Cais i amrywio (newid) trwydded ar gyfer safleoedd

Cyn i chi wneud cais 

Mae’n rhaid i chi wneud cais am amrywiad os ydych chi am wneud unrhyw newidiadau i’ch trwydded. Am ragor o gyngor ar sut i amrywio trwydded gweler y ffurflenni cais a’r nodiadau cyfarwyddyd sydd ar gael drwy glicio’r dolenni isod. Rhaid i bob ymgeisydd (ac eithrio’r rhai sy’n gwneud cais am newid gweinyddol yn unig) lenwi rhan A a rhan F, a chwblhau’r adrannau priodol yn rhan C.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais i amrywio eich trwydded a’r nodiadau canllaw i’ch helpu i gwblhau’r ffurflenni cais. Rhaid i chi lenwi Rhan C0.5 oni bai eich bod yn newid cyfeiriad neu fanylion cysylltu – os felly, dylech roi’r manylion newydd yn Rhan A. Gweler y canllawiau ar gyfer Rhan C0.5 i weld beth yw tudalen weinyddol.

Os oes gennych chi fwy nag un drwydded amgylcheddol yn yr un lleoliad, gallwch wneud cais i gyfuno’ch trwydded. Os hoffech wneud hyn, ffoniwch ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid ar 0300 065 3000 i drafod eich cais.

Nodwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, gallai'r wybodaeth yn y ddolen Help gyda'ch cais eich helpu. Os hoffech gyngor cyn gwneud cais, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol 2019/2020

Help gyda'ch cais

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000 

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP

Diweddarwyd ddiwethaf