Darganfyddwch a yw eich gosodiad yn gymwys ar gyfer Trwydded Amgylcheddol effaith isel

Gosodiadau effaith isel

Gallwch wneud cais am drwydded amgylcheddol effaith isel ar gyfer eich gosodiad os ydych yn cyflawni unrhyw weithgaredd A1 ac yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd isod.

Os byddwch yn cyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau canlynol, ni fyddwch yn gallu bod yn gymwys i gael trwydded amgylcheddol effaith isel:

  • llosgi a chyd-losgi gwastraff
  • gwaredu gwastraff drwy dirlenwi
  • gwaredu gwastraff ac eithrio drwy ei losgi neu ei dirlenwi
  • adfer gwastraff

Yn gymwys fel gosodiad effaith isel

I fod yn gymwys, rhaid i'ch gosodiad gael effaith amgylcheddol isel oherwydd ei ddyluniad.

Rhaid i osodiadau effaith isel beidio â gwneud y canlynol:

  • rhyddhau mwy na 50 metr ciwbig o ddŵr gwastraff y dydd
  • gorfod defnyddio cyfarpar i leihau neu ddileu allyriadau cyn iddynt gael eu rhyddhau i'r amgylchedd allanol
  • gollwng allyriadau i ddŵr daear
  • cynhyrchu mwy nag un dunnell o wastraff neu 10kg o y dydd, ar gyfartaledd dros flwyddyn, gyda dim mwy nag 20 tunnell o wastraff neu 200kg o wastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu mewn unrhyw un diwrnod
  • defnyddio ynni ar gyfradd uwch na 3 megawat (MW) neu, os yw’r gosodiad yn defnyddio gosodiad gwres a phŵer cyfunol i gyflenwi unrhyw wres ar gyfer prosesau mewnol, 10MW (trwy drydan wedi’i fewnforio a thrwy losgi tanwydd ar y safle)

Rhaid i osodiadau effaith isel fod â’r canlynol:

  • mesurau cyfyngu i atal allyriadau rhag dianc i ddŵr wyneb, carthffos neu dir sy'n cael eu cynnal bob amser
  • risg isel yn unig o achosi tramgwydd oherwydd sŵn ac arogl.Ni allwch fod yn gymwys fel gosodiad effaith isel os yw sŵn ac arogl yn amlwg y tu allan i ffin eich safle.

Gwneud cais am drwydded amgylcheddol

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf