Pysgota â rhwydi a thrapiau

Pysgodfeydd rhwydi ​​a thrapiau

Mae amrywiaeth o bysgodfeydd rhwydi a thrapiau yn gweithredu o amgylch Cymru ac erbyn hyn yn targedu siwin yn bennaf mewn aberoedd a dyfroedd arfordirol.

Cafodd pysgota am lysywod yng Nghymru, ar gyfer pob cam bywyd, ei atal gan CNC yn 2021.

Nid ydym yn awdurdodi trapio cimychiaid afon anfrodorol (rhai Arwyddol) at ddefnydd masnachol neu bersonol yng Nghymru.

Llysywod

Rydym yn gyfrifol am awdurdodi pysgota am lysywod yng Nghymru gan arfer pwerau o dan Adran 27A o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.

Oherwydd pryderon ynghylch niferoedd isel o lysywod, nid ydym bellach yn awdurdodi pysgota’n fasnachol am lysywod yng Nghymru. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn awdurdodi defnyddio rhwydi a thrapiau i ddal llysywod at ddibenion gwyddonol neu ymchwil. Cyn gwneud cais am awdurdodiad, trafodwch eich cynigion gydag un o’n Swyddogion Pysgodfeydd lleol.

Trwyddedau rhwydi eogiaid a siwin

Mae eogiaid a siwin yn cael eu dal gan ddefnyddio amrywiaeth o rwydi a thrapiau. Mae’r rhain yn cynnwys rhwydi cwmpas, rhwydi sân, rhwydi bracso (gan gynnwys rhwydi gafl) a rhwydi cwrwgl.

Rydym yn rheoleiddio’r pysgodfeydd hyn gan ddefnyddio cyfuniad o Is-ddeddfau, Gorchmynion Cyfyngu ar Rwydi ac is-ddeddfau.

Dylid nodi bod yn rhaid i’r holl eogiaid sy’n cael eu dal gan y pysgodfeydd hyn bellach gael eu rhyddhau ar ôl eu dal. Mae cyfyngiadau ar ddaliadau mewn is-ddeddfau hefyd yn berthnasol i siwin.

Cimychiaid yr Afon

Rydym yn gyfrifol am awdurdodi gweithgareddau tynnu cimychiaid afon anfrodorol yn ogystal â thrwyddedu gweithgareddau tynnu cimychiaid afon brodorol yng Nghymru. Mae cimwch yr afon crafanc wen brodorol yn rhywogaeth a warchodir.

Oherwydd y risgiau i gimychiaid afon brodorol a bod ymchwil wedi dangos y gallai trapio arwain at gynnydd ym maint poblogaeth cimychiaid afon arwyddol, nid ydym yn awdurdodi pysgota am gimychiaid afon anfrodorol yng Nghymru. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd byddwn yn awdurdodi trapio at ddibenion ymchwil neu reoli. Rydym yn argymell y dylech drafod eich cynigion gyda ni cyn gwneud cais ffurfiol am awdurdodiad. Fel arall, llenwch y ffurflen gais isod a byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen.

Trwyddedu ar gyfer cimychiaid afon arwyddol

Mae cimwch yr afon arwyddol wedi’i restru fel rhywogaeth sy’n peri pryder o dan Orchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019. Mae angen trwydded oddi wrthon ni ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â rheoli unrhyw rywogaethau sy’n peri pryder. Darllenwch fwy am y gofynion trwyddedu wrth ymdrin â chimwch yr afon arwyddol.

Neu cysylltwch â ni i drafod eich cynigion.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000 neu anfonwch ebost i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen CR1: Cais dal cimychiaid afon, neu’u symud ymaith, neu’r ddau beth Cais dal cimychiaid afon, neu’u symud ymaith, neu’r ddau beth PDF [104.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf