Ymgynghoriad ynghylch Newidiadau i eithriadau trwyddedu tynnu dŵr (Awdurdodiadau Newydd)

Ynglŷn â’r ymgynghoriad

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 8 Ebrill 2016 ac fe dderbynwyd 86 o ymatebion. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar 29 Medi 2016. 

Cafodd yr ymateb i’r ymgynghoriad, sy’n cynnwys manylion am y dull terfynol a’r camau nesaf, ei gyhoeddi ar 2 Tachwedd 2017. 

Ceir dwy ran i’r ymgynghoriad; Mae Rhan 1 yn pennu ymateb Llywodraethau’r DU a Chymru i ymgynghoriad 2009 ynghylch gweithredu elfennau tynnu dŵr Deddf Dŵr 2003; ymgynghoriad pellach ynghylch elfennau diwygiedig y polisi arfaethedig yw Rhan 2.

Sut i ymateb

Rydym yn croesawu eich barn ynghylch ein polisi arfaethedig i ddod â’r rhan fwyaf o’r eithriadau tynnu dŵr i ben a dod â’r tyniadau dŵr hyn (y cyfeirir atynt fel ‘Awdurdodiadau Newydd’) dan adain y system trwyddedu tynnu dŵr.

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar https://consult.defra.gov.uk/water/water-abstraction-licensing-exemptions.

A wnewch chi lenwi’r arolwg ymgynghori ar-lein. Fel arall, gallwch ddychwelyd eich ymatebion i Lywodraeth Cymru trwy e-bost water@wales.gsi.gov.uk neu drwy’r post:

Awdurdodiadau Newydd
Y Gangen Dŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 4NQ