Cymeradwyaethau, trwyddedau a chydsyniadau ar gyfer datblygiadau ynni dŵr yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae'r nodiadau arweiniol hyn yn esbonio pa gydsyniadau a chaniatadau sydd angen i chi eu cael cyn y gallwch adeiladu a gweithredu cynllun ynni dŵr yng Nghymru a pham mae angen y rhain. Maent hefyd yn nodi'r egwyddorion y mae'n rhaid i chi eu hystyried wrth leoli a chynllunio eich cynllun ynni dŵr er mwyn lleihau ei effaith ar amgylchedd yr afon.

Maent yn disgrifio sut i gyflwyno cais am drwydded tynnu a/neu gronni dŵr, sut rydym yn asesu eich cais, a sut rydym yn penderfynu a allwn ddyrannu'r trwyddedau.

Pa gydsyniadau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cynllun ynni dŵr? 

Bydd angen i ddatblygwyr gael sawl cymeradwyaeth, trwydded a chydsyniad cyn adeiladu a gweithredu unrhyw gynllun ynni dŵr.

Mae'r rhan fwyaf o'r caniatadau y bydd eu hangen ar gyfer cynllun ynni dŵr yn cael dyrannu gennym ni a'r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer eich ardal (eich cyngor sir neu Awdurdod Parc Cenedlaethol).

Trwyddedu adnoddau dŵr ar gyfer ynni dŵr 

Mae trwyddedau adnoddau dŵr yn disgrifio teulu o drwyddedau a ddyrennir dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Adnoddau Dŵr 2003. Mae'r rhain yn cynnwys trwyddedau tynnu a chronni dŵr.

Tynnu dŵr ar gyfer cynhyrchu pŵer

Os ydych yn bwriadu tynnu dŵr allan o afon neu nant ar gyfer eich cynllun ynni dŵr, yna bydd angen i chi gael trwydded tynnu dŵr gennym. Mae trwydded tynnu dŵr yn nodi manylion faint o ddŵr sy'n gallu cael ei dynnu ac mae'n nodi amodau ar sut y dylid gweithredu’r gwaith tynnu dŵr fel bod digon o ddŵr yn aros yn y cwrs dŵr i ddiogelu ecoleg, tirweddau, a hawliau defnyddwyr dŵr eraill.

Trwyddedau tynnu dŵr

Mae yna ddau brif fath o drwydded tynnu dŵr:

Trwydded lawn – Dyma'r math mwyaf cyffredin o drwydded ac mae'n ofynnol er mwyn tynnu dŵr o ffynhonnell cyflenwad (er enghraifft, afon neu nant) lle defnyddir y dŵr hwnnw yn uniongyrchol at ddiben – yn achos ynni dŵr, lle caiff dŵr ei dynnu a'i gludo drwy bibell neu sianel agored yn uniongyrchol at dyrbin er mwyn cynhyrchu pŵer.

Trwydded drosglwyddo - Mae angen y math hwn o drwydded lle caiff dŵr ei drosglwyddo o un ffynhonnell cyflenwad i un arall, neu i bwynt arall yn yr un ffynhonnell cyflenwad, heb gael ei ddefnyddio rhyngddynt. Er enghraifft, gall tynnu dŵr ar gyfer cynllun ynni dŵr gynnwys cludo dŵr o un sianel i sianel arall, efallai o'r brif afon i ffrwd, lle bydd yn cael ei ail-dynnu’n ddiweddarach i’w ddefnyddio mewn tyrbin.

Canieteir y gwaith tynnu dŵr hwn, yn rhannol, gan ddefnyddio trwydded drosglwyddo i awdurdodi tynnu dŵr o brif ffynhonnell y cyflenwad.

Mae trwyddedau tynnu dŵr newydd yn gyfyngedig o ran amser – bydd hyn, dros dro, y dyddiad dod i ben cyffredin ar gyfer y dalgylch, fel y’i nodir yn ein strategaethau rheoli tynnu dŵr. Bydd cyfyngiadau amser yn amrywio o chwe blynedd hyd ar uchafswm o 18 mlynedd. Mae trwyddedau'n gymwys i gael eu hadnewyddu unwaith eu bod wedi cyrraedd y dyddiad dod i ben cyffredin.

Efallai na fydd angen trwydded tynnu dŵr os yw cynllun ynni dŵr wedi'i leoli'n gyfan gwbl mewn cwrs dŵr ac nid yw dŵr yn cael ei dynnu allan o ffynhonnell y cyflenwad hwnnw. Gall enghraifft o hyn gynnwys cynllun cwymp bychan lle caiff tyrbinau eu gosod ar gored sydd eisoes yn bodoli ac mae’r dŵr yn parhau yn y sianel pan fyddant ar waith.

Adeiladu croniad dŵr

Mae angen adeiladu naill ai cored newydd yn yr afon, neu addasu cored gyfredol, ar y rhan fwyaf o gynlluniau ynni dŵr mewn afonydd er mwyn i’r dŵr gael ei dynnu.  Mae'n debygol y bydd angen sawl cydsyniad er mwyn awdurdodi hyn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Trwydded cronni dŵr
  • Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd neu Gydsyniad Cwrs Dŵr Cyffredin
  • Caniatâd cynllunio

Trwyddedau cronni dŵr

Mae trwydded cronni dŵr yn angenrheidiol i sicrhau nad yw unrhyw argae, cored neu adeiledd hydrolig tebyg arfaethedig, neu addasiad i adeiledd sydd eisoes yn bodoli yn yr afon, yn rhwystro llif yr afon er anfantais i amgylchedd yr afon neu ddefnyddwyr dŵr eraill.

Bydd angen i ymgeiswyr roi lluniadau i ni sy'n dangos dyluniad hydrolig arfaethedig adeiledd mewnlif ynni dŵr a sut bydd yn rheoli'r gwaith tynnu dŵr cysylltiedig. Dylid nodi ein bod yn annhebygol o drwyddedu croniadau dŵr newydd mewn afonydd a nentydd mewn rhannau is o ddalgylch oherwydd gallant fod yn niweidiol iawn i gysylltedd ecosystem yr afon, cludiant gwaddod ac ansawdd cynefinoedd.

Rydym yn fwy tebygol o drwyddedu croniadau dŵr newydd mewn dalgylchoedd bychain a serth yn yr ucheldir lle gall egwyddorion effaith isel lleoli a chynllunio gael eu cymhwyso i adeileddau newydd fel y gallant ddyblygu nodweddion sianeli sy'n digwydd yn naturiol.

Ar gyfer cynlluniau mawr, efallai y bydd angen cytundeb arnom hefyd gyda'r gweithredwr o dan Adran 158 o’r Ddeddf Adnoddau Dŵr i reoleiddio'r ffordd y cânt eu gweithredu. Bydd angen i'r cytundebau hyn ymwneud â hawliau mynediad ac efallai y bydd angen iddynt gynnwys rheoli llif afonydd, cynnal a chadw'r gored ac adeileddau afon, pysgodfeydd, a materion eraill sy’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd.

Ar gyfer cynlluniau sy'n cynnwys adnewyddu neu ailgyflwyno adeileddau cyfredol a hanesyddol megis hen felinau neu goredau, byddwn yn ystyried a oes angen trwydded cronni dŵr fesul achos. Ein cyngor cyffredinol yw os ydych yn bwriadu gwneud newidiadau i adeiledd cyfredol, mae'n debygol y bydd angen trwydded arnoch.

Cymeradwyaeth ar gyfer ysgol bysgod

Mae cymeradwyaeth ffurfiol yn disgrifio proses gyfreithiol, sy'n debyg ond ar wahân i'r broses trwyddedu tynnu a chronni dŵr, lle mae'n rhaid i ymgeisydd gyflwyno lluniadau peirianneg manwl o ysgol bysgod arfaethedig i ni. Caiff y dyluniad ei adolygu gan arbenigwyr a derbyn cymeradwyaeth ffurfiol pan fo'r dyluniad wedi'i dderbyn. Yna mae'n rhaid i'r ysgol bysgod gael ei hadeiladu yn unol â'r dyluniad cymeradwy.

Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd, Cydsyniadau Draenio Tir a Chydsyniadau Cyrsiau Dŵr Cyffredin

Efallai y bydd angen i chi gyflwyno cais am Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd neu gofrestru am esemptiad ar gyfer gwaith parhaol neu dros dro rydych yn bwriadu ei wneud mewn sianel prif afon ddynodedig o fewn wyth metr i'r glannau (16 metr os yw'n afon lanwol) os yw'r gwaith yn effeithio ar ased rheoli perygl llifogydd neu'n gallu i gynnal yr ased, a hefyd am rai gweithgareddau yn y gorlifdir ehangach. Caiff Trwyddedau Gweithgarwch Perygl Llifogydd ac esemptiadau eu dyrannu neu eu cofrestru gennym ni. Dylech gyfeirio at adran berthnasol ein gwefan, driwyr ddolen isod, am ragor o wybodaeth.

Darllenwch fwy am weithgareddau risg llifogydd

Efallai y bydd angen i chi gyflwyno cais am Gydsyniad Draenio Tir gennym os ydych yn bwriadu gwneud gwaith parhaol neu dros dro mewn Ardal Draenio Mewnol. Dylech gyfeirio at adran berthnasol ein gwefan, driwyr ddolen isod, am ragor o wybodaeth.

Darllenwch fwy am gydsyniad draenio tir

Efallai y bydd angen i chi gyflwyno cais am Gydsyniad Cwrs Dŵr Cyffredin os ydych yn bwriadu gwneud gwaith parhaol neu dros dro mewn cwrs dŵr cyffredin neu gyfagos ag ef. Dyrennir Cydsyniadau Cwrs Dŵr Cyffredin gan yr Awdurdod Arweiniol Llifogydd Lleol o fewn yr awdurdod lleol perthnasol a bydd angen i chi gysylltu ag ef am ragor o wybodaeth.

Statws cyfreithiol yw prif afon a chwrs dŵr cyffredin a roddir i hyd penodol o afon. Mae prif afonydd yn dueddol o fod, ond nid bob tro, yn afonydd mwy mewn rhannau is dalgylch, ac mae cyrsiau dŵr cyffredin yn isafonydd llai yn yr ucheldir fel arfer.

Gallwch weld statws cwrs dŵr y mae gennych ddiddordeb ynddo ar y Mapiau Perygl Llifogydd Tymor Hir (golwg map fanwl) sydd ar gael ar ein gwefan.

Caniatâd cynllunio

Ym mhob achos bron, bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio gan eich awdurdod cynllunio lleol cyn i chi adeiladu unrhyw ran o'ch cynllun ynni dŵr. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol. Mae'n bwysig cysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol i drafod eich cynlluniau ar gam cynnar yn y broses. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gallu dweud wrthych ba rannau o'r cynllun y mae angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer.

Byddwn hefyd yn ceisio trefniadau diogelu amgylcheddol mewn cysylltiad â datblygiad drwy drefnau cydsynio eraill fel cynllunio. Rydym yn ymgyngoreion statudol i awdurdodau cynllunio lleol a byddwn yn darparu cyngor ar ddiogelu’r amgylchedd iddynt.

Mae caniatâd cynllunio'n pennu a yw cynllun ynni dŵr yn ddefnydd derbyniol o dir (sy’n cynnwys gwely’r afon), gan ystyried amrywiaeth eang o ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, esthetig ac economaidd. Mae’r rhain yn cynnwys effeithiau a materion cronnus posib megis:

  • golwg ffisegol unrhyw adeiladau
  • ecoleg
  • morffoleg yr afon
  • tirwedd
  • amwynder
  • perygl llifogydd
  • archaeoleg

Asesiad canlyniadau llifogydd

Gall cynllun ynni dŵr gynyddu perygl llifogydd neu effeithio ar yr hyn a fyddai’n digwydd pe bai llifogydd. Bydd angen i chi werthuso'r effeithiau posib fel rhan o unrhyw gais cynllunio. Mae'n debygol y bydd angen i chi gynnal asesiad canlyniadau llifogydd oherwydd hyn.

Astudiaeth y gellir ei defnyddio i ddangos bod modd rheoli risgiau a chanlyniadau llifogydd eich datblygiad yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru a'r DU ar reoli perygl llifogydd yw asesiad canlyniadau llifogydd.

Bydd yr asesiad hwn yn ffurfio rhan o'ch cais cynllunio i'ch awdurdod cynllunio lleol. Rydym yn darparu cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ar reoli perygl llifogydd oherwydd datblygiadau.

Ymgynghori â defnyddwyr eraill yr afon

Gall cynlluniau ynni dŵr effeithio ar gymunedau lleol, defnyddwyr eraill yr afon a'r amgylchedd. Cyn i chi gyflwyno cais, rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â grwpiau â buddiant a chymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sydd ganddynt. 

Efallai y bydd angen i chi ymgynghori â'r canlynol:

  • cymdogion – gan gynnwys tirfeddianwyr, preswylwyr a busnesau
  • tynwyr dŵr a defnyddwyr afon cyfredol – gan gynnwys ffermwyr, cwmnïau dŵr, clybiau genweirio lleol, a chyrff cynrychiadol megis Glandŵr Cymru, y Gymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol, Undeb Canŵio Prydain a’r Cerddwyr
  • cyrff amgylcheddol – megis Afonydd Cymru, Cadwraeth Eogiaid a Brithyllod, Ymddiriedolaethau Afonydd, yr Ymddiriedolaethau Natur, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), cymdeithasau Parciau Cenedlaethol, neu gymdeithasau a sefydliadau sy'n gyfrifol am Ardaloedd o Harddwch Eithriadol Naturiol
  • swyddogion awdurdodau lleol sy'n delio ag iechyd yr amgylchedd, priffyrdd, perygl llifogydd lleol, ecoleg, amwynderau ac archaeoleg
  • sefydliadau â buddiant yn yr amgylchedd adeiledig – gan gynnwys Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru

Darllenwch fwy am wneud cais am drwyddedau ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf