Datganiad Rheoleiddio: Rheoli SoDdGA o Glastir i Gynllun Cynefin Cymru yn 2024 a 2025 i Gynllun Ffermio Cynaliadwy 2026
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol i unrhyw un sy’n berchen ar dir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a fydd yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy o 2026 ymlaen, ac unrhyw un sy’n meddiannu tir o’r fath, ac sy’n dewis parhau i reoli’r tir dan sylw yn unol â’u Contract Glastir Uwch o 1 Ionawr 2026 ymlaen ar yr amod fod y tir hefyd wedi bod yn destun y canlynol: Contract Glastir Uwch yn 2023; contract Cynllun Cynefin Cymru yn 2024, a chontract Cynllun Cynefin Cymru yn 2025.
Datganiad rheoleiddio
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn ddilys tan 1 Ionawr 2027 a bydd yn cael ei adolygu ar yr adeg honno. Dylech wirio yr adeg honno i sicrhau bod y datganiad rheoleiddio yn dal yn ddilys.
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn berthnasol os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
- Rydych chi’n berchennog neu’n feddiannydd tir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- Roedd y tir yn destun contract Glastir Uwch yn 2023
- Mae’r contract Glastir Uwch hwnnw wedi dod i ben oherwydd ei fod wedi cyrraedd y dyddiad terfynu rhagnodedig
- Cafodd y tir ei gynnwys yn y Cynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2024
- Cafodd y tir ei gynnwys yn y Cynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2025
- Mae’r tir wedi’i gynnwys yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026, ac rydych wedi dewis parhau i reoli yn unol â chontract Glastir Uwch 2023.
Gall CNC dynnu’r datganiad rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn dyddiad yr adolygiad os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r datganiad rheoleiddio hwn wedi newid.
Daeth caniatâd SoDdGA i gynnal gweithgareddau rheoli yn ymwneud â’ch contract Glastir Uwch neu Diroedd Comin Glastir i ben pan ddaeth y contract i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Gwnaethom gyhoeddi datganiad rheoleiddio ar gyfer 2025 a oedd yn golygu eich bod, heb orfod cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni, yn gallu parhau â’r un gweithgareddau rheoli ar SoDdGA fel rhan o Gynllun Cynefin Cymru ar gyfer 2025.
Mae’r datganiad rheoleiddio hwn yn golygu y byddwch, heb orfod cael caniatâd ysgrifenedig gennym ni, yn gallu parhau â’r un gweithgareddau rheoli a bennir yn eich contract Glastir Uwch ar SoDdGA o 1 Ionawr 2026 ymlaen.
Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
- Bydd y tir SoDdGA yn parhau i gael ei reoli’n llwyr yn unol â’ch hysbysiad o fwriad diweddaraf a’r caniatâd diweddaraf sy’n ymwneud â chontract Glastir Uwch ar gyfer y SoDdGA.
- Cyn cyflwyno unrhyw newid i ddulliau rheoli’r tir SoDdGA, rhaid i chi roi gwybod i ni a chael caniatâd o dan Adran 28E o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Gorfodi
Nid yw’r datganiad rheoleiddio hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol arnoch i fod â chaniatâd SoDdGA dilys i ymgymryd â gweithrediadau a restrir fel Gweithrediad sy’n Debygol o Niweidio’r Diddordeb Arbennig o fewn y SoDdGA(au) perthnasol ac a oedd yn rhan o’ch contract Glastir Uwch neu Diroedd Comin Glastir yn 2023.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen am ganiatâd SoDdGA os ydych yn bodloni’r gofynion yn y datganiad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:
- achosi risg i’r dŵr, yr aer, y pridd, planhigion nac anifeiliaid
- achosi niwsans drwy arwain at sŵn neu arogleuon
- effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig.