Ymgynghoriad ynghylch newidiadau i drwyddedau rheolau safonol

Maent yn seiliedig ar gyfres o reolau safonol y gallwn eu rhoi ar waith yn eang yng Nghymru a Lloegr. Caiff y rheolau eu datblygu trwy ddefnyddio asesiadau o’r risgiau amgylcheddol a ddaw yn sgil y gweithgaredd dan sylw.

Mae’r rheolau’n cymryd amser, adnoddau ac ymgynghori sylweddol i’w datblygu, ond ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith maent yn gwneud y dasg o weithredu a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ceisiadau’n un gymharol rwydd, a hynny gan nad oes angen cynnal asesiad risg penodol ar gyfer y safle.

Rydym yn ymgynghori ynghylch nifer o newidiadau’n ymwneud â nifer o reolau presennol a bennwyd am resymau gwahanol, gan gynnwys cyflwyno gofynion atal tân newydd, a newidiadau i amodau trwyddedau fel y gellir cynnwys amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau a gweithgareddau dan un drwydded. Ymhellach, rydym wedi adolygu ein casgliad o drwyddedau Gwaredu ar gyfer Adfer fel y gellir lleihau’r risg llygredd yn sgil y gweithgareddau hyn.

Os cytunir ar y newidiadau arfaethedig, fe fyddant yn berthnasol i drwyddedau presennol a thrwyddedau newydd fel ei gilydd.

Caiff y cynnig ei nodi’n fanwl yn y dogfennau ymgynghori isod.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal rhwng 28 Hydref a 23 Rhagfyr 2016.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Gorsaf trosglwyddo gwastraff asbestos Ymgynghoriad Rheolau Safonol - Rhif 12 PDF [139.7 KB]
Taenu gwastraff ar dir er budd amaethyddol neu welliant ecolegol Ymgynghoriad Rheolau Safonol - Rhif 12 PDF [155.3 KB]
Cynlluniau atal tân Ymgynghoriad Rheolau Safonol - Rhif 12 PDF [123.9 KB]
Gwastraff deunydd pacio domestig Ymgynghoriad ar Reolau Safonol - Rhif 12 PDF [137.7 KB]
Ailgylchu metelau Ymgynghoriad Rheolau Safonol - Rhif 12 PDF [126.9 KB]
Dyddodi gwastraff at ddibenion adfer Ymgynghoriad Rheolau Safonol - Rhif 14 PDF [141.6 KB]