Taliadau trwyddedau ar gyfer cyfleusterau sy’n cyflawni prosesau diwydiannol a gweithgynhyrchu (a elwir yn osodiadau)
Mae angen i chi dalu tâl pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded amgylcheddol newydd, neu os ydych am newid eich trwydded, ei throsglwyddo neu ei hildio. Mae angen i chi hefyd dalu tâl blynyddol i dalu costau cydymffurfedd.
Mae dau fath o dâl: amrywiadwy ar gyfer ceisiadau cymhleth, a sefydlog ar gyfer ceisiadau symlach â risg is.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael trwydded amgylcheddol effaith isel
Offeryn tâl ar gyfer ceisiadau trwydded cymhleth
Gallwch ddefnyddio'r offeryn tâl i gyfrifo'r gost ar gyfer yr holl weithgareddau yn eich cais
Defnyddiwch yr offeryn tâl ar gyfer cais newydd
Defnyddiwch yr offeryn tâl i amrywio trwydded
Defnyddiwch yr offeryn tâl i ildio trwydded
Defnyddiwch yr offeryn tâl i drosglwyddo trwydded
Mae'r taliadau cais am amrywiad gweinyddol, mân amrywiad technegol, trosglwyddiad llawn ac ildio risg isel yr un fath ar gyfer pob cais. Nid oes angen i chi ddefnyddio'r offeryn tâl ar gyfer y rhain.
Tâl blynyddol (a elwir yn dâl parhau)
Codir tâl blynyddol sefydlog am y gweithgareddau canlynol:
- Gosodiad effaith isel – £597
- Injan nwy tirlenwi annibynnol – £3,891
- Gosodiad ffermio dwys – £1,187 (achrededig) neu £2,830 (heb ei achredu)
- Gweithgarwch sy’n uniongyrchol gysylltiedig – £3,891
- Cynhyrchu hydrogen trwy electroleiddio dŵr (graddfa fach) – £975
- Treulio anaerobig – £2,326
Mae taliadau blynyddol am drwyddedau cymhleth yn seiliedig ar risgiau gweithredol.
Bydd angen i chi gwblhau ein taenlen Asesiad Risg Gweithredol i gyfrifo faint y codir tâl arnoch.
Bydd angen i chi gwblhau’r daenlen Asesiad Risg Gweithredol yn flynyddol.
Trwyddedau gosodiad pwrpasol
Mae taliadau ymgeisio yn dibynnu ar raddfa, cymhlethdod a nifer y gweithgareddau yn eich gweithrediad.
Mae trwyddedau cymhleth yn perthyn i bedwar band yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw eich gweithrediad. Yn gyffredinol, os ydych yn cyflawni:
- llai na thri gweithgaredd, dylech fod yn gymwys ar gyfer band 1
- bydd tri i chwe gweithgaredd yn eich rhoi ym mand 2 fwy na thebyg
- bydd mwy na chwe gweithgaredd yn drwydded band 3 bwrpasol
- gall cymhlethdod ychwanegol fod yn fand 4
Cwblhewch yr offeryn tâl i ddarganfod yr union gost, gan gynnwys yr holl ffactorau.
Band 1 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £14018
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £2,774 (mân amrywiad technegol), £9237 (arferol), £13,427 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £5,396 (yn rhannol), £2,761 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £6,893 (yn rhannol), £5,987 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,774
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,255
Band 2 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £21,085
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £2,774 (mân amrywiad technegol), £11,756 (arferol), £20225 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £7,461 (yn rhannol), £2,761 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £9,441 (yn rhannol), £8,621 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,774
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,255
Band 3 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £33,700
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £2,774 (mân amrywiad technegol), £20168 (arferol), £32337 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £12198 (yn rhannol), £2,761 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £18,900 (yn rhannol), £15173 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,774
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,255
Band 4 Trwydded gosodiad bwrpasol
Cais newydd: £46196
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £2,774 (mân amrywiad technegol), £36,186 (arferol), £43,968 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £15,708 (yn rhannol), £2,761 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £25,026 yn rhannol), £21,176 (yn llawn)
Ildio risg isel: £2,774
Ildio safle sydd byth wedi gweithredu: £1,255
Gweithgareddau cyfarpar hylosgi canolig ar gyfer gosodiadau
Os oes gennych gyfarpar hylosgi canolig ynghlwm wrth eich gosodiad, codir tâl arnoch am y gweithgareddau ychwanegol hyn.
Cais newydd: £1,675
Amrywio trwydded bresennol: £1006
Trosglwyddo eich trwydded: Dim tâl ychwanegol
Ildio eich trwydded: £1006
Gweithgarwch awdurdodau lleol (gweithgarwch Rhan A2 neu Ran B) ar osodiadau
Os oes gennych weithgarwch Rhan A2 neu Ran B ar eich gosodiad, codir tâl am y gweithgareddau ychwanegol hyn:
Cais newydd: £1,675
Amrywio trwydded bresennol: £1006
Trosglwyddo eich trwydded: Dim tâl ychwanegol
Ildio eich trwydded: £1006
Asesiadau ychwanegol
Fel rhan o'ch cais am drwydded gosodiad, byddwch yn cynnal ymarfer sgrinio. Yn dibynnu ar ganlyniadau'r sgrinio, efallai y bydd angen i chi gynnal un o'r asesiadau pellach isod.
Asesiad modelu ansawdd aer llawn: £2,773
Asesiad allyriadau sy’n ffoi: £1,707
Asesiad arogl: £1,668
Asesiad modelu bioaerosol: £3,482
Asesiad effaith modelu sŵn llawn: £2,498
Cynllun atal a lliniaru tân: £2,414
Blaendal ar gyfer asesiad adfer: £1,787
Asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr o elifyn prosesau: £3,319
Taliadau ymgeisio am osodiadau risg is
Trwyddedau rheolau safonol effaith isel (SR2009 rhif 2)
Cais newydd: £4,562
Amrywio trwydded bresennol: £632
Trosglwyddo eich trwydded: £2,163 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)
Ildio eich trwydded: £266 (ildio’n rhannol neu’n llawn)
Rheolau safonol ar gyfer treulio anaerobig
Cais newydd: £4,786
Amrywio trwydded bresennol: £632
Trosglwyddo eich trwydded: £2,163 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)
Ildio eich trwydded: £266 (ildio’n rhannol neu’n llawn)
Injan nwy tirlenwi annibynnol
Cais newydd: £13,379
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £1,948 (mân amrywiad technegol), £8,391 (arferol), £12,034 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £4,116 (yn rhannol), £2,609 (trosglwyddo’n llawn)
Ildio eich trwydded: £2,609 (yn rhannol), £1,828 (ildio’n llawn)
Trwydded bwrpasol ar gyfer gosodiadau effaith isel
Cais newydd: £7,497
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £1,067 (mân amrywiad technegol), £4,690 (arferol), £6,741 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £4,116 (yn rhannol), £2,609 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £2,609 (yn rhannol), £1,828 (yn llawn)
Gosodiad ffermio dwys
Cais newydd: £9,836
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £2,774 (mân amrywiad technegol), £6,192 (arferol), £7,869 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £2,761 (trosglwyddo’n rhannol neu’n llawn)
Ildio eich trwydded: £5,987 (ildio’n rhannol neu’n llawn)
Gweithgareddau sy’n uniongyrchol gysylltiedig
Mae’n bosibl y bydd angen trwydded ar gyfer gweithgareddau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgareddau sy’n rhan o osodiad ond sy’n cael eu cyflawni gan gwmni annibynnol.
Cais newydd: £8,223
Amrywio trwydded bresennol: £632 (gweinyddol), £1,175 (mân amrywiad technegol), £5,148 (arferol), £7,394 (sylweddol)
Trosglwyddo eich trwydded: £4,116 (yn rhannol), £2,609 (yn llawn)
Ildio eich trwydded: £2,609 (yn rhannol), £1,828 (yn llawn)