Safleoedd dynodedig, rhywogaethau a warchodir a chynefinoedd cynhaliol

Bydd angen i chi benderfynu a fydd unrhyw ran o'ch cynllun ynni dŵr, neu ei weithrediad, yn debygol o effeithio ar safle sydd wedi’i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur neu rywogaethau a warchodir a'u cynefinoedd. Os bydd effaith ar safle dynodedig yn debygol, bydd angen i chi gynnal gwerthusiad manwl o effeithiau amgylcheddol eich cynllun i gyd-fynd â'ch cais am drwydded. Bydd angen i chi ystyried effeithiau yn ystod y gwaith adeiladu ac wrth weithredu’r cynllun.

Rydym yn rhoi cyfyngiadau llawer llymach ar faint o ddŵr y mae modd ei dynnu yn y safleoedd hyn i ddiogelu ecoleg sy'n sensitif i lif ac mae'n debygol y bydd angen safon uchel iawn o ddyluniad amgylcheddol ar gyfer cynllun. Gellir gwrthod ceisiadau am drwydded os bydd perygl na ellir diogelu rhywogaethau a chynefinoedd dynodedig yn ddigonol rhag datblygiad ynni dŵr.

Darllen Trwyddedu tyniadau dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr

Safleoedd dynodedig

Mae safleoedd dynodedig yng Nghymru'n cynnwys afonydd, nentydd a chynefinoedd gwlyptir sy'n dibynnu ar ddŵr.

Dyma’r dynodiadau safle a geir:

  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ymgeisiol
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig posib
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ymgeisiol
  • Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig posib
  • safleoedd gwlyptir sydd wedi'u dynodi dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwys Rhyngwladol (safleoedd Ramsar)
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig arfaethedig
  • Safleoedd daearegol a geomorffegol o bwys rhanbarthol
  • Cyrff dŵr Rheoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) ar statws ecolegol uchel neu elfennau ansawdd ar statws uchel
  • Safleoedd Adolygu Cadwraeth Ddaearegol
  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
  • Parthau Cadwraeth Morol

Caiff safleoedd eu dynodi ar gyfer cadwraeth natur oherwydd presenoldeb rhywogaethau, cynefinoedd, priodoleddau geolegol/geomorffegol a chymunedau ecolegol sy’n brin yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a elwir gyda’i gilydd yn nodweddion.

Gall rhai nodweddion fod yn sensitif i newidiadau yn llif yr afon – bydd y rhain gan mwyaf yn sianel yr afon, ar y glannau neu yn y parth torlannol. Mae rhai nodweddion sy'n sensitif i lif yn cynnwys rhywogaethau a chynefinoedd daearol ger nentydd y mae arnynt angen lefelau uchel o leithder (h.y. coetiroedd cefnforol a rhywogaethau cysylltiedig o fwsoglau a llysiau'r afu) a llifogydd dros y glannau.

Mae nodweddion safleoedd dynodedig sy'n sensitif i newidiadau mewn llif yn cynnwys:

  • Coetiroedd derw mes digoes gyda chelyn (Ilex) a gwibredyn (Blechnum)
  • Cymunedau o fryoffytau’r Gorllewin/Iwerydd (cefnforol)
  • Rhedyn Cilarne Trichomanes speciosum
  • Eogiaid yr Iwerydd Salmo salar
  • Herlod Alosa alosa
  • Gwangod Alosa fallax
  • Llysywod pendoll y môr Petromyzon marinus
  • Llysywod pendoll yr afon Lampetra fluviatilis
  • Llysywod pendoll y nant Lampetra planeri
  • Pennau lletwad Cottus gobio
  • Llysywod Anguilla anguilla
  • Misglod perlog Margaritifera margaritifera
  • Cimychiaid afon crafanc wen Austropotamobius pallipes
  • Dyfrgwn Lutra lutra
  • Llygod y dŵr Arvicola terrestris

Caiff safleoedd dynodedig eu hasesu am statws cadwraeth eu nodweddion ac mae ganddynt amcanion cadwraeth sy'n disgrifio sut dylai'r nodweddion gael eu diogelu a'u cynnal.

Os yw gwaith cronni neu dynnu dŵr yn cael ei gynnig o fewn safle dynodedig, neu'n debygol o effeithio ar safle o’r fath, yna bydd gofyn i ymgeiswyr gynnal arolygon ecolegol ac asesiad effaith, wedi'u cyflwyno mewn datganiad amgylcheddol, i benderfynu sut gall y cynllun effeithio ar nodweddion dynodedig a'u statws cadwraeth. Dylai'r asesiad ddangos y canlynol:

  • nodweddion y safle y mae'n debygol yr effeithir arnynt;
  • mecanwaith a graddfa'r effeithiau tebygol;
  • y mesurau a allai gael eu gweithredu i osgoi neu leihau difrod i'r nodweddion hysbysedig;
  • y mesurau sy'n cael eu cynnig i wneud yn iawn am unrhyw ddifrod nad oes modd ei liniaru.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon yn y broses o benderfynu ar drwydded i lunio gwerthusiad manwl o effeithiau cynllun arfaethedig.

Mae cynlluniau ynni dŵr sy'n debygol o effeithio ar Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig neu safleoedd gwlyptir Ramsar yn destun gwaith craffu arbennig dan Reoliad 61 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y cyfeirir atynt fel y Rheoliadau Cynefinoedd) oherwydd bod y safleoedd hyn yn diogelu ein rhywogaethau a chynefinoedd pwysicaf.

Bydd angen cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a fydd yn ystyried effeithiau cynllun arfaethedig ar unrhyw Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar perthnasol ar sail unigol ac ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill. Byddwn yn cynnal Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd gan ddefnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i darparu. Mae'n bwysig i ymgeiswyr ddeall nad effeithiau eu cynllun eu hunain yn unig fydd yn penderfynu ar ganlyniad yr asesiadau hyn. Mae angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer trwyddedu tynnu dŵr a chronni dŵr ac ar gyfer unrhyw ganiatâd cynllunio cysylltiedig.

Bydd angen i ymgeisydd ddangos na fydd y datblygiad arfaethedig yn effeithio'n niweidiol ar integredd y safle/oedd dan sylw. Mae'n rhaid i gynigion gael eu cyflwyno sy'n cynnwys manylion llawn y mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu nodweddion dynodedig y safle, gan ystyried amcanion cadwraeth y safle a statws ei gyflwr. Mae'n ofyniad cyfreithiol gan y Rheoliadau Cynefinoedd fod datblygwyr yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol i alluogi i Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gael ei gynnal.

Sut i ganfod a yw'ch cynllun yn effeithio ar safle dynodedig

Gallwch ganfod a yw eich cynllun ynni dŵr arfaethedig wedi'i leoli ar neu’n gyfagos i safle dynodedig, a'r nodweddion y mae safle wedi cael ei ddynodi ar eu cyfer, drwy edrych ar y mapiau a'r dynodiadau safle sydd ar gael ar ein gwefan 

neu Geo-borth MapDataCymru Llywodraeth Cymru

Rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig

Gall rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig hefyd fod yn bresennol ar safle sydd wedi’i ddynodi ar gyfer cadwraeth natur neu'r tu allan iddo a derbyn diogelwch cyfreithiol arbennig dan gyfraith amgylcheddol. Mae rhywogaethau a chynefinoedd a restrir yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (DOLEN) o’r pwys pennaf o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Bydd rhai o'r rhain yn sensitif i adeiladu cynlluniau ynni dŵr a newidiadau i lif afonydd a chynefinoedd ffisegol a achosir gan eu gweithrediad. Mae'n rhaid i ni ystyried sut gall cynllun ynni dŵr effeithio ar y rhywogaethau a chynefinoedd hyn ac ystyried yr effeithiau hyn yn ein proses drwyddedu.

Pryd bydd angen arolygon rhywogaethau a warchodir arnom?

Gan gydnabod ein nod yw diogelu’r ecosystem afonol gyfan, fel arfer bydd y cyfyngiadau rydym yn eu rhoi ar dyniadau dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr i Barthau 2 a 3 yn ddigonol i gynnal y rhan fwyaf o rywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig sy'n sensitif i lif mewn hyd afon â llif is, gan gynnwys brithyllod (Salmo trutta), dyfrgwn (Lutra lutra), llygod y dŵr (Arvicola terrestris) a'r rhan fwyaf o fryoffytau.

Byddwn yn gofyn am lefelau uwch o ddiogelwch llif ar gyfer safleoedd lle ceir misglod perlog (Margaritifera margaritifera), cimychiaid afon crafanc wen brodorol (Austropotamobius pallipes) a bryoffytau prin iawn sy'n sensitif i lif.

Mae cimychiaid afon crafanc wen brodorol yn gyfyngedig i ddalgylchoedd yng nghanolbarth a de Cymru lle mae ansawdd y dŵr a ffactorau eraill yn addas ar gyfer eu goroesiad, gyda phoblogaethau o bwys penodol yn afon Gwy a’i hisafonydd yn y Gororau. Os yw eich cynllun arfaethedig yn un o'r dalgylchoedd hyn, cysylltwch â ni a byddwn yn eich cynghori ynglŷn ag a fydd angen i chi gynnal arolwg ar gyfer y rhywogaethau hyn. Yn ogystal, byddwn hefyd yn eich cynghori p’un a oes angen arolwg o fisglod perlog (Margaritifera margaritifera).

Fel arfer, ni fyddwch yn gorfod cynnal arolygon ar gyfer bryoffytau prin, oni bai eich bod yn cynnig datblygiad o fewn safle dynodedig lle gall rhywogaethau o fryoffytau gwarchodedig fod yn bresennol. Gall fod eithriadau lle bydd angen arolygon arnom y tu allan i safleoedd dynodedig. Byddwn yn eich cynghori ar ôl i ni dderbyn eich cais os bydd angen arolwg o fryoffytau ar gyfer cynigion ym Mharth 2 neu Barth 3.

Cynefin cynhaliol

At ddibenion trwyddedu tyniadau a chroniadau dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr, rydym yn diffinio cynefinoedd cynhaliol fel y rheiny y tu hwnt i ffiniau Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy'n cynnal nodweddion symudol y safleoedd hynny am eu cylch bywyd cyfan neu ran ohono. Gallai hyn gynnwys isafonydd safleoedd afonydd dynodedig, neu ddalgylchoedd i fyny'r afon neu i lawr yr afon y safleoedd hynny. Mae sawl afon yng Nghymru'n ddynodedig ar gyfer eogiaid Iwerydd (Salmo salar) ac, yn aml, gellir gweld y rhywogaeth hon i fyny’r afon o ffiniau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Yn ogystal, gall cyrsiau dŵr i fyny’r afon neu i lawr yr afon o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, neu gyfagos iddynt, sy'n cynnal cynefin hen goed derw mes digoes gynnwys poblogaethau pwysig o fwsoglau a llysiau'r afu sy'n rhan o'r boblogaeth bryoffytau ehangach yr Ardal Cadwraeth Arbennig. Mewn achosion o'r fath, bydd y Rheoliadau Cynefinoedd yn berthnasol i unrhyw gynlluniau ynni dŵr sy'n effeithio o bosib ar integredd y cynefinoedd hyn. Rydym yn cymhwyso'r un cyfyngiadau i dyniadau dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr mewn cynefinoedd cynhaliol ag yr ydym i'r rheiny sydd wedi'u lleoli mewn safleoedd dynodedig neu sy'n effeithio arnynt.

Mae eogiaid yr Iwerydd yn nodweddion hysbysedig yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol canlynol:

  • Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
  • Afon Teifi
  • Afon Wysg
  • Afon Gwy
  • Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn

Mae unrhyw afonydd neu nentydd i fyny’r afon o'r safleoedd hyn yn gynefin cynhaliol oni bai fod modd dangos nad yw lleoliad cynllun ynni dŵr arfaethedig yn hygyrch i eogiaid mudol ar hyn o bryd nac yn y dyfodol (er enghraifft, fel rhan o brosiect adfer afon). Gall mynediad gael ei gyfyngu gan rwystrau naturiol neu o waith dyn i lawr yr afon, megis coredau, rhaeadrau neu sylfeini cwlferau/pontydd.

Bydd angen i ymgeiswyr roi tystiolaeth i ni o rwystrau nad oes modd mynd heibio iddynt i fudo i fyny’r afon os ydynt yn dymuno dangos nad yw hyd afon yr effeithir arno gan gynllun ynni dŵr yn cymhwyso fel cynefin cynhaliol.

Ardaloedd silio eogiaid

Mae poblogaethau eogiaid yr Iwerydd yn dirywio'n sylweddol yn afonydd Cymru. Mae'r cyfyngiadau rydym yn eu rhoi ar dyniadau dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr y tu allan i safleoedd dynodedig ac mewn cynefinoedd cynhaliol wedi'u dylunio i ddiogelu'r rhan fwyaf o gynefinoedd ac amodau llif i eogiaid. Mae ardaloedd silio eogiaid yn ardaloedd o raean a cherrig mân ar wely'r afon lle mae'r eogiaid yn dodwy eu hwyau. Mae'r amodau sianel a llif sy'n creu ac sy'n cynnal graean a cherrig mân yr ardaloedd silio yn golygu y gallant fod yn hynod sensitif i newid a bod angen lefelau uwch o ddiogelwch llif arnynt. Felly dylai mewnlifoedd a gollyngfeydd cynlluniau ynni dŵr gael eu lleoli i osgoi ardaloedd silio eogiaid. Byddwn yn cymhwyso'r un cyfyngiadau i dyniadau dŵr ar gyfer cynlluniau ynni dŵr sy'n effeithio ar ardaloedd silio eogiaid cyfredol neu bosib fel yr ydym ar gyfer y sawl sydd wedi'u lleoli mewn safleoedd dynodedig a chynefinoedd cynhaliol, neu sy'n effeithio arnynt.

Dylai datblygwyr benderfynu a yw’r hyd o afon yr effeithir arno gan ddatblygiad ynni dŵr posib yn hygyrch i eogiaid mudol. Fel gyda chynefin cynhaliol, mae modd penderfynu ar hyn o wybodaeth leol neu drwy gynnwys asesiad o a oes rhwystrau nad oes modd mynd heibio iddynt wrth fudo i fyny’r afon sy'n atal eogiaid rhag cyrraedd y safle ynni dŵr. Dylai'r arolwg geomorffoleg gael ei ddefnyddio i ganfod a oes unrhyw ardaloedd o raean glân yn yr hyd o afon yr effeithir arnynt gan ddatblygiad ynni dŵr arfaethedig. Os byddant yn bresennol, yna gallant fod yn ardaloedd silio cyfredol neu bosib os yw'r hyd yn hygyrch gan eogiaid.

Darllenwch am drwyddedu coredau ar gyfer cynlluniau ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf