Dirwy i ddyn am bysgota’n anghyfreithlon ar Afon Morlais, Llangennech

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae dyn o Lanelli wedi cael dirwy o dros £1,300 am bysgota’n anghyfreithlon ar Afon Morlais, Llangennech, ac am wrthod cydweithredu â swyddogion gorfodi.

Ar 21 Hydref 2024, ymatebodd swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i adroddiadau am weithgarwch pysgota y tu allan i’r tymor ar Afon Morlais.

Ar ôl cyrraedd, canfu’r swyddogion fod Mark Robert May, 38 oed, o Tir Einon, Llwynhendy, yn meddu ar offer pysgota ar lan yr afon. Hysbyswyd Mr May fod y tymor pysgota wedi dod i ben a bod trwydded ddilys i bysgota â gwialen yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Gwrthododd Mr May roi ei enw na’i gyfeiriad a ffodd o’r man. Gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, llwyddodd swyddogion CNC i’w leoli a’i adnabod yn fuan wedyn. Cafodd ei offer pysgota ei atafaelu fel rhan o’r ymchwiliad.

Ar 11 Ebrill 2025, ymddangosodd Mr May yn Llysoedd Ynadon Llanelli a phlediodd yn euog i bysgota heb drwydded gwialen ddilys ac i fethu â darparu manylion personol i swyddogion. Cafodd ddirwy o gyfanswm o £1,320.40, a oedd yn cynnwys cosbau am y ddau drosedd, gordal dioddefwr a chostau erlyn.

Dywedodd Jonathan Jones, arweinydd tîm amgylchedd y de-orllewin, ar ran CNC:

“Mae pysgota anghyfreithlon a di-drwydded yn tanseilio cynaliadwyedd pysgodfeydd Cymru ac ymdrechion pysgotwyr cyfrifol sy’n cydymffurfio â’r gyfraith. Rydym yn croesawu penderfyniad y llys yn yr achos hwn ac yn gobeithio ei fod yn anfon neges gref na fydd pysgota anghyfreithlon yn cael ei oddef.

“Mae rheolau trwyddedu pysgota â gwialen yn bodoli i ddiogelu poblogaethau pysgod a chynnal ecosystemau iach yn ein hafonydd. Rhaid i bysgotwyr hefyd gydymffurfio â chyfyngiadau pysgota tymhorol, sydd yn eu lle er mwyn gwarchod rhywogaethau bregus tra byddant yn silio."

Mae CNC wedi ymrwymo i hyrwyddo pysgota cyfrifol, cynyddu cyfranogiad a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor stociau pysgod Cymru.

Mae trwyddedau pysgota â gwialen yn hanfodol er mwyn rheoli stociau pysgod yn afonydd a dyfroedd llonydd Cymru yn gyfreithlon ac yn gynaliadwy. Maent yn sicrhau bod y rhai sy’n pysgota yn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth ac yn parchu’r ecosystemau y maent yn eu mwynhau.

Gall pysgota heb drwydded neu y tu allan i dymhorau a ganiateir achosi niwed hirdymor i boblogaethau pysgod, yn enwedig rhywogaethau gwarchodedig fel eog, siwin (brithyll y môr) a brithyll. Gall pysgota anghyfreithlon hyd yn oed ar raddfa fach effeithio ar allu’r rhywogaethau i fridio ac ar hyfywedd hirdymor stociau pysgod lleol.

Mae staff gorfodi o CNC yn cynnal gwiriadau rheolaidd ac yn ymateb i adroddiadau am bysgota anghyfreithlon ledled Cymru. Mae perygl i droseddwyr gael eu herlyn, gael dirwy a chael atafaelu eu hoffer.

Mae CNC yn annog unrhyw un sy’n dyst i bysgota anghyfreithlon i’w adrodd drwy ffonio CNC ar 0300 065 3000 (llinell ddigwyddiadau 24/7) neu roi gwybod ar-lein

Gofynion Trwydded Gwialen

  • Rhaid i unrhyw un 13 oed neu hŷn gael trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen er mwyn pysgota mewn afonydd, nentydd, camlesi, draeniau a physgodfeydd dŵr llonydd yng Nghymru a Lloegr.
  • Nid oes angen trwydded ar blant dan 13 oed.
  • Mae angen trwydded person ifanc ar bysgotwyr 13 i 16 oed – mae’r drwydded yn rhad ac am ddim ond rhaid ei chofrestru.
  • Gellir prynu trwyddedau ar-lein: prynu trwydded pysgota â gwialen

I gael gwybodaeth am bysgota yng Nghymru ac am Is-ddeddfau ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

Cyfoeth Naturiol Cymru / Is-ddeddfau genweirio (rheolau pysgota)

Cyfoeth Naturiol Cymru / Pysgota