SoNaRR2020: Ymylon arfordirol
Mae'r bennod hon yn asesu'r cynnydd tuag at reoli...
Mae'r bennod hon yn asesu'r cynnydd tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ecosystemau'r mynyddoedd, y gweundiroedd rhosydd
Mae mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd yn cynnwys y rhan fwyaf o gynefinoedd eiconig ucheldiroedd Cymru, gan gynnwys:
Mae'r ecosystem hon hefyd yn cynnwys:
Mae'r ecosystem hon yn cynnig manteision allweddol gan gynnwys storio carbon, lliniaru llifogydd, bwyd, ffibr a rhai o rywogaethau a thirweddau mwyaf eiconig Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o ecosystemau mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd yn yr ucheldiroedd, sef tir sy'n uwch na therfyn uchaf y tir caeedig. Mae'r rhan ucheldirol hon o'r ecosystem yn cyfrif am 19.3% o dir Cymru sy'n golygu mai dyma'r cynefin parhaus mwyaf. Mae'n cynnwys rhannau helaeth o laswelltir asid y mae llawer ohono'n deillio o orbori ar rostir a chorsydd.
I'r gwrthwyneb, mae mawndiroedd a rhostiroedd yr iseldir yn aml yn fach, yn dameidiog iawn ac yn cael eu effeithio gan ddefnyddiau tir cyfagos. Mae dirywiad mewn arferion pori traddodiadol ac arferion rheoli eraill yn aml yn amlwg ac yn arwain at golli nodweddion gwerthfawr.
Caiff problemau eu dwysáu yn yr ecosystem hon yn yr ucheldir a'r iseldir gan lygredd aer a dŵr daear gyda lefelau uchel o nitrogen adweithiol.
Mae'r prif negeseuon, o'r pwysau a'r effeithiau a'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu wedi'u crynhoi yn y gofrestr adnoddau nauriol briodol.
Bydd y bennod lawn ar gael ym mis Mawrth 2021.
Bydd y bennod yn amlinellu'r pwysau sydd wedi achosi cyflwr gwael llawer o'r ecosystem hon a'r angen am newid i fynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Bydd yn awgrymu camau gweithredu i fynd i'r afael â chynaliadwyedd a gwydnwch yr ecosystem hon.
Bydd disgrifiad o'r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer yr asesiad hefyd yn cael ei gyhoeddi.