Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2023 - 2024

Rhagair

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn crynhoi’r ystod o weithgareddau a gyflawnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth reoli perygl lifogydd yng Nghymru yn 2023/24.

Mae’n amlwg ein bod yn gweithredu mewn cyfnod heriol iawn. Y cyfnod rhwng Hydref 2023 a Mawrth 2024 oedd yr ail aeaf gwlypaf erioed yn y DU, yn ôl y Swyddfa Dywydd (Newid hinsawdd yn arwain at gynnydd mewn glawiad stormydd – y Swyddfa Dywydd). Cafwyd 10 storm wedi’u henwi, ac mae dadansoddiad y Swyddfa Dywydd yn dangos bod 20% yn fwy o law, gyda’r glawiad 15% yn fwy dwys, oherwydd newid hinsawdd. Mae’r ddau yn ystadegau syfrdanol – gall yr arbenigwyr hinsawdd ddangos tystiolaeth ein bod ni’n profi mwy o law, a mwy o lawiad dwys, oherwydd newid hinsawdd.

Felly, mae’r dystiolaeth yn glir ein bod yn gweld effeithiau hinsawdd sy’n newid. Rydym hefyd yn profi pwysau aruthrol ar ein byd naturiol, ac argyfwng natur. Mae’n amlwg bod angen inni ddatgarboneiddio i atal mwy o effeithiau hinsawdd a natur, ond bod llawer o’r effeithiau bellach wedi’u cloi i mewn. Nid yw’r angen deublyg ar gyfer addasu i newid yn yr hinsawdd a meithrin gwytnwch i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ynghyd â gwella byd natur wrth inni wneud hynny, yn bethau ar gyfer y dyfodol, ond maent yn anghenion y maen rhaid i ni eu hwynebu nawr.

Rydym yn cydnabod yr angen hwn yn CNC. Er bod gennym arferion rheoli perygl llifogydd da ar waith – a rhoddir llawer o enghreifftiau yn yr adroddiad hwn – ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae angen inni addasu a gwella ein ffordd o feddwl a’n harferion yn barhaus. Fodd bynnag, mae hyn yn heriol iawn, mewn byd lle mae gofynion yn cystadlu am flaenoriaethau ac adnoddau'r sector cyhoeddus. Mae’n bwysig bod buddsoddiad parhaus yn y sector gan lywodraethau, neu ni fyddwn yn gallu ymateb yn y ffyrdd ac i’r graddau y gwyddom sydd eu hangen arnom. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad Gofynion Buddsoddi Hirdymor sy’n asesu’r buddsoddiad sydd ei angen mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd o dan senarios amrywiol. Gwyddom na fydd amddiffynfeydd rhag llifogydd ar eu pen eu hunain yn gallu gwrthsefyll llifogydd, ond maent yn rhan bwysig o’r darlun, ac mae’r anghenion yn sylweddol. Gobeithiwn ddarparu gofynion buddsoddi ar gyfer meysydd eraill o reoli perygl llifogydd yn y dyfodol, er mwyn adeiladu'r darlun cyflawn.

Wrth ymateb i’r anghenion tymor agos, fe wnaethom hefyd gyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru yn ystod 2023/24. Mae hwn yn nodi’r camau gweithredu y bwriadwn eu cymryd dros y 6 blynedd nesaf, i reoli’r perygl llifogydd presennol yng Nghymru, ac i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi cipolwg o’r meysydd rydym yn gweithio arnynt, ar gyfer y tymor byr a’r tymor hwy, wrth i ni weithio ar draws yr ystod lawn o ymyriadau rheoli perygl llifogydd i helpu i leihau’r risgiau i bobl a seilwaith Cymru. Mae llawer i’w wneud, a bydd angen i’r holl gymunedau a sefydliadau partner ymdrechu ar y cyd i gyflawni’r gwaith hwnnw. Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn, wrth arddangos y gwaith da sy’n cael ei wneud ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru, yn helpu i gymell ac ysbrydoli’r rhai sy’n gweithio yn y sector nawr, a’r rhai sydd am gymryd rhan. Mae hwn yn waith pwysig, a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau a bywoliaethau, cynaliadwyedd ein gwlad a’i hamgylchedd, a llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

 

Jeremy Parr
Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau
Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Crynodeb Gweithredol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, a'n diben craidd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Mae gennym amrediad o rolau a chyfrifoldebau, gan amrywio o reoleiddiwr i gynghorydd, tirfeddiannwr, gweithredwr ac ymatebwr mewn argyfwng. Mae gennym drosolwg strategol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol sy'n golygu goruchwylio a chyfathrebu gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn gyffredinol yng Nghymru. Mae gennym bwerau hefyd i reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr.

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod 272,817 o adeiladau mewn perygl o lifogydd. Mae hyn yn golygu tuag 1 eiddo ym mhob 8 yng Nghymru. Rydym yn dilyn dull sy'n seiliedig ar risg o reoli perygl llifogydd drwy'r gweithgareddau a gyflawnir gennym. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r buddsoddi a wnaed, gweithgareddau allweddol, a chyflawniadau CNC o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024. Mae'n seiliedig ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ar adeg ei ysgrifennu (gwanwyn 2024).

Rydym yn bwriadu defnyddio'r adroddiad blynyddol hwn i ffurfio rhan o'r adroddiad statudol y mae'n ddyletswydd arnom i’w gwblhau (o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr) ar gynnydd gweithredu Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Hydref 2020, a bydd llawer o'r gweithgareddau a ddisgrifir yn yr adroddiad blynyddol hwn yn cyfrannu at ddull cyflwyno'r amcanion a mesurau y mae'r strategaeth honno'n eu cynnwys.

Mae rhai o uchafbwyntiau allweddol 2023/24 yn cynnwys:

  • Buddsoddiad o £56.6m gan Lywodraeth Cymru ar weithgareddau rheoli perygl llifogydd allweddol.
  • Cwblhau cynllun lliniaru llifogydd sylweddol yn Rhydaman (Sir Gâr) sy'n diogelu 223 eiddo. Gwnaethom hefyd gynnydd ar gynlluniau mawr mewn lleoliadau ledled Cymru megis Stryd Stephenson (Casnewydd), Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd) ac Aberteifi (Ceredigion).
  • Mae 824 eiddo arall wedi elwa’n uniongyrchol o’r lefel barhaus o amddiffyniad rhag llifogydd a ddarparwyd gan ein gwaith cynnal a chadw cyfalaf.
  • Cyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd am y chwe blynedd nesaf.
  • Cyflawni mesurau o Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru gan gynnwys cyhoeddi adroddiad Adran 18 ar gynnydd yn erbyn y strategaeth a chyhoeddi ein hasesiad o’r gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli ein hasedau rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol.
  • Cyflawni gwelliannau i'n blaenoriaethau o ran ein rhaglenni cynnal a chadw asedau arferol trwy gyflwyno dull newydd sy'n seiliedig ar risg.
  • Cyflawni gwelliannau i’r gwasanaeth rhagweld llifogydd a’r rhwydwaith hydrometrig sy’n arwain at welliannau i’n gwasanaeth rhybuddion llifogydd.
  • Parhau i ddatblygu prosiectau TGCh allweddol i gymryd lle ein System Rhybuddion Llifogydd a'n system Telemetreg.
  • Gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu ein Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd newydd a fydd yn cael ei roi ar waith yn yr haf.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl uchafbwyntiau hyn, ynghyd â chyflawniadau allweddol eraill, wedi'i chynnwys yn yr adroddiad hwn.

 

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys manylion am ein cyflawniadau allweddol a’n hamcanion o safbwynt rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Ceir manylion ynddo am y gweithgareddau sy'n cyfrannu at reoli perygl llifogydd yng Nghymru ac mae hefyd yn rhoi sylw i fetrigau ac ystadegau allweddol sy'n dangos y lefel o ymdrech sydd ynghlwm wrth reoli perygl llifogydd ynghyd â graddfa'r her a wynebir.

Nid yw'r adroddiad hwn yn cwmpasu pob gweithgaredd neu faes gwasanaeth yn fanwl, a bwriedir iddo fod yn grynodeb o uchafbwyntiau blwyddyn ariannol 2023/24. Mae'r wybodaeth a’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar y data a oedd ar gael ar adeg llunio'r crynodeb hwn (gwanwyn 2024). Bydd yr adroddiad hwn yn gyhoeddiad blynyddol parhaol a bydd yn cyd-fynd â chyflwyno'r adroddiad cynnydd nesaf ar Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru (sef ‘adroddiad Adran 18’ sy'n ofynnol o dan adran 18 o'r Ddeddf Llifogydd a Rheoli Dŵr).

Stormydd a llifogydd a brofwyd dros y flwyddyn ddiwethaf (Ebrill 2023 – Mawrth 2024)

Bob blwyddyn, rydym yn cynllunio'r gwaith rydym am ei gyflawni er mwyn rheoli perygl llifogydd. Ar ben hynny, rhaid i ni ymateb i ddigwyddiadau llifogydd pan fônt yn digwydd. Gallai ein gwaith fod yn ymatebol er mwyn rheoli'r digwyddiad llifogydd ar y pryd, neu gallai achosi gwaith ychwanegol y bydd angen i ni ei gyflawni. Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r digwyddiadau llifogydd a stormydd mwyaf nodedig y gwnaethom ymateb iddynt yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y rhai a achosodd aflonyddwch neu ddifrod sylweddol i gymunedau.

Rydym yn monitro ac yn ymateb i lifogydd pryd bynnag y maent yn digwydd – 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, bob dydd o’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys olrhain rhagolygon, cyhoeddi rhybuddion, sicrhau bod asedau llifogydd a hydrometreg yn gweithredu’n iawn, postio’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan, delio â chyfweliadau ac ymholiadau gan y cyfryngau, cefnogi sefydliadau eraill sy’n ymateb i ddigwyddiadau a thrwsio difrod a achoswyd i amddiffynfeydd ar ôl stormydd. Pan fo digwyddiad yn codi, ceir effaith amlwg ar ein gallu i gyflawni gwaith arall a gynlluniwyd wrth i ni ymateb i'r heriau y mae pob digwyddiad tywydd difrifol yn ei gyflwyno, a hynny yn ystod y digwyddiadau hyn a'r cyfnod sy'n eu dilyn, wrth i ni ddelio â'r effeithiau a'r canlyniadau.

Yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol (2022/23), ni chafwyd unrhyw stormydd a enwyd yn y DU. Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cafwyd 12 storm a enwyd. Roedd dwy storm o'r flwyddyn flaenorol a gafodd effaith anarferol ar Gymru ym mis Awst 2023 ac roedd 10 o dymor stormydd 2024. Mae hyn wedi gwneud gaeaf 2023/24 yn wlyb ac yn heriol a chafwyd llawer o ddyddiau o berygl llifogydd uwch. Cyhoeddwyd mwy o rybuddion llifogydd yn ystod 2023/24 nag yn unrhyw un o’r tair blynedd flaenorol sy’n dangos pa mor gyson wlyb fu cyfnod y gaeaf. Nid yw pob un o'r stormydd a enwyd wedi arwain at effeithiau llifogydd ond disgrifir y stormydd a enwyd a'r stormydd dienw a arweiniodd at effeithiau llifogydd isod.

Storm ddienw, 20 Medi 2023

Daeth gweddillion Corwynt Lee a effeithiodd ar Bermuda, yr Unol Daleithiau a Chanada â gwyntoedd cryfion a bandiau o law trwm a achosodd lifogydd ar ffyrdd ac aflonyddwch yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Phowys. Yng Nghlydach yng nghwm Tawe, cyrhaeddodd afon Clydach ei hanterth ar 4.16m gan foddi Clwb Golff Mond Valley a chaeau ac adeiladau Clwb Rygbi’r Fardre.

Storm Babet, 18 i 21 Hydref 2023

Storm Babet oedd y trydydd cyfnod annibynnol gwlypaf o dri diwrnod ar draws Cymru a Lloegr gyfan ers 1891. Teimlwyd effeithiau mewn cymunedau ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wrth i’r storm sbarduno 46 rhybudd llifogydd ar lefelau amrywiol mewn cyfnod o 48 awr sy’n dangos y glawiad enfawr a ddisgynnodd yn yr ardal hon o Gymru dros gyfnod cymharol fach o amser. Effeithiwyd ar drafnidiaeth wrth i ffyrdd a rheilffyrdd ddioddef llifogydd a bu’n rhaid i nifer o ysgolion gau. Mewn rhai ardaloedd cafodd eiddo eu gwacáu o ganlyniad i’r glaw trwm a’r llifogydd cynyddol a arweiniodd at lifogydd mewn tua 160 eiddo yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys. Cyhoeddwyd rhybudd llifogydd difrifol sy'n golygu bod perygl i fywyd ar gyfer Llandrinio, Powys sy'n cwmpasu'r ardal lle mae afonydd Hafren ac Efyrnwy yn cyfarfod.

Storm Ciaran, 31 Hydref i 1 Tachwedd 2023

Daeth Storm Ciaran â gwyntoedd cryfion iawn a glaw trwm yn fuan wedi Storm Babet. Roedd dalgylch yr Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod a oedd eisoes yn orlawn yn golygu y cyhoeddwyd Rhybudd Llifogydd Difrifol wrth i'r afon gyrraedd y lefelau uchaf erioed. Fe wnaethom ni fynychu’r ymateb amlasiantaeth hwn ac arweiniodd ein cyngor at symud mwy na 900 o bobl i ddiogelwch, yn ddiogel a llwyddiannus, wrth i ddyfroedd llifogydd foddi safle gwyliau Kiln Park yn yr ardal.

Storm Henk, 2 Ionawr 2024

Storm Henk oedd yr wythfed storm o'r tymor a enwyd. Daeth â gwyntoedd cryfion a glaw trwm ledled Cymru. Effeithiwyd waethaf ar afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod a oedd yn destun rhybudd llifogydd difrifol, a chafwyd llifogydd ym maes carafanau Parc Kiln am yr eildro y gaeaf hwn. Yn ystod Storm Henk fe wnaethom hefyd gyhoeddi cyfanswm o 30 o Rybuddion Llifogydd a 40 o Rybuddion Llifogydd - Byddwch yn Barod ledled Cymru. Fe wnaeth y storm darfu’n helaeth ac er bod nifer o afonydd wedi cyrraedd lefelau rhybuddion llifogydd a bod llawer o gyrsiau dŵr allan wedi codi y tu hwnt i’r glannau, fe wnaeth ein rhwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd atal llifogydd mewn sawl ardal.

Storm Isha, 21 i 22 Ionawr 2024

Daeth storm Isha â gwyntoedd mor gryf â 90mya ynghyd â thywydd gwlyb iawn. Cafodd tir uchel Gogledd Cymru 50mm o law ac mewn mannau, cafwyd dros 100mm. Cafodd ffyrdd eu gorlifo yng Ngogledd Cymru ac achosodd y gwyntoedd cryfion aflonyddwch sylweddol. Lleihawyd y perygl o lifogydd yn sgil Storm Isha am iddi gyrraedd ar ôl pythefnos o dywydd oer a sych ond er gwaethaf hyn, ar anterth y storm cyhoeddwyd chwe Rhybudd Llifogydd a 36 Hysbysiad am Lifogydd.

Y cyfnod rhwng Hydref 2023 a Mawrth 2024 oedd yr ail aeaf gwlypaf erioed yn y DU, yn ôl y Swyddfa Dywydd (Newid yn yr hinsawdd yn arwain at gynnydd mewn glawiad stormydd - y Swyddfa Dywydd). Roedd y dalgylchoedd yn orlawn o ddŵr drwy gydol y cyfnod oherwydd lefelau uchel yr afonydd a oedd yn sensitif i unrhyw lawiad. Er bod sawl afon wedi cyrraedd lefelau pryderus o uchel, gan gyrraedd y lefelau uchaf erioed weithiau yn ystod y stormydd a nodir uchod, gwnaeth ein rhwydwaith o amddiffynfeydd rhag llifogydd sydd o fudd i 102,000 o eiddo ledled Cymru eu gwaith i helpu i leihau’r perygl i filoedd o bobl. Roedd hefyd yn golygu y bu’n gyfnod prysur iawn i’n staff a’n swyddogion ar ddyletswydd sy’n gweithio ar rota i fonitro’r sefyllfa, yn rhoi hysbysiadau a rhybuddion pan fo angen ac yn cymryd camau i leihau’r perygl o lifogydd i bobl ac eiddo.

Adolygiad o Lifogydd Mis Chwefror 2020

Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd rhai o’r llifogydd mwyaf dinistriol y mae Cymru wedi’u gweld ers cenhedlaeth. Ar ôl gaeaf eithriadol o wlyb, cyrhaeddodd y glawiad a'r llifau afon mwyaf erioed yn sgil Storm Ciara, Storm Dennis a Storm Jorge ym mis Chwefror 2020, ac, o ganlyniad iddynt, achoswyd y digwyddiad llifogydd mwyaf difrifol ac eang eu gwasgariad a welwyd yng Nghymru ers 1979. Cafwyd adroddiadau o lifogydd ar gyfanswm o 3,130 eiddo ledled Cymru.

Gwnaethom gynnal adolygiad sylweddol o'n hymateb i'r stormydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ein gweithrediadau rheoli digwyddiadau llifogydd a myfyrio ar sut y gellid addasu'r arferion cyfredol rydym yn eu mabwysiadu o ran rheoli ystâd tir CNC er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Gwnaethom gyhoeddi'r adolygiadau hyn ar ein gwefan ym mis Hydref 2020.

Arweiniodd yr adolygiadau hyn at raglen waith i gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd yn yr adolygiad ar lifogydd, yr adolygiad o dir a'r gwaith adfer parhaus. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’r adolygiad o dir wedi’i gwblhau, ynghyd â 75% o’r camau gweithredu o’r adolygiad ar lifogydd a’r gwaith adfer parhaus. Mae'r camau gweithredu sy'n weddill wedi'u trosglwyddo i gynlluniau gwaith tîm er mwyn iddynt barhau i'w cyflawni. Mae’r camau gweithredu a gwblhawyd hyd yma wedi gwneud gwelliannau er bod angen gwneud rhagor o waith o hyd i wella ein gallu i wrthsefyll llifogydd mawr.

Trafodir canlyniadau a buddion pellach o brosiectau a gyflawnwyd o ganlyniad i'r adolygiad llifogydd o dan y penodau pwnc perthnasol yn yr adroddiad hwn.

Y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd

Mae ein gwasanaeth Rheoli Perygl Llifogydd yn ceisio lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau Cymru drwy amrywiaeth o weithgareddau ar draws y busnes sy’n cwmpasu gwaith gweithredol a gwaith sy’n cael ei lywio gan bolisïau. Er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, sefydlwyd y Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd strategol ym mis Ionawr 2020. Mae’r rhaglen gwella wedi’i strwythuro i sicrhau bod yr holl waith prosiect a wneir y tu allan i brosiectau adeiladu neu weithgareddau ‘busnes fel arfer’ yn cael ei ganoli o fewn un rhaglen gan sicrhau tryloywder, cysondeb ac effeithiolrwydd o ran nodi a chyflawni gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd ar draws y gwasanaeth. Nod ein rhaglen yw gwella’n barhaus er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2024 roedd 21 o brosiectau byw o fewn y rhaglen. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae dau brosiect mawr wedi'u cwblhau; prosiect Cronfa Ddata Asedau Cenedlaethol a phrosiect Uwchraddio FEWS Cymru.

Mae llawer o'r prosiectau o'r Rhaglen Gwella Rheoli Perygl Llifogydd i’w gweld yn y penodau pwnc perthnasol yn yr adroddiad blynyddol hwn.

Deall a dadansoddi perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl ymdrechion i gynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd yng Nghymru, a hynny'n bennaf drwy ein gweithgareddau dadansoddi hydrolegol a modelu perygl llifogydd. Mae hefyd yn cynnwys sut yr ydym yn cyfleu'r perygl llifogydd hwnnw i randdeiliaid drwy ein cynhyrchion mapio llifogydd a'n gwasanaethau gwefan. Ei ddiben yw cynyddu ein dealltwriaeth o berygl llifogydd, llywio pob un o'n gweithgareddau eraill, a'u cyfarwyddo, ac i hysbysu ein rhanddeiliaid am eu perygl llifogydd perthnasol.

Mae gennym bwerau i reoli llifogydd o brif afonydd, o'n cronfeydd dŵr, ac o'r môr. Mae gennym hefyd rôl oruchwylio strategol gyda goruchwyliaeth gyffredinol dros yr holl faterion sy’n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn golygu cael dealltwriaeth gyson, ar draws Cymru gyfan, o bob ffynhonnell llifogydd ac erydu arfordirol, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw, er mwyn darparu cyngor i Lywodraeth Cymru yn ogystal â helpu i hysbysu'r Awdurdodau Rheoli Perygl a'r cyhoedd. Fel rhan o'n rôl drosolwg strategol, rydym yn gwneud gwaith mapio perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer pob ffynhonnell o berygl llifogydd.

Beth sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru nawr?

Ym mis Ebrill 2024, roedd cyfanswm yr adeiladau yng Nghymru heb eu hamddiffyn ac felly mewn perygl o lifogydd yn 340,046. Gall rhai adeiladau fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell, ac felly gan osgoi cyfri’r adeiladau sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog fwy nag unwaith, amcangyfrifir bod 272,817 o adeiladau mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Tablau 1-3 isod yn dangos y dadansoddiad yn ôl ffynhonnell llifogydd, math o eiddo a band perygl llifogydd.

Rydym wedi gwneud gwelliannau i’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth o berygl llifogydd sydd wedi arwain at newidiadau yn y ffordd yr ydym yn modelu ac yn cyfrifo eiddo sydd mewn perygl o lifogydd. Mae hyn, ynghyd â chynnwys carafanau sefydlog yn ein cyfrif am y tro cyntaf, wedi arwain at gynnydd yn nifer yr eiddo sydd mewn perygl o lifogydd ers cynnal y diweddariad mawr diwethaf.

Mae'r tablau canlynol yn dangos dosbarthiad yr adeiladau fesul lefel perygl a ffynhonnell, ar sail ffigurau cywir ym mis Ebrill 2024.

Tabl 1: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o afonydd.

Categori perygl llifogydd Eiddo preswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Gwasanaethau Allweddol mewn perygl o ddioddef llifogydd Cyfanswm mewn perygl o ddioddef llifogydd
Afonydd Uchel 25,063 3,066 691 28,820
Afonydd Canolig 17,032 2,511 443 19,986
Afonydd Isel 48,409 6,988 1,361 56,758
Cyfanswm yr Afonydd 90,504 12,568 2,495 105,564

 

Tabl 2: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o’r môr.

Categori perygl llifogydd Eiddo preswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Gwasanaethau Allweddol mewn perygl o ddioddef llifogydd Cyfanswm mewn perygl o ddioddef llifogydd
Môr Uchel 56,328 5,866 1,109 63,303
Môr Canolig 13,418 2,091 429 15,938
Môr Isel 9,790 1,458 319 11,567
Cyfanswm y Môr 79,536 9,415 1,857 90,808

 

Tabl 3: Nifer yr adeiladau preswyl, yr adeiladau dibreswyl, a'r gwasanaethau allweddol mewn perygl o lifogydd yng Nghymru o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain.

Dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach Eiddo preswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Eiddo dibreswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd Gwasanaethau Allweddol mewn perygl o ddioddef llifogydd Cyfanswm mewn perygl o ddioddef llifogydd
Uchel 34,893 3,870 957 39,720
Canolig 18006 2,182 499 20,687
Isel 73,848 7,574 1,845 83,267
Cyfanswm 126,747 13,626 3,301 143,674

Beth sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru yn y dyfodol?

Ledled Cymru, rhagwelir y bydd dros 130,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd o’r môr a bron 114,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd erbyn 2120. Mae hyn yn gynnydd o dros 39,000 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o’r môr a chynnydd o fwy na 24,000 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd. Bydd hefyd 48,000 yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd yn sgil dŵr wyneb a nentydd bach.

Mae rhagamcanion hinsawdd yn dangos y byddwn yn gweld cynnydd yn amlder a dwyster digwyddiadau tywydd eithafol, gan gynnwys stormydd yn yr haf a chyfnodau gwlyb estynedig yn ystod y gaeaf. Bydd hyn yn cynyddu llifoedd brig yn ein hafonydd, a disgwylir y bydd hyn yn cynyddu'r risg o fflachlifogydd. Mae llifogydd o'r fath yn anodd iawn i'w rhagweld a gall fod yn heriol iawn i'w rheoli.

Mae rhagamcanion hinsawdd hefyd yn awgrymu y bydd lefel y môr yn codi ym mhob senario allyriadau ac ym mhob lleoliad o amgylch y DU. Bydd ardaloedd arfordirol yn fwyfwy agored i effaith gynyddol y tonnau ac erydu arfordirol cyflymach sy'n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd y ffactorau hyn nid yn unig yn effeithio ar bobl y cymunedau arfordirol sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd arfordirol, ond ar rai o gynefinoedd naturiol pwysicaf Cymru a safleoedd treftadaeth sydd wedi'u lleoli ar hyd ein harfordir.

Wrth gwrs, nid yw rhagamcanion newid hinsawdd yn sicr ac fe'u cyflwynir fel arfer ar ffurf ystod o werthoedd. Rydym wedi cyfrifo perygl llifogydd yn y dyfodol ar sail Canllawiau Ymaddasu i Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru ac, er symlrwydd, rydym wedi defnyddio'r amcangyfrifon newid hinsawdd canolog i gynhyrchu'r canlyniadau a ddangosir yma. Sylwch, ar gyfer ein gwaith modelu manwl ar gyfer cynlluniau perygl llifogydd, yn enwedig ar lefel leol, byddwn yn modelu ystod o senarios.

Mae’r tablau a ganlyn yn dangos lefel y risg a’r ffynhonnell ar draws Cymru, pe na bai unrhyw amddiffynfeydd yn bresennol, ar gyfer 2024 a 2120. Mae’r data hwn yn gywir ym mis Ebrill 2024.

Tabl 4: niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd ar gyfer 2024, 2120 a’r gwahaniaeth a ragwelir ar draws Cymru.

Llifogydd o afonydd Preswyl Dibreswyl Gwasanaethau Allweddol Cyfanswm
2024 90,504 12,565 2,495 105,564
2120 111,377 15,486 3,067 129,930
Gwahaniaeth +20,873 +2,921 +572 +24,366

 

Tabl 5: yn dangos y niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o’r môr ar gyfer 2024, 2120, a’r gwahaniaeth a ragwelir ar draws Cymru.

Llifogydd o'r môr Preswyl Dibreswyl Gwasanaethau Allweddol Cyfanswm
2024 79,536 9,415 1,857 90,808
2120 112,700 14,411 3,086 130,197
Gwahaniaeth +33,164 +4,996 +1,229 +39,389

 

Mae Tabl 6 yn dangos y niferoedd sydd mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a nentydd bach ar gyfer 2024, 2120 a’r gwahaniaeth a ragwelir ar draws Cymru.

Llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach Preswyl Dibreswyl Gwasanaethau Allweddol Cyfanswm
2024 126,747 13,626 3,301 143,674
2120 170,196 17,395 4,375 191,966
Gwahaniaeth +43,449 +3,769 +1,074 +48,292

 

Prosiect rheoli data Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW)

Cwblhawyd prosiect Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW) yn 2019 gan ddarparu’r map FRAW a’r setiau data cysylltiedig. Rydym wedi dilyn hyn gyda phrosiect rheoli data sydd wedi creu cyfres o offer i'n galluogi i reoli, cynnal a diweddaru setiau data risg llifogydd allweddol a grëwyd gan y prosiect Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW) gwreiddiol. Cwblhawyd y prosiect rheoli data ym mis Ebrill 2022, ac rydym bellach yn gweithio ar ddefnyddio’r rhain ar gyfer diweddariadau a gwelliannau data. Mae’r cylch cyntaf o ddiweddariadau wedi’i gwblhau ac wedi cynhyrchu’r setiau data newydd canlynol yr ydym yn y broses o’u rhyddhau dros y misoedd nesaf:

  • Cronfa Ddata Derbynyddion Genedlaethol 2023
  • Diweddariad ar yr offeryn economaidd i gynhyrchu gwybodaeth newydd am gyfrif eiddo
  • Diweddariad ar y Gofrestr Cymunedau Mewn Perygl

Seilwaith Modelu Llifogydd

Rydym wedi uwchraddio ein seilwaith TGCh yn ddiweddar, i sicrhau bod ein modelwyr llifogydd ar flaen y gad o ran modelu gan ddefnyddio’r dechnoleg cwmwl ddiweddaraf. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar leihau amseroedd rhedeg model, yn ogystal â lleihau costau gweithredu. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg, staff a datblygu sgiliau o fewn y tîm Dadansoddi Perygl Llifogydd.

Diweddaru map llifogydd Cymru

Rydym wedi diweddaru map llifogydd Cymru ddwywaith eleni yn unol â mesurau Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae pob diweddariad yn ei gynnwys i'w gweld ar ein gwefan.

Cynllun Rheoli Traethlin - Diweddariad ar y map risg arfordirol

Fel rhan o’n gwaith parhaus i ddiweddaru’r Cynllun Rheoli Traethlin, fe wnaethom wella’r ffordd yr ydym yn cyflwyno Cynlluniau Rheoli Traethlin ar ein mapiau ar-lein (sydd ar gael trwy ein gwefan yma) gan roi mwy o fanylion wedi’u hychwanegu at yr wybodaeth a’r cynnwys, ynghyd â dolenni gwell i ffynonellau. Mae'r Rhesymeg Polisi ychwanegol, yr Is-gategorïau Polisi a'r dolenni i'r dogfennau polisi yn rhoi mwy o fanylion am y polisïau arfaethedig a'r gobaith yw y bydd yn egluro'r bwriad lleol a'r dull rheoli wrth symud ymlaen.

Ffigur 1: Sgrinlun o'n gwefan sy’n dangos sut rydym yn cyflwyno ein Cynlluniau Rheoli Traethlin

Sgrinlun o'n gwefan sy’n dangos sut rydym yn cyflwyno ein Cynlluniau Rheoli Traethlin

Lwfansau Newid yn yr Hinsawdd

Rydym wedi cwblhau prosiect i asesu newidiadau mewn briglifau afonydd a glawiad eithafol diolch i ddata newydd am newid yn yr hinsawdd. Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar y rhagfynegiadau mwyaf diweddar o newid a bydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o effeithiau llifoedd a glawiad cynyddol ar berygl llifogydd ledled Cymru. Mae allbynnau'r prosiect wedi dangos cynnydd cyffredinol mewn briglifau afonydd a chynnydd mewn glawiad o tua 10% ar werthoedd cyfredol. Rydym wedi cyflwyno canfyddiadau’r prosiect i Lywodraeth Cymru ac wedi gwneud argymhellion ar ddiwygiadau i’w canllawiau ar newid yn yr hinsawdd. Unwaith y cytunir arnynt, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru’r canllawiau hyn at ddefnydd y cyhoedd ac yn ystyried pa newidiadau sydd eu hangen at ddibenion cynllunio gwaith datblygu a’n cynnyrch Mapiau Llifogydd.

Gwelliannau i waith modelu lleol

Rydym wedi datblygu nifer o welliannau i waith modelu lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau i wella gwaith modelu yn y lleoliadau canlynol: Perygl Llanw Bae De Tremadog, Llandinam, Bala a Meifod.

Rheoli asedau perygl llifogydd

Mae'r maes gwaith hwn yn cynnwys yr holl weithgareddau sy’n ymwneud â rheoli ein hasedau perygl llifogydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith adeiladu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd newydd, gwaith cynnal a chadw strwythurau sydd eisoes yn bodoli a deall eu cyflwr, rheoli data asedau, a chynllunio ar gyfer gofynion gwaith yn y dyfodol. Ei ddiben yw sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol ac effeithlon, ceisio cyfleoedd i leihau perygl llifogydd drwy adeiladu asedau newydd, a sicrhau bod ein hasedau'n barod i berfformio fel y disgwylir yn ystod llifogydd, a bod y gallu ganddynt i wneud hynny.

Asedau newydd

Yn ystod 2023/24, rydym wedi cynnal a lleihau lefel y perygl llifogydd i 1,047 o adeiladau, sy’n helpu i gefnogi uchelgais Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru o ariannu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd ar gyfer mwy na 45,000 o gartrefi. Rydym wedi cynyddu amddiffyniad i 223 eiddo trwy gwblhau cynllun cyfalaf newydd sylweddol yn Rhydaman (Sir Gaerfyrddin) ac wedi cynnal y safon o amddiffyniad i 824 eiddo trwy brosiectau cynnal a chadw cyfalaf.

Mae buddsoddi yn ein hasedau perygl llifogydd presennol yn hanfodol er mwyn cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad y maent yn eu darparu i'r cymunedau sy'n elwa arnynt. Fel rheol, mae angen y buddsoddiad er mwyn ymestyn neu gyflawni oes bywyd dylunio'r ased, ac mae fel arfer yn golygu gwaith atgyweirio ac adfer sylweddol ar adeileddau sydd eisoes yn bodoli.

Ochr yn ochr â chwblhau cynllun Rhydaman, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar nifer o gynlluniau mawr a oedd ar gamau datblygu amrywiol yn ystod 2023/24. Bydd y cynlluniau hyn yn gyfrifol am y mwyafrif o'n gwariant cyfalaf dros y blynyddoedd nesaf, ac maent yn cynnwys lleoliadau ledled Cymru fel Stryd Stephenson (Casnewydd), Pwllheli a Phorthmadog (Gwynedd), Aberteifi (Ceredigion), afon Ritec, Dinbych-y-pysgod (Sir Benfro), Rhydaman (Sir Gaerfyrddin), a Chynllun Rheoli Llifogydd Strategol Dalgylch Taf (Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd). Dros y tymor hir, pan fyddant wedi'u cwblhau, disgwylir i'r rhain fod o fudd i 3,000 eiddo.

Astudiaeth achos – Cynllun lliniaru llifogydd yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin

Mae’r gwaith o adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd fel rhan o’n cynllun llifogydd newydd yn nhref Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, wedi’i gwblhau, gan leihau’r perygl llifogydd i 385 eiddo. Mae cyfuniad o fesurau wedi cael eu defnyddio i reoli perygl llifogydd yn Rhydaman gan gynnwys argloddiau a waliau ledled y dref. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i atal llifogydd hyd at 1% o siawns o ddigwydd mewn blwyddyn, gan gynnwys lwfans ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys gwaith tirlunio o fewn mannau agored presennol, gan gynnwys Bonllwyn Green oddi ar Old Road a gostwng lefel y tir. Yn ogystal gwnaed gwelliannau i lwybrau pysgod yng nghored Tir-y-Dail. Byddwn hefyd yn gosod mesurau Diogelu Lefel Eiddo ar dai ar Ffordd Aberlash yn ddiweddarach yn 2024.

Ffigur 2: Llun yn dangos un o'r rhwystrau llifogydd newydd a godwyd yn Rhydaman fel rhan o gynllun lliniaru llifogydd Rhydaman.

Llun yn dangos un o'r rhwystrau llifogydd newydd a godwyd yn Rhydaman fel rhan o gynllun lliniaru llifogydd Rhydaman.

Rheoli asedau

Rydym yn ymgymryd â rhaglen archwilio a chynnal a chadw rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein hasedau perygl llifogydd yn addas i'r diben. Rydym yn cynnal dros 3,900 o asedau rheoli perygl llifogydd - gan gynnwys tua 455 cilomedr o amddiffynfeydd uchel ledled Cymru.

Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24, cwblhawyd 15,725 o archwiliadau arferol ar asedau yr ydym yn eu harolygu. Canfu ein harchwiliadau fod 97.18% o'n hasedau llifogydd mewn systemau sydd mewn perygl uchel o lifogydd wedi cyrraedd neu'n rhagori ar eu cyflwr gofynnol i gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Mae hyn ychydig yn is na'n targed Dangosydd Perfformiad Allweddol corfforaethol o 98%. Mae hwn yn darged treigl, sy'n adlewyrchu’r ffaith ei bod yn anochel na fydd ansawdd rhai asedau gystal â’u cyflwr targed. Mae gwaith atgyweirio neu wella wedi’i amserlennu ar gyfer asedau nad yw eu hansawdd gystal â’u cyflwr targed.

Ochr yn ochr â'n rhaglen cynnal a chadw rheolaidd, mae gennym nifer o brosiectau sy'n mynd rhagddynt i helpu i wella gwaith rheoli asedau o fewn CNC ac awdurdodau rheoli perygl eraill, a disgrifir y rhain isod.

System Rheoli Perygl Llifogydd

Rydym wedi cynnal prosiect System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd i wella’r gwaith o reoli ein hasedau perygl llifogydd. Bydd hyn yn ein galluogi i sefydlu, diffinio a gweithredu system rheoli asedau ar gyfer asedau rheoli perygl llifogydd er mwyn sicrhau arferion gorau wrth rheoli asedau. Eleni fe wnaethom gwblhau gwaith ar ddogfen bolisi’r System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd ac rydym wedi dechrau gweithio ar y Cynllun Rheoli Asedau Strategol. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, bydd yn ein galluogi i ddechrau ar y cam nesaf o greu Cynlluniau Rheoli Asedau a'u rhoi ar waith. Bydd Systemau Rheoli Asedau Perygl Llifogydd yn chwarae rhan allweddol wrth wella effeithlonrwydd y ffordd yr ydym yn rheoli ein hasedau rheoli perygl llifogydd. Bydd hyn yn dod â manteision lluosog i Gymru gyfan ac yn sicrhau dyfodol ein hasedau rheoli perygl llifogydd, sy'n allweddol yn wyneb newid yn yr hinsawdd.

Y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg

Rydym wedi datblygu Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg newydd gan ddefnyddio ein cronfa ddata rheoli asedau, a fydd yn ein galluogi i flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw asedau arferol a dyrannu cyllid mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol. Drwy gydol y flwyddyn hon rydym wedi gwella'r canllawiau, y safonau a'r gofynion mewn perthynas â'r gwaith hwn ac wedi gwneud nifer sylweddol o welliannau data. Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod ein gwaith cynnal a chadw yn cael ei flaenoriaethu ar sail risg, gan sicrhau ein bod yn darparu'r gwerth gorau am arian drwy ein gwaith tra’n sicrhau bod rhwymedigaethau cynnal a chadw yn cael eu bodloni. Nawr bod y model wedi'i ddatblygu ac ymarferoldeb y system wedi'i brofi, bydd yn cael ei ddefnyddio i ddyrannu cyllid cynnal a chadw ar gyfer 2024/25, er bod rhaglen barhaus o welliannau pellach wedi'i chynllunio.

Diweddaru canllawiau mewnol ar gyfer rheoli asedau

Rydym wedi gwneud gwaith i wella llawer o'n dogfennau gweithdrefn a’n canllawiau mewnol er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn y prosesau mwyaf diweddar wrth i ni wneud ein gwaith rheoli asedau. Mae rhai o’r pynciau dan sylw yn cynnwys:

  • Rheoli gwaddod
  • Gofynion Lles, Iechyd a Diogelwch
  • Pwerau caniataol
  • Gwelliannau data ar gyfer y system asedau rheoli perygl llifogydd
  • Cylch bywyd rheoli asedau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Rheoli asedau - Polisi torri gwair

Fel sefydliad, rydym wedi gosod cyfyngiad cyffredinol ar weithgareddau torri gwair ar draws y sefydliad drwy gydol mis Mai ar gyfer 2024 yn unol â mentrau amgylcheddol fel Plantlife.org.uk, ‘No Mow May’. Gan fod torri gwair ein hasedau rheoli perygl llifogydd yn weithgaredd cynnal a chadw pwysig i sicrhau bod asedau amddiffyn rhag llifogydd yn parhau i fod mewn cyflwr defnyddiol, rydym wedi gweithio eleni i ddatblygu a gweithredu canllawiau fel ein bod yn gwybod nad ydym yn achosi unrhyw niwed i berygl llifogydd trwy ddefnyddio’r dull hwn. Mae’r canllawiau hyn yn cyflwyno dull sy’n seiliedig ar risg o ran lle y gallwn gymhwyso eithriad i’r rheol a gaiff ei rhoi ar waith cyn ‘No Mow May’ 2024.

Rheoli diogelwch y cyhoedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru

Rydym yn rheoli, yn prydlesu, neu’n berchen ar ystod eang o asedau, sy'n amrywio o ran maint gan gynnwys safleoedd asedau perygl llifogydd a hamdden. Mae gennym ‘ddyletswydd gofal gyffredinol’ gyfreithiol i aelodau'r cyhoedd sy'n rhyngweithio â'n hasedau yn ogystal â dyletswydd foesol i beidio ag achosi niwed iddynt. Rydym wedi datblygu canllawiau sy’n nodi sut y byddwn yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, yn enwedig darparu canllawiau ynghylch pryd y mae angen Asesiad Risg Diogelwch y Cyhoedd a sut i’w gynnal sydd â’r nod o ddiogelu’r cyhoedd sy’n defnyddio neu’n rhyngweithio â'n hasedau i'w cadw'n ddiogel.

Cronfeydd Dŵr

Mae dros 400 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofrestru yng Nghymru sydd â chapasiti o 10,000 metr ciwbig o ddŵr, neu fwy, sydd uwchben lefel naturiol y ddaear ac yn cael eu storio y tu ôl i argae, arglawdd neu strwythur arall. Gall methiant y strwythurau hyn achosi llifogydd, difrod, llygredd, colli cyfleustodau a gall achosi perygl i fywyd.

Ni yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y rhai sy’n berchen arnynt, yn eu rheoli neu’n eu gweithredu yn cadw at Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac yn cydymffurfio â hi er mwyn amddiffyn pobl ac eiddo rhag gollyngiadau dŵr heb eu rheoli. Mae’r gyfraith hon yn gosod y safonau gofynnol i sicrhau diogelwch cronfeydd dŵr, yn bennaf i sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn penodi ac yn gweithredu ar gyngor peirianwyr sifil cymwysedig arbenigol.

Rydym hefyd yn rheoli portffolio o gronfeydd dŵr at ddibenion perygl llifogydd a chadwraeth ac yn rheoli cronfeydd dŵr yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru. Ceir disgrifiad o'r gweithgareddau allweddol sy'n rhan o'r ddwy rôl hyn yn yr adran hon.

Rôl rheoleiddio cronfeydd dŵr

Ar 31 Mawrth 2024, roedd 402 o gyforgronfeydd dŵr mawr wedi’u cofrestru yng Nghymru. Mae gennym ddyletswydd i ddynodi cronfa ddŵr yn gronfa ddŵr â risg uchel os ydym o’r farn y gallai bywydau pobl fod mewn perygl pe bai’r argae’n methu. Y brif ffynhonnell dystiolaeth ar gyfer hyn yw trwy gynhyrchu mapiau llifogydd cronfeydd dŵr sy’n dangos canlyniadau llifogydd pe bai argae’n methu.

Mae Tabl 7 isod yn dangos statws dynodiad y cronfeydd dŵr yng Nghymru ar 31 Mawrth 2024. Nid oes dynodiad o'r fath â 'risg isel'. Mae cronfa ddŵr nad yw wedi’i dynodi’n gronfa ddŵr risg uchel yn dal i fod yn gyforgronfa ddŵr fawr. Mae'r statws dynodiad yn pennu lefel goruchwyliaeth ac arolygu gan beirianwyr.

Tabl 7: Tabl yn dangos statws dynodiad risg cronfeydd dŵr yng Nghymru

Statws dynodiad Nifer y cronfeydd dŵr
Cronfeydd dŵr risg uchel 269
Cronfeydd dŵr nad ydynt yn risg uchel 76
Dynodiad heb ei benderfynu 57

 

Cronfeydd dŵr amddifad

Mae cronfeydd dŵr amddifad yn gronfeydd dŵr lle na ellir pennu'r ymgymerwr (perchennog). Mewn amgylchiadau o'r fath, gallwn gamu i mewn i wneud gwaith diogelwch, er budd diogelwch y cyhoedd. Dim ond pan fetho popeth arall y byddwn yn gwneud hyn ar ôl ymdrechion helaeth i nodi partïon cyfrifol, ac mae'r risgiau diogelwch yn golygu bod angen ymyrraeth, yn ein barn ni.

Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio ein pwerau wrth gefn o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 i wneud gwaith mewn dwy gronfa ddŵr amddifad yng Nghymru. Mae mapio peryglon cronfeydd dŵr yn y ddwy gronfa hon wedi darparu tystiolaeth sy’n cadarnhau eu dynodiad fel cronfeydd dŵr risg uchel, lle gallai methiant beryglu bywyd i lawr yr afon. Byddwn yn parhau i fonitro diogelwch y cronfeydd dŵr hyn drwy 2024.

Digwyddiadau mewn cronfeydd dŵr

Gwnaethom gofnodi digwyddiadau mewn pum cronfa ddŵr yn ystod 2023/24. Cafwyd un digwyddiad ar gronfa ddŵr nad yw wedi'i dynodi a chofnodwyd pedwar digwyddiad mewn cronfeydd dŵr risg uchel dynodedig, a bu’n rhaid i'r perchnogion gymryd camau rhagofalus. Nid oedd yr un digwyddiad yn ei gwneud yn ofynnol i ni gamu i mewn gyda phwerau brys na chynorthwyo.

Mae ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn gyfrifol am ymateb i ddigwyddiadau o dan arweiniad eu peiriannydd, ac am ddarparu adroddiadau i ni am yr achos a'r gwersi a ddysgwyd.

Datblygu rheoleiddio

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd a rheoleiddwyr eraill y DU mewn rhaglen i asesu sut y gellir gwella’r gyfraith, y canllawiau a’r arferion sy’n cefnogi diogelwch cronfeydd dŵr.

Rheoli cronfeydd dŵr CNC

Rydym yn rheoli 37 o gyforgronfeydd dŵr mawr, fel y gwelir yn Nhabl 8 isod. Mae 13 o'n cronfeydd dŵr wedi'u hadeiladu'n bennaf at ddibenion rheoli perygl llifogydd, a chaiff y gweddill eu rheoli yn ôl gwerth cadwraeth, treftadaeth ac amwynder lleol.

Mae ein holl gronfeydd dŵr yn cael eu harolygu a'u goruchwylio gan beirianwyr sifil cymwys, ac rydym yn cynnal rhaglen waith i fynd i'r afael â'r argymhellion a wnânt. Rydym yn parhau i hyfforddi ‘ceidwaid cronfeydd dŵr’ i gyflawni ein dyletswyddau cynnal a chadw, monitro a chadw cofnodion.

Mae Tabl 8: yn dangos y cronfeydd dŵr a reolwyd gennym

Diben cyffredinol Nifer y cronfeydd dŵr
Rheoli perygl llifogydd 13
Safleoedd cadwraeth CNC 8
Ystad Goetir Llywodraeth Cymru 16

 

Gwelliannau i Gronfeydd Dŵr

Ardystiwyd bod mesurau diogelwch cronfeydd dŵr a argymhellwyd ac a gyflawnwyd yn Llyn Tegid, Dolen Crafnant, Ty’n-y-mynydd, Llyn Barcud (Bwlch Nant-yr-Arian), Hendre Ddu, Llyn Llywelyn a Phen-y-Gwaith yn gyflawn yn ystod y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae gan wyth cronfa ddŵr argymhellion ar gyfer mesurau diogelwch pellach ac mae rhaglen waith yn mynd rhagddi i fynd i'r afael â'r rhain.

Cynghori cynllunwyr, trwyddedu a gorfodi

Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â phob cyngor yn ôl disgresiwn a phob cyngor statudol mewn perthynas â pherygl llifogydd a'n rôl fel ymgynghorai o fewn y broses gynllunio. Y nod yw rhoi cyngor effeithiol er mwyn dylanwadu ar ddatblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a'i reoli, gan atal mwy o bobl ac eiddo rhag bod yn agored i berygl cynyddol o lifogydd. Mae hefyd yn cynnwys ein trefniadau trwyddedu. Gyda'i gilydd, nod y rolau hyn yw rheoli datblygu mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, a gweithgareddau perygl llifogydd mewn prif afonydd neu o'u cwmpas. Rydym hefyd yn cymryd camau gorfodi mewn achosion lle gallai gweithgareddau perygl llifogydd achosi perygl llifogydd neu ei waethygu.

Cyngor ar gynllunio datblygiadau

Rydym yn ymgynghorai statudol ar berygl llifogydd ar gyfer pob cynnig o fewn Parth Llifogydd C2 (ardaloedd heb amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd), ac ar gyfer datblygiadau sy'n agored iawn i niwed a datblygiadau gwasanaethau brys ym Mharth Llifogydd C1 (ardaloedd gydag amddiffynfeydd sydd â siawns o un ym mhob 1,000 y bydd llifogydd yn digwydd). Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein cyngor wedi helpu i atal datblygiadau amhriodol rhag cael eu cymeradwyo mewn lleoliadau lle byddai'r perygl o lifogydd yn anodd ei reoli. Mewn achosion lle mae datblygiadau wedi'u caniatáu er gwaethaf y perygl llifogydd, rydym wedi darparu cyngor ar fesurau atal llifogydd a mesurau gwytnwch llifogydd y gellid eu hymgorffori er mwyn helpu i leihau'r perygl yn awr ac yn y dyfodol.

Yn ystod 2023/24 gwnaethom dderbyn ac ymateb i dros 2,300 o ymgynghoriadau cynllunio lle nodwyd perygl llifogydd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fel cyfyngiad posibl. Gwnaethom ddarparu ymateb cynllunio sylweddol i'r ymgynghoriadau statudol hyn, gan roi cyngor technegol ar y perygl o lifogydd a’u canlyniadau. O'r ymgynghoriadau a dderbyniwyd, roedd tua 480 o’r cynigion ym mharth C2.

Diweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15)

Rydym yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi adolygu polisi cynllunio TAN15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol (TAN15). Cynigiwyd newidiadau pellach i TAN15 fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2023. Mae'r newidiadau arfaethedig wedi ceisio cyflwyno elfen gynyddol o hyblygrwydd i hwyluso gwaith adfywio ac ailddatblygu lle mae'r perygl o lifogydd yn cael ei leihau oherwydd presenoldeb amddiffynfeydd llifogydd a reolir ac a gynhelir gan awdurdod rheoli risg. Mae ardaloedd sy'n elwa ar yr amddiffynfeydd hyn wedi'u mapio yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio fel Parthau a Amddiffynnir gan TAN15. Rydym wedi codi pryderon ynghylch y newidiadau polisi arfaethedig, oherwydd er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd, nid ydynt yn dileu’r perygl yn gyfan gwbl. Gall y dwr lifo dros amddiffynfeydd neu gall yr amddiffynfeydd fethu a gall canlyniadau digwyddiad o’r fath fod yn sylweddol felly rydym wedi argymell yn gryf bod diwygiadau i TAN15 yn ceisio sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn gallu gwrthsefyll risgiau llifogydd cynyddol ac erydu arfordirol yng nghyd-destun hinsawdd sy’n newid.

Map llifogydd ar gyfer cynllunio – gwelliannau pellach

Rydym yn parhau i ddiweddaru’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio gyda modelau llifogydd lleol wedi’u diweddaru a thystiolaeth a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ar berygl llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb. Rydym hefyd yn cynnwys data o heriau map llifogydd llwyddiannus ac rydym yn dechrau cynnwys data am donnau'n gorlifo ar hyd rhai rhannau o'r arfordir i'r graddau llifogydd sylfaenol. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a bydd yn parhau dros y 5 mlynedd nesaf. Caiff y map ei ddiweddaru bob chwe mis ym mis Mai a mis Tachwedd.

Rheoleiddio gweithgarwch perygl llifogydd

Rydym yn rheoleiddio gweithgareddau a gyflawnir ar brif afonydd, neu gerllaw iddynt, ar adeileddau amddiffyn rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt (gan gynnwys amddiffynfeydd morol), neu o fewn gorlifdir, o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016. Rydym yn gwneud hyn drwy roi Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd er mwyn sicrhau nad yw'r gweithgaredd yn achosi unrhyw gynnydd yn y perygl llifogydd, yn cael effaith niweidiol ar ddraenio tir yn yr ardal, neu'n achosi difrod amgylcheddol i'r amgylchedd, pysgodfeydd, neu fywyd gwyllt lleol. Gellir cyflawni rhai gweithgareddau perygl llifogydd heb drwydded ond mae’n bosibl y bydd angen cofrestru gweithgareddau o’r fath gyda ni fel rhai sy’n ‘esempt’ o’r gofyniad i gael trwydded bwrpasol.

Dros flwyddyn ariannol 2023/24, fe wnaethom ni gyhoeddi 218 o Drwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ledled Cymru, a chofrestrwyd 50 o esemptiadau.

Camau gorfodi

Rydym yn cyflawni gwaith gorfodi perygl llifogydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae'r gwaith hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ei reoli'n effeithiol ac er mwyn cefnogi mesurau i warchod yr amgylchedd. Os na cheisir ein cyngor rheoleiddio, neu os caiff ei anwybyddu wrth wneud gwaith ar brif afonydd neu amddiffynfeydd rhag llifogydd, neu gerllaw iddynt, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol. Yn ogystal â rheoli perygl llifogydd, mae ein gweithgarwch gorfodi yn sicrhau y gallwn gynnal mynediad i seilwaith amddiffynfeydd rhag llifogydd / y môr ac yn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw a gwella pwysig. Gallwn hefyd ddefnyddio camau gorfodi i unioni gwaith anghyfreithlon a niweidiol neu waith a allai fod yn niweidiol, a allai fod wedi’i wneud yn groes i amodau a nodir mewn Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd, neu heb Drwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd ofynnol. Mae enghreifftiau’n cynnwys difrod i amddiffynfeydd rhag llifogydd a strwythurau rheoli, cael gwared ar rwystrau sy’n effeithio ar lif o fewn afonydd, gan gynyddu’r perygl o lifogydd o bosibl, a gwaith sydd wedi achosi niwed i’r amgylchedd.

Yn ystod 2023/24 gwnaethom gofrestru 38 o achosion ledled Cymru lle'r oedd angen cymryd camau gorfodi ar gyfer gweithgareddau perygl llifogydd nas caniateir. Cwblhawyd camau gorfodi gennym ar 23 o achosion yn ystod y cyfnod hwn.

Astudiaeth achos – gwaith nas caniateir, Pontardawe, Afon Tawe

Ym mis Mehefin 2023, cawsom wybod bod wal gerrig bloc wedi’i hadeiladu ar ben ased amddiffyn rhag llifogydd sy’n cael ei gadw a’i gynnal gennym ni (Ffigur 3). Ni chafwyd cais am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd i wneud y gwaith felly cafodd y wal ei hadeiladu heb y caniatâd gofynnol. Roedd gennym bryderon am y gwaith cynnal a chadw parhaus ar yr amddiffynfa rhag llifogydd pe na bai unrhyw gamau’n cael eu cymryd.

Ffigur 3: Delwedd o wal gerrig bloc nas caniateir wedi'i hadeiladu ar ben wal llifogydd CNC ar hyd Afon Tawe

Delwedd o wal gerrig bloc nas caniateir wedi'i hadeiladu ar ben wal llifogydd CNC ar hyd Afon Tawe

Gwnaethom gyfarfod â pherchennog y busnes a esboniodd fod y wal gerrig bloc wedi'i hadeiladu i wella diogelwch ar y safle yn dilyn sawl achos o ladrata. Gwnaethom hysbysu perchennog y busnes y byddai'n rhaid cael gwared ar y wal gerrig bloc er mwyn sicrhau y gellid cynnal cryfder yr amddiffynfa rhag llifogydd. Cynghorwyd perchennog y busnes y gallai ailadeiladu wal i ffwrdd o'r amddiffynfa rhag llifogydd i helpu i ddiogelu'r eiddo.

Ymwelwyd â'r safle eto ym mis Ebrill 2024 i gadarnhau bod y wal gerrig bloc wedi'i thynnu i lawr yn foddhaol, ac felly roedd modd i ni gau'r achos.

Darparu gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir gwasanaethau hydrometreg, telemetreg a hydroleg sy'n casglu, dadansoddi ac yn adrodd data sy'n sail i amrediad o wasanaethau rheoli llifogydd a dŵr ar draws CNC. Mae hyn yn cynnwys gwaith modelu a mapio perygl llifogydd, gwaith arfarnu a dylunio cynlluniau perygl llifogydd (safonau diogelu), diogelwch cronfeydd dŵr, darogan a rhybuddio am lifogydd, rheoleiddio afonydd, a chynnal asesiadau ôl-lifogydd o safbwynt swm y glawiad, lefelau afonydd a gofnodwyd, a'u difrifoldeb (e.e. yn ôl trefn hanesyddol neu'r cyfnod rhwng digwyddiadau).

Yn ogystal â chasglu, prosesu ac archifo'r data hwn ar gyfer CNC, mae'r maes gwaith hwn hefyd yn adrodd ar y data ac yn ei rannu â chwsmeriaid mewnol ac allanol drwy ymholiadau penodol am ddata, trosglwyddo data, a darparu gwasanaethau digidol ar ein gwefan, gan gynnwys ein gwasanaeth byw ar gyfer lefelau afonydd, glawiad a data môr.

Y rhwydwaith hydrometreg

Mae’r rhwydwaith hydrometreg ledled Cymru yn cynnwys 253 o orsafoedd mesur glawiad, 334 o orsafoedd monitro lefelau afonydd neu lif a 135 o orsafoedd monitro lefelau dŵr daear. Mae Ffigur 5 yn dangos lleoliadau’r holl orsafoedd monitro ar draws ein rhwydwaith Hydrometreg a Thelemetreg (H&T) yng Nghymru.

Ffigur 4: Safleoedd hydrometreg ledled Cymru

Safleoedd hydrometreg ledled Cymru

Prosiect adolygu’r rhwydwaith hydrometreg

Yn ystod 2023/24, mae’r prosiect adolygu rhwydwaith hydrometreg wedi canolbwyntio ar gasglu’r data rhwydwaith a gorsafoedd manwl sydd eu hangen i ddeall cadernid ein gorsafoedd monitro. Mae hyn wedi ein galluogi i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i’r rhwydwaith i sicrhau y gall y rhwydwaith barhau i ddarparu’r gwasanaeth gofynnol, hyd yn oed drwy gyfnodau o’r amodau amgylcheddol mwyaf heriol. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2024/25, a bydd allbynnau allweddol ar gael ar gyfer ymgynghori a gweithredu arnynt wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Prosiect amnewid telemetreg

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’n prosiect buddsoddi £5m i ddarparu System Telemetreg newydd. Bydd y system hon yn darparu gwybodaeth agos at amser real ar gyfer afonydd, glawiad a pheiriannau gweithredol sy’n hanfodol i’n hymateb i lifogydd. Mae ein porth data telemetreg newydd bellach yn fyw sy’n galluogi cwsmeriaid allanol a mewnol i ddefnyddio data sy’n nes at amser real drwy lwyfan mwy effeithiol a gwydn. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran adeiladu'r system newydd. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2024/25.

Map ffordd hydroleg llifogydd y DU

Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r Map Ffordd Hydroleg Llifogydd a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022. Datblygwyd y map ffordd gan gymuned hydroleg llifogydd y DU ac mae’n nodi gweledigaeth 25 mlynedd ar gyfer hydroleg llifogydd, gan gwmpasu pob ffynhonnell o lifogydd mewndirol a’r holl weithgareddau hydroleg mewndirol ledled y DU. Eleni rydym wedi llenwi swydd newydd o fewn CNC i arwain a chydlynu ein mewnbwn tuag at gyflawni’r Map Ffordd ac wedi cyfrannu at nifer o gyflawniadau allweddol gan gynnwys y Catalog Ymchwil Hydroleg Llifogydd.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion

Drwy'r maes gwaith hwn y darperir ein gwasanaeth darogan llifogydd a'n gwasanaeth rhybuddio am lifogydd i'r cyhoedd ac i bartneriaid proffesiynol. Ei ddiben yw darparu rhybuddion a gwybodaeth effeithiol i bobl sydd mewn perygl o lifogydd, gan eu galluogi i gymryd camau uniongyrchol i warchod bywyd ac eiddo cyn i lifogydd ddigwydd.

Mae’n cynnwys canfod a rhagweld llifogydd mewn amser real yn y cyfnod cyn ac yn ystod digwyddiadau llifogydd, a chyhoeddi rhybuddion llifogydd i’r rhai sydd mewn perygl uniongyrchol. Mae hefyd yn cynnwys darparu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf a rhybuddion sydd mewn grym trwy ein gwefan, Floodline a'n porth data byw.

Mae ein timau hefyd yn sicrhau bod data, systemau, gweithdrefnau gweithredol, hyfforddiant ar gyfer staff ar ddyletswydd a rheoli rotâu dyletswydd eisoes yn eu lle - ac yn cael eu profi a’u gwella - fel eu bod yn barod ac yn gwbl weithredol mewn digwyddiadau llifogydd. Darperir y gwasanaethau drwy nifer o rotâu swyddogion arbenigol ar ddyletswydd, gan ddefnyddio staff o'n timau. Mae ein swyddogion ar ddyletswydd ar alwad 24/7 bob diwrnod o'r flwyddyn, ac maent yn barod i ymateb i lifogydd posibl a llifogydd gwirioneddol ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.

Darogan llifogydd a chyhoeddi rhybuddion yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24

Amlygir perygl llifogydd uwch drwy Ddatganiad y Canllawiau Llifogydd sy'n darparu rhagolwg perygl llifogydd dyddiol dros bum niwrnod i'r llywodraeth a phartneriaid proffesiynol er mwyn cynorthwyo â phenderfyniadau cynllunio strategol, tactegol a gweithredol mewn perthynas â pherygl llifogydd sy’n datblygu. Mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r cyhoedd hefyd drwy ein gwefan. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, cafwyd perygl llifogydd uwch ar 139 o ddiwrnodau (rhagolygon am effeithiau bach a mwy) ac, o blith y rheini, cafwyd perygl llifogydd dwys ar 20 niwrnod (rhagolygon am effeithiau sylweddol a mwy). Mae Adran 1 o'r adroddiad hwn yn disgrifio'r prif ddigwyddiadau llifogydd a welwyd yn ystod y flwyddyn a arweiniodd at berygl llifogydd uwch a'r effeithiau cysylltiedig.

Gyda’i gilydd, cyhoeddwyd 760 o negeseuon llifogydd - byddwch yn barod, 196 o rybuddion llifogydd a thri rhybudd llifogydd difrifol yn ystod 2023/24 mewn ymateb i’r perygl o lifogydd. Derbyniodd Floodline 1,106 o alwadau ffôn a chyfeiriwyd at ein gwefan rhybuddion llifogydd a negeseuon llifogydd – byddwch yn barod 1,613,067 o weithiau. Hydref, Rhagfyr ac Ionawr oedd y misoedd gyda'r nifer fwyaf o ymweliadau gyda bron i 800,000 o ymweliadau yn ystod y misoedd hyn.

Ffigur 5: Nifer y rhybuddion llifogydd a’r negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a gyhoeddwyd yn ystod 2023/24

Nifer y rhybuddion llifogydd a’r negeseuon llifogydd – byddwch yn barod a gyhoeddwyd yn ystod 2023/24

Gwelliannau i'r Gwasanaeth Darogan Llifogydd

Rydym wedi gweithio eleni i ddatblygu modelau rhagweld llifogydd newydd a gwella modelau presennol ar gyfer ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr. Gwnaethom ddatblygu a gweithredu dau fodel newydd i ragweld llifogydd ar gyfer dalgylch Trelái yng Nghaerdydd a dalgylch Castell-nedd. Rydym hefyd wedi gwella'r modelau ar gyfer dalgylchoedd Alun, Tywi, Wysg, Llwchwr a Thawe.

Gyda’i gilydd ledled Cymru, rydym yn darparu rhagolygon llifogydd ar gyfer 89 o leoliadau llifogydd môr a 112 o leoliadau llifogydd afonydd. Dangosir y lleoliadau hyn ar y map yn ffigur 6.

Ffigur 6. Map o Gymru yn dangos yr ardaloedd a gwmpesir gan ein modelau darogan llifogydd a lleoliadau lle gallwn ni ein modelau ddarparu rhagolygon llifogydd.

Map o Gymru yn dangos yr ardaloedd a gwmpesir gan ein modelau darogan llifogydd a lleoliadau lle gallwn ni ein modelau ddarparu rhagolygon llifogydd.

Prosiect Adnewyddu System Rhybuddion Llifogydd

Mae Prosiect Adnewyddu’r System Rhybuddion Llifogydd wedi gwneud cynnydd sylweddol eleni, a disgwylir i’r system newydd gael ei chyflawni yn haf 2024. Mae cyhoeddi rhybuddion llifogydd yn hollbwysig er mwyn inni gyflawni ein rhwymedigaeth statudol i rybuddio eraill am leoliad, amseriad a maint llifogydd o afonydd a’r môr yng Nghymru. Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ddarparu ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd annibynnol ein hunain i bobl Cymru.

Fel rhan o’r gwaith a wnaed ar y prosiect eleni, rydym wedi rhoi’r system ar waith fel bod defnyddwyr Cymraeg Floodline yn gallu cysylltu’n uniongyrchol â ni i sgwrsio yn Gymraeg. Rydym hefyd wedi datblygu offeryn newydd a fydd yn gwneud y broses o gyhoeddi rhybuddion llifogydd - byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn llawer symlach a mwy effeithlon ar gyfer ein swyddogion dyletswydd yn ogystal â gwella cynnwys negeseuon ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o lifogydd.

Gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol

Drwy'r maes gwaith hwn, darperir gwasanaethau gwytnwch ac ymgysylltu cymunedol i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ledled Cymru. Mae'n cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor i'r bobl hynny sydd mewn perygl o lifogydd o safbwynt y camau ymarferol y gallant eu cymryd i baratoi yn well cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd. Rydym yn darparu'r cyngor hwn yn ddigidol drwy ein gwefan ac yn uniongyrchol i gymunedau, gan gynnwys drwy ddarparu templedi o gynlluniau llifogydd er mwyn iddynt eu defnyddio, a hwyluso digwyddiadau rhwydweithio i wirfoddolwyr er mwyn rhannu gwybodaeth, profiadau a'r arferion gorau.

Cynlluniau llifogydd cymunedol

Mae cynlluniau llifogydd cymunedol yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a'r gymuned. O fis Ebrill 2023, rydym yn helpu i gynnal 71 o gynlluniau llifogydd cymunedol sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Cymru i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn gwasanaethu’r cymunedau sy’n berchen arnynt ac yn eu defnyddio. Rydym yn parhau i alluogi’r rhai sydd â diddordeb yn eu perygl llifogydd lleol neu sydd â diddordeb i greu cynllun llifogydd drwy rannu adnoddau ar-lein ac ar ffurf copi caled lle bo angen, a sicrhau eu bod yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau a drefnir gan y tîm a’u cyfeirio at sefydliadau eraill a all gynnig cymorth.

Digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd

Gwnaethom gynnal tri digwyddiad rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Llandudno eleni a oedd yn gyfle i gysylltu â’r cyhoedd a phartneriaid wyneb yn wyneb. Gwnaethom ddatblygu senario llifogydd ffuglennol, a ddatblygodd dros ychydig ddyddiau, a daeth pobl o wahanol gymunedau a sefydliadau at ei gilydd i weithio drwy'r senario. Cynrychiolwyd cyfanswm o 23 o gymunedau gan 39 o aelodau cymunedol ynghyd â 65 o bartneriaid proffesiynol.

Ffigur 7: Digwyddiad rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol yng Ngwesty’r Angel, Caerdydd, 28 Medi 2023

Digwyddiad rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol yng Ngwesty’r Angel, Caerdydd, 28 Medi 2023

Cylchlythyr Llygad ar Lifogydd

Dechreuodd y cyhoeddiad hwn fel ffordd o gadw mewn cysylltiad â’r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol yn ystod y pandemig ac mae’n parhau i fod yn boblogaidd. O 791 o danysgrifwyr i'r cylchlythyr cychwynnol ym mis Mehefin 2020, mae nifer ein tanysgrifwyr bellach wedi cynyddu i dros 4,700 ar gyfer y rhifyn diweddaraf. Mae'r cylchlythyr digidol yn cynnwys dolenni i ragor o wybodaeth ac yn rhoi cyfle i ddarllenwyr weld yr erthyglau sydd fwyaf diddorol iddynt.

Cyhoeddiadau

Rydym wedi bod yn gweithio i ddiweddaru’r cyngor a roddwn yn ein llyfryn copi caled ‘Beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd’. Rydym wedi cymryd adborth gan gwsmeriaid a staff i wella nifer o’r adrannau, gan gynnwys cyfeirio at gyngor iechyd meddwl a chorfforol a rhoi gwybodaeth am gynllun “Ailgodi’n Gryfach” Flood Re. Bydd hwn yn ganllaw defnyddiol i helpu pobl i baratoi ar gyfer llifogydd ac ymateb iddynt.

Ffigur 8: Delwedd enghreifftiol o’n llyfryn ‘Beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd’

Delwedd enghreifftiol o’n llyfryn ‘Beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd’

Cronfa Wybodaeth Llifogydd

Mae galwadau i’r llinell Floodline Cymraeg bellach yn cael eu hateb yn fewnol felly er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwasanaeth cyson yn y ddwy iaith, rydym wedi diweddaru ein cronfa ddata gwybodaeth llifogydd ac mae’n gwbl ddwyieithog. Rydym yn parhau i ddiweddaru ein cyngor pan ddaw unrhyw newidiadau mawr i law gan ein harbenigwyr pwnc.

Gwaith rheoli perygl llifogydd yn gynaliadwy wrth wynebu newid arfordirol

Mae cymunedau arfordirol yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd perygl llifogydd o’r môr, heriau ffisegol parhaus a’r pwysau y mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o’i roi arnynt yn y dyfodol. Rydym ni’n chwarae rhan bwysig o ran rheoli asedau perygl llifogydd arfordirol, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i gynllunio ar gyfer newidiadau yn y dyfodol ynghyd â'r gofynion i addasu dros y tymor hir. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau mewn perthynas â Chynlluniau Rheoli Traethlin.

Cynllunio addasiadau arfordirol

Crëwyd y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd ar ran Llywodraeth Cymru, i fodloni gofynion statudol i ddarparu cynefinoedd gwrthbwyso cydadferol ar gyfer cynlluniau a phrosiectau arfordirol, lle na ellir osgoi effeithio ar gynefinoedd. Yn ystod 2023/24, fe wnaethom barhau i ymchwilio a datblygu cyfleoedd ar gyfer darparu cynefinoedd cydadferol yn aber afon Dyfi, Porthmadog, Pwllheli, Mwche a Thalacharn.

Mae’r ffocws a’r dull o gyflawni gofynion strategol yr NHCP wedi esblygu i gael eu cynnwys fel rhan o’r Rhaglen Ymaddasu Arfordirol ehangach mewn ymateb i flaenoriaethau newidiol rheoli perygl llifogydd, deddfwriaeth y DU, a pholisi Llywodraeth Cymru ar fesurau cydadferol.

Mae nifer o ardaloedd sydd mewn perygl o amgylch arfordir Cymru yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd o ran y dulliau o’u rheoli’n gynaliadwy, y posibilrwydd o addasu a, lle bo’n berthnasol, creu cynefin cydadferol. Mae'r prosiectau fel arfer yn cynnwys safleoedd â blaenoriaeth sy'n cael eu gwerthuso ac sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn i ddatblygu'r ffordd ymlaen a ffefrir ar gyfer rheoli perygl llifogydd mewn ffordd gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys gwneud unrhyw waith pellach sydd ei angen i ddatblygu ein dealltwriaeth a’n tystiolaeth mewn perthynas â pherygl llifogydd nawr ac yn y dyfodol er mwyn llywio ein penderfyniadau’n well. Mae hyn wedi bod yn rhan o ffocws Prosiect Dyfi a bydd yn darparu llwyfan ar gyfer asesiadau o fewn ardaloedd arfordirol bregus yn y dyfodol megis Fairbourne.

Cynllunio strategol

Rydym yn arwain ar faterion polisi llifogydd strategol, yn datblygu cynlluniau hirdymor ac yn sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn darparu rhaglenni gwaith mewn ffyrdd effeithiol ac effeithlon.

Sgiliau a gallu

Fe wnaethom gydnabod yr angen i wneud mwy o ymdrech i feithrin sgiliau a gallu o fewn y tîm Rheoli Perygl Llifogydd, ac fe wnaethom ni greu rôl newydd yn benodol ar gyfer hynny ym mis Gorffennaf 2020. Diben y rôl yw sicrhau bod y tîm Rheoli Perygl Llifogydd yn y sefyllfa orau bosibl o ran sgiliau a datblygiad fel y gallwn fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn yn y dyfodol.

Yn ystod 2023/24, fe wnaethom barhau i fuddsoddi yn strategaeth sgiliau a datblygu rheoli perygl llifogydd. Y prif uchafbwyntiau oedd:

  • Gwnaethom gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant technegol rheoli perygl llifogydd gan gynnwys ariannu cyrsiau rhyddhau am ddiwrnod ar lefelau Tystysgrif Genedlaethol Uwch ac ôl-raddedig.
  • Gwnaethom gyflwyno’r cwrs cynefino deuddydd cyntaf am reoli perygl llifogydd, a gynhaliwyd ym Mae Colwyn. Daeth y garfan o ddechreuwyr newydd o ystod eang o Awdurdodau Rheoli Risg Gogledd Cymru.
  • Gwnaethom groesawu pum unigolyn ar leoliad addysg uwch i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr rheoli perygl llifogydd.
  • Gwnaethom lansio cyfres o bodlediadau am reoli perygl llifogydd a oedd yn cynnwys deg cyfweliad ag ystod o ymarferwyr rheoli perygl llifogydd. Mae’r podlediad wedi cael ei lawrlwytho dros fil o weithiau a’r gobaith yw y bydd y gyfres yn helpu i ennyn diddordeb myfyrwyr sy’n ystyried gyrfa ym maes rheoli perygl llifogydd.

Gofynion buddsoddi tymor hir

Ym mis Ionawr 2024, gwnaethom gyhoeddi adroddiad yn edrych ar lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn rheoli perygl llifogydd Cymru yn y dyfodol, a achosir gan afonydd a’r môr yn erbyn cefndir o hinsawdd sy’n newid. Mae’r adroddiad Gofynion Buddsoddi Hirdymor yn nodi canfyddiadau’r dadansoddiad yr adroddiad, gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf o brosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru a chronfa ddata asedau llifogydd Asset Management eXpert (AMX). Defnyddiwyd offeryn economaidd i asesu gwahanol senarios o ran buddsoddi, costau a buddion tebygol gwahanol benderfyniadau polisi i helpu i lywio penderfyniadau a chynllunio cyllideb ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru.

Mae’r canfyddiadau’n amlygu’r angen am weithredu pellach mewn ymateb i’n hinsawdd sy’n newid, yr angen i addasu ar draws llawer o gymunedau ledled Cymru a’r angen parhaus am fuddsoddiad mewn rheoli perygl llifogydd yn yr hirdymor.

Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd

Gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd diwygiedig ym mis Tachwedd 2023. Mae’r cynllun yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd am y chwe blynedd nesaf ar gyfer yr ardaloedd llifogydd y mae gennym ni’r prif gyfrifoldebau amdanynt: llifogydd o afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr. Mae'r cynllun wedi'i rannu'n adran genedlaethol drosfwaol ochr yn ochr â chwe adran sy'n canolbwyntio ar leoedd. Bydd y set o fesurau a chamau gweithredu arfaethedig sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun yn mynd i'r afael â'r amcan cyffredinol o leihau perygl llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr i bobl a chymunedau, a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r 14 blaenoriaeth a nodir yn y cynllun.

Cyhoeddi adroddiad Adran 18

Cyhoeddwyd yr adroddiad Adran 18 diweddaraf sy’n ymdrin â Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol rhwng 2020 a 2023 ar ein gwefan. Cynhyrchir yr adroddiad hwn fel gofyniad o dan Adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion Cymru ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020.

Adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gyda Network Rail

Rydym wedi adnewyddu ein cytundeb Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) gyda Network Rail sy’n darparu ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth. Rydym eisoes wedi gweithio gyda Network Rail ar nifer o gynlluniau arfordirol ac afonydd i leihau perygl llifogydd, diogelu cynefinoedd, rheoli tir, a chynllunio prosiectau’n well. Trwy weithio mewn ffordd gydweithredol, rydym yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol posibl a thrwy adnewyddu ein cytundeb, rydym yn sicrhau bod hyn yn parhau yn y blynyddoedd i ddod.

Ymchwil a datblygu ym maes Rheoli Perygl Llifogydd

Mae gennym raglen ymchwil a datblygu strategol sydd â'r nod o gyflwyno tystiolaeth allweddol i lywio a gwella ein hanghenion gweithredol a'n hanghenion polisi mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd. Er mwyn helpu i ddiwallu ein hanghenion ymchwil a thystiolaeth, rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar raglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) ar y cyd. Nod y rhaglen yw gwasanaethu anghenion yr holl awdurdodau gweithredu llifogydd ac arfordirol yng Nghymru a Lloegr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar y Cyd ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi cyhoeddi nifer o brosiectau allweddol y mae CNC wedi bod yn rhan ohonynt gan gynnwys y llawlyfr Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM). Mae'r rhestr lawn o brosiectau i'w gweld ar wefan prosiectau ymchwil a datblygu FCERM.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar y Cyd i ddatblygu Cynllun Ymchwil ar y Cyd. Mae hyn yn cwmpasu wyth maes o ddiddordeb ymchwil ar gyfer y rhaglen ac mae wedi’i osod ar gyfer 2028. Defnyddir y rhain i ganolbwyntio gweithgarwch ymchwil ac ymgysylltu ar gyfer y rhaglen. Ceir rhagor o fanylion yma.

Mae’r rhaglen ehangach yn cynnwys 57 o brosiectau wedi’u rhannu’n 3 thema: 1) Polisi, Strategaeth a Buddsoddiad, 2) Rheoli Asedau a 3) Rheoli Digwyddiadau a Modelu. Mae ein staff yn ymwneud yn uniongyrchol â 22 o'r prosiectau hyn naill ai fel aelod cyfatebol neu'n cymryd rhan weithredol ar lefel bwrdd prosiect.

Atebion sy'n seiliedig ar natur

Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn cyfeirio at ddefnyddio nodweddion a phrosesau naturiol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol-amgylcheddol. Ystyrir bod rheoli llifogydd yn naturiol (NFM) yn ateb sy’n seiliedig ar natur i helpu i fynd i’r afael â llifogydd drwy ddefnyddio neu adfer prosesau naturiol i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Gall rheoli llifogydd yn naturiol hefyd gynnig llawer o fuddion ehangach gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, cynyddu gwytnwch ecosystemau, gwella ansawdd dŵr a storio carbon.

Un o flaenoriaethau allweddol Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yw cyflwyno mwy o ymyriadau naturiol a dulliau dalgylch er mwyn lleihau perygl llifogydd yng Nghymru. Mae’n ofynnol i awdurdodau rheoli perygl llifogydd yng Nghymru ystyried y defnydd o arferion rheoli llifogydd yn naturiol wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau llifogydd newydd a gweithgareddau cynnal a chadw. Ein nod yw integreiddio arferion rheoli llifogydd naturiol yn naturiol o fewn gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ac arfordirol lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol i leihau’r perygl ac effeithiau llifogydd, addasu i newid yn yr hinsawdd, cyfrannu at yr amcan o gydnerthedd ecosystemau a chefnogi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym yn datblygu ein hymagwedd tuag at Reoli Llifogydd yn Naturiol, gan gydnabod yr angen i ddefnyddio’r holl offer sydd ar gael i reoli risgiau hinsawdd yn y dyfodol.

Datblygu ein hymagwedd at Reoli Llifogydd yn Naturiol

Fel sefydliad rydym am arwain trwy esiampl, gan gyflawni ein hamcanion corfforaethol i ddiogelu a gwella natur, ymateb i'r argyfwng hinsawdd, a lleihau llygredd. Mae gweithredu mesurau Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn cynnig potensial i gyflawni’r amcanion hyn, ac mae ganddynt rôl bwysig wrth gefnogi gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn cyd-fynd â’n gweithgareddau rheoli risg llifogydd eraill a bydd ar ei fwyaf effeithiol pan gaiff ei gyflawni fel rhan o gynllun neu mewn meysydd lle mae’n bosibl gwneud gwahaniaeth mesuradwy. Mae'r ardaloedd hyn yn debygol o fod yn ddalgylchoedd llai neu mewn ardaloedd lle ceir llifogydd amlach gyda llai o effaith. Er mwyn sicrhau bod llifogydd yn cael ei reoli’n gynaliadwy ac yn llwyddiannus, mae angen ymrwymiad a chyfranogiad ystod o bartneriaid, rhanddeiliaid, cymunedau a rheolwyr tir gyda chamau gweithredu wedi’u cydgysylltu ar draws dalgylch. Rydym yn archwilio ffyrdd o wneud hyn. Isod mae dwy enghraifft i ddangos lle rydym yn gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i sicrhau effeithiau cadarnhaol ar gyfer amgylchedd Cymru, gan gynnwys rheoli llifogydd yn naturiol.

Astudiaeth achos o ddalgylch Clwyd

Rydym wedi cefnogi rhanddeiliaid i sefydlu Fforwm Clwyd gyda'r nod o wella’r gwaith o reoli dalgylch Clwyd mewn ffordd gynaliadwy drwy ddulliau integredig. Mae’r fforwm yn rhoi’r cyfle i randdeiliaid amrywiol fynd i’r afael â materion yn nalgylch Clwyd ar y cyd ac mewn ffordd strategol i gyflawni buddion diriaethol, ar lefelau strategol a lefelau prosiect.

Un o nodau'r fforwm yw hyrwyddo rheoli llifogydd yn naturiol a defnyddio malurion pren yn nalgylch Clwyd. Mae rhannu gwybodaeth rhwng rhanddeiliaid wedi bod yn rhan bwysig o drafodaethau ac wedi galluogi’r fforwm i gefnogi ceisiadau Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol i Gronfa Sbarduno Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus. Bydd y fforwm yn parhau i ddarparu cymorth ac arweiniad dros y blynyddoedd i ddod gyda chynllun gweithredu ymroddedig i gyflawni blaenoriaethau megis rheoli llifogydd yn naturiol.

Prosiect Uwch Conwy

Mae prosiect Uwch Conwy yn brosiect partneriaeth ar raddfa tirwedd sy'n cwmpasu 3% o Gymru. Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gweithio gyda thenantiaid fferm a phartneriaid eraill i wella rheolaeth tir a dŵr tra’n darparu buddion i’r cymunedau a’r bywyd gwyllt sy’n galw’r rhan hon o Eryri yn gartref.

Rydym yn gweithio ar raddfa dalgylch i adfer mawndiroedd a systemau afonydd wedi’u haddasu, yn ogystal ag ail-greu ac ailgysylltu cynefinoedd trwy blannu coetiroedd a gwrychoedd a chreu dolydd. Eleni mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar adfer mawndiroedd ar y Migneint a’r Gylchedd drwy gau dros 15km o ffosydd a chreu 66 pwll i arafu llif y dŵr. Gan weithio gyda thenantiaid a pherchnogion tir lleol, rydym wedi creu 2km o gynefin glannau afon trwy greu lleiniau clustogi, ac wedi gosod dros 500m o wrychoedd cyfuchlin i arafu llif y tir yn ogystal â chreu coridorau bywyd gwyllt, gan roi cysgod i stoc a gwella symudiad da byw. Mae’r gwaith eleni wedi’i ariannu drwy gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Cronfa Rhwydweithiau Natur 2, Rhaglen Genedlaethol Gweithredu Mawndiroedd yn ogystal â chyllid gan CNC a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ffigur 9: Lluniau yn dangos adferiad mawndir uwchben fferm Foel, cwm Penmachno, Conwy. Mae'r llun ar y chwith yn dangos y mawndir cyn ei adfer. Mae'r llun ar y dde yn dangos y mawndir wedi'i adfer. Llun Iago Thomas, swyddog mawndir Uwch Conwy yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lluniau yn dangos adferiad mawndir uwchben fferm Foel, cwm Penmachno, Conwy. Mae'r llun ar y chwith yn dangos y mawndir cyn ei adfer. Mae'r llun ar y dde yn dangos y mawndir wedi'i adfer. Llun Iago Thomas, swyddog mawndir Uwch Conwy yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Prosiectau Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Rydym yn gweithio i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o ymyriadau rheoli perygl llifogydd yn ein gwaith lle bo’n briodol. Rydym wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid gan raglen sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â dau brosiect sy’n cyfrannu at fesur Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i gyflawni gwaith rheoli llifogydd ar sail natur ym mhob prif ddalgylch afon er mwyn ehangu cynefinoedd gwlyptir a choetir.

Afon Tregatwg, Dinas Powys

Rydym wedi parhau â’n gwaith gyda chymuned Dinas Powys, gan adolygu’r drefn cynnal a chadw sianel afon Tregatwg, datblygu achos busnes ar gyfer mesur llif afonydd a gwerthuso’r opsiynau ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol yn y dalgylch. Gyda'i gilydd, mae'r gweithgareddau hyn yn cwmpasu'r dalgylch cyfan i lywio opsiynau rheoli perygl llifogydd. Rydym wedi recriwtio swyddog ymgysylltu penodedig ar gyfer y dalgylch i gefnogi ein prosiect rheoli llifogydd yn naturiol, ond hefyd i integreiddio opsiynau adfer afon ar gyfer Tregatwg a’i llednentydd.

Dwyran, Môn

Rydym wedi nodi cyfleoedd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch afon Rhyd y Dyffryn i leihau perygl llifogydd yn Nwyran, Ynys Môn. Gan weithio’n agos gyda Grŵp Partneriaeth Llifogydd Dwyran, ein nod yw darparu ystod o fesurau rheoli llifogydd yn naturiol i leihau llifoedd llifogydd brig a sicrhau buddion ehangach, gan gynnwys gwneud gwelliannau i statws ecolegol yr afon.

Tystiolaeth ac ymchwil ym maes rheoli llifogydd yn naturiol

Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddeall effeithiolrwydd atebion sy’n seiliedig ar natur o ran lleihau perygl llifogydd a darparu manteision ehangach i wasanaethau ecosystemau.

Mae’r diweddariad i’r prosiect ymchwil Gweithio gyda Phrosesau Naturiol - y Sylfaen Dystiolaeth a gyhoeddwyd gyntaf yn 2017 drwy raglen Ymchwil a Datblygu Cymru a Lloegr (Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol) bellach wedi’i gwblhau a bydd yn cael ei gyhoeddi yn haf 2024. Mae’r diweddariad hwn yn crynhoi tystiolaeth sydd newydd ddod i’r amlwg mewn perthynas ag effeithiolrwydd ystod o wahanol fesurau i leihau perygl llifogydd a’r gwasanaethau ecosystem ehangach y maent yn eu darparu. Mae'n dilyn strwythur tebyg i'r sylfaen dystiolaeth wreiddiol, ac mae’n adlewyrchu datblygiadau yn y wyddoniaeth a'r arfer o weithio gyda phrosesau naturiol.

Lle mae ein harian yn cael ei wario

Rydym yn cael ein hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i gyflenwi gwaith rheoli perygl llifogydd, a hynny ar ffurf cyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd. Daw hyn ar ffurf cyllid refeniw sy'n cefnogi gweithgareddau a gwasanaethau gweithredol arferol a “busnes fel arfer”, yn ogystal â chyllid cyfalaf a ddefnyddir i gyflawni gwaith prosiect.

Yn ystod 2023/24, derbyniodd CNC gyfanswm o £56.6 miliwn o gyllid grant ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd, a oedd yn cynnwys £24.5 miliwn o gyllid refeniw a £32.1 miliwn o gyllid cyfalaf. Defnyddiwyd y cyllid hwn yn llawn yn y flwyddyn ariannol hon i gyflawni canlyniadau Rheoli Perygl Llifogydd, cynnal y gwasanaethau y mae CNC yn eu darparu a llawer o’r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad hwn.

Cyllid cyfalaf

Ein cyllideb gyfalaf wreiddiol ar gyfer 2023/24 oedd £22 miliwn. Roedd perfformiad y rhaglenni'n dibynnu'n fawr ar gynnydd gwaith adeiladu yn Stryd Stephenson (Casnewydd) a Rhydaman. Daeth y ddau brosiect yn eu blaenau yn eithriadol o dda drwy gydol y flwyddyn, ni chafwyd unrhyw broblemau mawr ac felly bu modd iddynt gyflymu’r broses o gyflawni meysydd gwaith sylweddol. Mae hyn yn anghyffredin iawn ar gyfer prosiectau o'r maint hwn. Mae prosiectau Trawsnewid Busnes sylweddol (Telemetreg a'r System Rhybuddion Llifogydd newydd) yn ogystal â gweddill y rhaglen hefyd wedi symud ymlaen yn dda iawn. O’r herwydd bu’n rhaid i ni negodi cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru. Llwyddwyd i sicrhau £7 miliwn ychwanegol ym mis Hydref 2023. Yn dilyn hyn, gwnaethom hefyd gytuno i wario cyllid cyfalaf ychwanegol pellach a ddarparwyd i ni gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â rhywfaint o gyfalaf ychwanegol a ailddyrannwyd yn fewnol. O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol hwn, ein cyllideb derfynol ar gyfer 2023/24 oedd £32.1 miliwn. Fe wnaeth y cyllid hwn ein galluogi i gyflawni mwy na 110 o brosiectau o fewn ein Rhaglen Gyfalaf, gan gynnwys nifer o’r prosiectau a amlygir yn yr adroddiad hwn, a nifer o enghreifftiau o waith parhaus a fydd yn cael ei gwblhau dros y blynyddoedd i ddod. Mae Ffigur 10 isod yn cynnwys dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect.

Ffigur 10: Siart yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect

Siart yn dangos dadansoddiad o wariant cyfalaf fesul math o brosiect

Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys costau cyflog (£2.5 miliwn), cyfraniadau i wasanaethau galluogi corfforaethol ehangach (£1.1 miliwn) a phrynu fflyd, peiriannau ac offer (£650,000) wedi'u cyfalafu. Mae costau trawsnewid busnes cyfalaf yn ymwneud â gwaith datblygu system TGCh benodol i reoli perygl llifogydd, neu gyfraniadau at waith datblygu systemau sydd er budd i wasanaethau rheoli perygl llifogydd. Yn 2023/24 roedd hyn yn cynnwys prosiectau i ddisodli ein system rhybuddion llifogydd a’n system telemetreg.

Cyllid refeniw

Cefnogodd y setliad refeniw o £24.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yr ymdrech sylweddol sy'n ofynnol o ran cynnal a darparu'r gwasanaethau, cyngor, offerynnau a gweithgareddau y mae CNC yn ymgymryd â nhw er mwyn helpu i reoli perygl llifogydd yng Nghymru. Yn bennaf, mae'r cyllid hwn yn cynnal costau staff, gwaith cynnal a chadw arferol, gwasanaethau galluogi amrywiol sy'n cefnogi ein gwaith, a gweithgareddau arferol eraill. Mae Ffigur 11 isod yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd.

Ffigur 11: Siart yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd

Siart yn dangos dadansoddiad o'r gwariant refeniw fesul gweithgaredd

Mae pob un o’r meysydd gwaith hyn yn rhyngweithio ac yn gorgyffwrdd â’i gilydd i ddarparu gwasanaethau allweddol, felly mae rhai meysydd lle mae timau’n cefnogi gweithgareddau ehangach a all gamliwio graddfa’r ymdrech yn rhai o’r gweithgareddau uchod gan fod llawer o feysydd yn ddibynnol ar ei gilydd i sicrhau canlyniadau. Er enghraifft, mae gwaith Hydrometreg a Thelemetreg yn cefnogi rhagolygon a chyhoeddi rhybuddion llifogydd.

Mae Gorbenion Corfforaethol a’r Gwasanaeth Galluogi yn cynnwys cyfraniad y tîm rheoli perygl llifogydd i weithrediad gwasanaethau busnes allweddol sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau rheoli perygl llifogydd. Mae'r rhain yn cynnwys Cyfathrebu, Caffael, Llywodraethu ac Arwain, Cynllunio Corfforaethol, Gwasanaethau Cyfreithiol, Rheoli Pobl, Cyfleusterau, Rheoli Fflyd a Chyllid. Mae costau Darparu Gwasanaeth yn gysylltiedig â gweithredu a chynnal systemau, offer a gwasanaethau allweddol a gefnogir gan eraill, er enghraifft Asiantaeth yr Amgylchedd.

Defnyddiwyd y gyllideb refeniw o £24.5 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn 2023/24, a helpodd i gefnogi llawer o'r mentrau a amlinellir yn yr adroddiad hwn, ynghyd â sicrhau bod ein gwasanaethau “busnes fel arfer” wedi parhau i gael eu darparu yn effeithiol.

Niferoedd staff

Yn fras, gellir dosbarthu'r ymdrech sy'n ofynnol o ran cyflawni gwaith rheoli perygl llifogydd yn CNC i'r meysydd gwaith a strwythurau canlynol:

  • Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol sy'n atebol i'r Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau o fewn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.
  • Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol sy'n atebol i reolwyr perygl llifogydd a dŵr o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.
  • Timau cyflawni gweithredol integredig sy'n atebol i reolwyr tir ac asedau o fewn y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau.
  • Mae Gwasanaethau Galluogi sy’n darparu cymorth canolog i holl swyddogaethau CNC hefyd yn cael eu hariannu’n rhannol yn gymesur gan gyllid rheoli llifogydd yn naturiol er mwyn gallu cyflawni’r gwasanaethau.

Yn y sefyllfa sydd ohoni ym mis Mawrth 2024, rydym yn amcangyfrif bod nifer y staff mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn meysydd sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd fel y nodir yn y tabl canlynol, (nid yw’r adroddiad hwn yn cynnwys data ar nifer y staff sy’n gweithio o fewn y gwasanaethau galluogi gan ei fod yn rhy gymhleth i allu adnabod rolau a chyfraniadau penodol).

Tabl 9: Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn sy'n gweithio'n uniongyrchol ym maes rheoli perygl llifogydd ym mis Mawrth 2024 (pob swydd, gan gynnwys swyddi gwag)

Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn Maes Gwaith Sefydliadol
63.8 Timau gwasanaethau a pholisïau cenedlaethol
143.3 Gwasanaethau technegol rheoli perygl llifogydd uniongyrchol
172.5 Timau cyflawni gweithredol integredig
379.6 Cyfanswm amcangyfrif o'r staff cyfwerth ag amser llawn yn CNC a ariennir o gronfeydd rheoli perygl llifogydd

Edrych i’r dyfodol

Er mai diben yr adroddiad hwn yw canolbwyntio ar ganlyniadau a llwyddiannau blwyddyn ariannol 2023/24, mae rhan helaeth o'r hyn a wnaed eleni yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a chanlyniadau a fydd yn dod i ben yn y blynyddoedd i ddod.

Isod, rhestrir rhai o uchafbwyntiau allweddol y gwaith rydym yn bwriadu ei gwblhau neu ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod (2024/25).

Prosiect Adnewyddu System Rhybuddion Llifogydd

Disgwylir i Brosiect Adnewyddu System Rhybuddion Llifogydd newydd gael ei gyflawni yn ystod haf 2024. Bydd hyn yn darparu system well ar gyfer rhoi rhybuddion llifogydd i bobl Cymru.

Cynllun lliniaru llifogydd yn Llyswyry, Casnewydd

Rydym yn cynnal cynllun lliniaru llifogydd mawr newydd yn Llyswyry, Casnewydd, a fydd yn lleihau perygl llifogydd i dros 800 eiddo (dros 2,000 eiddo yn yr hirdymor wrth ystyried newid yn yr hinsawdd). Mae’r cynllun yn mynd rhagddo’n eithriadol o dda, gyda dros £13 miliwn yn cael ei wario yn ystod 2023/24, sef y mwyaf y mae CNC erioed wedi’i wario ar brosiect cyfalaf rheoli perygl llifogydd mewn blwyddyn galendr. Hwn hefyd yw’r cynllun rheoli perygl llifogydd mwyaf arwyddocaol o bell ffordd a gyflawnwyd gan CNC. Os bydd y cynllun yn parhau ar ei drywydd presennol, bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn Rhagfyr 2024. Amcangyfrifir y bydd cyfanswm cost y cynllun oddeutu £25 miliwn gyda buddion y prosiect yn cael eu hamlygu drwy gost llifogydd sylweddol sy'n effeithio ar yr ardal yn cael eu hamcangyfrif yn £230 miliwn.

Cynnwys Tonnau'n Gorlifo o fewn setiau data Perygl Llifogydd o'r môr

Rydym wedi dechrau rhaglen waith i ymgorffori perygl tonnau'n gorlifo yn ein mapiau Perygl Llifogydd o'r Môr ar gyfer y cymunedau lle mae'r perygl mwyaf. Ar hyn o bryd dim ond lefel y môr eithafol y mae'r mapiau hyn yn ei dangos felly trwy gynnwys tonnau'n gorlifo byddwn yn gallu rhoi darlun mwy cywir o berygl llifogydd yn enwedig ar gyfer lleoliadau arfordirol agored. Bydd hyn yn dechrau ym mis Mai 2024.

Y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg

Byddwn yn parhau i sefydlu ein model newydd ar gyfer cynllunio a blaenoriaethu gwaith cynnal a chadw, bydd hyn yn gweithio tuag at ein nod o wneud ein gwaith yn wirioneddol seiliedig ar risg ac yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian o'r cyllid a ddefnyddir ar gyfer ein gwaith cynnal a chadw arferol. Byddwn yn parhau i weithio drwy gydol y flwyddyn ariannol i ysgogi gwelliannau wrth adolygu cyflawnder data cynnal a chadw ar AMX, amserlennu rhaglenni cynnal a chadw a monitro'r gwaith o gyflawni gweithgareddau cynnal a chadw. Bydd canllawiau'n cael eu datblygu i helpu ymarferwyr rheoli perygl llifogydd i gyflawni'r nodau hyn.

Gwytnwch rota darogan llifogydd

Nid oes digon o swyddogion ar ddyletswydd ar ein rota darogan llifogydd sy’n cwmpasu rhagolygon llifogydd ar gyfer afonydd a’r môr ledled Cymru gyfan. Rydym wedi nodi nifer o swyddogion dyletswydd newydd a fydd yn cael eu hyfforddi drwy gydol 2024 cyn ymuno â’r rota yn gynnar yn 2025.

Gwelliannau i wasanaethau darogan llifogydd

Rydym yn datblygu rhaglen waith i gynyddu cwmpas darogan llifogydd, gwella dulliau cyfathrebu mewn perthynas â pherygl llifogydd disgwyliedig a deall yn well yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â darogan digwyddiadau llifogydd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni fesul cam dros y blynyddoedd nesaf ond unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yn arwain at gyfathrebu cynharach â'r cyhoedd a phartneriaid proffesiynol a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth o berygl llifogydd posibl a gwell dealltwriaeth o'r effeithiau tebygol.

Gwella'r wybodaeth sydd ar gael am berygl llifogydd

Rydym yn cynnal prosiect i wella dealltwriaeth a thryloywder sut mae gwaith rheoli perygl llifogydd yn cael ei gynllunio a'i flaenoriaethu, gan gynnwys gwella dealltwriaeth o'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl. Bydd y gwaith hwn yn digwydd yn ystod 2024/25.

Asedau sy'n wynebu newidiadau arfordirol

Rydym yn ystyried pa newidiadau sydd eu hangen i reoli ein hasedau arfordirol, yn enwedig lle bu newid ym mholisïau’r Cynllun Rheoli Traethlin. Rydym wedi ystyried graddfa'r newidiadau sy'n ofynnol o ran y dull o reoli er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cynlluniau Rheoli Traethlin, a'r newid cyfnod sydd ar y gweill yn 2025. Byddwn yn symud ymlaen at yr ail gam sy'n cynnwys dadansoddi'r wybodaeth hon yn fanylach, pennu ein dulliau gweithredu strategaeth reoli yn y dyfodol yn y meysydd hyn a datblygu'r polisïau a'r arweiniad angenrheidiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein gwaith addasu.

Prosiect amnewid telemetreg

Yn ystod 2024/25 byddwn yn cwblhau ein prosiect ailosod telemetreg fel y gall y system newydd a’r Unedau Telemetreg o Bell mewn dros 600 o safleoedd monitro telemetreg ledled Cymru barhau i ddarparu’r data rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer gwneud penderfyniadau critigol o ran rhybuddion ac ymateb yn weithredol yn ystod llifogydd.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf