SoNaRR2020: Ffermdir caeedig
Mae'r bennod hon yn asesu'r cynnydd tuag at reoli...
Mae'r bennod hon yn asesu'r cynnydd tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ecosystem yr ymylon arfordirol
Mae gan Gymru 2,700 km o arfordir. Mae'r ecosystem ymylon arfordirol yn cynnwys morfeydd heli, twyni tywod, clogwyni môr, graean a morlynnoedd halwynog. Dim ond 1% o gynefinoedd lled-naturiol Cymru y mae'n eu cynrychioli.
Fel arfer wedi'u cyfyngu i barth cul, mae'r cynefinoedd hyn yn cwmpasu'r newid rhwng y tir a'r môr. Yn hanesyddol, mae colledion sylweddol wedi digwydd oherwydd hawlio tir, amaethyddiaeth gynyddol ddwys a datblygu.
Yn naturiol ddeinamig, gall ymylon arfordirol symud neu newid wrth iddynt brofi erydiad, croniant (twf/cynnydd), drifft y glannau, newidiadau tymhorol a stormydd.
Gall patrymau cryf o wahanol gymunedau planhigion ddatblygu oherwydd gwahaniaethau o ran cysylltiad â chwistrell halen, llanw ac olyniaeth. Mae'r parth arfordirol yn fioamrywiol iawn ac fe'i nodweddir gan rywogaethau arbenigol sydd wedi addasu i amgylchiadau morol.
Dethlir arfordir Cymru am ei golygfeydd eiconig ac mae'n boblogaidd ar gyfer hamdden a thwristiaeth. Mae hyn yn dod â manteision i'r economi a lles personol.
Mae cynefinoedd ymylon arfordirol yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at amddiffyniad rhag llifogydd dros lawer o arfordir Cymru naill ai drwy weithredu fel rhwystr i lifogydd neu glustog drwy amsugno nerth tonnau.
Yn draddodiadol, mae cyfran uchel o gynefinoedd arfordirol wedi'u rheoli ar gyfer amaethyddiaeth (pori'n bennaf), sy'n aml yn bwysig ar gyfer cynnal cynefin o ansawdd da.
Erbyn hyn, mae ymylon arfordirol yn y rheng flaen o ran newid yn yr hinsawdd, maent yn cael eu bygwth gan gynnydd yn lefel y môr ac erydiad.
Mae'r prif negeseuon, o'r pwysau a'r effeithiau i'r cyfleoedd ar gyfer gweithredu wedi'u crynhoi yn y gofrestr adnoddau naturiol briodol.
Bydd y bennod lawn ar gael ym mis Mawrth 2021.
Bydd y bennod yn tynnu sylw at y pwysau amrywiol sy'n effeithio ar statws, maint, cyflwr ac amrywiaeth yr ecosystem ymylon arfordirol. Amlinellir y cyfleoedd i wella gwydnwch ymylon arfordirol a sicrhau lles.
Bydd disgrifiad o'r dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen ar gyfer yr asesiad hefyd yn cael ei gyhoeddi.