Tân difrifol mewn ffatri ailgylchu yng Nghaerffili yn sbarduno ymateb amlasiantaethol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda phartneriaid a'r gwasanaethau brys yn dilyn tân mawr a ddechreuodd brynhawn Mercher (1 Medi), mewn ffatri ailgylchu ar ystad ddiwydiannol Penallta yng Nghaerffili.
Amcangyfrifir bod tua 150 tunnell o ddeunydd ailgylchu gan gynnwys plastig, ewyn, eitemau trydanol, batris plwm, a silindrau nwy ar dân, ynghyd â pheiriannau.
Mae'r safle'n gyfleuster a reoleiddir ac mae ganddo drwydded gan CNC.
Mae swyddogion CNC yn gweithio ochr yn ochr ag Ymateb Arllwysiadau Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i bwmpio dŵr tân o'r safle, er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i eiddo cyfagos.
Mae nifer o fesurau hefyd wedi'u rhoi ar waith i helpu i leihau effaith llygredd ar yr amgylchedd lleol.
Mae hyn yn cynnwys gosod byndiau a matiau yn Nant Cylla, un o lednentydd afon Rhymni, a bwmau a phadiau mewn cyrsiau dŵr lleol i amsugno unrhyw olew a phetrol sy'n rhedeg oddi ar y safle.
Mae argaeau hefyd wedi'u creu mewn nentydd cyfagos ac mae pibellau pedair modfedd wedi'u gosod i adael dŵr clir drwodd.
Mae swm mawr o olew a phetrol wedi mynd i mewn i nant ger yr ystad ddiwydiannol ac mae nifer o bysgod marw wedi’u cadarnhau.
Bydd swyddogion CNC yn parhau i fonitro'r ardal dros y dyddiau nesaf ac maen nhw’n cynghori pobl i osgoi dod i gysylltiad â’r dŵr yn Nant Cylla a chyrsiau dŵr cyfagos tra bod gwaith adfer a chlirio’n digwydd.
Dywedodd David Letellier, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae ein swyddogion ar y safle ar hyn o bryd yn yr ystad ddiwydiannol i gefnogi GTADC a gweithio gyda'n partneriaid i leihau'r risg i'r amgylchedd a'r gymuned leol.
Gall tanau gael effaith ddifrifol ar bobl a'r amgylchedd, felly mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid amlasiantaeth drwy gydol y digwyddiad i helpu i ddiogelu trigolion lleol a'r amgylchedd.
Byddwn yn parhau i fonitro'r effaith ar ansawdd aer a chyrsiau dŵr lleol dros y dyddiau nesaf ac yn sicrhau bod y mesurau angenrheidiol ar waith i leihau'r effaith y mae hyn yn ei gael ar yr amgylchedd.
Dywedodd Mark Kift, sy’n Gomander Gorsaf gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
Aeth nifer o griwiau o wahanol orsafoedd yn ardal De Cymru i’r safle ac wrth gyrraedd gwelwyd bod y tân eisoes wedi cydio’n ddifrifol. Gweithiodd criwiau'n ddiflino i daclo’r tân a defnyddio eu hyfforddiant ac amrywiaeth o adnoddau i atal y tân rhag lledaenu ac effeithio ar ardaloedd eraill.
Y bore yma (dydd Gwener, 3 Medi 2021) gadawodd ein diffoddwyr tân safle’r digwyddiad a diolch i ymgyrch amlasiantaethol ar y cyd, llwyddwyd i gyfyngu a diffodd y tân.
Mae'r broses o glirio a glanhau bellach ar y gweill a hoffem atgoffa trigolion lleol bod y safle ailgylchu yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd ac i ddilyn unrhyw ganllawiau gan CNC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch yr ardal gyfagos.
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon amgylcheddol gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio 0300 065 3000, sydd ar agor 24 awr y dydd.