Atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol
Beth yw atebion sy’n seiliedig ar natur?
Nod atebion sy'n seiliedig ar natur yw gwella strwythurau arfordirol, a gweithio gyda chynefinoedd a nodweddion naturiol i ddarparu ystod o fuddion i bobl a'r amgylchedd.
Mae atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer rheoli arfordirol yn cynnwys:
- gwella strwythurau o waith dyn gyda nodweddion ecolegol, fel fertipwlau neu deils cynefinoedd
- gwella cynefinoedd neu dirweddau naturiol, fel twyni tywod neu forfeydd heli
Gall yr addasiadau hyn fod â’r buddion canlynol:
- lleihau perygl llifogydd
- creu cynefin i fywyd gwyllt
- diogelu storfeydd carbon
- denu twristiaid i hybu'r economi leol
- darparu mannau hamdden
Cynlluniau Rheoli'r Traethlin
Mae Cynlluniau Rheoli'r Traethlin yn nodi dull strategol o reoli’r arfordir yn erbyn risgiau llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’r Cynlluniau hyn yn cael eu cynnal gan y pedwar Grŵp Arfordirol yng Nghymru ac yn dangos lle:
- byddwn yn parhau i amddiffyn yr arfordir
- gallem ni ystyried atebion sy'n seiliedig ar natur
- byddwn yn caniatáu i'r arfordir addasu dros amser
Lle byddwn yn parhau i amddiffyn yr arfordir, gallwn wneud hyn gydag amddiffynfeydd o waith dyn fel morgloddiau, grwynau a morwaliau neu gallwn ystyried defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur.
Mae pwysigrwydd atebion sy’n seiliedig ar natur wrth ddarparu atebion cost-effeithiol ac effeithlon i beryglon llifogydd a newid hinsawdd yn cael ei gydnabod yn:
- Strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru (2020)
- Datganiad Ardal Forol
- Polisi Adnoddau Naturiol
Sylwch, nid yw'r dudalen hon yn mynd i'r afael ag addasu arfordirol, adlinio rheoledig na gwrthbwyso creu cynefinoedd. Gallwch chwilio am brosiectau sy’n ymwneud â’r pynciau hyn yng nghronfa ddata OMREG neu gyfeirio at Adroddiad Tystiolaeth 554 : Adfer cynefinoedd morol ac arfordirol yng Nghymru: nodi cyfleoedd a buddion gofodol Cyfoeth Naturiol Cymru.
Termau atebion sy’n seiliedig ar natur
Byddwch yn dod ar draws termau gwahanol ar gyfer atebion sy’n seiliedig ar natur, gan gynnwys:
- gweithio gyda phrosesau naturiol
- prosiectau seilwaith naturiol
- peirianneg ecolegol
- glasu’r llwyd
Rydym ni’n defnyddio'r derminoleg ganlynol ar y dudalen hon:
- seilwaith llwyd (morgloddiau a morwaliau o waith dyn)
- seilwaith gwyrdd-lwyd (gwella strwythurau o waith dyn gyda nodweddion ecolegol)
- seilwaith gwyrdd-las (gwella cynefinoedd neu dirweddau naturiol)
Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cyfuniad o'r opsiynau hyn i ddarparu ateb rheoli arfordirol.
Seilwaith gwyrdd-lwyd
Mae seilwaith gwyrdd-lwyd yn golygu gwella strwythurau llwyd gyda nodweddion gwyrdd, fel fertipwlau neu deils cynefinoedd. Gall hyn fod o fudd i fioamrywiaeth ac ecosystem.
Gallwch gynllunio'r nodweddion hyn mewn cynigion newydd neu eu hôl-ffitio i strwythurau presennol.
Astudiaethau achos gwyrdd-lwyd
Mae Glasgow University- Greening the Grey: A framework for integrated green grey infrastructure (IGGI)- Appendix 4: Coastal yn cyflwyno arloesiadau rheoli arfordirol gwyrdd-lwyd o'r byd academaidd ac ymarfer. Mae'r rhain yn dangos dyluniadau ar gyfer asedau fel pontydd a strwythurau peirianneg arfordirol y mae angen iddyn nhw aros yn bennaf yn llwyd ar gyfer eu swyddogaeth hanfodol.
Mae’r adroddiadau wedi’u categoreiddio fel:
- astudiaethau achos cyfoethog o dystiolaeth ac a brofwyd yn weithredol (CS)
- enghreifftiau ‘celf y posibl’ sydd â data cyfyngedig neu nad ydynt wedi’u cymhwyso’n weithredol eto (AP)
Teitl a chyfeirnod |
Nod y mesur |
---|---|
Amddiffynfa Uwch CS-C4 |
Defnyddio amddiffynfa fwy ecolegol ffafriol |
Morwaliau: fertipwlau, cynefinoedd traethau artiffisial CS-C5 |
Pyllau glan môr poced wedi'u hôl-osod ar amddiffynfeydd môr fertigol |
Morwaliau: gwella cynefin wal newydd CS-C6 |
Ychwanegu nodweddion cynefin o dan ac o amgylch glannau arfordirol trefol newydd |
Morwaliau: gwella cynefin wal hanesyddol CS-C7 |
Trwsio cynefin arbenigol mewn morwal wedi'i gorchuddio â cherrig mewn ardal gadwraeth hanesyddol |
Arall: cynefin rhynglanwol a grewyd o gwmpas datblygiad newydd CS-C8 |
Datblygiad ar raddfa fawr yn ymgorffori nodweddion cynefin gwell |
Amddiffynfa : Biofloc AP-C2 |
Unedau amddiffynfa concrit wedi’u eco-saernïo |
Amddiffynfa : Craig graidd wedi’i drilio AP-C3 |
Cynefin wedi’i ôl-ffitio wedi’i ychwanegu at amddiffynfa craig morglawdd |
Amddiffynfa : Pyllau a ffosydd AP-C4 |
Cynefin wedi’i ôl-ffitio wedi’i ychwanegu at amddiffynfa |
Amddiffynfa : Pyllau creigiau concrit AP-C5 |
Dylunio cynefin i mewn i unedau sied concrit |
Amddiffynfa : Morglawdd AP-C6 |
Cynefin wedi’i ôl-ffitio wedi’i ychwanegu at amddiffynfa craig morglawdd |
Concrit gweadog ar gyfer bioamrywiaeth AP-C7 |
Profi teils ar gyfer dylunio cynefin i mewn i forwaliau ac amddiffynfeydd |
Concrit gweadog ar gyfer morwaliau AP-C8 |
Profi teils ar gyfer dylunio cynefin i mewn i forwaliau |
Bio-amddiffyn morwaliau AP-C9 |
Defnyddio bioleg i wella gwytnwch asedau |
Arall: Arllwysfeydd dŵr storm wedi’u eco-wella AP-C10 |
Cynefin wedi’i ôl-ffitio wedi’i ychwanegu at orchudd arllwysfeydd |
Mae Canllawiau i gefnogi defnyddio gwelliannau ecologol ar strwythurau amddiffyn arfordirol ac asedau (Saesneg yn unig) yn cyflwyno tystiolaeth am ddefnydd gwelliannau ecologol gyda dull cynyddol o'u defnyddio nhw mewn prosiectau.
Mae gennym hefyd Becyn hyfforddiant am welliannau arfordirol (Saesneg yn unig).
Prosiectau gwyrdd-lwyd
Mae Ecostructure yn brosiect sy'n codi ymwybyddiaeth o atebion eco-beirianyddol i her addasu arfordirol i newid hinsawdd trwy ddarparu offer ac adnoddau hygyrch i ddatblygwyr a rheoleiddwyr, yn seiliedig ar ymchwil rhyngddisgyblaethol ym meysydd ecoleg, peirianneg ac economeg gymdeithasol.
Prosiect Sea-Hive y Mwmbwls. Pwrpas y prosiect yw ymchwilio i sut y gallwn greu morglawdd mwy ecogyfeillgar.
Nod Marineff Infrastructures yw gwella a diogelu statws ecolegol dyfroedd arfordirol traws-sianel ac mae'n cynnwys cymhwyso atebion sy'n seiliedig ar natur ar strwythurau amddiffyn rhag llifogydd.
Mae World Harbours Project yn hyrwyddo eco-beirianneg a dulliau eraill a fydd yn helpu i adeiladu gwytnwch ecolegol mewn porthladdoedd a harbyrau trefol.
Cynlluniwyd morglawdd Seattle i wella cynefinoedd morol, gyda ffocws arbennig ar annog eogiaid ifanc i fudo.
Mae crynodeb The Biodiversity of Marine Artificial Structures yn edrych ar dystiolaeth ar glawr am effeithiau prosiectau cadwriaeth byd-eang ar gyfer gwella bioamrywiaeth strwythurau morol artiffisial.
Seilwaith glas-wyrdd
Mae prosiectau seilwaith gwyrdd-las neu naturiol yn defnyddio tirweddau naturiol presennol neu well (morfeydd heli, twyni tywod a gwlyptiroedd) i gynyddu gwytnwch yn erbyn effeithiau hinsawdd.
Mae Glasgow University- Greening the Grey: A framework for integrated green grey infrastructure (IGGI)- Appendix 4: Coastal yn darparu astudiaethau achos enghreifftiol o brosiectau seilwaith gwyrdd-las.
Mae’r adroddiadau wedi’u categoreiddio fel:
- astudiaethau achos sy’n gyforiog o dystiolaeth ac a brofwyd yn weithredol (CS)
- enghreifftiau ‘celf y posibl’ sydd â data cyfyngedig neu nad ydynt wedi’u cymhwyso’n weithredol eto (AP)
Teitl a chyfeirnod |
Nod y mesur |
---|---|
Trwsio morfa heli ar amddiffynfa forol CS-C1 |
Creu morfa heli ar amddiffynfeydd sy’n methu |
Creu morfa heli drefol CS-C2 |
Adlinio trefol gan greu cynefin morfa heli |
Terasau â llystyfiant rhynglanwol CS-C3 |
Gwelyau cyrs wedi'u hychwanegu o flaen amddiffynfa o seilbyst |
Argloddiau gwenyn CS-M1 |
Newid torri gwair ar amddiffynfeydd arglawdd pridd |
Llystyfiant: Creu gwastadedd llaid llanwol AP-C1 |
Trwsio seilbyst yn cynnwys cynefin llanw |
Maethu traethau
Maethu traethau yw'r broses o ychwanegu deunydd fel tywod neu raean bras at y draethlin i wella neu adfer traethau a'u swyddogaethau o amddiffyn yr arfordir.
Mae’r adroddiad a ganlyn yn edrych ar 10 safle sampl lle gallai maethu traethau fod yn opsiwn rheoli priodol dros yr 20, 50 a 100 mlynedd nesaf:
'Gweithrediadau maethu traethau yng Nghymru a'r gofynion tebygol yn y dyfodol ar gyfer maethu traethau mewn ardal lle mae lefel y môr yn codi a newid hinsawdd Adroddiad Gwyddoniaeth Rhif 928 CCGC' (Cyngor Cefn Gwlad Cymru)
Cysylltwch â library@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am gopi.
Mae gan Gweithio gyda phrosesau naturiol i leihau perygl llifogydd - astudiaethau achos 46 i 65: arfordiroedd ac aberoedd yr astudiaethau achos canlynol am faethu traethau:
Teitl |
Crynodeb |
---|---|
Astudiaeth Achos 61: Amddiffynfeydd Môr Pevensey |
Amnewid deunydd a gollwyd o flaen y bae gyda deunydd wedi'i garthu a'i hidlo. |
Astudiaeth Achos 62: Treial Ailgyflenwi Traeth Poole Bay |
Ychwanegu gwaddod wedi'i garthu at y traeth agos i alluogi tonnau a cherhyntau llanw i'w symud tuag at y traeth ac ar ei hyd. |
Astudiaeth Achos 63: Hidlo Harbwr Pagham |
Hidlo deunydd graean bras traeth o un lleoliad i'r llall |
Astudiaeth Achos 64. Hidlo ac Ailgylchu Graean Bras Harbwr Shoreham |
Trosglwyddo graean bras i atgynhyrchu drifft naturiol y glannau, a rwystrwyd yn flaenorol. |
Astudiaeth Achos 65: Tywodlun |
Ychwanegu gwaddod mewn un lleoliad, mewn ffordd y mae prosesau naturiol yn ei symud i fannau eraill lle mae ei angen. |
Rheoli twyni tywod
Mae rheoli twyni tywod er mwyn amddiffyn rhag llifogydd yn golygu adfer ardaloedd sydd wedi erydu a sefydlogi eraill gan ddefnyddio technegau ffensio, toi a phlannu llystyfiant. Y syniad yw helpu, nid rhwystro'r prosesau ffurfio twyni i warchod ecosystem y twyni.
Mae gan Gweithio gyda phrosesau naturiol i leihau perygl llifogydd - astudiaethau achos 46 i 65: arfordiroedd ac aberoedd yr astudiaethau achos canlynol am reoli twyni tywod:
Teitl |
Crynodeb |
---|---|
Astudiaeth Achos 59. Adfer Twyn Tywod Hightown |
Prosiect i adfer twyni tywod i’w maint ar ddiwedd y 1970au. |
Astudiaeth Achos 60. Traeth De Milton |
Prosiect rhwng 2003 a 2009 i gael gwared ar amddiffynfeydd sy'n methu ac ailbroffilio'r twyni. Roedd hyn yn caniatáu iddyn nhw siapio yn ôl prosesau naturiol. |
Cyngor ar Opsiynau ar gyfer Rheoli Twyni Tywod ar gyfer Amddiffynfeydd Llifogydd ac Arfordirol, Adroddiad Tystiolaeth CNC 207 (Cyfrol 1 Prif adroddiad a Chyfrol 2 Crynodebau Safle) Mae’r adroddiad yn rhoi asesiad newydd o leoliad amgylcheddol, cymeriad geomorffolegol, cyd-destun cynllun rheoli traethlinoedd (CRhT) ac arwyddocâd systemau twyni tywod Cymru.
Rheoli twyni tywod ar gyfer llifogydd ac amddiffyn yr arfordir Mae'r prosiect hwn yn archwilio'r prosesau ffisegol sy'n digwydd mewn twyni tywod a'r ffordd orau o'u rheoli er mwyn amddiffyn yr arfordir.
Mae Twyni Byw yn brosiect CNC i adfywio twyni tywod ledled Cymru, sy’n cael ei gynnal tan fis Rhagfyr 2022.
Mae O Dwyn i Dwyn: Rheoli Tirwedd Arfordirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Gynaliadwy yn brosiect sy’n diogelu a gwella’r ddau dirwedd twyni tywod sy’n weddill yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr.
Mae Dynamic Dunescapes yn brosiect uchelgeisiol, yn adnewyddu rhai o dwyni tywod pwysicaf Cymru a Lloegr ar gyfer pobl, cymunedau a bywyd gwyllt
Mae Natural England's climate adaptation manual - Pennod 27 Twyni tywod arfordirol yn helpu gwneud penderfyniadau ymarferol, trwy ddwyn ynghyd wyddoniaeth ddiweddar, profiad ac astudiaethau achos.
Mae gan West Sands Dune Management project esiamplau o welliannau i dwyni tywod yn seiliedig ar natur i arfordir heb ei amddiffyn yng ngogledd-ddwyrain yr Alban.
Rheoli morfeydd heli a gwastadeddau llaid
Gall morfeydd heli a gwastadeddau llaid leihau a gwasgaru ynni tonnau a llanw o flaen amddiffynfeydd rhag llifogydd a gallan nhw ymestyn oes eu dyluniad.
Ymhlith yr enghreifftiau o dechnegau a ddefnyddir ar gyfer rheoli morfeydd heli mae:
- defnyddio gwaddodion wedi'u carthu sy'n cael eu gosod dros, neu o amgylch, morfeydd heli a gwastadeddau llaid rhynglanwol i naill ai creu cynefin neu amddiffyn cynefinoedd rhynglanwol rhag erydiad parhaus
- gosod ffensys mewn patrwm hirsgwar, gyda deunyddiau pren brws (e.e. canghennau helyg) wedi'u gosod rhwng pyst ffensys. Mae hyn yn arafu cerrynt cryf ac yn lleihau symudiadau tonnau, fel bod gwaddod yn gallu setlo'n haws allan o'r golofn ddŵr.
Astudiaethau Dichonoldeb / Gwella Morfa Heli Glanfa Fawr Tredelerch, Adroddiad Rhif: 528. Astudiaeth CNC i edrych ar ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i wella neu ymestyn morfeydd heli.
Mae’r Saltmarsh Management Manual yn cynnwys manylion nifer o dechnegau y gellir eu defnyddio i gynnal, adfer, gwella neu greu morfeydd heli.
Mae gan Gweithio gyda phrosesau naturiol i leihau perygl llifogydd - astudiaethau achos 46 i 65: arfordiroedd ac aberoedd yr astudiaethau achos canlynol am faethu traethau:
Teitl |
Crynodeb |
---|---|
Astudiaeth Achos 47: Arfordir Gogledd Norfolk |
Rheoli perygl llifogydd arfordirol trwy ddefnyddio morwaliau a rhwystrau naturiol. |
Astudiaeth Achos 53: Cyfnewidfa Llanw Rheoledig Rye Harbour Farm |
Cynllun i ddarparu man storio llanw a system cilfach sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chorff dŵr trosiannol Rother. |
Astudiaeth Achos 55: Cynllun Amddiffyn Llanw Sandwich |
Cynllun i gryfhau a gwella amddiffynfeydd afonydd llanw presennol, a chreu ardal lliniaru llifogydd llanw rhwng Sandwich ac aber Afon Stour. |
Astudiaeth Achos 56: Adferiad Morfa Heli Levington, Suffolk |
Symud deunydd wedi'i garthu gan bibellau sefydlog i ardal lle mae'r morfa heli wedi dirywio a darnio. Mae pennau'r pibellau'n cael eu symud bob blwyddyn i newid lle mae'r deunydd a garthwyd yn mynd |
Astudiaeth Achos 57: Glanfa Fawr Tredelerch |
Defnyddio polderau i adfywio gwastadeddau llaid a chynyddu amddiffyniad i lethr y lanfa. |
Astudiaeth Achos 58: Cynllun Amddiffyn Llanw Waldringford, Suffolk |
Codi a lledu arglawdd clai, ac adfer morfa heli. |
Mae Pennod 23 ar orlifdir arfordirol a morfa bori a Pennod 28 ar forfa heli arfordirol o Natural England's climate adaptation manual ar gael i'w lawrlwytho fel dogfennau unigol.
Rheoli Graean Bras
Yn draddodiadol, mae amddiffynfeydd arfordirol fel grwynau a morgloddiau yn cyfyngu ar symudiad graean bras ar hyd y traeth.
Er y gall hyn ddiogelu cymunedau a’r seilwaith y tu ôl i’r amddiffynfeydd, gall hyn ymyrryd â’r cyflenwad gwaddod mewn ardaloedd cyfagos, a allai achosi erydiad arfordirol.
Ymhlith y ffyrdd eraill o reoli graean bras mae:
- ail-broffilio traethau
- ailgylchu graean bras
- maethu traethau
Mae Cyngor ar Reoli Adnoddau Graean Bras Morol Arfordirol yn Gynaliadwy, Adroddiad Tystiolaeth CNC Rhif 273 wedi’i baratoi i lywio’r gwaith o ddatblygu canllawiau sy’n ymwneud â gwaith ymyrryd FCERM er mwyn diogelu buddiannau ehangach nodweddion graean bras yng Nghymru.
Mae pennod ar raean bras â llystyfiant arfordirol ar gael i'w lawrlwytho o Natural England's climate adaptation manual fel dogfen annibynnol.
Llenyddiaeth Wyddonol
Gallwch chwilio’r llwyfannau tystiolaeth canlynol am lenyddiaeth wyddonol ynghylch atebion sy’n seiliedig ar natur:
Nature-Based Solution Initiative Oxford