gyfer digwyddiadau. Mae angen i ni weithredu ein cyfrifoldebau llifogydd ar sail 24/7 a bob dydd o’r flwyddyn. Er mwyn ein galluogi i wneud hynny, mae gennym system o ‘rotâu dyletswydd’ lle mae rhywun yn sicr o fod ar gael 24/7 (ac felly'n arbennig ‘y tu allan i oriau craidd’), am gyfnod dyletswydd (saith niwrnod fel arfer). Mae gennym nifer o rotâu dyletswydd ar gyfer llifogydd er mwyn gwasanaethu ein cwmpas daearyddol, a'r mathau o rolau sydd eu hangen. Bu llai o bobl ar nifer o’n rotâu dyletswydd nag y byddai’n well gennym yn ddelfrydol ac, ar brydiau, gall hyn achosi problemau llesiant sylweddol i staff a bod yn broblemus hefyd yn ystod yr adegau prysuraf. Bu anghysondeb hefyd o ran pa swyddi ‘swyddi dydd’ sydd ar rota.

Er mwyn sicrhau tegwch a mwy o gysondeb o ran dull a hybu niferoedd, gwnaethom ddatblygu cynnig, mewn partneriaeth â'n hundebau llafur, a gyflwynwyd i'r staff ei ystyried. Sail y cynnig oedd cysylltu rolau ‘swyddi dydd’ â rotâu, ac felly gosod y disgwyliad o ran pwy y gellir gofyn iddynt fod ar rota. Cafodd y cynnig ei dderbyn gan aelodaeth yr undebau llafur ar ddiwedd 2021-2022, ac mae’n cael ei weithredu. Rydym eisoes wedi gweld rhai gwelliannau mewn rhai meysydd, ond mae heriau mewn meysydd eraill y mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn mynd i’r afael â nhw. 

Deall a dadansoddi perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl ymdrechion i gynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yng Nghymru, a hynny'n bennaf drwy ein gweithgareddau dadansoddi hydrolegol a modelu perygl llifogydd. Mae hefyd yn cynnwys sut ydym yn cyfleu'r perygl llifogydd hwnnw i randdeiliaid drwy ein cynhyrchion mapio llifogydd a'n gwasanaethau gwefan. Ei ddiben yw cynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd, llywio pob un o'n gweithgareddau eraill, a'u cyfarwyddo, ac i hysbysu ein rhanddeiliaid am eu perygl llifogydd perthnasol.

Mae gennym bwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, o'n cronfeydd dŵr, ac o'r môr. Mae gennym hefyd rôl oruchwylio strategol gyda goruchwyliaeth gyffredinol dros yr holl faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn golygu cael dealltwriaeth gyson, ar draws Cymru gyfan, o bob ffynhonnell llifogydd ac erydu arfordirol, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw, er mwyn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yn ogystal â helpu i hysbysu'r Awdurdodau Rheoli Perygl a'r cyhoedd. Fel rhan o'n rôl drosolwg strategol, rydym yn gwneud gwaith mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer pob ffynhonnell o berygl llifogydd.

Beth sydd mewn perygl o lifogydd?

Ym mis Ebrill 2022, mae 291,070 o adeiladau yng Nghymru, nad ydynt wedi'u hamddiffyn, mewn perygl o lifogydd. Gall rhai adeiladau fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell, a, gan osgoi cyfrif ddwywaith neu deirgwaith yr adeiladau sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog, amcangyfrifir bod 245,118 o adeiladau mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae'r tablau canlynol yn dangos dosbarthiad yr adeiladau fesul lefel perygl a ffynhonnell, ar sail ffigurau cywir ym mis Ebrill 2021.

Tabl 1: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ffynonellau afonol.

Categori perygl llifogydd

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd

Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Afonol uchel

21,958

2,670

508

25,136

Afonol canolig

14,936

2,020

326

17,282

Afonol isel

40,984

5,814

954

47,752

Cyfanswm afonol

77,878

10,504

1,788

90,170

[MISSING LINE OF TEXT]

Tabl 2: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ffynonellau llanwol.

Categori perygl llifogydd

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd

Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Llanwol uchel

42,229

4,424

808

47,461

Llanwol canolig

11,764

1,835

318

13,917

Llanwol isel

8,288

1,154

222

9,664

Cyfanswm llanwol

62,281

7,413

1,348

71,042

Tabl 3: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ffynonellau glawog.

Categori perygl llifogydd

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo dibreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd

Cyfanswm mewn perygl o lifogydd

Glawog uchel

31,192

3,347

740

35,279

Glawog canolig

16,425

1,892

344

18,661

Glawog isel

68,113

6,428

1,377

75,918

Cyfanswm glawog

115,730

11,667

2,461

129,858

Diweddariadau i Fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Rydym wedi cynnal dau ddiweddariad ddwywaith y flwyddyn ac un diweddariad interim i’n gwasanaeth mapio llifogydd ar-lein, sef Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru, ers ei lansio ym mis Hydref 2020. Mae'r diweddariadau'n ymgorffori mwy nag 20 o fodelau lleol, manwl newydd. Mae hyn yn gwella ein dealltwriaeth o asesu’r perygl llifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach.

Mae’r Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn categoreiddio lleoliadau yn ôl ardaloedd sydd â risg uchel, canolig ac isel. Mae hefyd yn arddangos gwybodaeth ychwanegol, fel lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd ynghyd â'r buddion lleol a gyflwynir ganddynt. Mae'r mapiau perygl llifogydd gyda'r data newydd hefyd ar gael ar wefan ‘Lle’ Llywodraeth Cymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ailgyhoeddi Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru fel ei fod yn cyd-fynd yn well â’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio sydd newydd ei ddatblygu a defnyddio’r technolegau sydd ar gael yn awr i wella sut mae’n edrych a’i ymarferoldeb, megis ei wneud yn gwbl ddwyieithog.

Mae Ffigur 1 yn dangos sgrinlun o Fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Mae'r map yn dangos yr ardaloedd o Gaerdydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb, ynghyd â lefel y perygl hwnnw.

Ffigur 1: Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru, sydd ar gael ar wefan CNC

Gwelliannau i Offeryn Economaidd Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Rydym wedi parhau i ddatblygu a defnyddio ein hofferyn meddalwedd newydd i archwilio effeithiau llifogydd mewn senarios hinsawdd a thwf poblogaeth yn y dyfodol, a sut y gellir lliniaru'r effeithiau drwy amrediad o fesurau addasu. Bydd hyn yn llywio ein dealltwriaeth o beryglon y presennol a'r dyfodol, sut mae hyn yn cael ei liniaru gan amddiffynfeydd a mesurau rheoli perygl llifogydd eraill, a sut y gellir defnyddio addasiadau i wrthbwyso effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddi’r ap gwasanaeth gwe Gwirio Eich Perygl Llifogydd

Wedi'i lansio ym mis Gorffennaf 2021, a'i greu fel rhan o’r prosiect gwella Gwylwyr Perygl Llifogydd, mae ‘Gwirio Eich Perygl Llifogydd’ yn ap gwe sy'n archwilio data mapio Asesu Perygl Llifogydd Cymru ac yn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr gynhyrchu adroddiad perygl llifogydd byr ar gyfer yr ardal o amgylch cod post eiddo. Mae hyn wedi cael gwared ar tua 80% o'r traffig gwe ymlaen disgwyliedig i Fap Asesu Perygl Llifogydd Cymru ac yn cynnig ffordd gyflymach a symlach i gwsmeriaid gael gwybodaeth am berygl llifogydd.

Cyhoeddi'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Lansiwyd y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar ein gwefan ar 28 Medi 2021.

Yn y pen draw, bydd yn disodli'r map cyngor datblygu presennol gyda map llifogydd newydd at ddibenion cynllunio datblygiadau. Daw’r newidiadau hyn i rym yn ystod haf 2023. Byddwn yn parhau i gynnal y map cyngor datblygu presennol tan hynny, ac ar yr adeg honno bydd yn cael ei dynnu oddi ar ein gwefan ac yn dod yn set ddata wedi'i harchifo. Y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yw’r porth lle rydym yn rhannu mapiau newid yn yr hinsawdd y cytunwyd arnynt ar gyfer penderfyniadau datblygu sy’n effeithio ar genedlaethau’r dyfodol.

Rydym hefyd wedi ymgorffori 56 o fodelau lleol, manwl newydd yn y map i wella’r ffordd y mae risgiau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn cael eu dangos.

Ffigur 2: Sgrinlun o'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

 

Datblygu’r broses rheoli data ar gyfer Asesu Perygl Llifogydd Cymru

Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi parhau i ddatblygu’r prosesau rheoli data ar gyfer Asesu Perygl Llifogydd Cymru. Bydd hyn yn rhoi'r gallu i ni ddefnyddio'r offer a ddatblygwyd i gynhyrchu'r setiau data Asesu Perygl Llifogydd Cymru mwy, eu diweddaru'n flynyddol a darparu'r fersiwn ddiweddaraf o’r perygl llifogydd yng Nghymru. Mae’r datrysiad yn cynnwys trefniant partneriaeth gyda chyflenwr allanol, lle mae elfennau’n cael eu hail-redeg a’u diweddaru gan CNC ac elfennau gan y cyflenwr. Bydd ein mapiau’n cael eu diweddaru ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio’r data diweddaraf a gynhyrchir gennym ni, neu gan gyrff eraill.

Canllawiau ar newidiadau o ran lefel y môr

Rydym wedi cefnogi Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddiweddaru ei chanllawiau newid yn yr hinsawdd ar gyfer amcanestyniadau o gynnydd yn lefel y môr, a hynny ar sail Rhagolygon Hinsawdd y DU 2018. Ym mis Awst 2021, cyhoeddwyd lwfansau dangosol ar gyfer y cynnydd yn lefel y môr hyd at 2120, ac fe’u cyflwynir ar gyfer ardal weinyddol pob awdurdod lleol, gydag effaith y newid yn yr hinsawdd yn dibynnu ar y lleoliad. Bydd yr wybodaeth hon yn ei gwneud yn bosibl cael dealltwriaeth well o’r perygl yn y dyfodol ar y lefel leol, ac yn galluogi’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau i benderfynu ar fesurau lliniaru priodol, a chynllunio ar eu cyfer, yn unol â hynny. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â gwaith i adolygu a diweddaru lwfansau newid yn yr hinsawdd ar gyfer ymgodiadau afonol a glawog. Bydd hyn yn llywio diweddariadau i ganllawiau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Gwelliannau i waith modelu lleol

Rydym wedi datblygu nifer o welliannau i waith modelu lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau i wella gwaith modelu yn y lleoliadau canlynol: Ynysybwl, Abertawe, Bangor, a Phensarn, yn ogystal ag afonydd yn cynnwys afon Gele, afon Mynwy, afon Taf, afon Rhymni, afon Cynon, ac afon Elái.

Rheoli asedau perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl weithgareddau sy’n ymwneud â rheoli ein hasedau perygl llifogydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwaith cynnal a chadw adeileddau sydd eisoes yn bodoli a deall eu cyflwr, rheoli data asedau, a chynllunio ar gyfer gofynion gwaith yn y dyfodol. Ei ddiben yw sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol ac effeithlon, ceisio cyfleoedd i leihau perygl llifogydd drwy adeiladu asedau newydd, a sicrhau bod ein hasedau'n barod i berfformio fel y disgwylir yn ystod llifogydd, a bod y gallu ganddynt i wneud hynny.

Asedau newydd

Drwy gwblhau cynlluniau cyfalaf yn Nhregatwg (Y Barri/Bro Morgannwg) a Lecwydd (Caerdydd), mae 242 eiddo bellach mewn llai o berygl llifogydd yn ystod 2021-2022.

Ochr yn ochr â chwblhau'r cynlluniau hyn, mae gennym fwy nag 20 o gynlluniau mawr ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn ystod 2021-2022. Bydd y cynlluniau hyn yn gyfrifol am y mwyafrif o'n gwariant cyfalaf dros y blynyddoedd nesaf, ac maent yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Llyn Tegid (y Bala), Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Llangefni (Ynys Môn), Llanfair Talhaearn (Conwy), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec (Sir Benfro), Rhydaman (Sir Gaerfyrddin) a Stryd Stephenson, a Llyswyry (Casnewydd). Dros y tymor hir, pan fyddant wedi'u cwblhau'n derfynol, disgwylir i'r rhain fod o fudd i 3,899 eiddo.

Yn ogystal, mae 1,000 o adeiladau wedi elwa ar lefel barhaus o amddiffyniad o ganlyniad i waith cynnal a chadw cyfalaf. Mae hwn yn fuddsoddiad cyfalaf pwysig mewn asedau perygl llifogydd sydd eisoes yn bodoli, a hynny er mwyn cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad y maent yn eu darparu i'r cymunedau sy'n elwa arnynt. Fel rheol, mae angen y buddsoddiad er mwyn ymestyn neu gyflawni oes bywyd dylunio'r ased, ac mae fel arfer yn golygu gwaith atgyweirio ac adfer sylweddol ar adeileddau sydd eisoes yn bodoli.

Astudiaeth achos – Cynllun amddiffyn rhag llifogydd yn Llyn Tegid, y Bala

Rydym yn gwneud gwaith gwella sylweddol ar yr argloddiau a’r adeileddau ger allfa Llyn Tegid (Llyn Bala). Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru, ac mae’n peri perygl llifogydd i gymuned y Bala. Mae’r cynllun amddiffyn rhag llifogydd gwerth £7 miliwn yn cael ei gyflawni er mwyn sicrhau y gall yr argloddiau barhau i wrthsefyll tywydd eithafol a bodloni gofynion diogelwch cronfeydd dŵr statudol priodol. Mae’n lleihau’r perygl o lifogydd i dros 800 eiddo, ac yn cyflwyno gwelliannau amgylcheddol a hamdden eraill i’r ardal hefyd.

Bydd y gwaith yn rhedeg drwy gydol 2022, ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) i gyflwyno’r gwaith fesul cam er mwyn lleihau aflonyddwch a sicrhau bod y gronfa ddŵr yn parhau’n ddiogel bob amser.

Caiff gwaith cryfhau ar hyd 2km o argloddiau’r gronfa ddŵr ei gwblhau yn 22/23, a bydd dros 3,000 tunnell o wal gynnal craig yn cael ei ailosod. Mae’r hen ddeunyddiau wedi cael eu hailddefnyddio fel rhan o’n gwaith, gan gynnwys y nodweddion tirweddu, er mwyn lleihau ein hôl troed carbon.

Ffigur 3: Ailosod clogfeini ar hyd arglawdd glan y llyn (Ebrill 2022)

Ffigur 4: Ailosod clogfeini (Mai 2022)

Ni allai'r gwaith pwysig hwn ddechrau nes bod 300 o goed a oedd wedi hunan-hadu wedi cael eu tynnu, sef coed a oedd yn tyfu yn yr argloddiau yn bennaf, ac yn eu gwanhau. O dan oruchwyliaeth ecolegol lem, cafodd y coed eu clirio rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022. Fel rhan o’n hymrwymiad i’r gymuned, ar gyfer pob coeden rydym wedi’i thynnu, bydd CNC yn plannu tair coeden yn lleol. Rydym eisoes wedi plannu coed newydd ar hyd coridor coed newydd y tu ôl i arglawdd glan y llyn ac ar dir ger priffordd y B4391, a chafodd y goeden ifanc gyntaf ei phlannu gan brif weithredwr CNC yn ystod ymweliad ym mis Mawrth 2022.

Rydym yn gweithio gyda Rheilffordd Llyn Tegid (BLR) i ymgorffori rhan o’u hymestyniad arfaethedig yn y gwaith hwn, ac yn gweithio’n agos gyda’r gymuned a darparu diweddariadau rheolaidd ynghyd â byrddau gwybodaeth ar y safle. Mae personél CNC hefyd ar gael i gwrdd â phobl ar y safle yn ôl yr angen, ac yn darparu gwasanaeth dwyieithog parhaus. Mae gennym hefyd fideo esboniadol dwyieithog am y gwaith a pham mae angen ei wneud - gweler ein tudalen prosiect diogelwch cronfa ddŵr Llyn Tegid

Gwelliannau amgylcheddol a gyflawnwyd

Mae prosiect Llyn Tegid yn enghraifft wych o sut rydym yn chwilio am gyfleoedd i wneud gwelliannau amgylcheddol drwy ein holl brosiectau rheoli perygl llifogydd.

Yn ogystal â phlannu coed, rydym wedi gwneud gwelliannau i gynefinoedd er mwyn creu tua phum hectar o ddolydd gwlyb sy’n cynnal llu o rywogaethau. Rydym wedi ailgynllunio maes parcio blaendraeth y llyn i atal difrod gan geir a oedd yn gyrru ar y cynefinoedd sensitif a warchodir. Mae clogfeini sy'n cael eu hailddefnyddio o'r cynllun wedi helpu i nodi ardaloedd lle dylai ceir yrru. Bydd nifer o lwybrau, rampiau a phwyntiau mynediad yn fwy hygyrch o ganlyniad i'r gwaith. Mae arwynebau llwybrau'n cael eu huwchraddio ar hyd arglawdd afon Dyfrdwy / afon Tryweryn – a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer Park Run poblogaidd.

O amgylch y ganolfan hamdden a Chaffi Woody's, rydym wedi tirlunio'r ardal gyda seddau a phlanhigion newydd. Rydym hefyd yn darparu seddi a gwaith dehongli o ansawdd uchel ar draws y safle.

Ffigur 5: Wyneb wedi'i uwchraddio a meinciau wedi'u lleoli ar hyd llwybr troed yn edrych allan tuag at afon Tryweryn

Rheoli asedau

Rydym yn ymgymryd â rhaglen archwilio a chynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn addas i'r diben. Rydym yn cynnal dros 4,030 o asedau (455km) ledled Cymru, a thrwy gydol 2021-2022 cynhaliwyd 11,061 o arolygiadau o’r adeileddau hyn.

Erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2021/22, roedd 86.1% o'r archwiliadau ased arferol wedi'u cwblhau o gymharu â'r archwiliadau y cynlluniwyd eu cyflawni. Rydym yn ymdrechu i wella’r mesur hwn, ac wedi recriwtio mwy o arolygwyr asedau i wella hyn yn 2022-2023.

Ar ddiwedd y flwyddyn, canfu ein harchwiliadau fod 98.1% o'n hasedau llifogydd mewn systemau sydd mewn perygl uchel o lifogydd wedi cyrraedd neu'n rhagori ar eu cyflwr gofynnol i gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Mae hyn yn well na tharged ein dangosydd perfformiad allweddol corfforaethol o 98%. Mae hwn yn darged treigl, sy'n adlewyrchu’r ffaith ei bod yn anochel na fydd ansawdd rhai asedau gystal â’u cyflwr targed; caiff gwaith atgyweirio neu wella ei amserlennu ar gyfer asedau nad yw eu hansawdd gystal â’u cyflwr targed.

Ochr yn ochr â'n rhaglen cynnal a chadw rheolaidd, mae gennym nifer o brosiectau sy'n mynd rhagddynt i helpu i wella gwaith rheoli asedau o fewn CNC ac awdurdodau rheoli perygl eraill, a disgrifir y rhain isod.

Gwelliannau i AMX

AMX (Asset Management eXpert) yw cronfa ddata rheoli asedau llifogydd CNC. Dyma'r ystorfa ar gyfer yr holl wybodaeth am asedau llifogydd, gan gynnwys lleoliad, math, cyflwr targed, dyddiadau archwilio, y cyflwr ar adeg yr arolygiad (cyfredol) diwethaf a gwybodaeth cynnal a chadw. Mae cael darlun cyflawn a dealltwriaeth lawn o’n sylfaen asedau yn elfen allweddol o reoli perygl llifogydd. Defnyddir yr wybodaeth yn AMX at lawer o ddibenion, gan gynnwys cynllunio a monitro cyflawniad rhaglenni arolygu a chynnal a chadw, adroddiadau ar berfformiad, a chynllunio buddsoddiadau yn ystod y flwyddyn.

Yn 2021-2022, rydym wedi parhau â’n rhaglen waith gwella gyda’r system hon a’r data hwn. Mae hyn yn cynnwys parhau â'n gwaith craidd ar y Cynllun Gwella Data, i sicrhau bod yr wybodaeth graidd yn gywir ac yn gadarn. Mae hon yn dasg sylweddol ond angenrheidiol, sy'n gofyn am lawer o adnoddau, a bydd yn parhau yn 2022-2023.

Mae’r gwaith gwella hwn hefyd wedi cynnwys gwaith ar wybodaeth cynnal a chadw i lywio’r Model Dyraniadau Refeniw ar Sail Risg (gweler isod), datblygu system adrodd am ddiffygion asedau, a pharatoadau ar gyfer integreiddio ein cronfa ddata MEICA (Rheoli Offeryniaeth Drydanol Fecanyddol ac Awtomatiaeth) bresennol yn AMX.

Y Model Dyraniadau Refeniw ar Sail Risg

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu methodoleg a dull gweithredu ar gyfer blaenoriaethu gwaith cynnal a chadw arferol ar asedau a dyrannu cyllid refeniw yn ôl y perygl o lifogydd. Mae hyn yn ein galluogi i symud oddi wrth ddyraniadau cyllideb refeniw sydd wedi’u seilio ar wybodaeth hanesyddol a dyraniadau blaenorol, i ddull gweithredu sy’n fwy dibynnol ar dystiolaeth ac yn seiliedig ar berygl llifogydd. Bydd hyn yn ein galluogi i ddyrannu ein hadnoddau cyfyngedig yn well i’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf ac i’r asedau sy’n dwyn y mwyaf o fuddion o ran lleihau perygl llifogydd. Bydd hefyd yn ein galluogi i wella’n hadroddiadau ar ein buddsoddiadau.

Rydym wedi datblygu methodoleg a system sy’n seiliedig ar risg newydd i hwyluso’r dull newydd hwn o ddyrannu cyllid i waith cynnal a chadw Asesu Perygl Llifogydd arferol. Bydd y system yn darparu rhaglen cynnal a chadw â blaenoriaethu clir i CNC, ynghyd ag asedau sy’n darparu’r buddion mwyaf o ran lleihau llifogydd yn y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall beth yw cyfraniad a blaenoriaeth pob ased, yn ogystal â’r costau a pha adnoddau sydd eu hangen i gynnal budd yr amddiffynfeydd a'r adeileddau rhag llifogydd. Bydd hefyd yn ein galluogi i ddatblygu’r dystiolaeth buddsoddi hirdymor i helpu i lunio’r achos dros gyllid ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd.

Gwnaed llawer o waith i ddatblygu’r Model Dyraniadau Refeniw ar Sail Risg yn ystod 2021-2022, ac rydym yn bwriadu cyflwyno’r defnydd o’r offeryn newydd hwn yn ystod blwyddyn ariannol 2023-2024. Mae'n amlwg yn ddibynnol iawn ar yr wybodaeth sylfaenol sydd yn ein cronfa ddata asedau, AMX.

Y gronfa Ddata o Asedau Cenedlaethol

Y cysyniad y tu ôl i’r Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol yw cael system Cymru gyfan ar gyfer storio ac arddangos gwybodaeth am yr holl asedau perygl llifogydd sylweddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys asedau fel cwlfertau, sgriniau sbwriel, argloddiau, waliau llifogydd a llifddorau, yn ogystal â nodi pwy y cofnodwyd ei fod yn gyfrifol am eu cynnal a'u cadw. Y bwriad yw y bydd y Gronfa Ddata o Asedau Cenedlaethol yn cynnwys gwybodaeth am bob ased pwysig, felly bydd yn cwmpasu asedau sydd o dan reolaeth y gwahanol Awdurdodau Rheoli Risg – yn bennaf CNC a’r awdurdodau lleol, ac, ymhen amser, asedau sydd o dan reolaeth cyrff eraill hefyd. Adlewyrchir y dyhead hwn ym Mesur 6 o Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.

I'r perwyl hwn, ym mis Rhagfyr 2021, gwnaethom gyhoeddi Gweld strwythurau amddiffyn rhag llifogydd sy’n agos i chi (y Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Cenedlaethol) ar ein gwefan. Yn amlwg, gall CNC gyhoeddi ei ddata asedau ei hun, ond mae’r Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol yn dibynnu ar gydweithrediad Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol i ganiatáu cyhoeddi eu data. Ceir darpariaeth data dda, ond nad yw wedi'i chwblhau eto, gan yr Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol. 

Mae rhagor o waith yn mynd rhagddo i wella ansawdd y data sylfaenol yn ogystal â gweithio gydag Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol eraill i gytuno i ddefnyddio eu data. Y weledigaeth yw y bydd y Gronfa Ddata Asedau Cenedlaethol yn dod yn offeryn gwerthfawr, cynhwysfawr, hygyrch a thryloyw i bawb.

Cronfeydd dŵr

Ni yw'r rheoleiddiwr ar gyfer cronfeydd dŵr yng Nghymru, a ni yw'r awdurdod o safbwynt cofrestru, sicrhau cydymffurfedd, a gorfodi'r 395 o gronfeydd dŵr ledled Cymru sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 a'r rheoliadau a’r diwygiadau cysylltiedig. Fel rhan o'r rôl reoliadol hon, rydym hefyd yn aelod o bwyllgor cronfeydd dŵr Sefydliad y Peirianwyr Sifil, sy'n cynghori llywodraethau ar briodoleddau peirianwyr yn unol â'r hyn sy'n ofynnol gan y sector hwn yn y DU. Rydym hefyd yn weithredwr cronfeydd dŵr (neu ‘ymgymerwr’ yn iaith y Ddeddf Cronfeydd Dŵr). Ceir disgrifiad o'r gweithgareddau allweddol sy'n rhan o'r ddwy rôl hyn yn yr adran hon.

Rôl rheoleiddio cronfeydd dŵr

CNC yw'r awdurdod gorfodi o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Dyma'r ddeddf sy'n pennu'r safonau gofynnol er mwyn sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr. Yn bennaf, mae hyn er mwyn sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn penodi ac yn gweithredu ar gyngor peirianwyr sifil cymwysedig arbenigol.

Ar 31 Mawrth 2022, roedd 395 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofrestru yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 19 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac mae hyn o ganlyniad i’n gwaith i chwilio am gyforgronfeydd dŵr mawr nad oeddent wedi’u cofrestru. 

Rydym yn y broses o asesu dynodiadau risg y cronfeydd dŵr nad ydynt wedi’u dynodi. Mae gennym ddyletswydd i ddynodi cronfa ddŵr yn gronfa ddŵr â risg uchel os ydym o’r farn y gallai bywydau dynol fod mewn perygl pe bai’r argae’n methu. Er mwyn darparu’r dystiolaeth i gefnogi dynodiad, rydym yn cynhyrchu mapiau llifogydd sy’n dangos maint a pherygl llifogydd o gronfa ddŵr.

Mae Tabl 4 isod yn dangos statws dynodiad y cronfeydd dŵr yng Nghymru, ar ddiwedd 2021-2022. Sylwer nad oes y fath dynodiad â ‘risg isel’', dynodir bod cronfa ddŵr naill ai'n risg uchel neu nid yw'n risg uchel. Adlewyrchir y statws risg yn y drefn reoleiddio y mae angen ei dilyn.

Tabl 4: Statws cronfeydd dŵr yng Nghymru

Statws dynodiad

Nifer y cronfeydd dŵr

Cronfeydd dŵr risg uchel

248

Cronfeydd dŵr nad ydynt yn risg uchel

70

Prosiect mapio cronfeydd dŵr

Daeth ein prosiect mapio llifogydd i ben yn 2021-2022, gan roi cyfres o fapiau i ni sy’n dangos y llifogydd gwaethaf posibl a allai ddigwydd pe bai cronfa ddŵr yn methu. Darparwyd y rhain o dan ddau senario: “diwrnod sych” pan fo’r gronfa ddŵr yn llawn i’w chapasiti arferol a lefelau’r afon yn isel, a “diwrnod gwlyb” pan fo dŵr yn llifo i mewn i’r gronfa ddŵr o ganlyniad i’r llifogydd mwyaf sy’n debygol.

Mae’r mapiau’n darparu’r canlynol:

  • tystiolaeth ar gyfer ein dynodiadau ar gyfer cronfeydd dŵr;
  • gwybodaeth i beirianwyr allu nodi'n gywir y lefel o ddiogelwch sy'n ofynnol yn y gronfa ddŵr;
  • gwybodaeth i gynllunwyr brys i alluogi gweithgareddau cynllunio, ymarfer ac ymateb;
  • gwybodaeth i ymgymerwyr cronfeydd dŵr er mwyn iddynt lunio’u cynllun llifogydd brys

Datblygu ein rôl reoliadol 

Rydym wedi adolygu graddau ein dyletswyddau o safbwynt cronfeydd dŵr ac rydym yn herio ein hunain o ran yr hyn y dylem ei wneud fel rheoleiddiwr. Rydym yn gweithio ar addasu ein dull er mwyn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau mwy o safbwynt diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru, y tu hwnt i'r rheini sy'n ofynnol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd cyfreithiol. Caiff rhagor o waith ei wneud ar hyn yn ystod 2022–2023, a gallai’r gwaith hwn gael ei ddylanwadu gan adolygiad yr Athro Balmforth o ddiogelwch cronfeydd dŵr a gomisiynwyd gan DEFRA yn dilyn digwyddiad cronfa ddŵr Toddbrook yn Lloegr yn 2019: Adroddiad Annibynnol ar Adolygu Diogelwch Cronfeydd Dŵr (publishing.service.gov.uk).

Prosiect ‘potensial’

Rydym yn chwilio'n ddiwyd am gronfeydd dŵr nad ydynt wedi'u cofrestru ond y mae'n ofynnol i ni eu rheoleiddio. O ganlyniad i'n hymchwiliadau, rydym wedi nodi cyforgronfeydd dŵr mawr, ychwanegol, yr ydym yn trefnu iddynt gael eu cofrestru a'u cynnwys yn y prosiect mapio llifogydd o gronfeydd dŵr. Drwy nodi cronfeydd dŵr fel y rhain, gallwn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd briodol er mwyn lleihau'r perygl i'r gymdeithas.

Cronfeydd dŵr di-berchennog

Gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, rydym yn gwneud gwaith ar ddwy gronfa ddŵr yng Nghymru lle nad yw perchennog y gronfa ddŵr yn hysbys. Mae mapio peryglon cronfeydd dŵr yn y cronfeydd dŵr hyn wedi darparu tystiolaeth sy’n cadarnhau eu dynodiad fel cronfeydd dŵr risg uchel, lle gallai methiant beryglu bywyd i lawr yr afon. Bydd gwaith i gynnal diogelwch y cronfeydd dŵr hyn yn parhau drwy gydol 2022-2023.

Mesurau gorfodi cronfeydd dŵr

Mewn achosion lle mae perchennog neu weithredwr cronfa ddŵr yn methu â chydymffurfio â'r gyfraith, mae gennym bwerau gorfodi i sicrhau yr eir i'r afael â materion sy'n ymwneud â diogelwch. Erbyn diwedd 2021-2022, roedd hysbysiadau gorfodi yn weithredol gennym ar gyfer tair cronfa ddŵr. Ar un o'r safleoedd hyn, mae methiant yr ymgymerwr i gymryd camau gweithredu wedi'n hysgogi i ddatblygu cynllun ar gyfer lleihau lefel y dŵr er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnal ymchwiliad i bennu faint o waith sydd angen ei wneud.

Digwyddiadau mewn cronfeydd dŵr

Gwnaethom gofnodi digwyddiadau mewn pum cronfa ddŵr yn ystod 2021-2022. Mae ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn gyfrifol am ymateb i ddigwyddiadau o dan arweiniad eu peiriannydd, ac am ddarparu adroddiadau i ni am yr achos a'r gwersi a ddysgwyd. Yn ystod un digwyddiad, bu ein tîm maes yn cynorthwyo gyda defnyddio pwmp dros dro i ychwanegu at eu hadnoddau eu hunain a'r rhai a ddarparwyd gan y gwasanaethau brys. Ni wnaeth unrhyw un o'r digwyddiadau arwain at fethiant cronfa ddŵr, ond bu angen cymryd camau adferol er mwyn diogelu rhag digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Rheoli cronfeydd dŵr CNC

Ni yw perchennog (neu ‘ymgymerwr’) 35 o gronfeydd dŵr a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Mae 13 o'r rhain wedi'u dynodi at ddibenion rheoli perygl llifogydd.

Rydym wedi sicrhau bod yr holl gronfeydd dŵr hyn yn cael eu harolygu a’u goruchwylio gan beirianwyr sifil cymwys, ac rydym yn cynnal rhaglen waith i fynd i’r afael ag unrhyw argymhellion y gallant eu gwneud.

Rydym wedi gwella ein niferoedd o ‘geidwaid cronfeydd dŵr’ i gyflawni ein dyletswyddau cynnal a chadw, monitro a chadw cofnodion. Profwyd ein gallu i ymweld a gwirio pob cronfa ddŵr yn ystod cyfnodau o lifogydd, ac rydym yn bwriadu gwneud gwelliannau yn y maes hwn.

Gwelliannau i gronfeydd dŵr

Rydym wedi datblygu rhaglen o welliannau i gronfeydd dŵr er mwyn sicrhau bod ein cronfeydd dŵr yn ddiogel ac yn addas i'w diben o ran rheoli perygl llifogydd. Ardystiwyd bod y mesurau diogelwch a argymhellwyd yn Llyn Tegid (rheoli perygl llifogydd), Dolen Crafnant (rheoli perygl llifogydd), Pwll Newydd (Tir), a Llyn Llywelyn (Tir) wedi'u cwblhau. Mae mesurau pellach ar y gweill hefyd. Mae’r gwaith gwella yn Llyn Tegid yn sylweddol, a disgwylir iddo bara tan 2023.

Cynghori cynllunwyr, gwaith cydsynio a gwaith gorfodi

Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â phob cyngor yn ôl disgresiwn a phob cyngor statudol mewn perthynas â pherygl llifogydd a'n rôl fel ymgynghorai o fewn y broses gynllunio. Y nod yw rhoi cyngor effeithiol er mwyn dylanwadu ar ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a'i reoli, gan atal mwy o bobl ac eiddo rhag bod yn agored i berygl cynyddol o lifogydd. Mae hefyd yn cynnwys ein trefniadau trwyddedu. Gyda'i gilydd, nod y rolau hyn yw rheoli datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a gweithgareddau perygl llifogydd mewn prif afonydd neu o'u cwmpas. Rydym hefyd yn cymryd camau gorfodi mewn achosion lle gallai gweithgareddau perygl llifogydd achosi perygl llifogydd neu ei waethygu.

Cyngor ar gynllunio datblygiadau

Rydym yn ymgynghorai statudol ar berygl llifogydd ar gyfer pob cynnig o fewn Parth Llifogydd C2 (ardaloedd heb amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd), ac ar gyfer datblygiadau sy'n agored iawn i niwed a datblygiadau gwasanaethau brys ym Mharth Llifogydd C1 (ardaloedd gydag amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd). Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cyngor wedi helpu i atal datblygiadau amhriodol rhag cael eu cymeradwyo mewn lleoliadau lle byddai'r perygl o lifogydd yn anodd ei reoli. Mewn achosion lle mae datblygiadau wedi'u caniatáu er gwaethaf y perygl llifogydd, rydym wedi darparu cyngor ar fesurau atal llifogydd a mesurau gwytnwch llifogydd y gellid eu hymgorffori er mwyn helpu i leihau'r perygl yn awr ac yn y dyfodol. 

Yn ystod 2021/22, darparwyd 2,353 o ymatebion cynllunio sylweddol lle mae perygl llifogydd yn gyfyngiad. O blith y rhain, roedd 1,292 ym mharth C2.

Diweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15)

Rydym wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi diwygiadau i'w polisi cynllunio (Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol) a disodli'r Map Cyngor Datblygu gyda'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, sy'n ystyried effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar berygl llifogydd. Bydd y diwygiadau i'r polisi cynllunio a'r mapiau llifogydd diweddaredig yn hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau cynllunio ar sail yr wybodaeth orau sydd ar gael ac yn ei gwneud yn bosibl ystyried perygl llifogydd yn y dyfodol. Roedd y TAN15 diweddaredig a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio cysylltiedig i fod i ddod i rym ar 1 Rhagfyr 2021, ond ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n atal gweithredu ei pholisi diwygiedig tan fis Mehefin 2023.

Rheoleiddio gweithgarwch perygl llifogydd

Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau a gyflawnir ar brif afonydd, neu gerllaw iddynt, ar adeileddau amddiffyn rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt (gan gynnwys amddiffynfeydd morol), neu o fewn gorlifdir, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Rydym yn gwneud hyn drwy roi Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd (FRAP) er mwyn sicrhau nad yw'r gweithgaredd yn achosi unrhyw gynnydd yn y perygl llifogydd, yn cael effaith niweidiol ar ddraenio tir yn yr ardal, neu'n achosi difrod amgylcheddol i'r amgylchedd, pysgodfeydd, neu fywyd gwyllt lleol. Gellir cyflawni rhai gweithgareddau perygl llifogydd heb drwydded ond mae’n bosibl y bydd angen cofrestru gweithgareddau o’r fath gyda ni fel rhai sy’n ‘esempt’ o’r gofyniad i gael trwydded bwrpasol.

Dros flwyddyn ariannol 2021-2022, gwnaethom gyhoeddi 285 o Drwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ledled Cymru, a chofrestrwyd 52 o esemptiadau.

Camau gorfodi

Rydym yn cyflawni gwaith gorfodi perygl llifogydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ei reoli'n effeithiol ac er mwyn cefnogi mesurau i warchod yr amgylchedd. Os na cheisir ein cyngor rheoleiddio, neu os caiff ei anwybyddu wrth wneud gwaith ar brif afonydd neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol. Yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, mae ein gweithgarwch gorfodi yn sicrhau y gallwn gynnal mynediad i seilwaith amddiffynfeydd rhag llifogydd / y môr ac yn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw a gwella pwysig. Gallwn hefyd ddefnyddio camau gorfodi i unioni gwaith anghyfreithlon a niweidiol neu waith a allai fod yn niweidiol, a allai fod wedi’i wneud yn groes i amodau a nodir mewn Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd, neu heb Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd ofynnol. Mae enghreifftiau’n cynnwys difrod i amddiffynfeydd rhag llifogydd a strwythurau rheoli, cael gwared ar rwystrau sy’n effeithio ar lif o fewn afonydd, gan gynyddu’r perygl o lifogydd o bosibl, a gwaith sydd wedi achosi niwed i’r amgylchedd.

Yn ystod 2021-2022, gwnaethom gynnal ymchwiliadau a gweithredu ar 60 achos o weithgareddau nas trwyddedwyd ar brif afonydd.

Astudiaeth achos – Ystad Ddiwydiannol Wrecsam

Cawsom ein hysbysu bod tua 2,000m3 o bridd wedi cael ei fewnforio i'r gorlifdir heb y Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd angenrheidiol na’r caniatâd cynllunio i wneud hynny. Gwnaethom weithio gyda’n cydweithwyr ym maes trwyddedu rhywogaethau (oherwydd bod madfallod dŵr cribog yn bresennol yn yr ardal) a’r tîm Rheoleiddio Gwastraff, ynghyd â swyddogion gorfodi cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cytunwyd mai’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol oedd y ddeddfwriaeth orau i'w defnyddio i unioni'r mater a chafodd hysbysiad adfer ei gyflwyno i berchnogion y safle i gael gwared ar yr holl ddeunydd. Arweiniodd hyn at ganlyniad llwyddiannus o ran risgiau llifogydd a risgiau amgylcheddol.

Ffigurau 6 a 7: Gwaith carthu a gwaith codi glannau nas trwyddedwyd (gan ddefnyddio'r sgil-gynhyrchion) ar hyd prif afon

Cawsom ein hysbysu am dirfeddiannwr a garthodd 70 metr o brif afon a defnyddio’r sgil-gynhyrchion i gynyddu’r lefelau cyfagos ar hyd glannau’r sianel heb Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd. Roedd y gwaith yn cynnwys cloddio sianel a oedd wedi'i siltio'n drwm ac wedi gordyfu (oherwydd diffyg gwaith cynnal a chadw dros nifer o flynyddoedd). Er y byddai hyn yn helpu llifddwr i redeg ar hyd y sianel, byddai codi lefelau presennol y ddaear ar hyd y ddwy lan yn debygol o gynyddu llifogydd i fyny'r afon ac o fewn ardal yr effeithiwyd arni eisoes gan lifogydd blaenorol o'r brif afon. Cyflwynwyd hysbysiad adfer i'r tirfeddiannwr yn ei gwneud yn ofynnol gostwng lefel y banciau i’r lefelau blaenorol. Cydweithiodd perchennog y tir a chafodd y gwaith ei gwblhau ganddo mewn modd amserol yn unol â gofynion y rhybudd.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir ein gwasanaeth darogan llifogydd a'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i'r cyhoedd ac i bartneriaid proffesiynol. Ei ddiben yw darparu rhybuddion a gwybodaeth effeithiol i bobl sydd mewn perygl o lifogydd, gan eu galluogi i gymryd camau uniongyrchol i warchod bywyd ac eiddo cyn i lifogydd ddigwydd.

Mae'n cynnwys canfod a darogan llifogydd mewn amser real (cyn i lifogydd ddigwydd ac wrth iddynt ddigwydd), cyhoeddi rhybuddion llifogydd i'r bobl hynny sydd mewn perygl uniongyrchol, a darparu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf a’r rhybuddion sydd mewn grym, a hynny drwy ein gwefan, Floodline, a'n porth data byw.

Mae ein timau'n cyflawni'r gwaith o gynllunio a pharatoi'r gwasanaethau hyn cyn i lifogydd ddigwydd, gan gynnwys data, systemau, gweithdrefnau gweithredol, hyfforddi'r staff sydd ar ddyletswydd, a rheoli rotâu dyletswyddau. Darperir y gwasanaethau drwy nifer o rotâu swyddogion arbenigol ar ddyletswydd, gan ddefnyddio staff o'n timau. Mae ein swyddogion ar ddyletswydd ar alwad 24/7 bob diwrnod o'r flwyddyn, ac maent yn barod i ymateb i lifogydd posibl a llifogydd gwirioneddol ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22

Amlygir perygl llifogydd uwch drwy Ddatganiad y Canllawiau Llifogydd sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol dros bum niwrnod i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd datblygol. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy Gwasanaeth perygl llifogydd 5 diwrnod i Gymru. Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, cafwyd perygl llifogydd uwch ar 121 o ddiwrnodau (effeithiau rhagolwg mân ac uwch) ac, o blith y rheini, cafwyd perygl llifogydd dwys ar 15 niwrnod (effeithiau rhagolwg sylweddol ac uwch). Mae Adran 2 o'r adroddiad hwn yn amlygu'r prif stormydd a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn a arweiniodd at berygl llifogydd uwch a'r effeithiau cysylltiedig.

Gwnaethom ddosbarthu cyfanswm o 369 o negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, 193 o rybuddion llifogydd yn ystod 2021-2022 mewn ymateb i'r perygl o lifogydd. Derbyniodd yr asiantau Floodline 787 o alwadau ffôn a chyfeiriwyd at ein gwefan rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod 1,029,321 o weithiau. Mis Hydref 2021 a mis Chwefror 2022 oedd y misoedd pan gyfeiriwyd at y wefan fwyaf, sef 612,849 o weithiau yn ystod y misoedd hyn.

Ffigur 8: Nifer y rhybuddion llifogydd a’r negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a gyhoeddwyd yn ystod 2021-2022

Rhybuddion llifogydd a rhagolygon llifogydd pum niwrnod

Mae’r rhagolygon perygl llifogydd pum niwrnod ar gyfer Cymru yn rhoi gwybodaeth glir am y perygl o lifogydd a ragwelir ledled Cymru dros y pum niwrnod i ddod. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys map o Gymru (wedi'i rannu'n awdurdodau lleol), crynodeb o'r perygl llifogydd i Gymru a gwybodaeth gliriach am y camau i'w cymryd ar gyfer pob lefel o berygl llifogydd. Mae ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod yn cynnwys swyddogaeth chwilio (e.e. fesul cod post), ac mae'n arddangos gwybodaeth mewn ffordd sy'n gyflymach ac yn rhwyddach fel y gall defnyddwyr ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnynt. Mae’n darparu nodweddion map rhyngweithiol, a gwybodaeth fanwl am bob ardal sy'n destun rhybudd llifogydd a neges llifogydd – byddwch yn barod, gan gynnwys dolenni uniongyrchol i wasanaethau cysylltiedig fel ‘cofrestru i gael rhybuddion llifogydd uniongyrchol’ a gwybodaeth am lefelau afonydd lleol.

Mae Ffigur 9 yn sgrinlun o’r adran rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod ar ein gwefan ar ôl y gwelliannau a wnaed iddi. Yn yr enghraifft, gwelir rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a oedd mewn grym am 9.57pm ar 18 Chwefror 2022.

Ffigur 9: Rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod ar wefan CNC

Nifer yr adeiladau sydd wedi'u cofrestru i gael Rhybuddion am Lifogydd

Rydym yn cyhoeddi tri math o rybudd llifogydd drwy ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, sef negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, rhybuddion llifogydd, a rhybuddion llifogydd difrifol. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu'n uniongyrchol i'r bobl hynny sydd mewn perygl, a gellir ei chael drwy ein gwasanaeth gwybodaeth neilltuedig, Floodline (0345 988 1188), ac ar ein gwefan (sy'n cael ei diweddaru pob 15 munud). Ym mis Mawrth 2022, roedd 49,161 o adeiladau wedi'u cofrestru i gael rhybuddion am lifogydd drwy'r gwasanaeth rhybuddio am lifogydd. Ategir hyn gan y fenter Rhybuddion Uniongyrchol Estynedig, sy'n golygu bod cyfanswm o 113,732 o adeiladau wedi'u cofrestru i gael y gwasanaeth rhybuddio am lifogydd yng Nghymru.

Rhybuddion Uniongyrchol Estynedig

Er mwyn cynyddu’r cwmpas mewn ardaloedd lle mae'r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd ar gael, rydym yn gweithio gyda chwmnïau ffôn i gael rhifau ffôn ar gyfer cyfeiriadau lle nad oes cwsmer wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd. Rydyn ni'n rhoi gwybod i’r cwmnïau ffôn pa gyfeiriadau anghofrestredig sydd mewn perygl o lifogydd, ac maen nhw'n anfon rhestr o'r rhifau ffôn sydd wedi'u cofrestru i'r cyfeiriadau hynny atom. Nid ydynt yn rhoi'r enwau na'r cyfeiriadau sy'n gysylltiedig â'r rhifau hynny i ni. Nid yw eiddo a wasanaethir drwy ein Gwasanaeth Rhybudd Uniongyrchol Estynedig wedi'u cofrestru'n llawn. Mae hwn yn wasanaeth y gellir optio allan ohono. Drwy'r fenter hon, mae 64,571 o adeiladau ychwanegol bellach yn derbyn ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd, a hynny ar ben y 49,161 sydd wedi'u cofrestru’n uniongyrchol.

Adolygiad o'r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd

Cymeradwywyd yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd gan ein Bwrdd Busnes Rheoli Perygl Llifogydd yn 2020. Mae'n adolygiad a ddarparodd gynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer cyflenwi gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, yn seiliedig ar risg, yn gyson ar lefel genedlaethol, ac yn cefnogi ein nodau corfforaethol wrth fod yn effeithlon a darparu gwerth am arian. O ganlyniad i’r adolygiad o’r gwasanaeth, gwnaed 83 o argymhellion, y mae sawl ohonynt wedi’u hadlewyrchu yn argymhellion Adolygiad o Lifogydd Mis Chwefror 2020 ac Adolygiad Arfordirol 2014. Bydd y rhain yn cael eu dwyn ymlaen i'w cyflawni yn y blynyddoedd i ddod drwy gyfres o brosiectau allweddol. Mae Negeseuon y Dyfodol yn brosiect mawr sy’n gynnar yn ei ddatblygiad. Mae ar y gweill ond heb ei gychwyn eto, a’i ddiben fydd adolygu negeseuon llifogydd – byddwch yn barod, rhybuddion llifogydd a rhybuddion llifogydd difrifol er mwyn darparu gwasanaeth gwell ledled Cymru.

Gwelliannau i'r Gwasanaeth Darogan Llifogydd

Yn sgil y llifogydd sylweddol ym mis Chwefror 2020, cafodd y modelau darogan llifogydd presennol eu hadolygu a'u hailraddnodi, a chyflwynwyd lleoliadau darogan arfordirol ac afonol newydd ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd. Mae’r broses barhaus hon o sicrhau gwelliant (dysgu o lifogydd blaenorol a defnyddio’r data i adolygu cywirdeb y rhagolygon) yn gwella ein gallu i ddarparu negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd amserol a chywir yn ogystal â llywio’r asesiad perygl llifogydd ar gyfer y pum niwrnod i ddod yn Natganiad y Cyfarwyddyd Llifogydd.

Cafodd gwaith sylweddol ei wneud yn ystod 2021-2022 i ail-raddnodi neu ddatblygu modelau newydd o fewn 16 o ddalgylchoedd afonydd ledled Cymru, yn ogystal â gwella cywirdeb rhagolygon ar draws darnau mawr o’r arfordir. Mae modelau newydd a lleoliadau rhagolygon newydd yn golygu bod y gwasanaeth darogan llifogydd wedi parhau i ehangu. Mae 17,422 o eiddo ychwanegol o fewn ardaloedd negeseuon llifogydd – byddwch yn barod ac 11,555 o eiddo ychwanegol mewn ardaloedd rhybuddion llifogydd bellach yn elwa ar ragolygon sy'n llywio'r broses benderfynu, gan wella amseroldeb a chywirdeb y negeseuon a anfonir.

Y Gwasanaeth Darogan Ar-lein

Y Gwasanaeth Darogan Ar-lein yw'r system ar gyfer lledaenu gwybodaeth rhagolygon a'i rhannu'n fewnol gyda Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybuddion Llifogydd. Wrth i ddata rhagolygon ddatblygu, mae angen gwneud gwelliannau ac addasiadau i wella’r prosesau o ddehongli a deall y data hwn. Mae data darogan llifogydd yn helpu ein Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybuddion Llifogydd i wneud penderfyniadau ynghylch cyhoeddi negeseuon llifogydd - byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd, gan wella dealltwriaeth o berygl llifogydd a gwella'r amser arwain ar gyfer eu cyhoeddi a’u manwl gywirdeb. Cyflawnwyd rhaglen waith allweddol i ddatblygu a gwella’r Gwasanaeth Darogan Ar-lein ym mis Tachwedd 2021, sy’n ei gwneud yn bosibl gwneud mwy o ddefnydd o ddata darogan llifogydd.

Rotâu Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Monitro a Darogan

Mae’r Gwasanaeth Darogan Llifogydd gweithredol CNC yn cael ei ddarparu gan y Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Monitro a Darogan. Mae hwn yn wasanaeth 24/7 sy’n defnyddio’r wybodaeth feteorolegol ddiweddaraf, yn rhedeg yr wybodaeth hon trwy fodelau CNC, ac yn darparu rhagolwg o berygl llifogydd i Gymru o’r prif afonydd a’r môr am y pum niwrnod i ddod. Gwneir hyn bob dydd o'r flwyddyn i gyfrannu at y rhagolygon perygl llifogydd pum niwrnod. Yn ogystal â hyn, mae'r Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Monitro a Darogan yn darparu rhagolygon gwell cyn, ac yn ystod llifogydd, er mwyn llywio gwasanaeth rhybuddion llifogydd CNC. Mae'r system ddarogan well hon yn cynnwys rhedeg modelau darogan llifogydd mor aml â phob hanner awr, ar sail 24/7, er mwyn ddarparu gwybodaeth gyfredol a dargedir am ragolygon llifogydd.

Yn sgil creu’r tîm Rhybuddio a Hysbysu am Lifogydd newydd yn 2020, manteisiwyd ar y cyfle i recriwtio mwy o Swyddogion ar Ddyletswydd i rota a fu’n brin o staff ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod haf a hydref 2021, darparwyd pecyn sylweddol o hyfforddiant er mwyn cyflwyno pedwar Swyddog newydd ar Ddyletswydd i’r rota o Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Monitro a Darogan. Roedd yr hyfforddiant hwn yn cwmpasu meteoroleg; hydroleg; prosesau arfordirol; defnyddio systemau darogan; gweithdrefnau dyletswydd gweithredol a dehongli data rhagolygon ymhlith eraill. Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, treuliodd y Swyddogion newydd ar Ddyletswydd gyfnod o amser yn cysgodi’r Swyddogion ar Ddyletswydd presennol, ac ymunodd y staff newydd â’r rota yn llawn ym mis Ebrill 2022. O ganlyniad i’r gwaith a wnaed i ddarparu’r hyfforddiant hwn (llawer ohono o bell oherwydd y cyfyngiadau symud) mae’r Swyddogion newydd ar Ddyletswydd yn bodloni gofynion y rôl yn fedrus ac yn darparu lefel o wytnwch y mae mawr ei angen i’r rota drwy gynyddu nifer y swyddogion sydd ar ddyletswydd.

Rotâu Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybuddion Llifogydd (FWDO)

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i gryfhau rotâu Swyddogion ar Ddyletswydd ar gyfer Rhybuddion Llifogydd. Mae’r rotâu dyletswydd hyn ar gyfer y swyddogion sy'n cyhoeddi'r rhybuddion llifogydd, gan weithredu ar yr wybodaeth amser real y maent yn ei chael o'r maes ac o wybodaeth wedi'i modelu. Er ein bod wedi gwneud rhai gwelliannau ac wedi cyflwyno mwy o staff i’r rotâu hyn, mae heriau’n parhau ac felly mae hwn yn parhau i fod yn faes ar gyfer gwaith pellach yn ystod 2022-2023 a’r tu hwnt.

Darparu gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg sy'n casglu, dadansoddi ac yn adrodd data sy'n sail i amrediad o wasanaethau rheoli llifogydd a dŵr ar draws CNC. Mae hyn yn cynnwys gwaith modelu a mapio perygl llifogydd, gwaith arfarnu a dylunio cynlluniau perygl llifogydd (safonau diogelu), diogelwch cronfeydd dŵr, darogan a rhybuddio am lifogydd, rheoleiddio afonydd, a chynnal asesiadau ôl-lifogydd o safbwynt swm y glawiad, lefelau afonydd a gofnodwyd, a'u difrifoldeb (e.e. yn ôl trefn hanesyddol neu'r cyfnod rhwng digwyddiadau).

Yn ogystal â chasglu, prosesu ac archifo'r data hwn ar gyfer CNC, mae'r maes gwaith hwn hefyd yn adrodd ar y data ac yn ei rannu â chwsmeriaid mewnol ac allanol drwy ymholiadau penodol am ddata, trosglwyddo data, a darparu gwasanaethau digidol ar ein gwefan, gan gynnwys ein gwasanaeth byw ar gyfer lefelau afonydd, glawiad a data môr, a'r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau cysylltiedig sy'n ei gwneud yn bosibl i drydydd partïon gyrchu ein data ar gyfer ei ddefnyddio eu hunain neu ei ailgyflwyno, e.e. drwy apiau symudol neu wefannau eraill.

Y rhwydwaith hydrometreg

Mae'r rhwydwaith hydrometreg ledled Cymru yn cynnwys 253 o fesuryddion glaw, 347 o safleoedd mesur lefel neu lif afonydd, a 139 o safleoedd mesur dŵr daear. Mae Ffigur 10 yn dangos map o leoliadau'r safleoedd hydrometreg ar draws ein rhwydwaith o safleoedd mesur dŵr, mesuryddion glaw, a safleoedd mesur lefel neu lif afonydd yng Nghymru.

Ffigur 10: Safleoedd hydrometreg ledled Cymru (yn gywir ym mis Mawrth 2021)

Gwelliannau i'r rhwydwaith hydrometrig a gyflawnwyd yn ystod 2021/22

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, canolbwyntiodd gwelliannau i’r rhwydwaith hydrometreg ar gynnal a chadw ac atgyweirio nifer o asedau hanfodol, yn ogystal â gosod a dylunio gwaith i fodloni dyletswyddau er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Llyswennod (Cymru a Lloegr) 2009.

Cafodd prosiectau cynnal a chadw eu cwblhau ar sawl ased hydrometreg i sicrhau y gallant barhau i weithredu a chasglu data i’r safonau gofynnol, gan gynnwys:

  • Gwaith atgyweirio a wnaed i’r orsaf rhybuddion llifogydd ar afon Gwendraeth Fawr ym Mhontyberem, gwaith sefydlogi ar lannau afon Gwendraeth Fach, ynghyd ag ac atgyweiriadau cyffredinol i’r safle a gwelliannau i’r orsaf rhybuddion llifogydd yn Llangyndeyrn, ac mae’r amddiffynfa ar y clawdd blocfaen wedi’i atgyweirio yng Ngorsaf Fesur Lanelay ar afon Elái er mwyn atal erydiad i eiddo cyfagos.
  • Mae gwaith wedi'i wneud ar afon Seiont yng Ngorsaf Fesur Melin Peblig er mwyn gwella llwybr pysgod a llyswennod drwy adeiladu ysgol lyswennod ar ochr chwith y gored uchaf. Mae glan yr afon ger y gored wedi'i hadfer er mwyn hwyluso mynediad i'r gored a gwella diogelwch y cyhoedd.

Map trywydd hydroleg llifogydd y DU

Hydroleg yw'r wyddor sy'n ymwneud ag olrhain llwybr dŵr o'r awyr i'r môr. Yn achos llifogydd, rydym yn defnyddio hydroleg i drosi glawiad ac eira yn llifau at ddibenion darogan, i amcangyfrif perygl llifogydd hirdymor, ac i bennu safonau dylunio ar gyfer ein hasedau. Mae hydroleg yn sail i'n holl waith perygl llifogydd mewndirol, ac felly mae'n bwysig bod gennym weledigaeth ar gyfer y dyfodol o safbwynt hydroleg llifogydd. Rydym wedi bod yn rhan o Grŵp Llywio Hydroleg Llifogydd y DU ers 2018, gan weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, DfI Rivers o Ogledd Iwerddon, y Llywodraeth, diwydiant, a'r byd academaidd, i ddatblygu gweledigaeth o safbwynt map trywydd hydroleg a rhaglen gyflawni dros y 25 mlynedd nesaf er mwyn sicrhau bod methodolegau, safonau, offerynnau a gwasanaethau data sy'n ymwneud â hydroleg llifogydd yn addas ar gyfer y dyfodol, er mwyn gallu ymdrin â hinsawdd sy’n newid ynghyd â phatrymau llif afon mwy eithafol, y maent eisoes wedi dechrau dod i'r amlwg a chael eu cofnodi.

Gwnaethom gyfrannu fel sefydliad partner at ddatblygu’r map trywydd drwy gydol 2021-2022, a chafodd y map trywydd ei hun ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022. Bydd y rhan y byddwn yn ei chwarae yng nghamau nesaf y prosiect hynod bwysig hwn, gan gynnwys ei gyflawni, yn parhau yn ystod 2022-2023 a’r tu hwnt. 

Hydro-geomorffoleg

Mae hydro-geomorffoleg yn ymwneud ag astudio tirffurfiau a nodweddion afonydd a achosir gan ddŵr. Drwy gydol 2021-2022, rydym wedi darparu cymorth er mwyn sicrhau bod Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd yn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Rydym hefyd wedi cynghori ar adfer sawl darn o waith â phroffil uchel a wnaed mewn afonydd heb ganiatâd. Ar hyn o bryd, rydym yn bwriadu cynyddu ein gallu er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu cyngor arbenigol ar brosiectau adfer afonydd ledled Cymru, fel prosiect ‘Pedair Afon LIFE’ a'r prosiectau LIFE, a'n helpu i gyflawni mentrau i wella statws o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr drwy ein rhaglenni Dalgylchoedd Cyfle.

Prosiect adolygu’r rhwydwaith hydrometreg

Dechreuodd y gwaith o adolygu'r rhwydwaith a’r gwasanaeth hydrometreg a thelemetreg yn 2021/22. Roedd hyn yn cynnwys dechrau'r gwaith o asesu pwysigrwydd gorsafoedd monitro yn y rhwydwaith hydrometreg a thelemetreg (>700 o leoliadau), a darparodd allbynnau'r gwaith wybodaeth i gefnogi penderfyniadau rheoli ynghylch y rhwydwaith a’r gwasanaeth.

Mae gwytnwch gorsafoedd monitro allweddol i wrthsefyll amodau eithafol yn cael ei asesu hefyd. Mae’r broses hon yn gwirio dosbarthiad offer monitro ar draws y rhwydwaith, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu at y gorsafoedd monitro pwysicaf, ac yn ceisio nodi’r gorsafoedd hynny lle gallai’r gwasanaeth fethu â gweithio’n iawn oherwydd eu lleoliad e.e., gorsaf a allai gael ei boddi gan ddŵr yn ystod llifogydd eithafol.

Bydd gwaith ar yr adolygiad o’r rhwydwaith a’r gwasanaeth hydrometreg a thelemetreg yn parhau i mewn i 2022-2023, a bydd allbynnau allweddol ar gael ar gyfer ymgynghori a gweithredu arnynt wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol

Drwy'r maes gwaith hwn, darperir gwasanaethau gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'n cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i'r bobl hynny sydd mewn perygl o lifogydd o safbwynt y camau ymarferol y gallant eu cymryd i baratoi yn well cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd. Rydym yn darparu'r cyngor hwn yn ddigidol drwy ein gwefan ac yn uniongyrchol i gymunedau, gan gynnwys drwy ddarparu templedi o gynlluniau llifogydd er mwyn iddynt eu defnyddio, a hwyluso digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a'r arferion gorau.

Offeryn cynaeafu’r cyfryngau cymdeithasol

Yn ystod 2021-2022, gwnaethom gaffael meddalwedd sy’n rhoi mynediad amser real i CNC at gynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol (Twitter) sy’n ymwneud â llifogydd yng Nghymru, ac mae hyn wedi gwella ein hymwybyddiaeth o’r sefyllfa yn ystod llifogydd. Mae'n hwyluso’r gwaith o gasglu data ar effaith llifogydd ar gyfer dilysu rhagolygon, adrodd ar ôl digwyddiad ac adfer. Yn ystod, ac yn dilyn Storm Eunice a Storm Franklin (mis Chwefror 2022), roeddem yn gallu nodi trydariadau, ffotograffau a fideos i adlewyrchu effeithiau’r stormydd ar lawr gwlad a gwnaethom gynllunio system ganiatâd i’n galluogi i’w defnyddio a’u rhannu gydag eraill. Byddwn yn parhau i gynaeafu data perthnasol er mwyn gwella gwasanaethau CNC a deall effeithiau lleol mewn amser real.

Gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol

Rydym yn cefnogi rhwydwaith o 513 o wirfoddolwyr llifogydd cymunedol ledled Cymru drwy hwyluso a chyflwyno digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd. Lle na fu hyn yn bosibl yn sgil cyfyngiadau COVID-19, gwnaethom lunio'r cylchlythyr “Flooding Matters” chwarterol, sydd wedi dod yn rhan o'n cymorth parhaus i wirfoddolwyr. Mae nifer y tanysgrifwyr wedi cynyddu o 791 (Rhifyn 1) i 2,969 (Rhifyn 8, mis Mawrth 2022). Mae'r cylchlythyr wedi cynnwys negeseuon gan sefydliadau partner a diweddariadau i wasanaethau CNC.

Cynlluniau llifogydd cymunedol

Rydym wedi canolbwyntio ar gynnal y 74 cynllun llifogydd cymunedol sydd ar waith ar hyn o bryd er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn gwasanaethu'r cymunedau sy'n berchen arnynt ac yn eu defnyddio. Rydym hefyd wedi datblygu haen y cynlluniau llifogydd cymunedol yn y Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a fydd yn ein galluogi i wella gwaith adrodd a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â'r cynlluniau llifogydd a'r rhwydwaith o wirfoddolwyr.

Ffigur 11: Nifer a lleoliad y cynlluniau llifogydd cymunedol ledled Cymru.

Cwis llifogydd i bobl iau

Gwnaethom weithio gyda chydweithwyr yn y tîm Addysg, Dysgu a Sgiliau i gynhyrchu adnodd ar-lein.

Mae gan Sgowtiaid Cymru fathodyn Ymwybyddiaeth o Lifogydd ar gyfer Cybiaid a Sgowtiaid. Mae'r cwis ymwybyddiaeth llifogyddbyr yn cynnig adnodd ychwanegol, i’w gwblhau yn eu hamser eu hunain neu mewn sesiwn grŵp, er mwyn darganfod mwy am lifogydd a’r hyn y gallant ei wneud i baratoi ar eu cyfer.

Mae arddangosfa ar lifogydd yng Nghanolfan Gweithgareddau Addysg Pentre Peryglon yng Ngogledd Cymru. Mae grwpiau o blant ysgol a theuluoedd yn cael eu tywys o amgylch eu canolfan ryngweithiol, sy'n cynnig y cyfle i ddysgu negeseuon diogelwch pwysig wrth gael hwyl. Mae dolen i'r cwis wedi'i gynnwys ar y dudalen Llifogydd yn eu llyfr gweithgareddau.

Ein gwefan

Mae ein cyngor i’r cyhoedd wedi’i rannu’n dair tudalen, yn benodol i’r wybodaeth y mae pobl yn chwilio amdani ar wahanol gamau o lifogydd – ‘Paratoi ar gyfer llifogydd’, ‘Beth i’w wneud yn ystod llifogydd’ a ‘Beth i’w wneud ar ôl llifogydd’. Cyhoeddwyd y rhain ym mis Ionawr 2022 a bu atynt dros 8,000 o ymweliadau cyfun â’r wefan (yn y Gymraeg a Saesneg) yn ystod y cyfnod hyd at Ebrill 2022, sy’n dangos y bu cynnydd yn nifer y bobl sy’n edrych ar wefan CNC. Yn ystod Storm Eunice a Storm Franklin (mis Chwefror 2022), gwiriodd 5,000 o bobl am gyngor ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd ac aeth 177 o bobl ymlaen i'r dudalen gofrestru ar gyfer derbyn negeseuon llifogydd – byddwch yn barod. Chwiliodd tua 1,000 o bobl am gyngor ar beth i'w wneud yn ystod llifogydd a chwiliodd 80 o bobl am wybodaeth am beth i'w wneud ar ôl llifogydd. Nod darparu’r wybodaeth hon pan fo’i hangen ar bobl yw galluogi’r rheini sydd mewn perygl o lifogydd i ddeall yr hyn y gallant ei wneud i helpu eu hunain a lleihau effaith llifogydd ar eu bywydau, eu cartrefi a’u bywoliaeth.

Gwaith rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy yn wyneb newid arfordirol

Mae ardaloedd arfordirol yng Nghymru yn wynebu heriau o du'r perygl o lifogydd o'r môr, a newidiadau ffisegol parhaus yn yr amgylchedd arfordirol dynamig, sydd eisoes yn bodoli, a hefyd o'r pwysau eithafol y mae'r newid yn yr hinsawdd yn debygol o'u rhoi ar gymunedau arfordirol wrth i ni edrych tuag at y dyfodol. Mae CNC yn chwarae rhan bwysig o ran rheoli asedau perygl llifogydd arfordirol, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynllunio ar gyfer newidiadau yn y dyfodol ynghyd â'r gofynion i addasu dros y tymor hir. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau mewn perthynas â Chynlluniau Rheoli Traethlin.

Mae gwaith sy’n ymwneud ag addasiadau arfordirol yn waith hirdymor, ac mae pob un o’r categorïau yn yr adran hon yn crynhoi’r prif ddatblygiadau yn ystod 2021-2022.

Prosiect Adnewyddu Cynlluniau Rheoli Traethlin i Gymru

Arweiniodd Cyfoeth Naturiol Cymru brosiect, gyda mewnbwn gan grwpiau arfordirol, i adnewyddu'r pedwar Cynllun Rheoli Traethlin ar gyfer Cymru. Mae dau gam gwahanol i'r prosiect; roedd y cam cyntaf, a gyflawnwyd yn ystod 2021-2022, yn cynnwys adolygu’r canlynol: 

  • sut roedd y cynlluniau wedi cael eu gweithredu hyd at hynny
  • beth oedd wedi newid ers iddynt gael eu diweddaru ddiwethaf, megis polisïau neu dystiolaeth newydd
  • p’un a oedd newidiadau’n peri her o ran cyflawni polisïau’r Cynlluniau Rheoli Traethlin

Mae'r prosiect yn rhoi arweiniad clir i grwpiau arfordirol ynghylch y camau nesaf o ran cynllunio ar gyfer pontio o’r ymagweddau polisi tymor byr i bolisïau tymor canolig, wedi’u dogfennu mewn adroddiadau gwirio cynnydd ar gyfer pob Cynllun Rheoli Traethlin. Bydd hyn yn helpu i gyflawni'r cynllun tymor hwy ar gyfer traethlin mwy cynaliadwy. Mae hefyd yn anelu at sicrhau bod Cynlluniau Rheoli Traethlin yn parhau’n gyfoes, yn ddibynadwy ac yn weladwy.

Fel rhan o’r prosiect, lluniwyd Canllawiau Atodol ar gyfer Cynlluniau Rheoli Traethlin gennym. Mae’r rhain yn cefnogi'r gwaith o gynnal a chadw a chyflawni'r cynlluniau yng Nghymru ac yn ategu canllawiau cyfredol 2006. Bydd y canllawiau newydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod egwyddorion allweddol yn cael eu cymhwyso'n gyson ar draws Cynlluniau Rheoli Traethlin.

Mae Cam 2 o brosiect Adnewyddu'r Cynlluniau Rheoli Traethlin yn cael ei gynnal gan y grwpiau arfordirol ac mae'n cynnwys y canlynol:

  • Penderfynu beth sydd angen ei wneud ar gyfer pob Cynllun Rheoli Traethlin yn unol â'r gwiriadau cynnydd
  • Sefydlu’r camau gweithredu penodol sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen (yn unol â’r canllawiau atodol) a phoblogi cynlluniau gweithredu ar gyfer pob Cynllun Rheoli Traethlin

Asedau sy'n wynebu newidiadau arfordirol

Yn 2021-2022, gwnaethom barhau i gyflawni yn erbyn ein prosiect ar ‘Asedau sy'n wynebu newidiadau arfordirol’. Mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r newidiadau sydd eu hangen i reoli ein hasedau arfordirol, yn enwedig lle bu newid ym mholisïau’r Cynllun Rheoli Traethlin. Rydym wedi cwblhau'r cam cyntaf, lle ystyriwyd graddfa'r newidiadau sy'n ofynnol o ran y dull o reoli er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r Cynlluniau Rheoli Traethlin, a'r newid cyfnod sydd ar y gweill sydd ar ddod yn 2025. Yn ystod yr ail gam, caiff yr wybodaeth hon ei dadansoddi'n fanylach a chaiff ein dulliau o lunio strategaethau rheoli yn y dyfodol yn y meysydd hyn eu pennu.

Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoed

Crëwyd y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd, sy’n cael ei chynnal gan CNC ar ran Llywodraeth Cymru, i fodloni’r gofynion statudol i ddarparu cynefinoedd amgylcheddol cydadferol ar gyfer cynlluniau a phrosiectau arfordirol, lle na ellir osgoi cael effaith ar gynefinoedd. Gwnaethom barhau i ymchwilio i gyfleoedd a’u datblygu ar gyfer eu cyflawni yn ystod 2021-2022. 

Mae’r ffocws a’r dull o gyflawni gofynion strategol y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd yn parhau i esblygu. Mae’n cyd-fynd yn agos ag ysgogwyr ehangach fel llesiant a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac wedi’i integreiddio â’r heriau o weithio ar y cyd i fynd i’r afael ag addasiadau arfordirol yn wyneb arfordir sy’n newid a safonau gostyngol amddiffynfeydd rhag llifogydd arfordirol yn wyneb lefelau môr sy’n codi. Felly, mae’r Rhaglen Creu Cynefinoedd Genedlaethol yn darparu rhyngwynebu uniongyrchol â chynlluniau addasu arfordirol ehangach, fel yr amlinellir isod.

Cynllunio addasiadau arfordirol

Yn ystod 2021/22, gwnaethom ragor o waith ar ddatblygu ein dulliau o gynllunio addasiadau arfordirol, gan gyfuno’r wybodaeth a gafwyd drwy ein prosiect “Asedau sy’n Wynebu Newid”, ac ystyried polisïau’r Cynlluniau Rheoli Traethlin a’r angen i gael cynefin cydadferol (a’r cysylltiadau â’r Rhaglen Creu Cynefinoedd Genedlaethol – gweler uchod). Mae ystod o safleoedd arfordirol wedi'u dethol ar gyfer eu hasesu ar sail ffactorau sy'n cynnwys y canlynol:

  • Tystiolaeth o asedau sy'n methu o ganlyniad i archwiliadau ac ymchwiliadau
  • Ardaloedd sy'n wynebu newidiadau polisi o ran Cynllun Rheoli Traethlin 2
  • Argymhellion a wnaed mewn strategaethau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd
  • Trefn flaenoriaethu gan ddefnyddio ein Cofrestr o Gymunedau sydd mewn Perygl
  • Y costau parhaus o wneud gwaith cynnal a chadw ar asedau rheoli perygl llifogydd o'u cymharu ag asesiadau o’r buddion o ran perygl llifogydd
  • Sgrinio ar gyfer y posibilrwydd o greu cynefinoedd rhynglanwol.

Mae'r asesiadau hyn gyfystyr â'r cam cyntaf yn y broses o gynllunio ar gyfer newid arfordirol, ac maent yn cyd-fynd yn agos â chyflawni canlyniadau ar gyfer llesiant (Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol) a chefnogi blaenoriaethau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (Deddf Amgylchedd (Cymru)). Bydd pob un o’r prosiectau hyn yn para sawl blwyddyn, oherwydd eu natur gymhleth, ac felly maent yn feysydd gwaith parhaus sy’n cynnwys cynnal ymgynghoriadau â’r cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae'r prosiectau a gychwynnwyd yn cynnwys Porthmadog, Pwllheli ac ardal dde-orllewinol aber afon Dyfi, ac mae nifer o brosiectau posibl eraill dan ystyriaeth. Mae hwn yn waith hirdymor a fydd yn cael ei ddatblygu'n barhaus.

Arfarnu ecosystemau

Yn ystod 2021-2022, gwnaethom ddatblygu dull Arfarnu Gwasanaethau Ecosystem ar gyfer safleoedd addasu arfordirol yng Nghymru lle mae opsiynau rheoli perygl llifogydd yn cael eu hystyried. Bydd cymhwyso’r dull hwn yn yn ei gwneud yn bosibl cymharu manteision ac anfanteision opsiynau rheoli perygl llifogydd o ran yr amgylchedd er mwyn cefnogi’r broses o baratoi achos busnes (model busnes pum achos). 

Cynllunio strategol

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys ymdrechion i ymgymryd â gwaith cynllunio strategol cyson mewn perthynas â'n rhaglenni gwaith o ran rheoli perygl llifogydd ledled Cymru, ac i arwain ar y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd allweddol. Y diben yw arwain ar faterion polisi strategol o fewn y sefydliad, datblygu cynlluniau hirdymor, a sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn cyflawni rhaglenni gwaith mewn modd effeithiol ac effeithlon.

Sgiliau a gallu

Gwnaethom gydnabod yr angen i wneud mwy o ymdrech ar feithrin sgiliau a gallu, a chreu rhywfaint o adnoddau newydd (boed yn un swydd cyfwerth ag amser llawn yn unig) i arwain y gwaith hwn ym mis Gorffennaf 2020. Diben y rôl yw sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn y sefyllfa orau bosibl o ran sgiliau a datblygiad fel y gallwn fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn yn y dyfodol, yn enwedig y newid yn yr hinsawdd. Hyd yn hyn, mae'r rôl hon wedi canolbwyntio ar gychwyn gwaith prosiect gan gynnwys datblygu fframweithiau cymhwysedd technegol ar gyfer ein rolau rheoli perygl llifogydd allweddol a meysydd sgiliau cysylltiedig, gwella cysylltiadau â phartneriaid academaidd, ac adolygu cyfleoedd hyfforddi.

Yn ystod blwyddyn adrodd 2021-2022, mae llawer o’r gwaith hwn wedi symud ymlaen a chafodd cynllun peilot ar gyfer y Fframwaith Datblygu Technegol ei gyflwyno’n llwyddiannus. Mae gwaith wedi parhau i gryfhau cysylltiadau â phartneriaid academaidd, a gwnaethom hefyd ddatblygu cynigion ar gyfer lleoliadau blwyddyn ar gyfer myfyrwyr addysg uwch ar draws ystod o feysydd rheoli perygl llifogydd, a byddant bellach yn cael eu rhoi ar waith yn 2022-2023. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn rhaglen hyfforddi ar reoli perygl llifogydd, gan ganolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant technegol allweddol ar feysydd fel mapio a modelu, archwilio asedau ac iechyd a diogelwch i staff sy’n gweithio ym maes rheoli perygl llifogydd.

Gofynion buddsoddi tymor hir (LTIR)

Cafodd y gwaith o asesu’r gofynion buddsoddi tymor hir ar gyfer rheoli sylfaen asedau’r amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru ei gychwyn yn 2021-2022, a bydd yn cael ei gyflawni yn 2022-2023. Mae'r asesiad a'r canlyniadau'n canolbwyntio ar waith cyfalaf – codi amddiffynfeydd o’r newydd neu osod amddiffynfeydd yn lle hen rai, a gwaith cynnal a chadw cyfalaf – ar gyfer asedau sydd wedi'u cynnwys yn Asesiad Perygl Llifogydd Cymru. Mae'r asesiadau a wnaed yn defnyddio'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o berygl llifogydd yng Nghymru ar sail genedlaethol i fodelu gwahanol sefyllfaoedd. Mae'n defnyddio gwybodaeth Asesu Perygl Llifogydd Cymru sydd ar gael o’r newydd, ac yn arbennig yr offeryn economaidd newydd a ddatblygwyd fel rhan o brosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru.

Mae adroddiad sy'n crynhoi'r asesiad hwn i'w gyhoeddi yn ystod 2022-2023. Yn dilyn hyn, ystyrir gwneud gwaith pellach i ddatblygu achos buddsoddi cryf ar gyfer pob agwedd ar reoli perygl llifogydd.

Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd

Digwyddodd llawer o waith yn ystod 2021-2022 ar ddatblygu ein Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer yr ail gylch drwy ddefnyddio'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl i'n helpu i fabwysiadu dull seiliedig ar risg o ymdrin â chamau gweithredu Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru, fel y gallwn flaenoriaethu ein cyllid a'n camau gweithredu yn ôl yr ardaloedd lle ceir y perygl mwyaf. Bwriedir cynnal ymgynghoriad allanol ar y Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd yn ystod hydref 2022, a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi wedi hynny yn ystod 2022/23.

Ymchwil a datblygu ym maes Rheoli Perygl Llifogydd

Mae gennym raglen ymchwil a datblygu strategol sydd â'r nod o gyflwyno tystiolaeth allweddol i lywio a gwella ein hanghenion gweithredol a'n hanghenion polisi mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd. Caiff y mwyafrif o'n hanghenion ymchwil a datblygu eu diwallu drwy'r Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd sydd â'r nod o wasanaethu anghenion pob awdurdod rheoli perygl llifogydd a risgiau arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddwyd sawl prosiect allweddol fel rhan o'r Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd, y mae CNC wedi bod ynghlwm wrthynt, fel a ganlyn:

Mae'r rhaglen ehangach o brosiectau yn cynnwys 60 o brosiectau sydd wedi'u dosbarthu'n feysydd thema, gan gynnwys Polisïau, Strategaethau a Buddsoddi, Rheoli Asedau, Rheoli a Modelu Digwyddiadau.

Y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd

Mae gwasanaeth Rheoli Perygl Llifogydd CNC yn ceisio lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau Cymru drwy amrywiaeth o weithgareddau ar draws y busnes sy’n cwmpasu gwaith gweithredol a gwaith sy’n cael ei lywio gan bolisïau. Er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, sefydlwyd y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd strategol ym mis Ionawr 2020. Mae’r rhaglen gwella wedi’i strwythuro i sicrhau bod yr holl waith prosiect a wneir y tu allan i brosiectau adeiladu cyfalaf arferol neu weithgareddau Busnes fel Arfer yn cael ei ganoli o fewn un rhaglen gan sicrhau eglurder, tryloywder, cysondeb ac effeithiolrwydd o ran nodi a chyflawni gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd angenrheidiol ar draws y gwasanaeth. Nod ein rhaglen yw sicrhau ein bod yn gwella’n barhaus er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd 30 o brosiectau o fewn y rhaglen, ac mae nifer o’r prosiectau hyn yn rhan o’r adroddiad blynyddol hwn.

Atebion sy'n seiliedig ar natur

Un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yw cyflwyno mwy o ymyriadau naturiol a dulliau dalgylch er mwyn lleihau perygl llifogydd yng Nghymru. Anogir awdurdodau rheoli risg yng Nghymru i fabwysiadu dull o reoli llifogydd yn naturiol, ac mae'n ofynnol iddynt ystyried defnyddio'r dull hwnnw wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau newydd a gweithgareddau cynnal a chadw.

Datganiad polisi mewnol ar reoli llifogydd yn naturiol

Rydym wedi datblygu datganiad sefyllfa mewnol ar y rhan y mae rheoli llifogydd yn naturiol yn ei chwarae o ran lleihau perygl ac effeithiau llifogydd, gan gyd-fynd â’n dulliau a'n ffyrdd o weithio gyda Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â'r dull cyflwyno, mae CNC yn ceisio cyfleoedd i hyrwyddo a dylanwadu ar y dull o reoli llifogydd yn naturiol, a hynny drwy bolisïau, rhaglenni a chynlluniau ehangach, a thrwy gymryd rhan mewn gwaith ymchwil er mwyn datblygu tystiolaeth a dealltwriaeth bellach o ran rheoli llifogydd yn naturiol.

Prosiectau rheoli llifogydd yn naturiol

Gwnaethom gais llwyddiannus a derbyniwyd cyllid gan gronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru i ddatblygu a symud ymlaen â chyflawni pedwar prosiect Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn 2021-2022, sef yn Llanfair Talhaearn, Dinas Powys a Glyn-nedd. Cefnogwyd pedwerydd prosiect yn afon Teifi Uchaf ond mae wedi'i ohirio oherwydd problemau cyflawni. Nod y rhaglen gyllido yw datblygu sgiliau, arbenigedd a dealltwriaeth mewn perthynas â chyflwyno dull o reoli llifogydd yn naturiol ar draws awdurdodau rheoli risg yng Nghymru, a chyfrannu at y dystiolaeth o'i effeithiolrwydd drwy waith monitro. 

Tystiolaeth ac ymchwil ym maes rheoli llifogydd yn naturiol

Yn ystod 2021-2022, gwnaethom barhau i gynnal a chymryd rhan mewn gwaith ymchwil er mwyn gwella tystiolaeth a dealltwriaeth o effeithiolrwydd y dull o reoli llifogydd yn naturiol, a'r rhan y mae'n ei chwarae o safbwynt lleihau llifogydd yng Nghymru. Yn ogystal â'n gwaith gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar y Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar y cyd, mae CNC yn aelod o fwrdd gweithredol y rhaglen ar gyfer y rhaglen ymchwil rheoli llifogydd yn naturiol a ariennir gan gronfeydd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol UKRI. Bydd y rhaglen ymchwil bwysig hon yn helpu i ddatblygu ymhellach ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o effeithiolrwydd mesurau rheoli llifogydd yn naturiol o ran lleihau perygl llifogydd ar raddfa dalgylch.

Lle mae ein harian yn cael ei wario 

Rydym yn cael ein hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflenwi gwaith rheoli perygl llifogydd, a hynny ar ffurf cyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Daw hyn ar ffurf cyllid refeniw sy'n cefnogi gweithgareddau a gwasanaethau gweithredol arferol a “busnes fel arfer”, yn ogystal â chyllid cyfalaf a ddefnyddir i gyflawni gwaith prosiect.

Yn ystod 2021-2022, derbyniodd CNC gyfanswm o £39 miliwn o gyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd. Roedd y swm hwn yn cynnwys £22 miliwn o gyllid refeniw a £17 miliwn o gyllid cyfalaf. Cafodd y cyllid hwn ei ddefnyddio yn llawn yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gyflawni'r canlyniadau rheoli perygl llifogydd, cynnal y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu, a chyflawni llawer iawn o'r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.

Cyllid cyfalaf

Yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-2022, defnyddiwyd ein cyllid cyfalaf o £17 miliwn i gyflawni 156 o brosiectau o fewn ein rhaglen gyfalaf. Roedd y rhain yn cynnwys llawer o'r prosiectau a amlygir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â llawer o enghreifftiau o waith parhaus y cânt eu cwblhau dros y blynyddoedd i ddod. Mae Ffigur 12 isod yn cynnwys dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect.

Ffigur 12: Siart yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect

Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys costau cyflog (£1.9 miliwn), gorbenion corfforaethol (£0.6 miliwn) a phryniant fflyd, peiriannau ac offer (£850 miliwn) wedi'u cyfalafu. Mae costau TGCh cyfalaf yn ymwneud â gwaith datblygu systemau rheoli perygl llifogydd penodol, neu gyfraniadau at waith datblygu systemau sydd er budd i wasanaethau rheoli perygl llifogydd. Yn ystod y flwyddyn 2021-2022, roedd hyn yn cynnwys gwelliannau i'n system darogan llifogydd a'n system rhybuddio am lifogydd, map Asesu Perygl Llifogydd Cymru, y mapiau llifogydd ar ein gwefan, gwelliannau i'r gwasanaeth Lefelau Afonydd Ar-lein, a'n cronfa ddata o'r stocrestr asedau, AMX.

Cyllid refeniw 

Cefnogodd y setliad refeniw o £22 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2021-2022 yr ymdrech sylweddol sy'n ofynnol o ran cynnal a darparu'r gwasanaethau, cyngor, offerynnau a gweithgareddau y mae CNC yn ymgymryd â nhw er mwyn helpu i reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Yn bennaf, mae'r cyllid hwn yn cynnal costau staff, gwaith cynnal a chadw arferol, gwasanaethau galluogi amrywiol sy'n cefnogi ein gwaith, a gweithgareddau arferol eraill. Mae Ffigur 13 isod yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd.

Ffigur 13: Siart yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd

Mae pob un o'r meysydd gwaith hyn yn rhyngweithio ac yn gorgyffwrdd â'i gilydd er mwyn darparu gwasanaethau allweddol, ac felly, mewn rhai meysydd, mae timau'n cefnogi gweithgareddau yn ehangach, a all arwain at gam-gyfleu graddfa'r ymdrech yn achos rhai o'r gweithgareddau uchod. Er enghraifft, mae'r gwaith o ddarogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion llifogydd yn ddibynnol iawn ar waith hydrometreg a thelemetreg, a chyfrifir am hyn uchod yn unol â hynny.

Mae gwasanaethau galluogi a gorbenion corfforaethol yn cynnwys cyfraniad y tîm Rheoli Perygl Llifogydd i wasanaethau busnes allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni gweithgareddau rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu, caffael, llywodraethu ac arweinyddiaeth, cynllunio corfforaethol, gwasanaethau cyfreithiol, rheoli pobl, cyfleusterau, rheoli fflyd, a chyllid. Mae costau TGCh yn ymwneud â chymorth busnes parhaus, seilwaith, a thaliadau gwasanaethau a thaliadau trwyddedau parhaus ar gyfer systemau rheoli perygl llifogydd.

Roedd y dyraniad refeniw eleni o £22 miliwn yn cynnwys £1 miliwn ychwanegol o Gymorth Grant ar gyfer Amddiffyn rhag Llifogydd yn ogystal â’r £21 miliwn o Gymorth Grant Amddiffyn rhag Llifogydd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod gwaith rheoli perygl llifogydd yn cael ei flaenoriaethu o fewn CNC, a golygodd y bu’n bosibl sefydlu 16 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ychwanegol yn ogystal â chefnogi gwaith cynnal a chadw arferol ychwanegol yn ystod y flwyddyn ochr yn ochr â nifer o brosiectau llai.

Defnyddiwyd y gyllideb refeniw o £22 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn 2021-2022, a helpodd i gefnogi llawer o'r mentrau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â sicrhau bod ein gwasanaethau “busnes fel arfer” wedi parhau i gael eu darparu yn effeithiol.

Niferoedd staff

Yn fras, gellir dosbarthu'r ymdrech sy'n ofynnol o ran cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd yn CNC i'r meysydd gwaith a strwythurau canlynol:

  • Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol sy'n atebol i'r Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau o fewn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
  • Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol sy'n atebol i reolwyr perygl llifogydd a dŵr o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau
  • Timau cyflawni gweithredol integredig sy'n atebol i reolwyr tir ac asedau o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau
  • Gwasanaethau galluogi sy'n darparu cymorth canolog i bob un o swyddogaethau CNC. Maent hefyd yn cael eu hariannu yn rhannol a chymesur o gronfeydd rheoli perygl llifogydd er mwyn ei gwneud yn bosibl darparu'r gwasanaethau hyn

Yn y sefyllfa sydd ohoni ym mis Mawrth 2022, rydym yn amcangyfrif bod nifer y staff mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn meysydd sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd fel y nodir yn y tabl canlynol. (Nid yw'r adroddiad hwn yn cynnwys data ar nifer y staff sy'n gweithio ym maes gwasanaethau galluogi oherwydd ei bod yn rhy gymhleth i nodi rolau a chyfraniadau penodol.)

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn*

Maes gwaith sefydliadol

60

Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol

123

Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol

167

Timau cyflawni gweithredol integredig

350

Cyfanswm amcangyfrif o'r staff cyfwerth ag amser llawn yn CNC a ariennir o gronfeydd rheoli perygl llifogydd

Tabl 5: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio'n uniongyrchol ym maes rheoli perygl llifogydd

Edrych i’r dyfodol 

Er mai diben yr adroddiad hwn yw canolbwyntio ar ganlyniadau a llwyddiannau blwyddyn ariannol 2021-2022, mae rhan helaeth o'r hyn a wnaed eleni yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a chanlyniadau a fydd yn dod i ben yn y blynyddoedd i ddod. Yn y flwyddyn ariannol i ddod (2022-2023), ein nod yw dechrau gwaith adeiladu sylweddol mewn dau leoliad yn ogystal â symud ymlaen â datblygu prosiectau mewn sawl lleoliad arall ledled Cymru. Bydd yr adroddiad blynyddol nesaf yn cynnwys diweddariad ar y prosiectau hyn, a nodir rhai o uchafbwyntiau'r gwaith nesaf hwn isod:

Stryd Stephenson, Llyswyry (Casnewydd)

Mae cartrefi a busnesau yn Llyswyry, Casnewydd yn agored i lifogydd o afon Wysg yn ystod adegau o lawiad trwm a llanwau uchel. Mae cyfleusterau hamdden, ardaloedd diwydiannol, a seilwaith allweddol hefyd mewn perygl, ac mae'r amddiffynfeydd presennol mewn cyflwr gwael. Disgwylir i waith adeiladu ddechrau ar ddiwedd 2022-2023. Nod y cynllun fydd codi rhannau o’r arglawdd pridd presennol, ac mewn ardaloedd eraill, bydd waliau llifogydd newydd yn cael eu hadeiladu i godi’r amddiffynfa i’r lefel ofynnol, a bydd llifddor newydd yn cael ei gosod yn yr ardal ddiwydiannol. Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun yn darparu lefel amddiffyn uwch i dros 800 o adeiladau yn yr ardal. Yn ystod 2021-2022, cwblhawyd gwaith dylunio yn ogystal â gwaith clirio llystyfiant datblygedig er mwyn hwyluso’r prif gyfnod cyflawni.

Rhydaman (Sir Gaerfyrddin)

Mae'r hyn sy'n achosi llifogydd yn Rhydaman yn gymhleth, ac mae dŵr yn llifo i'r dref mewn sawl lle. Mae angen cyfuniad o fesurau i leihau'r perygl o lifogydd. Ar hyn o bryd, disgwylir i waith adeiladu ddechrau yn ystod 2022-2023, a bydd yn cynnwys codi cyfres o argloddiau a muriau rhag llifogydd mewn sawl ardal o'r dref er mwyn atal dŵr llifddwr yn afon Llwchwr, a hefyd gosod mesurau amddiffyniad lefel eiddo. Bydd y cynllun hwn yn lleihau'r perygl o lifogydd ar gyfer tua 300 o adeiladau. Cwblhawyd y gwaith dylunio manwl yn ystod 2021-2022 yn ogystal â rhywfaint o waith clirio coed hanfodol i’w gwneud yn bosibl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2022-2023.

Y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg

Byddwn yn parhau i gwblhau datblygiad y system i gefnogi model dyrannu refeniw ar sail risg yn y gronfa ddata rheoli asedau (AMX). Bydd angen profi'r gwaith datblygu yn unol â hynny gyda gweithdrefnau TGCh cyn lansio cronfa ddata AMX i’r amgylchedd byw.

Er mwyn cyrraedd safon dda o barodrwydd busnes ar gyfer y newid busnes cytunedig hwn, bydd dogfennau fel canllawiau sy’n disgrifio’r broses gyda chyfarwyddiadau rhagnodol yn cael eu cynhyrchu a’u cymeradwyo cyn y darperir hyfforddiant a chymorth i dimau gweithredu rheoli perygl llifogydd er mwyn ei gwneud yn bosibl defnyddio methodoleg model dyrannu’r refeniw ar sail risg i asesu ffyrdd o flaenoriaethu asedau a gweithgarwch cynnal a chadw cysylltiedig.

Ein nod yw defnyddio'r model dyrannu refeniw ar sail risg fel yr offeryn i ddyrannu cyllid ar gyfer y Rhaglen Cynnal a Chadw Rheolaidd Rheoli Perygl Llifogydd yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Byddwn yn gallu amcangyfrif y gwariant a ragwelir drwy gydol y flwyddyn a monitro perfformiad y gwaith cynnal a chadw gwirioneddol a gwblhawyd yn erbyn yr hyn a amcangyfrifwyd.

Gwelliannau i’r gronfa ddata rheoli asedau (AMX)

Bydd gwaith yn parhau i wella ein cronfa ddata rheoli asedau gyda thri phrosiect nodedig: Integreiddiadau Asedau Llifogydd, Gwaith Adeiladu Asedau Llifogydd, a phrosiect Cylch Oes Asedau Llifogydd. Bydd y prosiect cyntaf yn integreiddio AMX gyda systemau corfforaethol CNC ac yn gwella perfformiad y system. Bydd y prosiect adeiladu yn gwella ein gwaith papur rheoli risg, gan gynnwys Asesiadau Risg Diogelwch y Cyhoedd, a bydd hefyd yn ymgorffori adrannau Ymateb i Ddigwyddiad a Chynlluniau Wrth Gefn. Bydd y prosiect olaf yn ystyried ffordd o weithredu gwaith cynllunio cylch oes asedau yn AMX, a bydd yr allbwn yn dangos y rhaglen cynnal a chadw, gyda rhagolwg o gost oes gyfan/gwerth asedau. Mae'r cyfuniad hwn o brosiectau yn debygol o ymestyn dros sawl blwyddyn.

Bydd pensaernïaeth Asset Group hefyd yn cael ei newid er mwyn galluogi asedau MEICA i gael eu trosglwyddo i'r system AMX. Bydd y strwythur grŵp newydd yn fanteisiol i sut mae CNC yn rheoli asedau rheoli perygl llifogydd o Asesiadau Risgiau Diogelwch y Cyhoedd i arolygiadau o reoli perygl llifogydd Asedau Cronfeydd Dŵr . 

Adolygiad o systemau rheoli asedau

Yn dilyn y gwaith dadansoddi bylchau i bennu ein perfformiad yn erbyn safonau’r diwydiant, byddwn yn datblygu Cynllun Rheoli Asedau Strategol ar gyfer asedau rheoli perygl llifogydd. Hwn fydd y cyntaf o blith cyfres o dasgau i lunio system rheoli asedau yn unol â’r hyn a ddisgrifiwyd gan y Sefydliad Rheoli Asedau ac ISO 55001.

Datblygu'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Fel rhan o'r diwygiadau i TAN15, rydym yn cyflwyno Map Llifogydd newydd ar gyfer Cynllunio yn lle’r map cyngor datblygu presennol. Cafodd hwn ei gyhoeddi ym mis Medi 2021 i ddechrau, a dyma’r map cyntaf i ddangos y perygl o lifogydd yn y dyfodol yn sgil y newid yn yr hinsawdd, gan dybio nad oes unrhyw amddiffynfeydd yn eu lle. Er nad oes gan y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio statws swyddogol at ddibenion cynllunio tan fis Mehefin 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo awdurdodau lleol i adolygu eu Hasesiadau Strategol o Ganlyniadau Llifogydd erbyn mis Tachwedd 2022 yn unol â’r TAN15 newydd a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fireinio’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ymhellach gyda modelau llifogydd lleol diweddaredig a thystiolaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar berygl llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb. Caiff y map ei ddiweddaru bob chwe mis ym mis Mai a mis Tachwedd.

Byddwn hefyd yn cyfeirio at y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio fel yr ‘wybodaeth orau sydd ar gael’ ar berygl llifogydd i gefnogi ein cyngor cynllunio fel rhan o'n rôl fel ymgynghorai statudol.

Lwfansau Newid yn yr Hinsawdd

Byddwn yn datblygu prosiect dros y flwyddyn ariannol nesaf i ystyried newidiadau yn llif afonydd brig a glawiad eithafol o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall yn well effeithiau llifau a glawiad cynyddol ar berygl llifogydd ledled Cymru. Byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddiwygiadau i’w canllawiau ar y newid yn yr hinsawdd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ac at ddibenion cynllunio datblygiadau. 

Prosiect adnewyddu’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd

Bydd prosiect adnewyddu’r system rhybuddion llifogydd yn parhau yn 2022-2023, a disgwylir i’r system newydd gael ei chyflwyno yn ystod haf 2024. Mae hwn yn brosiect TGCh arwyddocaol iawn, gan mai dyma’r system yr ydym yn ei defnyddio i roi rhybuddion llifogydd i’r cyhoedd a phartneriaid. Mae hefyd yn brosiect cymhleth gyda llawer o fewnbynnau ac allbynnau data, ac mae ei gyflawni'n llwyddiannus yn flaenoriaeth allweddol i ni.

Digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd

Yn sgil llacio cyfyngiadau COVID-19, ac o ymgynghori â’r rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd sy’n awyddus i gwrdd eto wyneb yn wyneb, rydym yn bwriadu hwyluso a chynnal dau ddigwyddiad Rhwydwaith Gwirfoddolwyr i gefnogi gwirfoddolwyr llifogydd cymunedol a chymunedau sydd mewn perygl o lifogydd gyda chyfranogiad gan bartneriaid cenedlaethol, awdurdodau lleol a sefydliadau cynorthwyol eraill a all gynnig cyngor ac arweiniad. Gobeithiwn gynnal y digwyddiadau hyn yn hydref 2022. 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf