Sut i gynnal asesiad risg ar gyfer Trwydded Amgylcheddol

Sut i gynnal asesiad risg

Wrth wneud cais am drwydded bwrpasol, neu i’w newid (amrywio), rhaid i chi gynnal asesiad risg.

Pryd y byddwn ni yn gwneud eich asesiad risg

Gallwch ofyn i ni wneud asesiad risg ar eich rhan yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn ffermwr sy’n gollwng sylweddau penodol i’r ddaear (gwastraff dipio defaid, plaladdwyr, golchion plaladdwyr)
  • mae eich gweithgareddau yn gollwng carthion domestig wedi'u trin i ddŵr wyneb neu i'r ddaear

Yn gyffredinol, byddwn yn cynnal eich asesiad risg os ydych yn gwneud cais am drwydded i ollwng y canlynol:

  • llai na 15 metr ciwbig o garthion wedi’u trin i’r ddaear, er enghraifft o danc carthion neu waith trin carthion bach, y tu allan i barth gwarchod tarddiad dŵr daear 1 (SPZ1)
  • carthion wedi'u trin neu elifiant masnach i mewn i afon
  • llai na 2 fetr ciwbig o garthion wedi’u trin i’r ddaear mewn SPZ1 dŵr daear, er enghraifft o danc carthion neu waith trin carthion bach

Rhaid i chi wneud eich asesiad risg eich hun os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gwmni dŵr neu'n weithredwr mawr tebyg
  • rydych yn gollwng carthion wedi’u trin neu elifiant masnach i ddŵr wyneb sy’n cynnwys sylweddau penodol neu a allai gael effaith ar dymheredd
  • rydych yn gollwng carthion wedi’u trin neu elifiant masnach i lyn, aber, dŵr arfordirol neu ddŵr ymdrochi
  • rydych yn gollwng elifiant masnach i'r ddaear, gan gynnwys gollyngiadau a allai gael effaith ar dymheredd
  • rydych yn gollwng fwy na 15 metr ciwbig y dydd o garthion wedi'u trin
  • rydych yn gollwng fwy na 2 fetr ciwbig y dydd i’r ddaear ac rydych mewn SPZ1 dŵr daear

Sut i wneud asesiad risg

I gynnal asesiad risg, dylech wneud y canlynol:

  • Nodi ac ystyried risgiau ar gyfer eich safle, a ffynonellau y risgiau
  • Nodi’r derbynyddion (pobl, anifeiliaid, eiddo, ac unrhyw beth arall a allai gael ei effeithio gan y perygl) sydd mewn perygl o'ch safle
  • Nodi’r llwybrau posibl o ffynonellau’r risgiau i'r derbynyddion
  • Asesu risgiau sy'n berthnasol i'ch gweithgaredd penodol a gwirio eu bod yn dderbyniol ac y gellir eu sgrinio allan
  • Nodi beth fyddwch chi'n ei wneud i reoli risgiau os ydyn nhw'n rhy uchel
  • Cyflwyno asesiad risg fel rhan o'ch cais am drwydded
  • Cynnwys hefyd gopi o'ch asesiad risg yn eich system reoli

Risgiau o'ch safle

Yn eich asesiad risg, rhaid i chi nodi a allai unrhyw un o’r risgiau canlynol ddigwydd a beth allai’r effaith amgylcheddol fod:

  • unrhyw ollyngiad, er enghraifft carthion neu elifiant masnach, i ddŵr wyneb neu ddŵr daear
  • damweiniau
  • arogl (nid ar gyfer gweithgareddau gollwng dŵr a dŵr daear yn unig)
  • sŵn a dirgryniad (nid ar gyfer gweithgareddau gollwng dŵr a dŵr daear yn unig)
  • allyriadau heb eu rheoli neu anfwriadol (‘ffoi’), lle mae’r risgiau’n cynnwys llwch, sbwriel, plâu a llygryddion na ddylent fod yn y gollyngiad
  • allyriadau gweladwy, er enghraifft mwg neu gymylau o fwg gweladwy
  • rhyddhau bioaerosolau, er enghraifft o rwygo, sgrinio a throi, neu drwy eu rhyddhau o simnai neu darddle penodol agored fel biohidlydd

Os nad ydych yn meddwl bod unrhyw un ohonynt yn risgiau sylweddol, bydd angen i chi nodi pam yn eich cais am drwydded.

Gallwch ‘sgrinio allan’ risgiau posibl o allyriadau i’r aer, gollyngiadau i ddŵr neu ddyddodi ar dir trwy gynnal profion i wirio a ydynt o fewn terfynau derbyniol neu safonau amgylcheddol. Os ydynt, nid oes angen i chi wneud unrhyw asesiad pellach o'r llygrydd oherwydd bod y risg i'r amgylchedd yn ddibwys.

Mae’r gwahanol asesiadau risg ar gyfer gweithgareddau penodol yn esbonio ‘sgrinio allan’ yn fanylach.

Ar gyfer pob risg sy’n berthnasol, nodwch bob perygl gwirioneddol neu bosibl a’u nodi, fel arfer naw mewn tabl):

  • y perygl, er enghraifft llwch, bioaerosolau, sbwriel, math o allyriad gweladwy
  • y broses sy'n achosi'r perygl, er enghraifft rhwygo a throi gwastraff gwyrdd
  • y derbynyddion, er enghraifft pobl, anifeiliaid, eiddo, ac unrhyw beth arall a allai gael ei effeithio gan y perygl
  • y llwybrau (sut y gall y perygl gyrraedd derbynnydd)
  • pa fesurau y byddwch yn eu cymryd i leihau risgiau
  • tebygolrwydd cysylltiad, er enghraifft a yw risg yn annhebygol neu'n debygol iawn
  • canlyniadau (pa niwed y gellir ei achosi)
  • beth yw’r risg gyffredinol, yn seiliedig ar yr hyn yr ydych eisoes wedi’i nodi yn y tabl ar ei gyfer

Risgiau o sŵn a dirgrynu

Efallai y byddwn yn gofyn i chi gyflwyno asesiad effaith sŵn a dirgrynu a chynllun rheoli sŵn os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich gweithgaredd yn defnyddio cyfarpar neu beiriannau swnllyd, er enghraifft cyfarpar oeri neu wyntyllau
  • byddwch yn gwneud unrhyw weithrediadau swnllyd, fel llwytho neu ddadlwytho, rhwygo, torri, malu, llifanu, hylosgi, defnyddio gograu tro a chludwyr, neu symud deunyddiau swmp
  • nid yw eich gweithgareddau wedi'u cynnwys tu fewn i adeiladau
  • mae rhai o'ch gweithgareddau yn digwydd gyda'r nos
  • mae’r ardal lle rydych chi’n bwriadu gwneud eich gweithgaredd yn sensitif i sŵn, er enghraifft efallai fod gan ardaloedd gwledig lefelau sŵn cefndir tawelach nag ardaloedd trefol
  • mae derbynyddion sensitif yn agos i'r safle, er enghraifft tai neu gynefinoedd

Rhaid i'r asesu effaith sŵn ar gyfer derbynyddion preswyl dynol gael ei wneud yn unol â safon BS 4142:2014 a chan unigolyn â chymwysterau addas.

Wrth wneud cais am amrywiad i drwydded, peidiwch â chynnwys sŵn o'r safle presennol (cyn newidiadau) fel rhan o'r cefndir. Gelwir hyn yn ‘lefel weddilliol’ yn BS 4142:2014. Rhaid i'ch asesiad effaith sŵn ystyried yr holl sŵn sy'n deillio o'r amrywiad arfaethedig, hy y safle presennol a'r amrywiad gyda'i gilydd. Dangoswch y ddwy elfen yn glir ac yna adiwch nhw at ei gilydd i roi cyfanswm newydd ar gyfer y sŵn sy‘n dod o’r safle wrth y derbynyddion. Bydd yr asesiad effaith yn seiliedig ar y gwerth newydd hwn, a elwir yn ‘lefel benodol’ yn BS 4142:2014.

Weithiau mae gweithgareddau gwastraff yn gweithredu ochr yn ochr â gweithgareddau mwynau, er enghraifft mewn safleoedd tirlenwi mewn chwareli. Os yw sŵn o weithgareddau gwastraff yn debygol o gael effaith ar dderbynyddion lleol, rhaid i chi gwblhau asesiad effaith sŵn BS 4142 ar gyfer y gweithgareddau gwastraff hyn. Ystyriwch yr effeithiau a fydd yn digwydd pan fydd gweithgareddau yn agos at y lefel a adferwyd ac yn agos at dderbynyddion. Rhowch amcangyfrif o hyd amser ar gyfer y rhain.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen asesiad effaith sŵn a dirgrynu arnoch a chynllun rheoli sŵn, cysylltwch â ni am gyngor drwy’r gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio.

Pan fyddwch yn gofyn am gyngor drwy’r gwasanaeth cyn ymgeisio, rhaid i chi ddarparu’r o leiaf yr wybodaeth ganlynol:

  • disgrifiad o'ch gweithgareddau arfaethedig
  • a fydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal dan do neu yn yr awyr agored
  • a fydd gweithgareddau yn y nos
  • map, gyda Chyfeirnodau Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans wedi'u cynnwys, yn dangos ffin y safle yn glir

Nodi risg damweiniau

Mae enghreifftiau o ddamweiniau posibl yn cynnwys:

  • trosglwyddo sylweddau, er enghraifft llwytho neu ddadlwytho llestri
  • gorlenwi llestri
  • methiant peiriannau neu gyfarpar, er enghraifft oherwydd llestri a phibellau dan bwysau, draeniau wedi’u blocio, tân, a dŵr wedi’i halogi a ddefnyddir i ymladd y tân sy’n dianc i’r cwrs dŵr lleol neu’r ddaear
  • rhyddhau elifiant cyn gwirio ei gyfansoddiad
  • fandaliaeth
  • llifogydd
  • byndio annigonol o amgylch tanciau

Gallai fod risg o ddamweiniau sy'n gysylltiedig â'ch diwydiant penodol chi hefyd.

Tybiwch y bydd gwall gweithredwr yn digwydd o leiaf unwaith bob 100 gwaith y byddwch yn ymgymryd â gweithrediad, er enghraifft gallwch wneud y canlynol:

  • gollwng neu ddifrodi drwm o fforch godi
  • cael gollyngiad o dancer

Nodi allyriadau

Mae allyriadau yn cynnwys y canlynol:

  • gollyngiadau i’r aer, er enghraifft o storio deunyddiau crai neu wastraff, neu gyfansoddion organig ffrwydrad yn anweddu, llwch neu fioaerosolau
  • gollyngiadau i ddŵr a thir, fel gollyngiadau neu arllwysiadau posibl o storio neu drin hylifau neu gemegau a allai niweidio'r amgylchedd
  • dŵr ffo heb ei gasglu o ardaloedd gweithredol a storio
  • mwd a allai ddod oddi ar y safle
  • plâu a allai ddod oddi ar y safle, megis pryfed
  • llygryddion sydd yn eich gollyngiad ar lefelau nad oes angen terfynau allyriadau arnynt ond lle mae angen i chi ddefnyddio mesurau eraill i sicrhau nad ydynt yn achosi llygredd

Nodi derbynyddion

Rhaid i chi nodi'r holl dderbynyddion a allai fod mewn perygl o'ch safle.

Canolbwyntiwch ar y prif dderbynyddion sydd mewn perygl. Er enghraifft, ar gyfer gollyngiad carthion i'r ddaear, y prif dderbynnydd fydd y dŵr daear o dan eich safle, ond efallai y bydd derbynyddion eraill gerllaw y mae'n rhaid i chi hefyd eu nodi.

Mae derbynyddion yn cynnwys y canlynol:

  • safleoedd a rhywogaethau a warchodir
  • unrhyw fan a ddefnyddir i dyfu bwyd neu i ffermio anifeiliaid neu bysgod – edrychwch ar fapiau lleol neu cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd
  • systemau draenio a charthffosydd – gallwch ofyn i’ch cwmni dŵr lleol am y rhain
  • ffatrïoedd a busnesau eraill
  • caeau a rhandiroedd a ddefnyddir i dyfu bwyd
  • llwybrau troed
  • dŵr daear o dan eich safle
  • cartrefi, neu grwpiau o gartrefi (fel pentrefi neu ddatblygiadau tai) – gallwch wirio mapiau lleol neu ofyn i’ch cyngor lleol am y rhain
  • caeau chwarae a meysydd chwarae
  • cyflenwadau dŵr yfed preifat – gallwch ofyn i’ch cyngor lleol ble mae’r rhain wedi’u lleoli neu ofyn i’ch cymdogion a oes ganddynt gyflenwad preifat
  • safleoedd daearegol o bwysigrwydd rhanbarthol – gallwch ofyn i’ch cyngor lleol am y rhain
  • ysgolion, ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill
  • dŵr, er enghraifft pyllau, nentydd, afonydd, llynnoedd neu'r môr
  • ardaloedd cadwraeth a chynefinoedd a warchodir ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol

Yn eich asesiad risg, mae angen i chi gynnwys cynllun ar raddfa, er enghraifft ar fap Arolwg Ordnans. Rhaid iddo ddangos y canlynol:

  • eich safle
  • yr holl dderbynyddion cyfagos

Gwirio am safleoedd a rhywogaethau a warchodir

Chi sy'n gyfrifol am ddarganfod a yw eich datblygiad neu weithgaredd yn debygol o effeithio ar safle gwarchodedig, rhywogaeth a warchodir neu fywyd gwyllt arall. Efallai na fyddwn yn rhoi trwydded i chi os gallai eich datblygiad neu weithgaredd niweidio safleoedd neu rywogaethau a warchodir.

 

Cyflwyno'ch asesiad risg

Anfonwch eich asesiad risg wedi'i gwblhau atom fel rhan o'ch cais am drwydded.

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf