Asesiad ansawdd dŵr afonydd gwarchodedig yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn asesu cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) Cymru â thargedau ar gyfer saith nodwedd ansawdd dŵr:
- Ocsigen Tawdd
- Y Galw Biolegol am Ocsigen
- Cyfanswm Amonia
- Amonia heb ei ïoneiddio
- Mynegai Diatomau Troffig
- pH
- Y Gallu i Niwtralu Asidau
Adroddwyd am fethiannau i gyrraedd targedau ansawdd dŵr yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy, Afon Eden, Afon Gwyrfai, Afonydd Cleddau, Afon Teifi, Afon Wysg ac Afon Gwy.
O ran yr asesiad hwn, yr ACAau lle cafwyd y nifer mwyaf o fethiannau o ran targedau oedd Afonydd Cleddau, Afon Wysg, Afon Gwy ac Afon Teifi.
Roedd mwyafrif y methiannau ar gyfer y Galw Biocemegol am Ocsigen (methodd 41% o'r cyrff dŵr a aseswyd i gyrraedd y targed) a’r Mynegai Diatomau Troffig (methodd 45% o'r cyrff dŵr a aseswyd i gyrraedd y targed).
Adroddir am nifer fechan o fethiannau o ran Ocsigen Tawdd a Chyfanswm Amonia, ac un methiant ar gyfer Amonia heb ei ïoneiddio a’r Gallu i Niwtralu Asidau.
Ni adroddwyd am unrhyw fethiannau ar gyfer pH.
Mae’r adroddiad yn nodi argymhellion i fynd i’r afael â methiannau ansawdd dŵr yn ein hafonydd gwarchodedig.
Targedau a dulliau asesu
Gosodir y targedau a’r dulliau asesu ar lefel y DU gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur ac maent yn rhan o’r amcanion cadwraeth ar gyfer nodweddion yr ACA afonol.
Cynhaliwyd yr asesiad trwy rannu pob ACA yn gyrff dŵr, sef darnau unigol o afonydd. Aseswyd cyfanswm o 119 o gyrff dŵr (o 127 o rai posibl) am un neu fwy o nodweddion.
Defnyddiwyd data ansawdd dŵr o gyfnod o dair blynedd (1 Ionawr 2017 – 31 Rhagfyr 2019) i asesu cydymffurfiaeth â’r targedau.
Defnyddiwyd y cyfnod hwn er mwyn bod yn gyson ag Asesiad Cydymffurfiaeth ACA Afonydd Cymru yn Erbyn Targedau Ffosfforws, sy'n ategu'r adroddiad hwn.
Ceir naw ACA yng Nghymru gyda nodweddion afonol:
- Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
- Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
- Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion (Afon Glaslyn)
- Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd
- Afon Teifi
- Afonydd Cleddau
- Afon Tywi
- Afon Wysg
- Afon Gwy
Gallwch ddod o hyd i'r Cynlluniau Rheoli Craidd ar gyfer pob ACA trwy fynd i'n tudalen chwilio safle gwarchodedig a darllen y dogfennau atodedig.