Beicio
Darganfod ble gallwch chi feicio yng Nghymru a...
Beth am fwynhau awyr agored Cymru drwy bysgota? Ond ble i bysgota a pha offer i’w defnyddio yw’r cwestiwn mawr. Fe gewch chi’r holl wybodaeth angenrheidiol yma
Cofiwch – mae’n rhaid i bawb dros 13 oed gael trwydded i bysgota’n gyfreithlon yng Nghymru.
Mae is-ddeddfau cenedlaethol a lleol ar waith i ddiogelu dyfodol ein pysgodfeydd. Maen nhw’n berthnasol i’n holl ddyfroedd, p’un ai ydyn nhw’n eiddo i glybiau pysgota â gwialen, awdurdodau lleol neu unigolion preifat.
Cyn mynd i bysgota, darllenwch yr is-ddeddfau cenedlaethol a lleol er mwyn osgoi torri’r gyfraith ac er mwyn i chi allu mwynhau trip pysgota didrafferth.
Os ydych chi’n bwriadu pysgota am y tro cyntaf, gallwch gael hyfforddiant neu gyngor gan eich clwb pysgota lleol. Mae’n ffordd dda o ddysgu’r grefft, ac mae llawer o hyfforddwyr yn caniatáu i chi ddefnyddio’u hoffer nhw, gan olygu ei bod yn ffordd ratach o roi cynnig arni am y tro cyntaf.
Ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol? Ewch i’r wefan Ble i bysgota lle gallwch chi chwilio yn ôl y math o bysgota, neu chwilio am glybiau pysgota neu siopau offer pysgota:
Mae Cymru’n adnabyddus fel lle da i bysgota am frithyllod, canghennau glas ac eogiaid. Yma hefyd y mae rhai o’r afonydd gorau yn Ewrop i bysgota am siwin. Mae gennym hefyd gronfeydd dŵr da lle gallwch bysgota am frithyllod a phenhwyaid, a does dim prinder llynnoedd llonydd i ddal pysgod bras fel carp, merfogiaid a rhufelliaid.
Mae gan rai clybiau, afonydd a physgodfeydd preifat eu rheolau a’u cyfyngiadau eu hunain, felly holwch berchennog y bysgodfa cyn dechrau pysgota.
Os ydych chi’n chwilio am rywle i bysgota, mae gan wefan Fishing Wales chwiliadur ar-lein i’ch helpu i ddod o hyd i bysgodfeydd yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am lety yn yr ardal.
Gallwch ddefnyddio chwiliadur ar-lein y Canal & River Trust i ddewis o blith 6,000 o leoliadau.
Fel pysgotwr, rydych mewn sefyllfa unigryw i helpu i ddiweddaru cofnodion yn ymwneud â bywyd gwyllt; nid yn unig y pysgod yr ydych yn eu dal, ond yr holl rywogaethau a welwch pan fyddwch allan yn pysgota.
Mae’r ap iRecord yn ffordd syml o gofnodi bywyd gwyllt a helpu i gyfrannu at gadwraeth natur, cynllunio, ymchwil ac addysg.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gofnodi biolegol ar:
Atlas RhBC Cymru neu Ganolfan Cofnodion Biolegol y DU
Os oes gennych chi gyfrif Twitter, gallwch ei ddefnyddio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bysgota, i ofyn cwestiynau i arbenigwyr ac i rannu gwybodaeth. Dyma rai o’r goreuon sy’n trydar am bysgota yng Nghymru ar hyn o bryd:
@NatResWales – Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
@FishAround – Cymuned bysgota ar-lein sy’n helpu pysgotwyr brwd i ddod o hyd i’r llefydd pysgota gorau, i rannu gwybodaeth ac i gadw mewn cysylltiad.
Mae Dal a Rhyddhau yn helpu i gynnal y stoc bysgod.
Mae’r stoc eogiaid a siwin, yn gyffredinol, wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae pysgotwyr wedi bod yn mynd ati o’u gwirfodd i ryddhau mwy a mwy o’r pysgod maen nhw’n eu dal. Erbyn hyn, mae afonydd Taf, Elái a Gwy yn ardaloedd Dal a Rhyddhau 100% ar gyfer eogiaid a siwin drwy’r tymor. Hefyd, rhaid i unrhyw eog sy’n cael ei ddal yng Nghymru cyn 16 Mehefin gael ei roi yn ôl yn yr afon.
Mae astudiaethau’n dangos y bydd y rhan fwyaf o bysgod yn goroesi ar ôl cael eu rhyddhau, a gall y cyfraddau goroesi fod cyn uched â 100% os yw’r camau a ganlyn yn cael eu dilyn:
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn gallu cael effaith niweidiol ar blanhigion, anifeiliaid ac ecosystemau gwledydd Prydain. Maen nhw’n gwneud hyn drwy ledaenu afiechydon, cystadlu am gynefinoedd a bwyd, yn ogystal â dinistrio’r rhywogaethau cynhenid yn uniongyrchol. Gall pysgotwyr ledaenu rhywogaethau goresgynnol o le i le, heb yn wybod, mewn offer gwlyb fel rhwydi ac esgidiau pysgota.
Da chi, helpwch i atal hyn drwy gofio’r tri cham syml: Edrych, Golchi a Sychu.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llunio is-ddeddfau brys i efelychu’r lefel gyfredol o ddiogelwch ar gyfer eogiaid sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2018. Byddant yn dod i rym ar 1 Ionawr 2019. Y bwriad yw y bydd y rheoliadau mewn grym am 12 mis oni chânt eu dirymu neu eu hymestyn.
Bydd yr Is-ddeddfau Eogiaid Cenedlaethol cyfredol, sydd wedi bod mewn grym ers 20 mlynedd er mwyn diogelu heigiau o eogiaid cynnar yn y gwanwyn, yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2018. Bydd yr is-ddeddfau brys newydd yn sicrhau bod stociau eogiaid Cymru yn parhau i gael eu gwarchod hyd nes y gwneir penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i’r Ymchwiliad Lleol ar gais CNC ar gyfer cyflwyno rheoliadau newydd mwy amddiffynnol ar gyfer dalfeydd.
Ein bwriad oedd y byddai ein his-ddeddfau newydd ‘Cymru gyfan’ arfaethedig ar gyfer rhwydi a gwialenni ar waith cyn i'r Is-ddeddfau Cenedlaethol Eogiaid ddod i ben, ond mae amseriad yr Ymchwiliad Lleol yn golygu nad yw hyn yn bosibl bellach, a allai olygu llai o amddiffyniad i eogiaid.
Mae'r is-ddeddfau brys yn efelychu’r Is-ddeddfau Eogiaid Cenedlaethol, gan ddefnyddio'r un mesurau rheoli sydd wedi bod ar waith ers 20 mlynedd ac sydd yn gyfarwydd i bob pysgotwr. Ni ddisgwylir iddynt gael unrhyw effaith ar yr Ymchwiliad Lleol nac ar gais CNC am is-ddeddfau rheoli dalfeydd newydd.
Mae'r is-ddeddfau brys yn gwneud y canlynol yn ofynnol:
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.