Gwiriwch a yw eich gwaith sy’n effeithio ar SoDdGA wedi’i gwmpasu gan Benderfyniad Rheoleiddiol

Os ydych chi’n berchennog neu’n ddeiliad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), fel arfer mae arnoch angen cydsyniad SoDdGA gennym ni cyn ymgymryd â gweithgareddau sy’n debygol o niweidio diddordeb arbennig y safle. 

Nid yw’r Penderfyniadau Rheoleiddio yn newid y gofyniad cyfreithiol ichi gael caniatâd SoDdGA dilys, fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os na fyddwch yn cydymffurfio â’r angen am ganiatâd SoDdGA os byddwch yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Penderfyniad Rheoleiddio priodol ar gyfer eich amgylchiadau.

Rydym wedi cyhoeddi’r Penderfyniadau Rheoleiddio hyn yn sgil cwblhau cynllun Glastir a chyflwyno Cynllun Cynefinoedd Cymru, er mwyn lleihau’r baich rheoleiddio ar dirfeddianwyr ac i sicrhau bod tir yn parhau i gael ei reoli’n briodol.

Penderfyniadau Rheoleiddiol ar gyfer 2025

Ar gyfer 2025, rydym wedi cyhoeddi pedwar Penderfyniad Rheoleiddiol a allai fod yn berthnasol i’ch sefyllfa chi os oeddech yn rhan o gontract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin yn flaenorol a/neu wedi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru 2025 Llywodraeth Cymru. Mae’r pedwar yn ddilys tan 1 Ionawr 2026.

Gall CNC dynnu unrhyw un o’r Penderfyniadau Rheoleiddiol yn ôl neu eu diwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys achosion lle nad yw’r gweithgareddau y mae’r Penderfyniadau Rheoleiddiol hyn yn berthnasol iddynt wedi newid.

Darllenwch gynnwys pob un yn ofalus i benderfynu a fyddai eich gwaith yn dod o fewn cwmpas un o’r Penderfyniadau Rheoleiddiol hyn, ac y gallwch gydymffurfio â’r telerau ac amodau. Os na fyddwch, bydd angen i chi  wneud cais am gydsyniad SoDdGA yn ôl yr arfer. 

Os nad ydych wedi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru

Os oeddech yn rhan o gontract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin ac nad ydych wedi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru, gwiriwch a yw eich gwaith wedi’i gynnwys yn y Penderfyniad Rheoleiddiol: Rheoli SoDdGA lle nad yw tir wedi symud o gynllun Glastir i Gynllun Cynefin Cymru.

Os gwnaethoch ymuno â Chynllun Cynefin Cymru yn 2024 a 2025

Os oeddech yn rhan o gontract Glastir Uwch neu Glastir Tir Comin ac yna bu i chi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru 2024, ac wedi ymuno â Chynllun Cynefin Cymru 2025, gwiriwch a yw eich gwaith wedi’i gynnwys yn y Penderfyniad Rheoleiddiol: Rheoli SoDdGA o gynllun Glastir i Gynlluniau Cynefin Cymru 2024 a 2025

Os gwnaethoch ymuno â Chynllun Cynefin Cymru yn 2025, ond nid yn 2024

Mae gennych ddewis rhwng:

  1. Rheoli eich tir SoDdGA yn unol ag unrhyw un o’r canlynol (a oedd yn ddilys o fewn y pum mlynedd diwethaf ers Ionawr 2020): 
  • caniatâd SoDdGA a roddwyd gan CNC
  • cytundeb rheoli tir.
  • cynllun rheoli Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn flaenorol (fel contract Glastir), a oedd yn ddilys o fewn y pum mlynedd ddiwethaf ers 1 Ionawr 2020

Os yw'r opsiynau uchod yn agored i chi, gwiriwch a yw eich gwaith yn cael ei gynnwys yma Penderfyniad rheoleiddio: Rheolaeth SoDdGA lle nad oedd y tir yn rhan o Gynllun Cynefin Cymru 2024, ond y bu’n rhan o Gynllun 2025 a bydd yn cael ei reoli o dan gytundeb blaenorol.

neu

  1. Rheoli eich tir SoDdGA yn unol â rheolau Cynllun Cynefin Cymru 2025. Gwiriwch a yw eich gwaith yn cael ei gynnwys yn y Penderfyniad Rheoleiddiol: Rheoli SoDdGA lle nad oedd tir yn rhan o Gynllun Cynefin Cymru 2024 ond wedi ymrwymo i gynllun 2025

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf