Gwneud cais i newid trwydded tynnu neu gronni dŵr sy'n bodoli eisoes

Os oes angen i chi newid eich trwydded tynnu neu gronni dŵr, bydd angen i chi wneud cais am amrywiad.

Mathau o newidiadau y gallwch eu gwneud

Mae dau fath o amrywiad y gallwch wneud cais amdanynt:

Mân newid (amrywiad gweinyddol)

  • Newid enw neu gyfeiriad deiliad y drwydded
  • Trosglwyddo'r drwydded i rywun arall
  • Lleihau'r meintiau rydych yn eu tynnu

I wneud amrywiad gweinyddol i'ch trwydded tynnu neu gronni dŵr, llenwch ffurflen WRF

Amrywiad/adnewyddu syml

  • rhannu'r symiau trwyddedig yr ydych yn eu tynnu rhwng dau berson neu fwy (dosraniad)
  • ymestyn amod cymal hunanddinistrio
  • diweddaru amlder amodau cofnodi ac adrodd yn unol â'r canllawiau cyfredol
  • adnewyddu'r un telerau (lle nad oes pryderon amgylcheddol neu bryderon eraill wedi'u codi yn eich llythyr atgoffa adnewyddu)
  • telerau adnewyddu gwahanol (lle mae'r newid yn ostyngiad. Sy'n golygu gostyngiad mewn cyfeintiau neu ddileu pwynt/diben a chyfeintiau cysylltiedig)

Ar gyfer adnewyddiadau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod, er enghraifft, adnewyddu telerau gwahanol gyda chynnydd mewn niferoedd neu adnewyddu’r un telerau lle mae pryderon amgylcheddol wedi’u codi yn y llythyr atgoffa, codir yr un gyfradd am y rhain ag amrywiad technegol a bydd angen i ffurflenni WRA a WRD gael eu llenwi, gweler isod.

Amrywiad/adnewyddu technegol

Unrhyw newidiadau i amodau'r drwydded nad ydynt wedi'u rhestru uchod, gan gynnwys:

  • Cynyddu'r meintiau rydych yn eu tynnu
  • Newid lleoliad y tyniad
  • newid pwrpas
  • Newid cynllun/adeiledd croniad
  • Newidiadau i ddyluniadau a mapiau sydd ynghlwm wrth y ddogfen drwydded

Er mwyn gwneud newid cymhleth i'ch trwydded tynnu dŵr:

ac yna

 

I wneud amrywiad technegol i’ch trwydded cronni dŵr:

ac yna


Os yw eich trwydded tynnu dŵr i dynnu dŵr daear a’ch bod am wneud cais i gynyddu eich meintiau, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gydsyniad ymchwiliad dŵr daear newydd cyn y gallwch wneud cais i newid eich trwydded tynnu dŵr.

Faint fydd yn ei gostio?

Mae mân newidiadau yn rhad ac am ddim ac rydym yn anelu i brosesu eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith.

Mae angen ffi ymgeisio ar gyfer newidiadau cymhleth (amrywiadau technegol). Codir tâl ar gyfer y rhain ar yr un cyfraddau â chais newydd.

Gallwch ddod o hyd i'r rhain ar ein tudalen ‘Taliadau ar gyfer trwyddedau tynnu neu gronni dŵr’. Byddwn yn gwneud penderfyniad ar eich amrywiad technegol o fewn pedwar mis o dderbyn cais cyflawn os oes angen hysbysebu, neu dri mis os nad oes angen hysbysebu.

 

Diweddarwyd ddiwethaf