Darganfyddwch a oes angen Trwydded Amgylcheddol arnoch ar gyfer eich gosodiad

A oes angen trwydded amgylcheddol arnoch ar gyfer gosodiad?

Os ydych yn gweithredu cyfleuster sy'n cael ei ddosbarthu fel gosodiad A(1), mae angen i chi wneud cais i ni am drwydded amgylcheddol.

Cyfleusterau sy'n cyflawni prosesau diwydiannol yw gosodiadau, megis:

  • purfeydd
  • safleoedd gweithgynhyrchu
  • ffatrïoedd
  • diwydiannau prosesu

Gallant hefyd gynnwys rhai gweithgareddau gwastraff, fel a ganlyn:

  • gwaredu gwastraff i safleoedd tirlenwi
  • trin gwastraff peryglus
  • llosgi gwastraff

Mae gweithgareddau Rhan A(1) fel arfer yn cynnwys effeithiau amgylcheddol mwy arwyddocaol ac yn destun rheoleiddio llymach. Mae enghreifftiau yn cynnwys cynhyrchu cemegion ar raddfa fawr neu losgi gwastraff. Mae gweithgareddau Rhan A(1) yn cael eu rheoleiddio gennym ni.

Mae gweithgareddau Rhan A(2) a Rhan B yn llai cymhleth ac yn cael eu rheoleiddio gan awdurdodau lleol.

I ddarganfod a oes angen trwydded arnoch, dylid:

  • adnabod eich gweithgaredd
  • asesu'r effaith – gan ystyried maint ac effaith amgylcheddol bosibl eich gweithgaredd
  • ystyried canllawiau

Gwiriwch a yw eich gweithrediad yn alinio ag unrhyw weithgareddau a restrir yn Atodlen 1

Mae gosodiad yn cynnwys unrhyw uned dechnegol sefydlog lle mae un neu fwy o weithgareddau a restrir yn Atodlen 1 ac unrhyw weithgareddau sy'n uniongyrchol gysylltiedig yn cael eu cyflawni (Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 1). Diffinnir gosodiadau gan y penodau canlynol:

Pennod 1: Ynni: gweithgareddau hylosgi, nwyeiddio, hylifo a phuro

Pennod 2: Metelau: metelau fferrus, metelau anfferrus, metelau trin arwynebau a deunyddiau plastig

Pennod 3: Mwynau: cynhyrchu sment a chalch, gweithgareddau sy'n ymwneud ag asbestos, gweithgynhyrchu gwydr a ffibr gwydr, mwynau eraill, cerameg

Pennod 4: Cemegau: organig, anorganig, cynhyrchu gwrtaith, cynhyrchion iechyd planhigion a bioladdwyr, cynhyrchu cynhyrchion fferyllol, cynhyrchu ffrwydron, gweithgynhyrchu sy'n cynnwys carbon deusylffid neu amonia, swmp storio

Pennod 5: Rheoli gwastraff: llosgi a chyd-losgi gwastraff, safleoedd tirlenwi, ffyrdd gwahanol o waredu gwastraff, adfer gwastraff, a chynhyrchu tanwydd o wastraff

Pennod 6: Arall: gweithgynhyrchu papur, mwydion a byrddau, carbon, tar a bitwmen, gweithgareddau araenu, triniaethau argraffu a thecstilau, lliwiau, pren, rwber, diwydiannau bwyd, ffermio dwys, y Gyfarwyddeb Allyriadau Toddyddion

Peiriannau, boeleri a thyrbinau (cyfarpar hylosgi canolig a generaduron penodedig)

Efallai y bydd angen trwydded arnoch hefyd ar gyfer eich boeler, injan neu dyrbin os yw eich gosodiad yn defnyddio un.

Darganfyddwch a oes angen trwydded arnoch ar gyfer eich boeler, injan, generadur neu dyrbin.

 

Diweddarwyd ddiwethaf