Safleoedd sydd wedi'u diogelu gan gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol
Mae rhai o'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sydd o bwysigrwydd rhyngwladol hefyd yn cael eu gwarchod trwy ddeddfau’r Undeb Ewropeaidd, ac mae rhai eraill wedi derbyn statws arbennig trwy gytundebau a chyrff rhyngwladol.
Safleoedd Ewropeaidd – Natura 2000
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi nodi'r safleoedd pwysicaf ar gyfer bywyd gwyllt yn Ewrop fel safleoedd Natura 2000. Mae dau fath o safle Natura 2000:
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ‒ wedi'u dynodi oherwydd adar mudol neu adar prin, a’u cynefinoedd
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ‒ ar gyfer rhychwant eang o gynefinoedd a rhywogaethau heblaw am adar
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru
Mae'r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yng Nghymru yn ardaloedd sydd wedi cael eu dynodi’n benodol i warchod adar gwyllt sy’n cael eu rhestru fel rhai prin neu fregus yn y Gyfarwyddeb Adar. Maen nhw hefyd yn cynnwys y safleoedd aros yng Nghymru sy'n cael eu defnyddio gan adar mudol wrth iddyn nhw groesi’r blaned.
Mae'r adar prin sydd i'w cael yn AGA Cymru yn cynnwys rhywogaethau adnabyddus megis y barcud coch, y cudyll bach, gwalch y pysgod, y cwtiad aur ac adar drycin Manaw.
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru
Mae'r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig wedi cael eu dewis er mwyn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt sy’n byw yno, a enwir yng Nghyfarwyddeb Cynefinoedd yr EU.
Mae ACA Morol hefyd yn cael eu datblygu i warchod cynefinoedd a rhywogaethau’r môr, gan gynnwys dyfrgwn, gwangod, llysywod pendoll y môr, morloi llwyd, llamidyddion a dolffiniaid trwyn potel.
Ble mae AGA ac ACA Cymru?
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am AGA a ACA Cymru trwy ddefnyddio ein chwiliad safleoedd dynodedig.
Sut mae AGA ac ACA yn cael eu rheoli?
Mae'r AGA ac ACA yng Nghymru sydd ar y tir hefyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy'n golygu eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn yn gyfreithiol a bod ganddyn nhw ganllawiau ar gyfer eu rheoli.
Gweler ein cyfarwyddyd ar reoli SoDdGA.
Safleoedd rhyngwladol
Safleoedd Ramsar
Mae safleoedd Ramsar yn wlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol.
Maen nhw'n ddynodedig o dan Gonfensiwn Ramsar, cytuniad rhynglywodraethol sy'n anelu at atal colli gwlyptiroedd.
Beth yw safleoedd gwlyptir?
Gall safleoedd gwlyptir fod yn gorsydd, yn ffeniau, yn fawnogydd neu'n ddŵr. Gallan nhw fod yn naturiol neu'n artiffisial, a naill ai'n barhaol neu dros dro, gyda dŵr sydd un ai’n llifo neu’n llonydd, yn ffres, yn groyw neu'n hallt. Gallan nhw hefyd gynnwys ardaloedd bas yn y môr.
Maen nhw'n arbennig o bwysig ar gyfer adar dŵr sy'n casglu yma yn y gaeaf o bron bob rhan o hemisffer y gogledd.
Mae llawer o’r cynefinoedd pwysig hyn o dan fygythiad oherwydd draenio tiroedd amaethyddol, llygredd, datblygiadau diwydiannol a masnachol, chwaraeon dŵr a gweithgareddau hamdden eraill.
Sut maen nhw’n cael eu gwarchod?
Yn gyffredinol, mae safleoedd Ramsar yng Nghymru hefyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n golygu bod deddfau’n eu gwarchod a bod canllawiau ar gael ar gyfer eu rheoli.
Caiff Gwlyptiroedd o Bwys Rhyngwladol eu nodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn cydweithrediad â Chyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y DU. Ar ôl ymgynghori â thirfeddianwyr ac eraill, maen nhw wedyn yn cael eu dynodi gan Lywodraeth y Cynulliad.
Ble maen nhw?
Mae yna ddeg safle yng Nghymru sydd wedi'u dynodi yn Safleoedd Ramsar:
- Cilfach Porth Tywyn, ger Llanelli
- Cors Caron, yng Ngheredigion
- Cors Fochno a Dyfi, ger Machynlleth
- Corsydd Môn a Llŷn
- Cors Crymlyn, ger Abertawe
- Llyn Idwal, yn Eryri
- Llyn Tegid, y Bala
- Midland Meres and Mosses, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr
- Aber Afon Hafren, rhwng de-ddwyrain Cymru a Lloegr
- Aber Afon Dyfrdwy rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a Chilgwri
Gwarchodfeydd Biosffer UNESCO
Mae rhaglen Dyn a’r Biosffer UNESCO yn rhaglen wyddoniaeth rynglywodraethol sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad cynaliadwy.
Mae Pwyllgor Dyn a'r Biosffer y DU yn goruchwylio'r gweithgarwch yn y DU.
Mae un warchodfa yn y DU, sef Biosffer Dyfi.
Gwarchodfeydd Biogeneteg
Mae'r rhwydwaith Gwarchodfeydd Biogeneteg yn cynnwys safleoedd mewn nifer o wledydd y tu hwnt i'r UE ac mae'n anelu at warchod enghreifftiau o fflora, ffawna ac ardaloedd naturiol. Golyga hyn fod 'storfa' wyllt o ddeunydd geneteg ‒ genynnau planhigion ac anifeiliaid ‒ yn cael ei chadw ar gyfer y dyfodol. Dyna pam y defnyddir y term biogeneteg.
Ar hyn o bryd mae un Warchodfa Biogeneteg yng Nghymru ‒ Rhinog, yng ngogledd-orllewin Cymru.