Mae pysgod yn pasio ar gyfer coredau ynni dŵr

Bydd angen cynllunio'r rhan fwyaf o goredau ynni dŵr sy'n dibynnu ar lif yr afon fel eu bod yn ei gwneud yn bosibl i bysgod a rhywogaethau dyfrol eraill fudo i fyny ac i lawr yr afon. Gellir cynnal mudo pysgod i fyny'r afon drwy adeiladu llwybr pysgod.

Gellir rhannu llwybrau pysgod yn ddau brif fath fel a ganlyn:

  1. llwybr pysgod ffurfiol neu dechnegol
  2. ramp osgoi neu lwybr pysgod annhechnegol

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng ysgol bysgod ffurfiol a ramp osgoi?

Fel arfer, caiff llwybrau pysgod eu hadeiladu yn unol â safonau cynllunio hydrolig manwl sy'n darparu amodau llif penodol ar gyfer mudo pysgod. Cyfeirir atynt yn aml fel llwybrau pysgod technegol am y rheswm hwn, a dylent gael eu cynllunio gan beirianwyr amgylcheddol arbenigol. Mae'n ofynnol cael cymeradwyaeth ffurfiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu cyfer, ac mae'n debygol y bydd yn ofynnol eu darparu ar hyd llwybrau mudo eogiaid a brithyllod môr, neu lle mae'n bosibl y caiff mynediad ei wella yn y dyfodol fel rhan o gynllun adfer afon. Dylai datblygwyr gyfeirio at Fish Pass Manual Asiantaeth yr Amgylchedd am gynlluniau ar gyfer llwybrau pysgod ffurfiol.

Mae ramp osgoi'n disgrifio math annhechnegol o ysgol bysgod na fydd efallai'n ofynnol cael cymeradwyaeth ffurfiol ar ei gyfer. Er mai ei ddiben o hyd yw darparu llwybr pysgod dros rwystr yn yr afon, mae cynllun ramp osgoi yn tueddu i fod yn llai cymhleth nag ysgol bysgod ffurfiol, a gall hyd yn oed gwmpasu gwaith bach fel gwaith gosod rhag-fared neu ôl-osod trawstiau pren i wyneb cored er mwyn gwella amodau'r llif, yn hytrach nag adeiladu adeiledd llwybr pysgod cyfan. Bydd angen sicrhau o hyd bod ramp osgoi o safon a fydd yn ennyn cymeradwyaeth ein swyddog pysgodfeydd lleol.

Bydd ramp osgoi yn dal i fod yn ofynnol ar goredau ynni dŵr sydd y tu hwnt i derfynau llwybrau mudo eogiaid a brithyllod môr i fyny'r afon mewn achosion lle mae'n ofynnol darparu llwybr i fyny'r afon ar gyfer brithyllod a rhywogaethau eraill o bysgod brodorol. Mae'r safleoedd hyn yn tueddu i fod mewn afonydd a nentydd o ddalgylchoedd llai ar yr ucheldir, ac maent yn gyffredin ymhlith y rhan fwyaf o gynlluniau ynni dŵr â chwymp mawr ac ar raddfa fach sy’n dibynnu ar lif yr afon. Y math o ramp osgoi a ffefrir gennym ar gyfer coredau ynni dŵr yw'r cynllun â ramp lled-naturiol o gerrig y byddwn yn ei ddisgrifio ymhellach ymlaen yn yr adran hon. Dylid cynnwys cynllun y ramp osgoi yn y lluniadau peirianneg a gyflwynir wrth wneud cais am drwydded cronni dŵr, a chaiff ei asesu gan ein harbenigwyr pysgodfeydd yn ystod y broses o bennu trwyddedau.

Mae hefyd yn debygol y bydd angen darparu llwybr i fyny'r afon ar gyfer llyswennod yn y rhan fwyaf o goredau ynni dŵr. Mae gan lyswennod nodweddion mudo gwahanol i bysgod, ac mae'n bosibl na fydd yr amodau llif mewn llwybrau pysgod yn addas ar gyfer llyswennod. Yn yr achosion hyn, mae'n bosibl y bydd angen darparu llwybr ar wahân ar gyfer llyswennod. Trafodir cynlluniau ar gyfer llwybrau llyswennod ar ddiwedd yr adran hon.

Bydd angen darparu llwybr pysgod i lawr yr afon ymhob cored ynni dŵr. Dylid cyflawni hyn trwy ddefnyddio hollt â siâp petryal sy'n ei gwneud yn bosibl i'r llif isel gwarchodedig fynd drwyddi ac sy’n sicrhau bod pysgod yn rhydd i symud dros ran mewnlif gorlif â sgrin a rhan llif gweddilliol y gored dan amodau llif uchel, a dylid sicrhau bod plymbwll islaw'r ddwy ran hyn er mwyn diogelu pysgod rhag cael anaf corfforol a rhag mynd yn sownd ar y lan.

Ym mha sefyllfaoedd y bydd angen gosod ysgol bysgod neu ramp osgoi?

Mae'n debygol y bydd yn ofyniad gennym fod ysgol bysgod neu ramp osgoi yn cael ei adeiladu yn yr achosion canlynol:

  • Pan gaiff croniad dŵr newydd ei adeiladu
  • Pan gaiff croniad dŵr ei ailadeiladu neu ei adfer fel ei fod yn ymestyn dros fwy na hanner ei hyd gwreiddiol
  • Pan gaiff croniad dŵr presennol ei godi, neu ei addasu mewn unrhyw ffordd arall, neu pan fydd unrhyw rwystr arall i lwybr eogiaid neu frithyllod mudol, neu rywogaethau eraill o bysgod lleol, yn cael ei greu neu'n cynyddu

Efallai y bydd yn ofyniad gennym fod datblygwr yn ariannu gwelliannau i lwybr pysgod fel rhan o gynllun ar safle lle mae gwella llwybrau pysgod yn un o'r amcanion amgylcheddol lleol, a hynny er efallai na fydd cyflwyno'r cynllun ynni dŵr yn gwaethygu'r llwybr pysgod presennol.

Lle mae modd mynd heibio i adeiledd sydd eisoes yn yr afon (boed hwnnw'n adeiledd naturiol neu o law dyn), gall gostyngiad yn y llif drosto, yn sgil tynnu dŵr i gynhyrchu ynni, leihau effeithlonrwydd mudo pysgod, neu gyfyngu ar y cyfle i bysgod fynd heibio iddo. Mewn achosion o'r fath, mae'n bosibl y bydd angen addasu trefniadau'r tyniad dŵr er mwyn cynnal llifau digonol ar gyfer mudo pysgod. Fel arall, efallai y bydd angen gwneud addasiadau i'r adeileddau, fel gostwng, tynnu neu adeiladu rampiau osgoi, er mwyn cynnal y lefel weithredu bresennol.

Egwyddorion allweddol – gofynion ar gyfer llwybrau pysgod ffurfiol a rampiau osgoi

  • Dylech gysylltu â'ch swyddog pysgodfeydd CNC lleol i drafod gofynion ar gyfer ysgolion pysgod.
  • Dylech gynnwys cynlluniau ar gyfer ysgol bysgod dechnegol a ffurfiol os yw'ch cynllun arfaethedig wedi'i leoli ar ran o lwybr mudo hysbys ar gyfer eogiaid a brithyllod môr oni bai fod cynllun amgen wedi'i gytuno gan swyddogion pysgodfeydd CNC.
  • Dylech gynnwys cynlluniau ar gyfer ramp osgoi annhechnegol os na all eogiaid a brithyllod môr mudol gyrraedd y gored gronni ar gyfer eich cynllun, oni bai fod swyddogion pysgodfeydd CNC wedi'ch cynghori nad yw ysgol bysgod yn ofynnol.
  • Dylech gyfeirio at ddogfen Fish Pass Manual Asiantaeth yr Amgylchedd a chomisiynu peiriannydd amgylcheddol arbenigol i gynllunio'ch ysgol bysgod ffurfiol.
  • Dylech wneud cais cymeradwyo llwybr pysgod i CNC ar gyfer adeiladu ysgol bysgod ffurfiol.

Egwyddorion cynllunio cyffredinol ar gyfer rampiau osgoi i bysgod

Fel arfer, dylid sicrhau bod pen ysgol bysgod neu ramp osgoi ger all-lif yr hollt llif isel a'r gored llif gweddilliol. Dylai pen y ramp osgoi fod ar brif grib y gored a dylid sicrhau ei fod yn ganolig yn y brif sianel yn hytrach nag ar ran ymylol.

Yn Adran 8, ar Egwyddorion cynllunio ar gyfer coredau ynni dŵr, ar gyfer achosion lle bo'n ofynnol darparu llwybr pysgod, gwnaethom nodi y dylai gwaelod yr hollt llif isel ddisgyn ar ongl tuag at bwll uchaf yr ysgol. Mae'r ffaith fod y gwaelod ar ongl yn ei gwneud yn bosibl i ddŵr lifo trwy'r hollt ac i mewn i'r ysgol bysgod ar ffurf llen ymlynol lle mae'r llif sy'n arllwys o'r hollt mewn cysylltiad cyson â gwely'r sianel heb fod unrhyw fwlch aer oddi tani. Mae hyn yn darparu amodau hydrolig gwell i bysgod fel y gallant deithio i fyny'r afon yn erbyn cyfeiriad y llif. Mae'n rhaid i ddimensiynau'r hollt llif isel fod o faint sy'n sicrhau y cyflawnir y gyfradd llif isel gwarchodedig a bennir ar y drwydded tynnu dŵr.

Dylid cynllunio bod pen yr ysgol bysgod yn ei gwneud hi'n bosibl i ddŵr lifo trwy'r hollt llif isel yn rhwydd.

Dylai lled cyfunol y gored mewnlif a'r ysgol bysgod neu ramp osgoi fod o fewn lled naturiol sianel yr afon, a dylid osgoi unrhyw waith lledu'r sianel.

Llifau trwy ysgolion pysgod a rampiau osgoi

Yn achos ysgolion pysgod neu rampiau osgoi bach, bydd y llif isel gwarchodedig fel arfer yn darparu'r llif lleiaf sydd ei angen er mwyn i'r ysgol weithredu'n effeithiol, gyda llif ychwanegol yn mynd dros ran llif gweddilliol y gored. Mae'n bosibl y bydd angen cyfradd llif uwch ar gyfer ysgolion pysgod mwy. Yn achos o'r fath, caiff trothwy'r llif annibynnol ei gynyddu er mwyn cynnwys y llif isel gwarchodedig ynghyd â'r llif ar gyfer yr ysgol bysgod. Bydd cyfradd y llif yn ddibynnol ar fath a chynllun yr ysgol.

Dylid cydleoli all-lifau ysgolion pysgod gyda'r ffynhonnell fwyaf nesaf o lif dros y gored, fel rhan y llif gweddilliol, er mwyn cyflwyno'r swm mwyaf posibl o ddŵr ar gyfer atynnu pysgod ac i hwyluso mudo.

Egwyddorion allweddol – cynllunio ysgolion pysgod

  • Dylech leoli pen yr ysgol bysgod neu ramp osgoi fel ei fod yn derbyn yr all-lif o'r hollt llif isel ac o ran llif gweddilliol y gored.
  • Dylech sicrhau bod pen yr ysgol bysgod neu'r ramp osgoi wedi'i leoli ar brif grib y gored yn hytrach na'i fod yn cael ei gyflenwi gan sgil-lif ymylol.
  • Dylech sicrhau bod gwaelod yr hollt llif isel yn disgyn ar ongl tuag at yr ysgol bysgod neu ramp osgoi er mwyn gwella amodau'r llif ar gyfer mudo i fyny'r afon.
  • Dylech sicrhau nad yw'r llif yn ôl-gronni ym mhen yr ysgol bysgod ac yn cael effaith ar y gollyngiad trwy'r hollt llif isel gwarchodedig.
  • Dylech gynllunio'r ysgol bysgod neu ramp osgoi fel ei fod yn gorwedd o fewn lled naturiol y sianel.
  • Dylech sicrhau bod mynedfa i lawr yr afon yr ysgol bysgod neu'r ramp osgoi wedi'i chydleoli'n agos i'r llif gweddilliol er mwyn cyflwyno llif atynnu cryf i bysgod.
  • Dylech gysylltu â'n swyddogion pysgodfeydd os ydych o'r farn y gallai fod angen newid cynllun eich ramp osgoi i bysgod yn ystod y broses adeiladu.

Ramp osgoi lled-naturiol o gerrig

Y ramp cerrig yw'r cynllun a ffefrir gennym ar gyfer rampiau osgoi ar gyfer cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach. Mae hwn yn defnyddio cerrig naturiol i greu sianel sy'n codi'n raddol a fydd yn darparu'r amodau llif i hwyluso taith pysgod i fyny'r afon a dros brif adeiledd y gored. Bydd cynlluniau ar gyfer y math o rampiau osgoi sy'n defnyddio cerrig yn amrywio yn ôl y safle. Y brif egwyddor cynllunio yw y dylai efelychu'r math o nodwedd a geir yn naturiol, fel sianel greigiog, pwll gris neu sgwd, a'i fod yn debyg, yn ddelfrydol, i'r rheiny a geir mewn hydoedd afon cyfagos.

Er ei bod yn ymddangos bod rampiau o gerrig yn adeileddau syml, mae'n rhaid iddynt gael eu cynllunio'n ofalus er mwyn iddynt fod yn effeithiol.

Dylid gosod rampiau o gerrig ym mhrif sianel yr afon, y mae'n rhaid iddi fod yn sefydlog. Dylid adeiladu'r ramp gyda cherrig o faint addas fel y bydd yn parhau i fod yn sefydlog o dan amodau llif llifogydd ac yn cadw ei gynllun gwreiddiol. Dylai maint y cerrig fod yn gyson â'r rheiny a geir yn naturiol yn yr hyd afon lleol er mwyn osgoi rhwystrau a'i gwneud yn bosibl i'r broses trosglwyddo gwaddod barhau. Ni ddylid tynnu'r cerrig a ddefnyddir i greu'r ramp o'r afon, ei gwely na'i glannau.

Dylai fod gan y ramp siâp V llydan, bras a sianel llif isel ganolig ac amlwg. Dylid cynllunio'r sianel ganolig fel y ceir llif ffrydiol trwy fylchau rhydd sy'n cynnal dyfnder a chyflymderau yn y llif sy'n addas ar gyfer mudo pysgod o dan amodau llif isel. Dylid cynllunio'r sianel llif isel fel ei bod yn dilyn llwybr ystumiol i lawr y ramp a dylid osgoi creu sgydau unffurf a serth. Dylid cynllunio'r sianel ganolig fel ei bod yn trawsgludo'r llif isel gwarchodedig ar y gyfradd a amlinellir yn amodau’r drwydded tynnu dŵr.

Yn ddelfrydol, dylai fod gan rampiau o gerrig raddiant o 10% ar y mwyaf (sef llethr lle mae'r uchder yn codi gan uned fertigol fesul deg uned lorweddol). Gall hyn fod yn anodd ei gyflawni mewn nentydd serth sy'n gyffredin i lawer o safleoedd micro-hydro. Mewn achosion felly, gellir defnyddio ramp mwy serth sydd â graddiant tebyg i'r sianel gyfagos os yw'r adeiledd wedi'i gynllunio'n dda.

Dylid adeiladu'r ramp gan ddefnyddio cerrig sylfaen sydd wedi'u gosod yn gadarn bob hyn a hyn ar hyd y ramp ac ar ei ymylon. Gellir gosod cerrig sylfaen fel cerrig mawrion unigol neu fel rhes ar draws y ramp. Mae'r rhain yn ffurfio angorau pwysig er mwyn clymu gweddill adeiledd y ramp yn ei le. Dylid gosod amrediad o gerrig llai rhwng y cerrig sylfaen, yn ofalus, er mwyn ffurfio llethr y ramp ac adeiladu'r sianel llif isel. Mae'n hanfodol nad yw adeiledd y ramp yn gollwng a'i fod yn dal dŵr o fewn y sianel a grëwyd. Gellir cyflawni hyn drwy ddefnyddio ychydig o goncrit i gloi cerrig sylfaen yn eu lle a llenwi bylchau, er y bydd gosod deunydd naturiol mwy mân, fel graean a thywod, yn y pyllau a bylchau hefyd yn helpu i gyflawni hyn. Bydd ramp sy'n gollwng yn cynyddu'r tebygolrwydd o fethiant trwy bibellau, lle mae tryddiferiad dŵr trwy'r adeiledd yn golchi deunydd mân i ffwrdd, gan arwain at y posibilrwydd y bydd yn symud neu'n cwympo.

Yn ddelfrydol, dylid ffurfio rampiau o gerrig o gwmpas cyfres o risiau a phyllau bach am yn ail. Dylid sicrhau bod unrhyw risiau yn y ramp o gerrig yn mesur 200 mm ar y mwyaf.

Dylid cynllunio'r all-lif ar waelod y ramp i mewn i sianel yr afon fel ei fod yn gollwng trwy fwlch cyfyngedig. Effaith hyn yw crynhoi'r all-lif er mwyn cyflwyno llif atynnu cryf i bysgod.

Llun yn dangos y math o ramp osgoi sy'n defnyddio cerrig ar gynllun micro-hydro sy'n efelychu nodweddion pyllau gris cyfagos yn y sianel

 

Llun yn dangos ramp osgoi i bysgod sydd wedi'i greu o gerrig mawrion i efelychu sianel naturiol gyda grisiau a phyllau.

Egwyddorion allweddol – rampiau osgoi o gerrig

  • Dylech ddefnyddio cynllun ar gyfer ramp sydd wedi'i wneud o gerrig os yw'n ofynnol darparu ramp osgoi.
  • Dylech efelychu nodweddion pyllau gris a geir yn naturiol.
  • Dylech ddefnyddio cerrig naturiol i greu ramp (peidiwch â thynnu deunyddiau o wely na glannau'r afon).
  • Dylech sicrhau bod pen y ramp wedi'i leoli ger all-lif yr hollt llif isel a rhan llif gweddilliol y gored.
  • Dylech ddefnyddio cerrig sylfaen o faint priodol i sicrhau sefydlogrwydd o dan amodau llif llifogydd.
  • Dylech adeiladu'r ramp fel bod ganddo ongl gyffredinol o 10%, neu raddiant tebyg i'r sianel afon gyfagos.
  • Dylech adeiladu'r ramp fel bod ganddo drawstoriad siâp V llydan, bras, a sianel llif isel ganolig ystumiol
  • Dylech sicrhau nad yw'r ramp yn gollwng – defnyddiwch amrediad o gerrig o feintiau gwahanol, a llenwch fylchau gyda gwaddod mân i sicrhau bod y llif yn aros o fewn y sianel a grëir
  • Sicrhewch nad oes gan risiau'r ramp gwymp o fwy na 200 mm
  • Sicrhewch fod gwaelod yr hollt llif isel ar y gored yn disgyn ar ongl fel y crëir llen ymlynol
  • Dylid sicrhau nad oes cwymp o fwy na 150 mm rhwng gwaelod yr hollt llif isel a lefel y dŵr ar ben uchaf y ramp osgoi
  • Sicrhewch fod yr all-lif ar waelod y ramp yn gollwng trwy fwlch cul er mwy cynyddu cryfder y llif atynnu

Rhag-faredau

Defnyddir rhag-faredau mewn sefyllfaoedd lle mae angen codi'r lefelau dŵr wrth fynd i fyny'r afon yn yr afon islaw'r gored, i greu plymbwll, neu i wella'r amodau llif fel y gall pysgod fynd heibio i rwystr yn yr afon.  Gellir adeiladu rhag-fared, neu sawl un ohonynt, drwy osod cerrig sylfaen ar draws gwely'r afon, ond dylid sicrhau bod sianel ganolig y gall y llif a gwaddod fynd drwyddi. Ni ddylid tynnu'r cerrig sylfaen a ddefnyddir ar gyfer y rhag-fared o'r afon, ei gwely, na'i glannau. Gellir hefyd osod un neu fwy o rag-faredau, fel trawstiau pren, ar ochr adeileddau concrit presennol sy'n wynebu i lawr yr afon er mwyn cynyddu dyfnder y dŵr ac i hwyluso mudo pysgod dros yr adeiledd.

Plymbyllau ar gyfer mudo pysgod i lawr yr afon

Dylid cynllunio coredau fel bod ganddynt blymbyllau sy'n ei gwneud yn bosibl i bysgod sy'n mudo i lawr yr afon fynd dros y gored a syrthio i mewn i ddyfnder o ddŵr sydd yn eu diogelu rhag anaf corfforol a rhag mynd yn sownd ar y lan.

Dylid sicrhau bod crib y gored yn rhydd rhag unrhyw ymwthiadau metel miniog neu goncrit, a bod ei hymylon yn llyfn neu wedi'u siamffro, er mwyn sicrhau bod pysgod yn rhydd i symud drosti yn ystod adegau o lif uwch. Dylai brig muriau cerrig neu goncrit o dan y sgrin mewnlif fod ar ongl, a dylid sicrhau eu bod mor gul â phosibl er mwyn lleihau'r risg eu bod yn achosi anafiadau corfforol i bysgod sy'n teithio dros y sgrin, ac i'w diogelu rhag mynd yn sownd ar y lan.

Dylai fod gan unrhyw blymbwll ddyfnder o 300 mm o leiaf. Dylai allanfa'r plymbwll fod yn hollt o tua'r un maint â hollt llif isel y brif gored, a dylai fod ganddi led o 150 mm a dyfnder o 50 mm o leiaf.

Yn ddelfrydol, dylid creu plymbyllau o ddeunyddiau naturiol, ac mae'n rhaid eu bod yn dal dŵr. Mae defnyddio cerrig mawrion i greu rhag-fared yn gweddu'n well i gynefin a golwg y sianel afon nag yw defnyddio adeiledd concrit ffurfiol sydd wedi'i gastio a'i atgyfnerthu. Bydd angen i gynllunwyr ystyried sut y ceir mynediad i'r gored er mwyn glanhau'r sgriniau gan y gall lleoli plymbwll i lawr yr afon o ran mewnlif y gored ei gwneud yn anodd cael mynediad i wneud gwaith cynnal a chadw arnynt. Bydd yn rhaid i unrhyw newidiadau arfaethedig i sianel neu wely'r afon, gan gynnwys symud deunyddiau naturiol i greu rhag-fared neu unrhyw waith peirianyddol arall yn yr afon, fod wedi'u dangos ar y lluniadau technegol ategol ar gyfer cais am drwydded.

Gall plymbyllau hefyd weithredu fel basnau llonyddu er mwyn lleihau egni'r llif i lawr yr afon o adeiledd ac i helpu i reoli erydu.

Dylid gosod llifddorau hefyd fel nad yw'r biblinell yn creu rhwystr yn y sianel i lawr yr afon o'r gored mewnlif, gan gyfyngu ar ryddid pysgod i deithio i lawr yr afon.

Llun yn dangos sut y defnyddiwyd cerrig mawrion i greu rhag-fared i ffurfio plymbwll i lawr yr afon o gored ynni dŵr

Egwyddorion allweddol – mudo pysgod i lawr yr afon a phlymbyllau

  • Sicrhewch fod plymbwll islaw unrhyw gored mewnlif.
  • Sicrhewch fod gan unrhyw blymbwll ddyfnder o 300 mm o leiaf.
  • Sicrhewch fod gan hollt all-lif plymbwll led o 150 mm a dyfnder o 50 mm o leiaf.
  • Dylech ddefnyddio cerrig mawrion i greu rhag-faredau er mwyn ffurfio plymbyllau.
  • Sicrhewch nad yw'r plymbwll yn gollwng ac y bydd bob amser yn dal dŵr.
  • Dylech gynnwys rhag-faredau yn eich lluniadau technegol.
  • Dylech osgoi gosod y llifddor yn y sianel i lawr yr afon o'r gored mewnlif.
  • Dylech osgoi arwynebau, plinthiau, neu rwystrau gwastad eraill yn yr afon yng nghynllun y gored a all gyfyngu ar ryddid pysgod i fudo i lawr yr afon.

Darllenwch am lwybro penstock ar gyfer cynllun ynni dŵr

Diweddarwyd ddiwethaf