Cewch wybod a oes angen trwydded arnoch i dynnu neu gronni dŵr
Bydd angen trwydded tynnu dŵr arnoch os ydych yn tynnu dŵr o ddŵr mewndirol neu o ddŵr daear, oni bai ei fod wedi'i eithrio rhag trwyddedu.
Gall dyfroedd mewndirol gynnwys:
- afon neu nant
- cronfa ddŵr, llyn neu bwll
- camlas
- tarddell
- doc, sianel, cilfach, bae, aber neu fraich o'r môr
Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded os oes angen un arnoch. Os ydych yn tynnu dŵr heb drwydded, pan fydd angen un, rydych yn cyflawni trosedd a gallwn gymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
Mathau o drwydded tynnu dŵr
Mae tri math o drwydded tynnu dŵr:
- trwydded tynnu dŵr lawn – i dynnu dŵr dros gyfnod o 28 diwrnod neu fwy
- trwydded trosglwyddo – i dynnu dŵr o un ffynhonnell gyflenwi i ffynhonnell gyflenwi arall heb ddefnydd rhyngddynt, dros gyfnod o 28 diwrnod neu fwy
- trwydded tynnu dŵr dros dro – ar gyfer tynnu dŵr untro dros gyfnod o lai na 28 diwrnod
Tyniadau nad oes angen trwydded arnynt
Nid oes angen trwydded tynnu dŵr arnoch ar gyfer:
- tyniadau dŵr o 20 metr ciwbig y dydd neu lai
- tynnu dŵr gan long ar gyfer defnydd ar y llong honno neu long arall
- tynnu dŵr at ddibenion ymladd tân, neu ar gyfer hyfforddi/ymarfer neu brofi cyfarpar a ddefnyddir wrth ymladd tân
- rhai tyniadau dŵr gan awdurdodau mordwyaeth, harbwr neu warchodaeth
- tyniadau dŵr o fewn systemau gwlyptir a reolir
- draenio dŵr (dihysbyddu dŵr) i atal ymyrraeth gyda gwaith adeiladu neu beirianneg, lle mae'r tynnu dŵr yn parhau am lai na chwe mis yn olynol, yn amodol ar gyfyngiadau
- dociau sych a weithredir gan drydydd parti sy'n trosglwyddo dŵr i system ddŵr awdurdod mordwyaeth neu oddi wrthi
- tyniadau dŵr mewn argyfwng gan awdurdodau mordwyaeth, harbwr neu warchodaeth
Os nad ydych yn sicr a oes angen trwydded arnoch neu ba fath sydd ei angen arnoch, gallwch ofyn am gyngor cyn gwneud cais.
Rhagor am ein gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais
Tyniadau dŵr ychwanegol at ddibenion eraill
Os ydych hefyd yn tynnu dŵr, neu'n gwneud cynnig i dynnu dŵr, o'r un ffynhonnell gyflenwi (afon/nant/twll turio) at fwy nag un diben, h.y. cyflenwad dŵr preifat ac ynni dŵr, bydd angen i chi ddarparu manylion am hyn gyda'ch cais. Os ydych yn ddefnyddiwr dŵr wedi'i ddadreoleiddio (tyniadau dŵr o lai nag 20 metr ciwbig y dydd), mae angen i chi gynnwys y meintiau hyn yn eich cais a bydd tâl yn cael ei godi am y defnydd hwnnw.
Oes angen trwydded arnoch os ydych yn rhwystro neu atal (cronni) dŵr?
Gall croniadau gynnwys:
- argaeau
- coredau
- llwybrau pysgod
- tyrbinau ynni dŵr
- llifddorau
- llifddorau lloc
- cwlfertau
- muriau cynnal, cafnau
- argloddiau cronfeydd dŵr
- gwyriadau dros dro yn ystod gwaith adeiladu
Bydd angen trwydded cronni dŵr arnoch os ydych yn adeiladu, addasu, atgyweirio neu dynnu adeiledd cronni dŵr.
Nid oes angen trwydded cronni dŵr arnoch ar gyfer y gweithgareddau canlynol sydd wedi'u heithrio:
- gwaith sydd wedi'i adeiladu heb drwydded cyn 1 Ebrill 2006, oni bai lle byddwn yn cyflwyno hysbysiad bod angen i chi wneud cais am drwydded
- lle mae awdurdod mordwyaeth, harbwr neu warchodaeth yn adeiladu neu addasu croniad dŵr, neu'n rhwystro neu atal llif wrth gyflawni ei ddyletswyddau
- lle mae gorchymyn sychder neu drwydded sycher yn ei awdurdodi
- lle mae'r unigolion sy'n gwneud y gwaith ag esemptiad y Goron
- lle mae adeileddau a gwaith wedi'u hawdurdodi gan ddeddfwriaeth (er enghraifft, gan Ddeddf Seneddol)
- lle rydym yn cyflwyno hysbysiad bod angen cronni dŵr at ddibenion sgrinio neu lwybr ar gyfer llyswennod yn unig
- gwaith sydd wedi'i adeiladu gennym ni neu ar ein rhan wrth gyflawni ein dyletswyddau o fewn ardaloedd draenio mewnol
- gwaith sydd ei angen mewn argyfwng
Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded os oes angen un arnoch. Os ydych yn rhwystro neu atal dŵr heb drwydded, pan fod angen un, rydych yn cyflawni trosedd a gallwn gymryd camau gorfodi yn eich erbyn.
Yr hyn y dylid ei wneud cyn gwneud cais
Gwybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud cyn gwneud cais am drwydded.
Os nad ydych yn sicr a oes angen trwydded arnoch neu ba fath sydd ei angen arnoch, gallwch ofyn am gyngor cyn gwneud cais.