Beicio
Ein llwybrau beicio a gwybodaeth er mwyn cynllunio...
Mae yna lwybrau cerdded yn llawer o'r coetiroedd a'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r llwybrau cerdded hyn wedi'u harwyddo o'r dechrau i'r diwedd ac wedi’u graddio i roi syniad o’u hanhawster.
Mae'r llwybrau cerdded fel arfer yn cychwyn o faes parcio lle mae panel gwybodaeth am y llwybr.
Mae'r panel yn nodi pa arwyddion (saeth wedi’i lliwio neu symbol arall) i'w dilyn ac mae ganddo wybodaeth am radd y llwybr, faint o amser y gall ei gymryd i'w gwblhau a beth i gadw golwg amdano ar hyd y llwybr.
Weithiau bydd angen i ni gau neu ddargyfeirio llwybrau er diogelwch i chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau eraill.
Gwiriwch y dudalen am y coetir neu warchodfa ar y wefan hon am unrhyw newidiadau cyn i chi ymweld, yn enwedig os ydych am ddilyn llwybr penodol, a dilynwch unrhyw arwyddion dros dro a chyfarwyddiadau gan staff.
Gallwch gerdded ar bob un o'r pedwar categori o hawl tramwy cyhoeddus:
Dysgwch fwy am hawliau tramwy cyhoeddus.
Gallwch gerdded ar unrhyw dir sydd wedi'i ddynodi'n dir mynediad agored.
Mae'r rhan fwyaf o'r coetiroedd a rhai o'r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u dynodi'n diroedd mynediad agored.
Dangosir tir mynediad agored ar fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans.
Dysgwch fwy am dir mynediad agored.
Mae Llwybrau Cenedlaethol yn llwybrau hir trwy rai o’r tirweddau gorau yng Nghymru a Lloegr.
Mae tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru:
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch arfordir Cymru.
Mae'r llwybr yn 870 milltir o hyd o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Llwybr Arfordir Cymru.
Mae'r Codau Cefn Gwlad yn darparu cyngor i gynllunio ymweliad â'r awyr agored ac i helpu i'ch cadw chi a phobl eraill yn ddiogel.
Dysgwch fwy am y Codau Cefn Gwlad.
Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cyn trefnu gweithgareddau ar y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dysgwch fwy am drefnu gweithgaredd neu ddigwyddiad.