Gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol ar gyfer gosodiad newydd

Cyn i chi wneud cais

Darganfyddwch a oes angen Trwydded Amgylcheddol arnoch ar gyfer eich gosodiad.

Darganfyddwch a yw eich gosodiad yn gymwys ar gyfer Trwydded Amgylcheddol effaith isel

Mae'r ddolen 'Oes angen i mi wneud cais am drwydded neu gofrestru eithriad' yn rhoi manylion y gwahanol sectorau lle gallai'ch gweithgarwch fod yn berthnasol.

Gwneud cais am drwydded gosod

Er mwyn cyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu, bydd angen i chi gwblhau'r Offeryn Tâl.

Mae'r offeryn yn cynnwys canllawiau ar sut i'w gwblhau, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost ymholiadau cyffredinol isod."

Bydd angen i chi hefyd gwblhau taenlen OPRA i gyfrifo eich tâl cynhaliaeth blynyddol.

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000 

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf