Ein taliadau
Ein cynlluniau codi tâl ar gyfer 2020-21
Mae ein cynlluniau codi tâl ar gyfer 2020/21 yn berthnasol o 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2021.
Newidiadau i daliadau 2020/21
Rydym wedi cadw'n hadolygiad blynyddol o daliadau i isafswm wrth i ni gynnal adolygiad strategol o daliadau.
Nid ydym yn gwneud unrhyw newidiadau ar wahân i'n cynllun taliadau tynnu dŵr. Y newid yw cynyddu'r Tâl Uned Safonol (SUC) Tynnu Dŵr +2.75%.
Rhagor o wybodaeth am sut y gwnaethom ymgynghori ar newidiadau i'n cynlluniau codi tâl.
Taliadau Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Mae cynllun a chanllawiau codi tâl y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn ymwneud â mathau gwahanol o weithrediadau y mae angen trwydded neu ganiatâd arnynt dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, gan gynnwys y canlynol:
- cyfleusterau gwastraf
- gosodiadau
- gweithrediadau gwastraff mwyngloddio
- gwaith symudol
- ansawdd dŵr (gollyngiadau i ddŵr a dŵr daear)
- sylweddau ymbelydrol
- gweithgareddau perygl llifogydd
- Y Gyfarwyddeb Gweithfeydd Hylosgi Canolig a Rheolaethau Generaduron Penodol
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am daliadau ar gyfer y canlynol:
- cludwyr gwastraff, broceriaid a delwyr
- gweithrediadau gwastraff wedi'u heithrio
- cyfrifoldeb cynhyrchwyr
- llwytho gwastraff rhyngwladol
Taliadau cyfredol
Er mwyn gweld y taliadau cyfredol, darllenwch y Cynllun Taliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar gyfer 2020/21 (saesneg un unig).
Pam a sut rydym yn codi tâl
I gael gwybodaeth ynghylch pam a sut rydym yn codi tâl am sicrhau a chynnal trwyddedau, darllenwch ganllawiau'r Cynllun Taliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar gyfer 2020/21 (saesneg in unig).
OPRA
Os ydych yn gwneud cais am drwydded bwrpasol newydd neu newidiadau i drwydded bwrpasol sydd gennych eisoes, bydd eich ffi’n seiliedig ar sgôr OPRA eich safle. Os oes angen taenlen arnoch i gyfrifo'ch sgôr OPRA, ffoniwch 0300 056 3000 neu e-bostiwch ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Taliadau Tynnu Dŵr
I weld y ffioedd tynnu dŵr ar gyfer 2020/21, darllenwch y ddogfen Taliadau Tynnu Dŵr ar gyfer 2020/21.
Taliadau cronfeydd dŵr
Dyma ein ffioedd monitro cydymffurfiaeth a chofrestru blynyddol ar gyfer cronfeydd dŵr.
Taliadau pysgodfeydd
Rhagor o wybodaeth am ein taliadau am y canlynol:
Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
Rydym yn codi tâl i adennill costau cyflawni swyddogaethau Rheoliadau COMAH 2015, yn seiliedig ar ddull amser a deunyddiau. Rydym yn codi anfonebau o fewn 30 niwrnod o 31 Mawrth a 30 Medi bob blwyddyn. Ein cyfradd codi tâl yw £152 fesul archwiliad fesul awr oni nodir yn wahanol.
Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon
Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r Cynllun Ymrwymiad Lleihau Carbon yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2019. Bydd yn cael ei ddisodli gan y cynllun Adroddiadau Ynni a Charbon Syml (SECR) Caiff y gwaith adrodd ar yr SECR ei gyflawni drwy Dŷ'r Cwmnïau.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw daliadau am waith gweinyddu neu orfodi a fydd yn gymwys y tu hwnt i'r dyddiad cau.
System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cyflawni holl weithgareddau rheoleiddio cydymffurfiaeth, gorfodi, archwilio a thrwyddedu System Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd (gan gynnwys trwyddedau newydd, amrywiadau, ildiadau, gorchmynion dirymu, hysbysiadau, newidiadau i weithgaredd/capasiti a cheisiadau i’r gronfa newydd-ddyfodiaid), ar gyfer safleoedd yng Nghymru.
Rydym yn codi taliadau i adennill costau'r gwaith hwn, sy'n cynnwys cyfrannu at gynnal a chadw systemau’r DU gyfan, megis Cofrestrfa’r DU ac ETSWAP.
Gall ein cylch gwaith presennol yn y Cynllun Masnachu Allyriadau newid gan ddibynnu ar ganlyniadau trafodaethau ymadael â’r UE. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau.
Rheoleiddio niwclear yng Nghymru
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal rhywfaint o waith rheoleiddio niwclear ar safleoedd yng Nghymru ar ein rhan.
Mae'r taliadau yn rhan o'n ffioedd a thaliadau ond mae cynllun taliadau Asiantaeth yr Amgylchedd yn effeithio arnynt.
Rhagor o wybodaeth am sut mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymgynghori ar wahân ar ei ffioedd a'i thaliadau yn ei hymateb ymgynghori.
Ein taliadau er gwybodaeth neu gyngor
Mwy o wybodaeth am yr wybodaeth rydym yn ei darparu am ddim a'r hyn rydym yn codi tâl amdano.
Gallwn roi cyngor a gwybodaeth bwrpasol drwy ein Gwasanaeth Cyngor yn ôl Disgresiwn. Lle mae hyn yn ymwneud â chyngor cyn cyflwyno cais neu gyngor ar adferiad dŵr daear, trafodwch eich opsiynau gyda'ch tîm Cyfoeth Naturiol Cymru lleol.
Gwneud eich taliad
Bydd angen y manylion canlynol arnoch i wneud taliad electronig:
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, PO BOX 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r wybodaeth hon am y cwmni a'r banc oherwydd gallai’r manylion a roddwyd ar eich ffurflen cais am drwydded fod wedi newid ers i chi ei derbyn.
Gwneud taliadau o'r tu allan i'r DU
Mae'r manylion hyn wedi newid. Os ydych yn talu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig (mae'n rhaid i ni dderbyn eich taliad mewn sterling), ein rhif IBAN yw GB70 NWBK6070 8010 014438 a’n rhif SWIFT/BIC yw NWBKGB2L.
Taliadau drwy e-bost
Gallwch e-bostio'ch manylion talu i ar-lein@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dywedwch wrthym y math o daliad sydd dan sylw megis ‘amrywio gwastraff ’ neu ‘ansawdd dŵr newydd’.
Mae'n rhaid i chi gynnwys enw’ch cwmni a rhif neu gyfeirnod yr anfoneb. Os oes modd, dylech anfon hysbysiad talu hefyd. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn brosesu'ch taliad yn gywir.
Dylech gynnwys cyfeirnod y taliad BACS o hyd ar y ffurflen gais ei hun. Os na fyddwch yn nodi cyfeirnod y taliad, efallai y bydd oedi wrth brosesu’ch taliad a’ch cais.
Cael cymorth
Os oes angen cymorth arnoch i ddeall, cyfrifo neu gyflwyno’ch ffïoedd, ffoniwch 0300 056 3000 neu e-bostiwch ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Adolygiad strategol o daliadau
Rydym yn datblygu ein hadolygiad strategol o daliadau ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i sicrhau bod rheoleiddio yng Nghymru'n gynaliadwy ac yn adennill costau. Yr hyn sy'n ganolog i'r adolygiad hwn yw'r egwyddor y dylai cost y rheoleiddio gael ei dalu gan y sawl rydym yn eu rheoleiddio a'n bod yn llai dibynnol ar drethdalwyr.
Roeddem am ddechrau gweithredu'r newidiadau ym mis Ebrill 2021. Oherwydd yr ansicrwydd yn sgil y pandemig COVID-19, gan gynnwys ein hanallu i gysylltu â rhanddeiliaid yn effeithiol, rydym yn gohirio'r dyddiad i Ebrill 2022.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech fod yn rhan o'r broses pan ddaw'r amser, e-bostiwch SROC@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Byddwn yn ceisio cynnwys rhanddeiliaid drwy gydol y datblygiad i helpu i sicrhau bod y cynllun newydd yn deg i fusnesau a’r cyhoedd yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth am ein hadolygiad strategol o daliadau a sut y gallwch gymryd rhan.