Teithiau cerdded ar gyfer y gwanwyn

Dewiswch eich llwybr

O gân yr adar i glychau’r gog lliwgar, gwanwyn yw'r tymor pan ddaw natur yn fyw.

Rydym wedi dewis pum coetir lle gallwch chi fwynhau taith gerdded yn llawn lliw'r gwanwyn.

Mae gan bob llwybr cerdded arwyddbyst o'r dechrau i'r diwedd ac wedi’u graddio i roi syniad o'u hanhawster.

Darllenwch ymlaen i ddewis eich llwybr a mynd allan i'r awyr agored y gwanwyn hwn.

Llwybr Nant Melindwr, Coed y Fron Wyllt, ger Rhuthun

Mwynhewch olygfeydd ac arogleuon y tymor ar y llwybr cylchol hwn drwy'r coetir heddychlon. Ar ddechrau'r daith gerdded, mae clychau'r gog a briallu ar ochr y llwybr ac mae persawr garlleg gwyllt yn llenwi'r awyr wrth i chi groesi'r bont dros y nant.

  • Pellter: 1½ milltir/2.5 cilomedr
  • Gradd: Hawdd
  • Rhagor o wybodaeth: Dewch â fflasg a'i mwynhau wrth y fainc bicnic ar hyd y llwybr. Mae'r guddfan fywyd gwyllt fach yn edrych dros bwll lle gallwch chi roi cynnig ar adnabod neu gysgodi bywyd gwyllt rhag unrhyw gawodydd yn y gwanwyn.
  • Cychwyn a gorffen: Maes parcio Coed y Fron Wyllt

Dysgwch fwy

Sut i gyrraedd yma, llwybrau cerdded eraill a chyfleusterau yng Nghoed y Fron Wyllt

Lawrlwythwch fap llwybr o waelod y dudalen hon

Llwybr Cefndeuddwr, Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau

Crwydrwch drwy goetir coed ffawydd sydd wedi'i garpedu â chlychau'r gog ddiwedd y gwanwyn ar y llwybr sydd wedi’i raddio’n hawdd. Mae'n dringo'n raddol i'r olygfan gyda bwrdd picnic lle gallwch fwynhau'r olygfa dros y mynyddoedd. Wedi'i gynllunio gyda theuluoedd mewn golwg, mae'r llwybrau llydan yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd.

  • Pellter: ¾ milltir/1.3 cilomedr
  • Gradd: Hawdd
  • Rhagor o wybodaeth:  Dyma lwybr llydan gydag arwyneb da, sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a sgwteri symudedd oddi ar y ffordd. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae digon o lefydd gorffwys bob 150m ar hyd y llwybr. I ddefnyddio'r man parcio hygyrch ar yr olygfan, gofynnwch am allwedd a chyfarwyddiadau yn y ganolfan ymwelwyr. Gallwch logi sgwter symudedd oddi ar y ffordd Tramper o'r ganolfan ymwelwyr ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae gan y ganolfan ymwelwyr gaffi, siop, toiledau a lle chwarae.
  • Cychwyn a gorffen: Maes parcio Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Dysgwch fwy

Sut i gyrraedd yma, llwybrau cerdded eraill a chyfleusterau yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Lawrlwythwch fap llwybr o waelod y dudalen hon

Llwybr Gogerddan, Coed Gogerddan, ger Aberystwyth

Dechreuwch ar y llwybr cerdded cylchol drwy Goed Gogerddan sy'n adnabyddus yn lleol am ei arddangosfa drawiadol o glychau'r gog yn y gwanwyn. Wedi'i leoli ychydig y tu allan i Aberystwyth, roedd unwaith yn rhan o Ystâd Gogerddan a gellir gweld coed hynafol ar hyd y llwybr.

  • Pellter: 1½ milltir/2.4 cilomedr
  • Gradd: Cymedrol
  • Rhagor o wybodaeth: Er bod y llwybr wedi'i raddio'n gymedrol, mae dringo serth hanner ffordd at olygfan gyda mainc. Gall y tir fynd yn fwdlyd iawn, yn enwedig ar ôl tywydd gwlyb, felly gwisgwch esgidiau addas! Mae'r safle picnic bach mewn man cysgodol ger nant.
  • Cychwyn a gorffen:  Maes parcio Coed Gogerddan

Dysgwch fwy

Sut i gyrraedd yma, llwybrau cerdded eraill a chyfleusterau yng Nghoed Gogerddan

Lawrlwythwch fap llwybr o waelod y dudalen hon

Llwybr Nash, Coed Nash, ger Llanandras

Cadwch lygad am garpedi o glychau'r gog ar y llwybr cerdded cylchol drwy'r coetir gwledig hwn sydd wedi'i leoli hanner yng Nghymru a hanner yn Lloegr. Mae'r llwybr yn dringo'n raddol o'r maes parcio ar ei ffordd drwy'r coetir i'r olygfan.

  • Pellter: 2 filltir/3.5 cilomedr
  • Gradd: Cymedrol
  • Rhagor o wybodaeth: Mae'r llwybr yn dilyn cymysgedd o ffyrdd coedwig a llwybrau drwy'r coetir. Mae arwyddbyst sy’n dangos llwybr byr tua hanner ffordd os ydych am wneud taith gerdded fyrrach. Mae Coed Nash yn ardal o’r enw Coedwig Maesyfed ac mae llwybrau cerdded o ddau goetir cyfagos sy'n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Cychwyn a gorffen: Maes parcio Coed Nash

Dysgwch fwy

Sut i gyrraedd yma, llwybrau cerdded eraill a chyfleusterau yng Nghoed Nash

Lawrlwythwch fap llwybr o waelod y dudalen hon

Llwybr Pren y Gwern, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni

Dilynwch y llwybr pren hygyrch drwy’r coetir gwern gwlyb yn y dyffryn a chwiliwch am flodau’r gwenyn lliwgar ac ymbarelau pinc cain triaglog. Mae arogl clychau'r gog persawrus yn llenwi'r aer wrth i chi fynd yn ddyfnach i'r coetir.

  • Pellter: ½ milltir/0.6 cilomedr
  • Gradd: Hygyrch
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn cychwyn dros y ffordd o'r maes parcio - cymerwch ofal wrth groesi'r ffordd. Mae'r llwybr pren llydan a gwastad, gyda lleoedd pasio, yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae mwd meddal yma - peidiwch â chrwydro oddi ar y llwybr pren na'r llwybr. Mae meinciau pren ar hyd y llwybr.
  • Cychwyn a gorffen: Y maes parcio bach yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig

Dysgwch fwy

Sut i gyrraedd yma, llwybrau cerdded eraill a chyfleusterau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig

Lawrlwythwch fap llwybr o waelod y dudalen hon

Cynlluniwch ymlaen llaw a mwynhewch eich ymweliad!

Weithiau mae angen i ni gau cyfleusterau neu lwybrau i ymwelwyr wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau. Felly cynlluniwch ymlaen llaw ac ewch i ddudalen we ar gyfer y coetir neu'r warchodfa cyn i chi ddechrau ar eich taith.

Dysgwch am raddau llwybrau cerdded.

Gweler y Cod Cefn Gwlad am gyngor ar baratoi ar gyfer eich taith, cadw eich hun ac eraill yn ddiogel a sut y gallwch helpu i sicrhau bod cefn gwlad yn parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau.

Ydych chi’n chwilio am rywle arall i fynd iddo? 

Ewch i’n tudalen Lleoedd i ymweld â hwy.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map Llwybr Nant Melindwr PDF [888.2 KB]
Map Llwybr Cefndeuddwr PDF [1.0 MB]
Map Llwybr Gogerddan PDF [960.5 KB]
Map Llwybr Nash PDF [1.0 MB]

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf