SoNaRR2020: Ymylon arfordirol
Mae'r bennod hon yn asesu'r cynnydd tuag at reoli...
Mae'r bennod hon yn asesu'r cynnydd tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn yr ecosystem forol
Mae’r ardal forol wrth y lan yng Nghymru’n ymestyn o’r marc dŵr uchel cymedrig hyd 12 milltir forwrol. Mae’n gorchuddio ychydig o dan 15,000 cilometr sgwâr neu 41% o diriogaeth Cymru. Mae’r asesiad o’r ecosystem forol yn cynnwys ansawdd dŵr morol, cynefinoedd rhynglanw ac is-lanw a’r rhywogaethau sydd ynddyn nhw.
Mae adnoddau naturiol morol yn cyflwyno ystod o fanteision a chyfleoedd ac maent yn cynnal gweithgareddau economaidd gan gynnwys:
Mae’r amgylchedd morol yng Nghymru’n darparu gwasanaethau hanfodol i iechyd a lles dynol gan gynnwys:
Mae gwerth cynhenid yr amgylchedd morol yn cysylltu’n uniongyrchol a chyfleoedd cymdeithasol a manteision lles yn sgil hamdden, twristiaeth a gweithgareddau eraill.
Mae'r prif negeseuon, o'r pwysau a'r effeithiau i'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu wedi'u crynhoi yn y gofrestr adnoddau naturiol briodol.
Bydd y bennod lawn ar gael ym mis Mawrth 2021.
Bydd y bennod yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o bwysau sy’n effeithio ar statws, maint, cyflwr ac amrywiaeth yr amgylchedd morol a’r cyfleoedd i wella gwydnwch ecosystemau morol a sicrhau mantais o ran lles i gymdeithas.
Bydd disgrifiad o dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer yr asesiad hefyd yn cael ei gyhoeddi.