Ymweliadau hygyrch
Profiad o’n coetiroedd a’n gwarchodfeydd beth...
Yn y coetiroedd a’r coedwigoedd sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru y mae rhai o’r llwybrau beicio mynydd enwocaf yng Nghymru – edrychwch ar ein tudalen beicio mynydd i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi’n chwilio am lwybr beicio mwy hamddenol, gallwch feicio ar unrhyw ffordd goedwig.
Mae llwybrau beicio neu gyfleusterau eraill ar gyfer beicio yn y coetiroedd a’r coedwigoedd hyn:
Mae rhai o'n llwybrau'n addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio beiciau addasol.
Rydym wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai rhai o'r llwybrau hyn fod cyn i chi ymweld.
Person anabl sy’n siarad ar bob ffilm wrth deithio ar hyd y llwybr gan ddefnyddio offer personol.
I wylio’r ffilmiau ewch i Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol
Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd – llwybr tawel neu un sy’n cynnig tipyn mwy o her - mae beicio’n ffordd wych o fwynhau’r awyr agored.
Gallwch feicio ar y ffordd, ond mae digonedd o leoedd eraill i feicio yng Nghymru hefyd.
Weithiau mae’n rhaid cau neu ddargyfeirio llwybrau wrth inni wneud gwaith cynnal a chadw neu waith coedwig neu am resymau eraill fel tywydd gwael.
Rydyn ni’n rhoi manylion am gau a dargyfeirio llwybrau beicio mynydd ar wefannau’r coetiroedd neu’r canolfannau ymwelwyr perthnasol.
Rydyn ni hefyd yn gosod arwyddion sy’n sôn am gau neu ddargyfeirio ar ddechrau pob llwybr.
Gofynnwn yn garedig i chi ddilyn yr holl arwyddion dargyfeirio a chyfarwyddiadau gan ein staff ar y safle er eich diogelwch eich hun.
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu gweithgareddau ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dysgwch fwy am drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn berthnasol i bob ardal yng nghefn gwlad Cymru a Lloegr.
Ei nod yw helpu pawb i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad.
Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Cefn Gwlad cyn mynd ar eich beic.
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd god ymddygiad ar gyfer beicio mewn coedwigoedd. Gallwch weld y cod ar ein tudalen beicio mynydd.