Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig: cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus ac ymgymerwyr statudol

Cyflwyno cais am ein caniatâd i wneud gwaith

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith a allai effeithio ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yna rhaid ichi yn gyntaf ein hysbysu a gofyn am ganiatâd dan adran 28H Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Rhaid ichi wneud hyn hyd yn oed os bydd y gwaith yn cael ei wneud y tu allan i’r SoDdGA.

Sut i wneud cais

Anfon hysbysiad i wneud gwaith.

Bydd angen ichi roi gwybod inni am yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud a rhoi manylion inni ynglŷn â ble, pryd a sut rydych yn bwriadu gwneud y gwaith.

Atodwch unrhyw gynlluniau, ffotograffau, datganiadau dull neu fapiau a fydd yn ein helpu i asesu effaith bosibl y gweithgaredd.

Fel arall gallwch anfon e-bost i SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk, neu anfon yr wybodaeth yn ysgrifenedig i’ch swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru leol.

Ein penderfyniad

Mae’n ofynnol inni ymateb o fewn 28 diwrnod. Os na fyddwn yn ymateb o fewn y cyfnod hwnnw, rhaid ichi dybio nad ydym am roi caniatâd.

Efallai y byddwn yn rhoi caniatâd gyda/heb amodau neu derfynau amser. Os ydych yn fodlon dilyn telerau’r caniatâd, gallwch fwrw ymlaen â’r gwaith ar ôl ichi gael ein caniatâd.

Os na fyddwn yn rhoi caniatâd

Os na fyddwn yn rhoi caniatâd i’r gwaith, neu os byddwn yn gosod amodau, ni cheir unrhyw hawl i apelio.

Fodd bynnag, mae’r gyfraith yn cydnabod y gallech fod â dyletswyddau cyfreithiol sy’n golygu bod yn rhaid ichi fynd i’r afael â gwaith hyd yn oed os na fyddwn yn rhoi caniatâd ar ei gyfer.

Os na fyddwn yn rhoi caniatâd, neu os byddwn yn gosod amodau na allwch gydymffurfio â nhw, efallai y gallwch barhau i fynd i’r afael â’r gwaith. Fodd bynnag, rhaid ichi gyflwyno hysbysiad inni, yn nodi’r canlynol:

  • Pryd rydych yn bwriadu gwneud y gwaith (ni ddylid gwneud y gwaith o fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad)
  • Sut rydych wedi ystyried ein cyngor ysgrifenedig, os o gwbl

Gallwch roi gwybod inni trwy lenwi’r hysbysiad o fwriad i gynnal gweithrediadau ac eithrio yn unol â chydsyniad a roddwyd dan adran 28H.  

Fel arall gallwch anfon e-bost i SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk, neu anfon yr wybodaeth yn ysgrifenedig i’ch swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru leol.

Pan fyddwch yn gwneud y gwaith, rhaid ichi, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, ei wneud mewn modd a fydd yn niweidio cyn lleied ag y bo modd ar nodweddion y safle (gan roi ystyriaeth i’n cyngor) ac adfer y safle i’w gyflwr blaenorol pe bai unrhyw niwed yn dod i’w ran.

Pe baech yn gwneud gwaith heb ganiatâd

Pe baech yn gwneud gwaith sy’n niweidio nodweddion SoDdGA heb ofyn am ganiatâd ymlaen llaw gennym, efallai y bydd eich awdurdod yn cael ei erlyn a’i ddirwyo.

Gallai hynny ddigwydd hefyd pe na baech yn ein hysbysu ynghylch bwriad eich awdurdod i wneud gwaith ac eithrio yn unol â’n caniatâd, a phe bai niwed yn dod i ran y safle.

Gweithgareddau nad ydynt yn rhan o’ch swyddogaethau

Os yw’r gweithgaredd yr ydych yn bwriadu ei wneud yn mynd i ddigwydd oddi mewn i SoDdGA, ac os nad yw’n rhan o’ch swyddogaethau, bydd angen i berchennog neu feddiannydd y tir gyflwyno cais i ni am ganiatâd.

Os nad oes gennych bwerau cyfreithiol digonol i wneud y gwaith heb ganiatâd y tirfeddiannwr, mae hyn yn debygol o orfod digwydd.

Pan na fydd angen caniatâd

Gwaith na fydd yn niweidio’r safle

Os ydych yn hyderus na fydd y gwaith yn cael effaith niweidiol ar y safle, yna nid oes angen ichi ein hysbysu na gofyn am ganiatâd.

Os ydych yn ansicr, y peth gorau i’w wneud yw ein hysbysu.

Gwaith mewn argyfwng

Ni fydd angen ichi aros am ganiatâd os byddwch angen gwneud gwaith mewn argyfwng gwirioneddol – er enghraifft, pe baech angen gweithredu’n ddi-oed i reoli perygl uniongyrchol i fywyd neu eiddo.

Rhaid ichi roi gwybod inni cyn gynted ag sydd bosibl ar ôl cychwyn gwaith brys. E-bostiwch SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm). 

Os oes angen gwneud y gwaith ar frys, ond os nad yw’n argyfwng, rhaid ichi barhau i’n hysbysu a gofyn am ganiatâd. Gwnewch hyn yn glir wrth gyflwyno eich hysbysiad ac fe wnawn ein gorau i’w brosesu’n ddi-oed.

Caniatâd cynllunio a thrwyddedau eraill

Os yw eich gwaith wedi cael caniatâd cynllunio, ni fyddwch angen ein caniatâd ni.

Efallai na fyddwch angen ein caniatâd ni os ydych wedi cael trwydded i fynd i’r afael â’r gweithgaredd gan awdurdod arall – ond dim ond os aeth yr awdurdod hwnnw ati i ystyried yr effeithiau posibl ar y SoDdGA dan adran 28I Deddf 1981 cyn rhoi’r drwydded. Gallwch ofyn i’r awdurdod a roddodd y caniatâd pa un a wnaeth hynny, ai peidio. Os ydych yn ansicr, yna gofynnwch am ganiatâd.

Cael cyngor gennym wrth awdurdodi eraill i wneud gwaith

Dan adran 28I Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae gennych ddyletswydd i’n hysbysu a gofyn am gyngor cyn rhoi caniatâd ar gyfer gwaith sy’n debygol o effeithio ar SoDdGA. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os bydd y gwaith a ganiateir yn cael ei wneud y tu allan i derfynau’r safle.

Ar gyfer rhai systemau, fel cynllunio datblygu, efallai y bydd hyn wedi’i ymgorffori eisoes yn yr ymgynghoriad ffurfiol a anfonwch atom. Os ydych eisoes wedi ymgynghori gyda ni yn y modd hwn, ni fydd angen ichi anfon hysbysiad ar wahân atom. Os byddwch yn ansicr, cysylltwch â ni.

Sut i’n hysbysu a gofyn am gyngor

Bydd angen ichi anfon hysbysiad o fwriad i ddweud wrthym beth y gofynnir i chi roi caniatâd ar ei gyfer. Hefyd, dylech ddweud wrthym pryd a sut y bydd y gweithgaredd yn cael ei wneud.

Atodwch unrhyw gynlluniau, ffotograffau, datganiadau dull neu fapiau a fydd yn ein helpu i asesu effaith bosibl yr hyn a gynigir.

Fel arall gallwch anfon e-bost i SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk, neu anfon yr wybodaeth yn ysgrifenedig i’ch swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru leol.

Sut y byddwn yn ymateb

Byddwn yn ymateb o fewn 28 diwrnod. Os na fyddwn yn ymateb o fewn y cyfnod hwnnw, gallwch dybio nad oes gennym unrhyw wrthwynebiad.

Efallai y byddwn yn dweud ein bod yn fodlon ichi roi caniatâd ar gyfer y gweithgaredd – naill ai gydag amodau neu derfynau amser, neu hebddynt.

Os credwn y bydd effaith ddifrifol yn dod i ran nodweddion y safle o ganlyniad i’r gweithgaredd, efallai y byddwn yn argymell na ddylai eich awdurdod roi caniatâd.

Os na allwch ddilyn y cyngor

Mae’r gyfraith yn cydnabod y gallech fod â dyletswyddau cyfreithiol sy’n golygu bod yn rhaid ichi roi caniatadau mewn ffordd arbennig, hyd yn oed os ydym wedi gofyn ichi beidio â gwneud hynny.

Pe baech yn rhoi caniatâd ar gyfer rhywbeth a allai niweidio SoDdGA ac eithrio yn unol â’n cyngor, rhaid ichi ein hysbysu eich bod wedi rhoi’r caniatâd hwnnw. Ni ddylai caniatâd o’r fath ganiatáu i’r gwaith gael ei wneud o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad y cawsom ein hysbysu gennych.

Rhaid ichi gynnwys telerau’r caniatâd, ynghyd â datganiad yn nodi sut y cafodd ein cyngor ei ystyried (os o gwbl).

Gallwch gyflwyno hysbysiad trwy lenwi’r hysbysiad o fwriad i roi caniatâd ac eithrio yn unol â chyngor a roddwyd dan adran 28I

Fel arall gallwch anfon e-bost i SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk, neu anfon yr wybodaeth yn ysgrifenedig i’ch swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru leol.

Beth fydd yn digwydd pe na baech yn ein hysbysu

Os na fyddwch yn dilyn adran 28I, gan roi trwydded i weithgaredd sydd wedyn yn niweidio nodweddion SoDdGA, efallai y byddwch yn cael eich erlyn a’ch dirwyo.

Effaith eich gwaith ar safleoedd Ewropeaidd

Chi yw’r awdurdod cymwys o safbwynt cynnal Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ar yr effaith a gaiff unrhyw waith a wnewch neu a ganiatewch ar safleoedd Ewropeaidd fel AGA, ACA neu safleoedd Ramsar.

Ni allwn wneud yr asesiad ar eich rhan, ond byddwn yn cyflwyno ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad os gofynnir inni wneud hynny.

Eich dyletswyddau cyffredinol

Mae Deddf 1981 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar ymgymerwyr statudol a chyrff cyhoeddus i gymryd camau rhesymol, sy’n gyson ag arfer swyddogaethau’r awdurdod yn briodol, i hybu’r arfer o warchod a chyfoethogi’r fflora, y ffawna neu’r nodweddion daearegol neu ffisiograffig sydd wrth wraidd diddordeb gwyddonol arbennig y safle.

Mae gennych ddyletswydd ychwanegol, na chyfyngir mohoni i SoDdGA, dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i geisio cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, cyn belled ag y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.

Canfod safleoedd dynodedig

Efallai fod yr wybodaeth yr ydych ei hangen i’w chael ar eich system fapio gorfforaethol. Fel arall, defnyddiwch borwr mapiau Llywodraeth Cymru neu fap ‘MAGIC’ DEFRA i weld a yw tir wedi’i ddynodi.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am leoliad a nodweddion safleoedd, a manylion cyswllt y tîm rheoli, trwy ddefnyddio ein chwiliad safleoedd dynodedig

Diweddarwyd ddiwethaf