Datganiad rheoleiddio 133: Cydymffurfiaeth pEPR â rhwymedigaethau ailgylchu cynhyrchwyr 2026

Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 1 Chwefror 2027, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal i fod yn ddilys.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu’r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl, neu ei ddiwygio, cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r datganiad rheoleiddio hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.

Datganiad rheoleiddio

Nid yw'r Datganiad Rheoleiddio hwn yn newid eich gofynion cyfreithiol sef:  

  1. Cofrestru, os oes angen, fel cynhyrchydd mawr yn unol â Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchydd (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (y Rheoliadau). 
  2. Rhoi gwybod am ddata pecynwaith yn unol â'r Rheoliadau. 
  3. Gwneud pob ymdrech resymol i fodloni eich rhwymedigaethau ailgylchu.

Fodd bynnag, ni fydd CNC yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn os nad ydych yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau ailgylchu 2026 a nodir yn Atodlen 5 o'r Rheoliadau, os byddwch yn bodloni'r amodau a nodir yn y Datganiad Rheoleiddio hwn.

Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw

Mae eich rhwymedigaethau ailgylchu statudol ar gyfer blwyddyn gydymffurfio 2026 wedi'u nodi yn Atodlen 5 y Rheoliadau.

Rhaid i chi gyflawni eich rhwymedigaethau ailgylchu statudol llawn, ar gyfer alwminiwm, papur a gwydr.

Ar gyfer plastig, dur a phren mae'n rhaid i chi gyflawni lleiafswm o;

  • 83% o'ch rhwymedigaeth ailgylchu statudol ar gyfer plastig
  • 92% o'ch rhwymedigaeth ailgylchu statudol ar gyfer dur
  • 90% o'ch rhwymedigaeth ailgylchu statudol ar gyfer pren

Cadw cofnodion am 5 flynedd i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â'r datganiad rheoleiddio hwn, a sicrhau bod y cofnodion hynny ar gael i CNC ar gais.

Gorfodi

Nid yw'r datganiad rheoleiddio hwn yn newid nac yn dileu unrhyw un o'ch rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.

Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol penodol a nodir yn y datganiad rheoleiddio hwn.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad rheoleiddio hwn, e-bostiwch packaging@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf