Cyngor i ddatblygwyr ar Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs)

Os ydych chi'n cynllunio Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) yng Nghymru, neu os yw'n debygol y bydd eich prosiect yn effeithio ar dir yng Nghymru, rhaid i chi ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn i chi wneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).

Lawrlwythwch wybodaeth am rôl Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ystyried cynigion ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs) o wefan yr Arolygiaeth Gynllunio

Cysylltwch â ni ynglŷn ag ymholiad cynllunio

Cyngor cyn gwneud cais

Rydym yn cynnig barn ragarweiniol am ddim ar eich datblygiad.

Os byddwch angen cyngor mwy manwl cyn gwneud cais, gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Cyngor Dewisol (codir tâl am y gwasanaeth hwn ac mae ein gallu i ddarparu'r cyngor hwn yn gyfyngedig).

Darllenwch fwy am ein barn ragarweiniol a’n gwasanaeth cynghori dewisol

Ffioedd

Efallai y byddwn yn codi ffi am unrhyw wasanaeth perthnasol y byddwn yn ei ddarparu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae gwasanaethau perthnasol yn cynnwys cyngor, gwybodaeth neu gymorth sy'n ymwneud â:

  • ceisiadau neu geisiadau arfaethedig am Orchymyn Caniatâd Datblygu
  • newidiadau i neu ddirymu Gorchymyn Caniatâd Datblygu
  • unrhyw faterion rhagnodedig eraill sy'n ymwneud â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

Rydym yn adennill ein costau ym mhob cam perthnasol o'r broses NSIP, gan gynnwys:

  • cais cyn-ymgeisio
  • derbyn
  • cyn-archwiliad
  • archwiliad
  • penderfyniad
  • ôl-benderfyniad/gweithredu

Ein ffi gyfredol am gyngor â thâl yw £125 yr awr (mae hyn yn cwmpasu cost lawn darparu'r gwasanaeth).

Efallai y byddwn hefyd yn adennill costau rhesymol eraill, megis:

  • ymweliadau safle
  • ffioedd proffesiynol ar gyfer gwasanaethau technegol neu gyfreithiol
  • presenoldeb mewn gwrandawiadau (gan gynnwys cynrychiolaeth gyfreithiol os oes angen)

Gellir codi TAW ar rai gwasanaethau, yn enwedig lle maent yn ddewisol a heb fod wedi'u hategu gan statud.

Enghreifftiau o wasanaethau taladwy

Mae gwasanaethau a allai fod yn destun adennill costau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer penderfyniadau sgrinio neu gwmpasu
  • ymgysylltu â gwasanaethau cyn ymgeisio a gynigir gan yr Arolygiaeth Gynllunio
  • ymatebion i ymgynghoriadau cyn-ymgeisio statudol
  • cyngor ar asesiadau amgylcheddol (megis Asesiadau Effaith Amgylcheddol, Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd, neu Asesiadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr)
  • paratoi a darparu cyngor yn ystod y camau cyn-archwilio ac archwilio, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd a gwrandawiadau
  • ymatebion i geisiadau am 'ganiatadau tybiedig' neu ddatgymhwyso caniatadau
  • ymatebion i geisiadau am wybodaeth ar ôl penderfyniad
  • cyngor i'r awdurdod rhyddhau ar weithredu penderfyniadau

Anfonebu

Ar ôl i ni gwblhau gwasanaeth, byddwn yn anfon anfoneb atoch. Bydd yr anfoneb yn cynnwys:

  • disgrifiad o'r gwasanaeth(au) a ddarperir
  • nifer yr oriau a dreuliwyd ar bob gwasanaeth
  • unrhyw dreth ar werth (TAW) a godir

Rhaid i chi dalu'r anfoneb o fewn 28 diwrnod. Os yw'r taliad yn hwyr, byddwn yn anfon nodyn atgoffa. Os na dderbynnir taliad o hyd, efallai y byddwn yn anfon ail nodyn atgoffa ac yn eich rhybuddio am gamau pellach i adennill costau.

Hysbyswch ein Gwasanaethau Trafodion Cyllid  yn online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk os byddwch angen rhif archeb brynu cyn gwneud taliad.

Anghydfodau

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad dyledus, efallai y byddwn yn adennill y ddyled fel mater sifil. Efallai y byddwn hefyd yn hysbysu'r Arolygiaeth Gynllunio a/neu'r Awdurdod Archwilio ac yn oedi ein hymwneud â'ch cais nes bydd y mater wedi'i ddatrys.

Os ydych chi am herio anfoneb, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig yn online@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae'r cyfeiriad e-bost hwn i’w gael ar ein hanfonebau hefyd.

Trwyddedau neu ganiatadau eraill

Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatadau ychwanegol gennym ni ar rai prosiectau, fel trwyddedau morol. Gall y bydd angen talu ar wahân am y rhain.

Dysgwch fwy am y caniatadau rydyn ni'n eu pennu a'r ffioedd a all fod yn berthnasol.

Diweddarwyd ddiwethaf